Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

HUNANASESIAD Y CYNGOR O'I BERFFORMIAD, 2022 I 2023

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Swyddog Digidol sy’n cynghori aelodau ar faterion cysylltedd rhyngrwyd a theleffoni yn Sir Ddinbych ac sy’n ceisio barn y Pwyllgor amdanynt.

 

11.10 – 11.50 a.m.

 

Cofnodion:

Arweiniodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol ynghyd â Phennaeth Gwasanaeth Dros Dro’r Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau, a’r Swyddog Cynllunio a Pherfformiad yr aelodau drwy’r adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol bod yr hunan-asesiad hwn yn seiliedig ar y Cynllun Corfforaethol newydd. Gwnaed llawer o waith ar yr adroddiad, a’r atodiadau gan swyddogion, y Cabinet, y Tîm Arwain Strategol, ac ati.

Bu gofyniad statudol bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor i ddarparu cyfle i’r aelodau asesu a oedd yr awdurdod yn cyflawni ei nodau, yn unol â’r Cynllun Corfforaethol.

 

Cadarnhaodd swyddogion bod atodiad 1 a 2, yr adroddiad perfformiad chwarterol yn seiliedig ar y Cynllun Corfforaethol, a’r Crynodeb Gweithredol a oedd yn rhoi trosolwg o’r meysydd llywodraethu, yn ddogfennau statudol, a oedd yn ymateb i ddyletswyddau’r awdurdod dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y Ddeddf Cydraddoldeb a’r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau.  Derbyniodd y Pwyllgor, ynghyd â’r Cabinet, ddiweddariad ar yr adroddiad perfformiad 4 gwaith y flwyddyn; derbyniwyd adroddiadau chwarter 1 a chwarter 3 fel adroddiadau gwybodaeth, ac roedd adroddiadau chwarter 2 a 4 yn y rhaglen i’w trafod mewn cyfarfod.

 

Pwysleisiwyd mai dyma oedd adolygiad perfformiad cyntaf y Cynllun Corfforaethol a byddai’n cael ei ddefnyddio fel sylfaen ar gyfer hunan-asesiadau yn y dyfodol.  Roedd swyddogion yn ymwybodol bod nifer o dangosyddion a mesurau yn goch yn atodiad 2 - blaenoriaeth i wella. Cafodd aelodau eu hatgoffa mai dyma’r cyntaf mewn cynllun pum mlynedd, ac awgrymwyd bod y themâu a’r amcanion yn dangos yr heriau roedd y gymuned yn ei hwynebu, yr oedd yr awdurdod eisiau gwella. Y gobaith wrth symud ymlaen gyda'r cynllun oedd y byddai'r dangosyddion coch hynny yn gwella i sefyllfa fwy cadarnhaol.

 

Gobeithiwyd bod yr aelodau wedi canfod yr adroddiad yn fuddiol ac yn ddefnyddiol wrth nodi meysydd i’w craffu ymhellach.

 

Amlygodd swyddogion y nifer o ddangosyddion allweddol a oedd yn cyfeirio at Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Cafodd ei gasglu gan Lywodraeth Cymru, ac adroddwyd arno unwaith bob tymor, a disgwyliwyd adroddiad yn y flwyddyn neu ddwy nesaf. Roedd ‘rhain yn adlewyrchu'r lefelau o amddifadedd ledled y sir.

 

Atodiad 1 oedd yr hunan-asesiad. Cafodd y ddogfen honno ei chyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad yn flynyddol, ynghyd â’r Cyngor Sir a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Roedd yr adroddiad yn cymryd stoc o berfformiad yr awdurdod yn erbyn y Cynllun Corfforaethol a'r amcanion a osodwyd yn y cynllun, ac i ba raddau yr oedd ein perfformiad yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol a pha mor dda yr oedd ein llywodraethu yn cefnogi gwelliant parhaus.

 

 

Pwysleisiwyd bod y dogfennau hyn yn ddogfennau byw ar hyn o bryd, a byddant yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor Sir er cymeradwyaeth ym mis Gorffennaf 2023. Roedd mwy o ddata a feincnodwyd yn genedlaethol yn cael ei fesur, gyda swyddogion yn teimlo fod hyn yn bwysig. Roedd angen gwaith pellach i gytuno sut beth fyddai rhagoriaeth yn rhai o’r mesurau hynny.  Ym marn y swyddogion, roedd y ddau adroddiad yn cynrychioli dadansoddiad teg o safle’r awdurdod ar gam hwn y Cynllun Corfforaethol. Roedd swyddogion yn gofyn am adborth gan aelodau, gan eu hannog i ystyried yr adroddiadau a nodi meysydd a oedd angen gwaith pellach i fynd i’r afael â phryderon yn ymwneud â pherfformiad.  

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion a’r Aelod Arweiniol am y cyflwyniad manwl a’r adroddiadau cynhwysfawr.  Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion gynghori:

·         Bod Cludiant Cynaliadwy yn addewid a gariwyd ymlaen o’r Cynllun Corfforaethol diwethaf. Deallwyd bod y polisi yn cael ei gymryd drwy broses y Cabinet ar hyn o bryd. Disgwyliwyd diweddariadau yn nhermau dangosyddion y gellir eu defnyddio yn erbyn y fenter hon erbyn diwedd mis Mehefin 2023.

·         Yn Sir Ddinbych, ein dull rhagosodedig o osod trothwyon perfformiad yw cymryd y chwartel uchaf (perfformio orau) o wybodaeth y gellir ei chymharu’n genedlaethol fel y pwynt lle mae perfformiad yn cael ei ystyried yn ‘Ardderchog’. Y trothwy ‘Blaenoriaeth ar gyfer Gwella’ yw’r canolrif fel arfer. Hanner ffordd rhwng y ddau werth hyn sy’n pennu’r trothwy rhwng perfformiad ‘Derbyniol’ a ‘Da’. Os nad oes data ar gael y gallwn gymharu ein hunain ag ef (naill ai’n genedlaethol neu drwy grwpio tebyg), yna byddwn yn cymryd safbwynt lleol ar yr hyn y teimlwn yn rhesymol sy’n pennu perfformiad ‘Rhagorol’ a ‘Blaenoriaeth ar gyfer Gwella’. Dylai hyn gynrychioli ein huchelgais.

·         Rhoddwyd statws perfformiad cyffredinol i bob thema Cynllun Corfforaethol ar gyfer ei fesurau a'i brosiectau.Roedd Swyddogion Perfformiad yn adolygu’r data a ddarparwyd o hyd, ac yn codi pryderon am unrhyw faterion a welir.

·         Nododd aelodau’r gwelliant yn y targed cyfraddau ynni tai’r Cyngor.

·         Awgrymodd un aelod faes efallai y byddant yn dymuno craffu arno, sef y tîm Ymyrraeth Gynnar ac Atal ar gyfer atal digartrefedd. Yn enwedig yn dilyn newid mewn deddfwriaeth ynghylch cyfnodau rhybudd a roddir i bobl i adael eiddo. Hysbysodd y Cydlynydd Craffu yr aelodau bod adroddiad ar fin cael ei gyflwyno ym mis Medi 2023 gyda’r teitl ‘Cynllun Gweithredu Strategaeth Tai a Digartrefedd Sir Ddinbych’. Awgrymwyd y dylid gwneud cais am wybodaeth am y ddeddfwriaeth newydd a bod ei heffaith yn cael ei chynnwys yn y ddogfen.

·         Lle bo modd, mae swyddogion perfformiad yn cynnwys canrannau nid niferoedd ar gyfer dangosyddion a mesurau, a roddodd arwydd cryfach o berfformiad, er enghraifft lefel y gwasanaeth a oedd yn cael ei ddarparu.

·         Cyfeiriodd aelodau at bwysigrwydd y mater ledled y Cyngor o recriwtio a chadw staff. Nododd aelodau’r materion sy’n wynebu pob maes ac adran o fewn yr awdurdod.

·         Y feddalwedd oedd yn cael ei defnyddio i gasglu'r holl ddata perfformiad oedd Verto. Roedd swyddogion yn hapus i gynnig rhagor o wybodaeth a hyfforddiant i aelodau ar y system os oeddent yn gwneud cais am hynny.

·         Pennwyd statws perfformiad cyffredinol pob thema gan ddwy agwedd a farnwyd, sef mesurau a'r prosiectau. Y mesurau oedd yr elfen bwysig sy'n dangos yr hyn oedd yn cael ei weld yn y gymuned. Roedd yn dangos yr hyn yr oedd trigolion a chymunedau yn ei brofi yn unol â'r themâu hynny a'r meysydd hynny yr oedd swyddogion yn gobeithio eu gweld yn gwella.

·         Roedd adroddiad ar Strategaeth y Gymraeg ar fin cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Mehefin.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am yr adroddiad a’r atodiadau manwl.

 

Yn dilyn ystyriaeth o’r adroddiad, bu i’r Pwyllgor:

 

Benderfynu: yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(i)           derbyn yr adroddiad a’i gynnwys;

(ii) annog pob aelod etholedig i ddefnyddio’r adroddiad fel un o’r pecynnau gwaith i’w ddefnyddio i nodi rhaglenni gwaith Craffu i’r dyfodol;

(iii)                nodi cynnydd y Cyngor o ran datblygu ei amcanion perfformiad ynghyd â’i berfformiad cychwynnol wrth gyflawni ei gynllun Corfforaethol newydd; a

(iv)   gwneud cais bod ymholiadau’n cael eu gwneud er mwyn sefydlu’r safle presennol o ran datblygiad Cynllun Cludiant Cynaliadwy ar gyfer Sir Ddinbych, gyda’r bwriad o bennu a allai Craffu helpu gyda chynnydd ei ddatblygiad a chefnogi ei gyflawniad yn y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: