Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PROSIECT GWELLA TAI GORLLEWIN Y RHYL

Ystyried adroddiad gan yr Arweinydd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl yn unol â Rheoliadau Ariannol a Methodoleg Prosiectau Cyngor Sir Ddinbych.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans (Arweinydd) adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) i gael cymeradwyaeth y Cyngor i Brosiect Gwella Tai Gorllewin Y Rhyl ac i ddirprwyo pwerau i’r Bwrdd Prosiect. 

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Hugh Evans bod y prosiect yn bartneriaeth weithredol yn cynnwys Pennaf/Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Llywodraeth Cymru. Llywodraeth Cymru oedd yn arwain y prosiect ac yn darparu’r cyllid.

 

Mae’r prosiect wedi’i rannu’n flociau:-

 

Bloc 1 – adeiladau i’w dymchwel i greu’r man gwyrdd. 

Bloc 2 – roedd y cyngor wedi caffael pob un, heblaw am un neu ddau, o’r adeiladau a fyddai’n cael eu hadnewyddu gan Pennaf/Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a’u marchnata fel eiddo “Cymorth Prynu”, lle y byddai preswylwyr yn berchen ar fwyafrif yr ecwiti yn y cartref. 

Bloc 3 – 6 fel ag yn yr adroddiad.

 

Cafwyd trafodaeth bellach, ac ymatebodd y swyddogion fel a ganlyn:-

 

Ø      Roedd rhaglenni sector cyhoeddus a chynlluniau grant wedi methu ag adfywio’r ardal, ac mae dwy o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn parhau i fod yng ngorllewin Y Rhyl. Byddai’r prosiect yn cyflawni cydbwysedd o ran tai gan fod gormod o breswylwyr un llofft yn yr ardal.  Roedd y prosiect yn gweithio tuag at sicrhau gwell cydbwysedd trwy greu man gwyrdd, ailfodelu tai a’u gwneud yn ddeniadol i deuluoedd. Byddai ymdrin â’r problemau hir sefydlog hefyd yn cynorthwyo at greu argraff fwy positif o’r dref yn ei chyfanrwydd, ac felly’n cael buddion adfywio mwy pellgyrhaeddol.

Ø      Roedd llawer o’r adeiladau wedi’u caffael fel rhan o Ardal Adfywio Strategol Arfordir Gogledd Cymru ac roedd gwaith yn mynd yn ei flaen i barhau â’r rhaglen gaffael.  Byddai Cyngor Sir Ddinbych yn ceisio caffael adeiladau trwy gytundeb, ond yn rhagweld y byddai’n rhaid defnyddio pwerau prynu gorfodol i gaffael lleiafrif o’r adeiladau sy’n angenrheidiol i’r prosiect.

Ø      Byddai Swyddog Adsefydlu yn cael ei benodi, a’i rôl fyddai cynorthwyo trigolion i adnabod ac yna adleoli i gartrefi newydd, naill ai o fewn Sir Ddinbych neu hyd yn oed mewn sir arall. O’r trigolion sydd wedi’u hadleoli, roedd mwyafrif yn dymuno parhau i fyw yn Y Rhyl.   Hyd yma, roedd 23 achos o adleoli wedi digwydd - 20 o fewn Y Rhyl a 3 o fewn Prestatyn.

Ø      Hyd yma, nid oes unrhyw ddyluniadau wedi’u cymeradwyo i’r man gwyrdd.  Mae’r Cyngor yn awyddus i gyfyngu ar y gost o gynnal a chadw’r man gwyrdd gyda’r posibiliad o greu menter gymunedol a fyddai’n cynnal y man hwn. 

Ø      Byddai adeiladau newydd ac adeiladau a adnewyddwyd yn dangos safon uchel iawn o effeithlonrwydd ynni.

Ø      Mae risg ariannol posibl i’r cyngor yn nhrydedd flwyddyn y prosiect hwn. Prosiect Llywodraeth Cymru ydy hwn, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, felly mae cyfrifoldebau risg ariannol yn gorwedd gyda Llywodraeth Cymru ac nid Cyngor Sir Ddinbych. 

Ø      Mae Prosiect Gwella Tai Gorllewin Y Rhyl yn cael ei redeg fel Prosiect Methodoleg Prince 2.  Roedd uwch swyddog wedi’i benodi a oedd yn Ymarferwr Prince 2 i weithredu fel Rheolwr Prosiect.

Ø      Awgrymwyd gan Aelodau y dylai Archwilio Mewnol ymgysylltu â’r prosiect yn gynnar yn y broses.  Byddai Rheolwr Y Rhyl yn Symud Ymlaen yn edrych i mewn i hyn. Dywedodd y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol y byddai’n cyfarfod gydag Archwilio Mewnol ymhen ychydig o wythnosau ac y byddai’n trafod y prosiect bryd hynny.

Ø      Dywedodd Rheolwr Y Rhyl yn Symud Ymlaen bod adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Cabinet yn ddiweddar, a bod y map sydd ynghlwm wrth y dogfennau wedi newid rhyw ychydig. Roedd y Gorchymyn Prynu Gorfodol bellach yn cynnwys Stryd Gronant ac adeiladau eraill, ond na fyddai hynny’n newid hyd a lled y prosiect mewn unrhyw fodd.  

Ø      Roedd Bwrdd Prosiect wedi’i sefydlu ond gan fod yr Arweinydd wedi’i enwi ddwywaith ar y Bwrdd, roedd Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Sir wedi cytuno y dylai’r Cynghorydd Hugh Irving ddod yn aelod o’r Bwrdd. 

Ø      Bydd nifer yr anheddau un llofft yn gostwng yn Y Rhyl.

 

Esboniodd y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol (HHCD) ei bod yn bwysig i’r dyfodol adfywio’r strwythur cymdeithasol trwy weithio gyda chymunedau i’w cynorthwyo trwy gynnig iddyn nhw fwy o hyfforddiant a swyddi. Nid gwario’r arian ond yn hytrach sut oedd adnoddau yn cael eu defnyddio.   

 

Penderfynwyd – bod y Cyngor yn cymeradwyo’r prosiect ac yn dirprwyo’r pwerau canlynol i’r Bwrdd Prosiect:-

 

(i)                 Darparu’r arweiniad a’r cyfeiriad strategol ar gyfer cyflawni’r prosiect sy’n canolbwyntio ar weithredu. 

(ii)               Goruchwylio’r gwaith o redeg a monitro’r prosiect i sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau’n brydlon ac o fewn y gyllideb. 

(iii)             Dyrannu cyllid yn ôl yr angen i bob un o’r timau gwaith o fewn paramedrau’r gyllideb a ddirprwyir yn flynyddol o’r Gweinidog dros Dai, Adfywiad a Threftadaeth. 

(iv)             Monitro cofrestr risgiau’r prosiect. 

 

 

 

Dogfennau ategol: