Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CWRICWLWM I GYMRU

Derbyn cyflwyniad ynglŷn â Modiwl Dysgu Proffesiynol Llywodraeth Cymru ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

 

·         Modiwl Cymraeg – https://hwb.gov.wales/repository/resource/eef7e399-93bb-4d7c-ab68-145c93f4c6d3

·         Modiwl Saesneg – https://hwb.gov.wales/repository/resource/eef7e399-93bb-4d7c-ab68-145c93f4c6d3

 

Cofnodion:

Rhoddodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol gyflwyniad ynglŷn â Rhestr Chwarae Dysgu Proffesiynol Llywodraeth Cymru ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, drwy gyswllt gwefan i wefan Hwb. 

 

Hysbyswyd yr Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adnoddau dysgu proffesiynol yn ddiweddar i gefnogi athrawon ac uwch arweinyddion i ddeall a chynllunio ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) a diben y cyflwyniad oedd cynorthwyo dealltwriaeth aelodau o’r gofynion a goblygiadau cynllunio CGM ar ysgolion a chodi ymwybyddiaeth o’r adnoddau hynny o fewn ysgolion ac ati. 

 

Yn ystod y cyflwyniad dangoswyd i’r aelodau sut i gael mynediad i’r dudalen dysgu proffesiynol oedd yn canolbwyntio ar bump modiwl perthnasol i amrywiaeth o rhanddeiliaid:  (1) Blynyddoedd Cynnar, (2) Ysgolion Cynradd, (3) Lleoliadau Uwchradd, (4) Anghenion Dysgu Ychwanegol, a (5) Phenaethiaid.  At ddibenion y cyflwyniad, cafodd yr aelodau eu harwain drwy’r Rhestr Chwarae Penaethiaid.

 

Roedd meysydd wedi eu cynnwys fel rhan o’r Rhestr Chwarae Penaethiaid yn cynnwys -

 

·         Croeso - i ddarparu cefnogaeth gyda’r newidiadau i’r CGM o fewn y Cwricwlwm i Gymru a thrawsnewid i ffordd newydd o feddwl, cynllunio a darparu CGM.

·         Ymgysylltu Critigol - darparu astudiaethau achos ac enghreifftiau i gynnig ysbrydoliaeth a syniadau ar gyfer cynllunio i leoliadau ysgol unigol.

·         Nod - datblygu mwy o ddealltwriaeth o’r newidiadau i CGM i gefnogi’r dull i weithredu newidiadau  mewn lleoliadau ysgol penodol. 

·         manylu’r prif newidiadau yn codi o’r Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 gan ei fod yn ymwneud ag Addysg Grefyddol a CGM a beth oedd wedi aros yr un fath.

·         Hunanwerthuso - rhoi’r cyfle i gynnal hunanwerthusiad

·         Cwis - roedd aelodau wedi cymryd rhan mewn cwis rhyngweithiol i brofi eu gwybodaeth.

·         Goblygiadau - manylu’r goblygiadau yn ymwneud â’r model dylunio’r cwricwlwm; staff; cyfathrebu gyda rhanddeiliaid a sgyrsiau gyda rhieni sydd o bosibl yn bryderus nad oedd yna hawl i dynnu eu plentyn allan o CGM.

·         Crynodeb - darparwyd crynodeb o’r prif bwyntiau a phethau i’w hystyried. 

 

Roedd aelodau yn croesawu’r deunydd adnodd cynhwysfawr a ddarparwyd a fyddai’n gefnogaeth werthfawr i ymarferwyr a chytunwyd bod llythyr canmoliaeth yn cael ei anfon at awduron y deunydd yn y cyswllt hwnnw.

 

Roedd yna drafodaeth bellach ar y sgyrsiau gyda rhieni oedd yn bryderus nad oedd yna unrhyw hawl i dynnu eu plant allan o CGM, a goblygiadau tynnu’r hawl i dynnu allan fesul cam, o ystyried y caiff plentyn ei dynnu allan o Addysg Grefyddol ond nid CGM.  Dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol ei fod eisoes wedi cael un ysgol yn cysylltu yn ceisio cyngor yn y cyswllt hwnnw a hefyd yn adrodd ar waith i’w wneud mewn cydweithrediad â CCYSAGC, NAPfRE a Llywodraeth Cymru ar lunio canllawiau ffurfiol yn y dyfodol.  Fodd bynnag, nodwyd bod y pryderon a thrafodaethau hynny yn gyfredol a chytunwyd i ganllawiau/pwyntiau bwled gael eu datblygu yn y cyfamser gyda’r bwriad i ddarparu cefnogaeth fuan i fynd i’r afael â’r materion a phryderon hynny.   Byddai unrhyw ganllawiau ffurfiol dilynol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn naturiol yn disodli’r canllawiau dros dro a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru.   I’r perwyl hwnnw, cytunwyd y byddai’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol a’r Prif Reolwr Addysg ynghyd â chynrychiolwyr o’r ddwy Esgobaeth a chynrychiolwyr ysgol yn gweithio gyda’i gilydd i ystyried ffurfio’r canllawiau dros dro hynny i ysgolion Sir Ddinbych.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       derbyn y cyflwyniad gan yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol;

 

(b)       aelodau i wneud ysgolion mae ganddynt gysylltiad â nhw yn ymwybodol o’r adnoddau dysgu proffesiynol;

 

(c)        anfon llythyr canmoliaeth at awduron yr adnoddau dysgu ar y deunydd ardderchog a ddarparwyd a’i werth i’r sector addysg, a

 

(d)       yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol i weithio gyda’r Prif Reolwr Addysg ynghyd â chynrychiolwyr Esgobeth yr Eglwys yng Nghymru (Jennie Downes) ac Esgobaeth Gatholig Rufeinig (Coletter Owen) a chynrychiolwyr ysgol (Sue Williams a’r ysgol oedd wedi gofyn am gyngor ar y mater) gyda’r bwriad i lunio canllawiau ar ddileu’r hawl i dynnu allan o CGM.

 

 

Dogfennau ategol: