Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYSYLLTEDD RHYNGRWYD GWAEL YN SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Swyddog Digidol sy’n cynghori aelodau ar faterion cysylltedd rhyngrwyd a theleffoni yn Sir Ddinbych ac sy’n ceisio barn y Pwyllgor amdanynt.

10.30 – 11.10 a.m.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelod Arweiniol ar gyfer y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, a oedd yn cynnwys cyfrifoldeb am y Strategaeth Ddigidol, ynghyd â swyddogion, i gyflwyno adroddiad ar gysylltedd rhyngrwyd gwael yn Sir Ddinbych (dosbarthwyd ymlaen llaw). Croesawodd Martin Williams o Openreach ar ran y Pwyllgor.

 

Diolchodd Mr Williams i’r Pwyllgor am y gwahoddiad i fynychu’r Pwyllgor Craffu Perfformiad. Esboniodd mai fo oedd Cyfarwyddwr Partneriaethau Openreach yng Nghymru. Ei dîm oedd yn gyfrifol am gyflwyno band eang ffibr llawn ledled Cymru, gan ymgysylltu gyda budd-ddeiliaid allweddol a chymunedau ar y wybodaeth ddiweddaraf ar adeiladau masnachol a dewisiadau ar gyfer cymunedau. Roedd y tîm yn gofalu am y contract cyfredol sy’n cael ei ariannu ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru. 

 

Dywedodd yr Aelod Arweiniol wrth yr aelodau bod gwybodaeth gyfredol ar lefelau band eang yn eiddo yn y gymuned wedi’i chynnwys yn y papurau. Pwysleisiodd mai cyfrifoldeb Openreach oedd gosod yr isadeiledd i hwyluso darpariaeth band eang ffibr yn Sir Ddinbych. Nid oedd gofyniad cyfreithiol ar Openreach i gysylltu aelwydydd i’r ffibr hwnnw. Nid oedd gan Gyngor Sir Ddinbych y pŵer i ddylanwadu ar sut mae Openreach yn gweithredu. Clywodd aelodau am y cynlluniau niferus, gan gynnwys cynllun talebau gyda darparwyr asiantaeth, yn amodol ar gymhwysedd. Roedd y broses ar gyfer grŵp i ddod ynghyd a gwneud cais am y cynllun talebau yn cymryd amser. Roedd Llywodraeth y DU wedi llunio Prosiect Gigabit, a oedd yn effeithio ar y daleb Gigabit. Clywodd aelodau am dechnolegau amgen megis cysylltiadau di-wifr, lloeren a 4G ar gael ond nid oeddent y datrysiad gorau ar gyfer trigolion bob amser. Roedd yn dibynnu ar leoliad yr eiddo.

Gobeithiwyd y byddai’r ddarpariaeth grant fferm wynt yn Sir Ddinbych yn gallu helpu i bontio unrhyw fylchau mewn cyllid rhwng y cynllun Taleb Gigabit a chostau gosod ffibr.  Serch hynny, roedd hon yn faes cymhleth i’w drin.

 

Esboniodd y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio Dros Dro, ynghyd â’r Swyddog Digidol bod Sir Ddinbych wedi cyflwyno swydd Swyddog Digidol i ymgysylltu gyda chymunedau, busnesau a phreswylwyr i gynnig cysylltiad rhyngrwyd rhesymol i’w heiddo. Esboniwyd mai ‘rhesymol’ oedd cyflymder o 30 mbps, ffibr yn ddelfrydol. Roedd angen i swyddogion weithio gydag Openreach a mynd drwy eu cynlluniau partneriaeth ffibr i ddefnyddio cyllid y Llywodraeth i’w gyllido. Ar hyn o bryd, roedd cyfyngiad ar yr awdurdod ar le y gellir cwblhau’r gwaith oherwydd rhaglenni uwchraddio sy’n mynd rhagddynt. Clywodd aelodau bod y cynllun taleb Gigabit wedi’i atal yng Nghymru ar hyn o bryd oherwydd bod Menter Prosiect Gigabit Llywodraeth y DU dan dendr. Pwysleisiwyd fod gan swyddogion berthynas gwaith da gydag Openreach.

 

Un broblem a arsylwyd oedd swm yr arian yn y cynllun talebau. Daeth cefnogaeth Llywodraeth Cymru o ran y daleb Gigabit i ben llynedd, ac yn ei dro, fe’i gostyngwyd o 50%; roedd Llywodraeth y DU wedi cynyddu gwerth y daleb i £4500 ers hynny. Y gobaith oedd y byddai’n helpu cyrraedd ardaloedd gwledig. Byddai angen cyllid pellach ar ardaloedd anodd eu cyrraedd i gyflawni rhyngrwyd ffibr.

 

Estynnodd y Cadeirydd ei ddiolch i’r holl swyddogion a’r Aelod Arweiniol am y cyflwyniad manwl, a chafwyd gwahoddiad i aelodau godi unrhyw bwyntiau am eglurhad pellach.  Trafodwyd y pwyntiau canlynol mewn mwy o fanylder:

·         Pwysleisiwyd bod cyswllt rhyngrwyd gwell wedi’i gynnwys fel blaenoriaeth yn y Cynllun Corfforaethol o Sir Ddinbych sydd wedi cysylltu’n well, a’r angen i weithio mewn partneriaeth gydag Openreach i gyflawni targedau a osodwyd dan y thema honno.

·         Teimlwyd bod yr angen am gysylltedd gwell yn Sir Ddinbych yn fuddiol ar gyfer preswylwyr a busnesau.

·         Clywodd aelodau bod dros 100 o ddarparwyr rhwydwaith yn y DU, gydag Openreach yn un yn unig. Yn Sir Ddinbych, Openreach yw’r prif ddarparwr.

·         Roedd y rhwydwaith ffibr llawn yn dda iawn yn Sir Ddinbych. Y gorau yng Nghymru ar gyfer ffibr llawn ar hyn o bryd. Mae ffibr llawn yn cyrraedd 71.6% ar draws yr awdurdod. Efallai bod y buddsoddiad £10 miliwn gan Openreach yn un o’r rhesymau dros y lefel uchel o gysylltedd. I gymharu, cyfartaledd cysylltedd Cymru ar gyfer ffibr llawn oedd 47%.

·         Cafodd aelodau eu hysbysu am y wefan ‘Thinkbroadband’ am ddim, a allai brofi am gysylltedd mewn ardal.

·         Pwysleisiodd aelodau am yr anawsterau a gafwyd wrth geisio perswadio preswylwyr a busnesau i gymryd rhan yn y cynllun talebau. Nodwyd bod y terfyn amser sy’n gysylltiedig â’r cynllun efallai wedi bod oherwydd dyddiad cau cyn atal y cynllun.

·         Roedd y gwaith o adeiladu isadeiledd wedi digwydd ledled Cymru, mewn ardaloedd gwledig a dinesig. Y gobaith fyddai, ar y cyd gyda darparwyr ffibr llawn eraill, y byddai gan hyd at 85% o’r DU ffibr llawn ar gael erbyn diwedd 2026. Byddai’r 15% sy’n weddill angen buddsoddiad pellach yn y dyfodol o bosib. 

·         Gallai’r cynllun talebau gymryd hyd at 12-18 mis o’r cychwyn i’r diwedd i‘w gwblhau, hynny wedi’i ymgorffori gyda chyfnod cychwynnol o gael pobl i gofrestru i ddatblygiad yr isadeiledd angenrheidiol i’r gwasanaeth.

·         Anogodd swyddogion a’r cynrychiolydd o Openreach yr aelodau i gysylltu â nhw’n uniongyrchol i adolygu unrhyw ddyfynbrisiau ar gyfer ardaloedd, neu gymunedau, a gweithio gyda nhw i symud ymlaen.

·         Roedd cyfathrebu’n allweddol gyda’r ardaloedd sydd â’r cysylltedd rhyngrwyd isaf.  Roedd swydd y Swyddog Digidol yn cynnwys gweithio gyda nhw i gefnogi a rhoi cymorth drwy gydol y broses.  Gwnaeth aelodau etholedig gais i annog preswylwyr sy’n wynebu rhwystrau mewn perthynas â chysylltedd i gysylltu â’r swyddog am gyngor a chefnogaeth.

·         Byddai’r darparwr gwasanaeth ffôn yn gyfrifol am hysbysu preswylwyr a busnesau pryd fyddai’r system gopr yn cael ei diffodd. Pan roedd cyfnewidfa gopr yn cael ei diffodd, byddai tai nad oeddent yn ffibr llawn yn parhau i ddefnyddio’r gwifrau copr o’r cartref i’r blwch nes eu bod wedi cael eu huwchraddio. Nid oedd y copr yn cael ei ddatgysylltu, y system electronig o fewn y gyfnewidfa oedd yn newid. Byddai’r gwifrau copr yn parhau i fod yno. 

·         Pwysleisiwyd pwysigrwydd cofrestru gan y swyddogion, a bod cysylltu gyda phawb yn yr awdurdod yn hanfodol.

·         Roedd y rhan fwyaf o ddarparwyr yn defnyddio isadeiledd Openreach i ddarparu eu gwasanaethau, ond roedd darparwyr rhwydwaith eraill a oedd yn cynnig gwasanaeth tebyg, ac yn gosod unrhyw isadeiledd angenrheidiol ar gyfer yr eiddo.

 

Diolchodd y Cadeirydd y Swyddogion, a Martin Williams yn benodol am ei amser, a’i eglurhad manwl, ac atebion i sylwadau a phryderon yr aelodau.

 

Felly, ar ddiwedd trafodaeth fanwl, fe wnaeth y Pwyllgor:

 

Benderfynu: yn amodol ar y sylwadau uchod a gyda’r bwriad o gefnogi’r weledigaeth o Sir Ddinbych wedi’i gysylltu’n well, bod adroddiad cynnydd pellach ar gysylltedd rhyngrwyd, uwchraddio yn y dyfodol a chynlluniau cyflwyno, ynghyd â gwybodaeth ar gynlluniau, neu gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer cymunedau ac eiddo anghysbell yn y sir, yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ymhen 6 mis.

 

Dogfennau ategol: