Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM BROSIECT AILFODELU’R GWASANAETH GWASTRAFF

Archwilio’r Polisi Casgliadau Gwastraff Diwygiedig yn fanwl.  Cynnydd o ran cyflwyno’r gwasanaeth newydd - yn arbennig gweithredu’r Gwasanaeth AHP newydd a diweddaru’r newidiadau i’r gwasanaeth gwastraff ar gyfer aelwydydd ansafonol. 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect Ailfodelu Gwastraff i’r Aelodau.

 

Roedd y gwaith o gynllunio Gwasanaeth Casglu Gwastraff newydd ar y gweill ers blynyddoedd ac roedd yn cael ei gyflwyno fel bod Sir Ddinbych yn gallu cyrraedd y targed statudol newydd o ailgylchu 70% o wastraff cartrefi a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd yn hanfodol bwysig bod y gwasanaeth newydd yn cael ei gyflwyno i gyfrannu at fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

 

Rhagwelir y bydd y gwaith o adeiladu depo gwastraff newydd yn Ninbych wedi’i gwblhau erbyn diwedd hydref 2023 a byddai’r Gwasanaeth Gwastraff newydd yn cael ei gyflwyno o fis Mawrth 2024 (yn amodol ar gael y drwydded angenrheidiol gan Gyfoeth Naturiol Cymru i’n galluogi ni i weithredu pethau’n gyfreithlon yn y depo). Roedd manteision ariannol i gyflwyno’r Gwasanaeth Gwastraff newydd hefyd oherwydd bod costau casglu ailgylchu o finiau glas dan y gwasanaeth presennol wedi cynyddu’n sylweddol. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  yr Economi a’r Amgylchedd fod yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi cyfle i Aelodau graffu ar y Polisi Casglu Gwastraff diwygiedig. Hefyd, mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno gwasanaeth Cynnyrch Hylendid Amsugnol newydd a’r newidiadau i aelwydydd ansafonol.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y Gwasanaeth Gwastraff presennol a’r Gwasanaeth Gwastraff newydd.

 

Cafodd aelodau wybod:

 

·       Mai’r dyddiad cyflwyno a ragwelir ar gyfer y Gwasanaeth Gwastraff newydd yw mis Mawrth 2024. Fodd bynnag mae hyn yn amodol ar gael y drwydded angenrheidiol gan Gyfoeth Naturiol Cymru i weithredu’n gyfreithlon o’r depo.

·       O hydref 2023 bydd y gwasanaeth cynnyrch hylendid amsugnol newydd yn cael ei gyflwyno i ardal beilot, sef ardaloedd cod post LL16 / LL17. Bydd yr ardal hon yn cynnwys oddeutu 1,000 o danysgrifwyr, gan ddarparu cymysgedd o ardaloedd gwledig a threfol cyn cyflwyno’r gwasanaeth i’r sir gyfan pan fyddai’r newid i’r prif wasanaeth yn digwydd yn 2024.

·       Roedd gan Sir Ddinbych nifer o aelwydydd sy’n derbyn ‘gwasanaeth ansafonol’ h.y. naill ai gwasanaeth cymunedol neu sachau. Roedd hyn oherwydd problemau mynediad i gerbydau neu ddiffyg lle i storio cynwysyddion. Roedd yr aelwydydd ansafonol yn Sir Ddinbych yn cael eu hadolygu.

·       Byddai’r eitem ar y Model Gwasanaeth Gwastraff yn dod gerbron y Pwyllgor Craffu Cymunedau eto ym mis Hydref 2023 i drafod rhagor o fanylion am gyflwyno’r prif wasanaeth.

Roedd Aelodau eisoes wedi cael eglurhad manwl am y Gwasanaeth Gwastraff newydd, y cyflwyniad a’r gwasanaethau newydd fyddai’n cael eu hymgorffori ynddo, felly agorodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y drafodaeth i Aelodau, wedi cytuno â’r Cadeirydd. 

 

Diolchodd y Cadeirydd  i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a’r Amgylchedd am y wybodaeth ddiweddaraf a chroesawodd gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

 

Gofynnodd yr Aelodau os oedd Swyddogion yn ymgysylltu â Chynghorau Tref, Dinas a Chymuned i ddangos sut y byddai’r bocsys troli newydd yn gweithio. Teimlwyd y byddai hyn yn helpu preswylwyr i ddeall pan fydd y gwasanaeth newydd yn cael ei gyflwyno.  Dywedodd y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu wrth Aelodau fod yr eitem rhaglen am y Gwasanaeth Gwastraff wedi cael ei gynllunio ar gyfer cyfarfodydd pob Grŵp Ardal Aelodau ac yna byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal gyda’r Tîm Prosiect. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol wrth Aelodau y byddent yn gweithio ar fanylion y gwaith ymgysylltu â Chynghorau Tref, Dinas a Chymuned a rhoi gwybod i Aelodau maes o law.

 

Holodd yr Aelodau am reolau a rheoliadau’r Gwasanaeth Gwastraff newydd a gofynnwyd a fyddai gorfodi cosb benodedig yn cael ei ddefnyddio os na fydd preswylwyr yn cydymffurfio. Gofynnodd yr Aelodau hefyd faint o rybuddion cosb a gyhoeddwyd dan y Model Gwasanaeth Gwastraff presennol. Dywedodd y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu mai ychydig iawn o rybuddion cosb a ddosbarthwyd dan y gwasanaeth presennol. Roedd pwyslais ar newid ymddygiad yn hytrach na dirwyon penodedig. 

 

Ar y pwynt hwn, oedodd y Cadeirydd y cyfarfod fel bod y Rheolwr Prosiect: Cynllunio Strategol yn gallu ymuno â’r cyfarfod ar-lein.

 

Wrth fynd yn ei flaen, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol at y cwestiwn blaenorol am orfodi.  Dywedodd mai gorfodi oedd y dewis olaf, a’u bod yn canolbwyntio’n bennaf ar addysg ac ymgysylltu â phreswylwyr, fyddai’n parhau dan y Gwasanaeth Gwastraff newydd.

 

Cyfeiriodd Aelodau at baragraff 4.3 yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn ymwneud â pheilot y cynllun cynnyrch hylendid amsugnol.  Holodd yr Aelodau ai’r ardaloedd cod post a ddewiswyd ar gyfer y cynllun peilot oedd yr ardaloedd gorau ar gyfer dysgu cyn cyflwyno’r cynllun yn ehangach. Dywedodd y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu wrth Aelodau fod yr ardaloedd a ddewiswyd ar gyfer y cynllun peilot yn gymysgedd o ardaloedd trefol a gwledig.  Eglurodd y Rheolwr Cynllunio hefyd mai ffactor arall dros ddewis y codau post hyn oedd oherwydd eu bod yn nes at Barc Adfer, ble byddai’r gwastraff yn cael ei waredu.

 

Gofynnodd Aelodau sut gallai preswylwyr wneud cais i fod yn rhan o’r cynllun peilot. Dywedodd y Rheolwr Cynllunio: Cynllunio Strategol fod negeseuon e-bost wedi cael eu hanfon at Gynghorau Tref ac y byddai gwybodaeth ar gael ar wefan Cyngor Sir Ddinbych, yn cynnwys y ffurflen gofrestru a thelerau ac amodau. Roedd taflenni gwybodaeth wedi cael eu hanfon i lyfrgelloedd a Siopau Un Alwad yn yr ardaloedd hynny.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad o ran pwy fyddai angen cofrestru am y Gwasanaeth Cynnyrch Hylendid Amsugnol pan fydd wedi’i gyflwyno’n llawn. Er enghraifft, os oedd nain neu daid yn gofalu am wyrion unwaith yr wythnos a’u bod mewn clytiau, byddai gofyn iddynt gofrestru â’r gwasanaeth. Dywedodd y Rheolwr Cynllunio nad oedd y Gwasanaeth Cynnyrch Hylendid Amsugnol ar agor i’r teulu ehangach ar hyn o bryd felly byddai’n dderbyniol i roi unrhyw Gynnyrch Hylendid Amsugnol (niferoedd bychan) yn y bin du. Byddai hyn yn parhau i gael ei adolygu’n weithredol yn dilyn y cynllun peilot. 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y Gwasanaeth Casglu Batris newydd a holwyd pam nad oedd sôn am e-sigaréts tafladwy yn yr adroddiad.  Dywedodd y Rheolwr Cynllunio fod trafodaethau ar y gweill i benderfynu a fyddent yn cael eu dosbarthu fel batris neu gynnyrch trydanol bychan.

 

Holodd yr Aelodau am gasgliadau dan y Gwasanaeth Gwastraff newydd ar gyfer ffyrdd preifat neu ffyrdd heb eu mabwysiadu ac os oedd unrhyw newidiadau. Dywedodd y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu y byddai’r Gwasanaeth newydd yn golygu cerbydau newydd a llwybrau newydd, a byddai hyn yn cael ei ail-werthuso er mwyn ymdrin â’r mannau casglu mwyaf addas i breswylwyr. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am y wybodaeth ddiweddaraf gan gadarnhau ei bod yn bwysig iawn addysgu preswylwyr a Chynghorau Tref, Dinas a Chymuned am y newidiadau i’r Model Gwastraff ac Ailgylchu.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Swyddogion a fyddai cyfle i ymweld â’r depo newydd yn y dyfodol.  Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y gellid trefnu hyn.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl - 

 

PENDERFYNWYD: derbyn a nodi’r wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Ailfodelu’r Gwasanaeth Gwastraff.

 

 

Dogfennau ategol: