Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGU AC ADFYWIO STRATEGAETH AR NEWID HINSAWDD A NEWID ECOLEGOL CYNGOR SIR DDINBYCH (2021/22-2029/30)

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan Reolwr Rhaglen Newid Hinsawdd, cynghori’r Pwyllgor ar adolygu ac adfywio Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol y Cyngor sy’n cael ei gynnal yn ystod 2023/24 a cheisio cefnogaeth yr aelodau i ymgymryd â’r dull hwnnw.

12.00 – 12.40 p.m.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro - Strategaeth a Pherfformiad, Prosiectau, Newid Hinsawdd yr adroddiad i’r aelodau (dosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Cafodd aelodau eu hatgoffa fod gan yr awdurdod Fwrdd Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol mewn ymateb i’r datganiad o Argyfwng Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2019. Roedd llawer o waith wedi’i gwblhau i ddatblygu strategaeth. Roedd ymrwymiad i adolygu’r strategaeth bob tair blynedd o fewn cylch gorchwyl y strategaeth. Roedd hyn yn arfer da yn nhermau rheoli’r rhaglen a’r strategaeth, gan ganiatáu iddi ymateb i newidiadau yn yr amgylchedd allanol, a’u cynnwys yn y cynllun. 

 

Darparodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd fanylion a gwybodaeth bellach i’r aelodau. Dywedodd wrth y Pwyllgor mai dyma fyddai adolygiad cyntaf y strategaeth, i’w gynnal mewn tair blynedd - 2026/7.

 

Arweiniwyd yr aelodau drwy’r adolygiad fel yr adroddwyd yn yr adroddiad eglurhaol fel a ganlyn -

a) cwmpas y strategaeth gyfredol.

b) y llwybrau targed i gyflawni targedau 2030 o Gyngor Di-garbon Net ac

Ecolegol Gadarnhaol

c) y camau gweithredu o fewn y strategaeth - beth oedd angen ei newid a beth sydd angen ei ychwanegu.

d) mesurau llwyddiant - a oes angen ychwanegu neu newid unrhyw rai.

e) y wybodaeth a ddarperir am gyllid, llywodraethu, gweithio mewn partneriaeth a rhannu dysgu.

 

Pwysleisiwyd i’r aelodau bod swyddogion yn awyddus i ymgysylltu gydag ystod eang o’r boblogaeth ar gamau cynnar yr adolygiad, ac eto ar ddiwedd yr adolygiad. Clywodd aelodau bod yr adolygiad wedi cychwyn ar 18 Mai 2023 gyda dyddiad cau o 2 Gorffennaf 2023. Hyd yma, roedd swyddogion wedi derbyn 59 ymateb.  Roedd yr asesiad annibynnol wedi cael ei dderbyn. Cafodd ei gwblhau a’i ddychwelyd, ac roedd yn cael ei adolygu a’i adlewyrchu.

 

Roedd y gwaith o ail-sefydlu’r gweithgor trawsbleidiol Argyfwng Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol wedi cychwyn, gyda chynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol yn cael eu cyrchu.

 

Nod yr adolygiad oedd bod y strategaeth ddiwygiedig yn cael ei chymeradwyo gan y Cyngor Sir a’r Cabinet ym mis Chwefror a Mawrth 2024. Y gobaith oedd y byddai’r Pwyllgor yn cytuno bod adroddiad diweddaru’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ar ddechrau 2024 cyn y Cyngor Sir a’r Cabinet.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am y cyflwyniad manwl.  Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau, trafodwyd y pwyntiau canlynol yn fanylach:

·         Byddai’r arolwg ar gael ar gyfer preswylwyr i’w gwblhau a’i ddychwelyd ar-lein, a byddai copïau caled ar gael hefyd. Cytunwyd ar ohebiaeth gyda grwpiau amgylcheddol i ddosbarthu copïau caled hefyd. Cydnabu’r swyddogion yr her o ymgysylltu gyda phreswylwyr ac roeddent yn cynllunio cynnal sesiynau ymgysylltu gyda’r cyhoedd yn ystod yr haf.

·         Y gobaith oedd y byddai cyfarfod personol gyda’r cyhoedd ar fabwysiadu’r strategaeth ddiwygiedig yn cael ei gynnal. Roedd swyddogion yn croesawu unrhyw awgrymiadau a chefnogaeth gan aelodau mewn perthynas ag ymgysylltu gyda’r cyhoedd.

·         Roedd aelodau’n cefnogi’r gweithgor yn llwyr. Byddai’n hollbwysig i aelodau’r grŵp adrodd yn ôl i’r pleidiau gwleidyddol ar unrhyw negeseuon neu wybodaeth sy’n dod o’r grŵp. 

·         Roedd Cyfansoddiad y Cyngor wedi cael ei ddiweddaru mewn perthynas â chaffael tir at ddibenion atafaelu carbon a gwella ecolegol yn 2022. Roedd angen i unrhyw bryniant tir fynd drwy broses gadarn i sicrhau ei fod yn addas prynu’r tir at y dibenion hynny.

·         Roedd darpariaeth wedi cael ei chynnwys yn y Cyfansoddiad dan egwyddorion gwneud penderfyniadau a oedd yn gofyn bod unrhyw benderfyniad gan y Cyngor yn ystyried newid hinsawdd a newid ecolegol.  Byddai nifer o awdurdodau dirprwyedig yn derbyn gwybodaeth am unrhyw bryniant arfaethedig, gan gynnwys y Grŵp Rheoli Asedau.

·         Byddai nodyn i atgoffa yn cael ei anfon i Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned i rannu’r holiadur gyda phreswylwyr a byddai nodyn i atgoffa yn cael ei rannu ar lwyfannau cymdeithasol y Cyngor hefyd.

·         Nodwyd bod y mwyafrif o ohebiaeth a dderbyniwyd gan y cyhoedd yn electronig erbyn heddiw. Byddai copïau papur yn cael eu rhannu â phreswylwyr i’w cwblhau gyda phwyslais ar eu cyhoeddi ar-lein.  

·         Roedd llawer o ystadegau ynghylch y prosiect dolydd blodau gwyllt a’i effaith ar newid hinsawdd ac ecolegol ar gael i aelodau. Gobeithiwyd y byddai’r tîm yn cyflwyno gweithdy i’r aelodau yn y dyfodol.

·         Pwysleisiodd yr aelodau bwysigrwydd cyfathrebu. Teimlwyd ei fod yn agwedd hollbwysig o hysbysebu preswylwyr o flaenoriaethau’r awdurdod a’r cefndir ar gyfer cwblhau prosiectau penodol megis ardaloedd o ddolydd blodau gwyllt.

  

Felly, ar ddiwedd trafodaeth fanwl, fe wnaeth y Pwyllgor:

 

Benderfynu:

 

(i)   yn amodol ar y sylwadau uchod, i gefnogi cychwyn adolygiad o Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol y Cyngor, i’w gynnal yn ystod 2023/24; a

(ii) chefnogi’r dull o weithio wrth adolygu’r Strategaeth ac ar gyfer mabwysiadu Strategaeth ddiwygiedig ar ddechrau 2024, gan gynnwys ymgysylltiad cyn penderfynu gyda’r Pwyllgor Craffu Perfformiad cyn cyflwyno’r Strategaeth ddiwygiedig i’r Cabinet a’r Cyngor Sir i’w mabwysiadu.

 

Dogfennau ategol: