Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIADAU GWASANAETH GIG

Ystyried adroddiad gan yr Aelod Arweiniol ar Ofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant (copi’n amgaeëdig) i’r Cyngor ystyried cynigion i ad-drefnu cyflwyniad gwasanaethau GIG yng Ngogledd Cymru ac i alluogi i’r Cyngor ymateb yn ffurfiol i broses ymgynghorol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Demograffeg, Lles a Chynllunio (CD:DWP) adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) a oedd yn gofyn am fewnbwn y Cyngor i’r ymateb drafft i broses ymgynghori BIP Betsi Cadwaladr.

 

Rhoddodd CD:DWP gyflwyniad byr i’r cynrychiolwyr o BIP  Betsi Cadwaladr (BCUHB) gan eu croesawu i’r cyfarfod. Roedd y cyfnod  ymgynghori i redeg am 10 wythnos o 20 Awst, 2012 hyd 28 Hydref, 2012. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant, at y ffaith bod newidiadau i’r Gwasanaeth Iechyd yn anochel ond bod y anodd deall y rhesymeg wrth wraidd rhai mesurau. Hysbysodd y Cynghorydd Feeley gynrychiolwyr BCUHB o Weithgor y Pwyllgor Craffu Partneriaeth a oedd wedi’i sefydlu ac oedd, gyda swyddogion, wedi bod yn gweithio drwy’r mesurau. Roedd y gweithgor i gwrdd ar ddiwedd Medi i gwblhau’r ymateb a fyddai’n dod i gyfarfod nesaf y Cyngor ar 9 Hydref, 2012.  

 

Cyflwynodd Geoff Lang, BCUHB, “Healthcare in North Wales is changing”.  Roedd copïau o’r cyflwyniad ar gael i bawb yn mynychu’r cyfarfod ynghyd â’r ddogfen ymgynghori er gwybodaeth. 

 

Yn dilyn y cyflwyniad, gofynnwyd cwestiynau a rag baratowyd i gynrychiolwyr BCUHB.  Roedd holl aelodau wedi derbyn copi o’r daflen gwestiynau ac roedd y  CD:DWP hefyd wedi anfon copi o’r daflen gwestiynau o flaen llaw i gynrychiolwyr BCUHB.

 

Cwestiwn 1 – cyflwynwyd gan y Cynghorydd Brian Blakeley.  Problemau gyda chiwiau Ambiwlans tu allan Glan Clwyd, gwelyau wedi’u blocio, llawdriniaethau’n cael eu canslo, staff yn cael eu hanfon adref a thargedau amserau aros yn cael eu methu. Sut fydd y newidiadau arfaethedig yn datrys y problemau hyn? 

Ymatebodd Geoff Lang bod gwaith ar y gweill mewn perthynas â Damweiniau ac Achosion Brys o ran recriwtio staff. Roedd Ysbyty Glan Clwyd i gael Uned Ddamweiniau ac Achosion Brys newydd. Roedd BCUHB yn gweithio gyda’r gwasanaeth ambiwlans i leddfu’r broblem o giwiau ambiwlans. Byddai gofal gwell yn y cartref yn cyfrannu at leddfu’r pwysau ar welyau gan y byddai modd osgoi’r angen i anfon rhai cleifion i’r ysbyty; byddai hynny hefyd yn lleddfu’r pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans. 

 

Roedd gwaith ar y gweill gydag Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru i osgoi defnyddio ambiwlans mewn achosion nad oeddynt yn rhai brys. Ar hyn o bryd, nid oes opsiynau eraill heblaw am fynd â phobl i’r uned achosion brys. Yn dilyn adolygu’r gwasanaethau, yn y dyfodol, byddai modd mynd ag achosion nad oeddynt yn rhai brys i uned mân anafiadau.   

 

Cwestiwn  2 - cyflwynwyd gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill. Sut mae BCUHB yn bwriadu rheoli a chyflawni’r buddsoddiad sylweddol sydd ei angen i roi’r cynlluniau hyn ar waith o gofio’r diffyg cyllidol sydd yno eisoes (oddeutu £65m)?

Ymatebodd Geoff Lang bod pwysau cyffredinol ar gyllidebau. Roedd BCUHB wedi bod yn asesu meysydd i arbed adnoddau, ac adnoddau sy’n cael eu defnyddio yn y gwasanaethau rheng flaen, a chaffael ayyb. Roedd y cynllun hwn i newid y ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu darparu. Mae’n bwysig sylweddoli y gallai’r sefyllfa ariannol waethygu yn hytrach na gwella pe na fyddai BCUHB yn gwneud y newidiadau hyn. Nid dyma’r ateb i holl faterion ariannol gofal iechyd.

 

Cwestiwn 3 – cyflwynwyd gan y Cynghorydd Win Mullen-James.  Pa mor hyderus yw BCU o sicrhau’r buddsoddiad cyfalaf a refeniw angenrheidiol i agor y cyfleuster cymunedol newydd i wasanaethu’r Rhyl a  Phrestatyn a’r cyfleuster newydd yn Llangollen?  A dderbyniwyd sicrwydd bod yr achosion busnes yn gadarn? Pa mor debygol ydyn nhw o fod wedi’u cwblhau a’u hagor erbyn 2015?  Pa sicrwydd a roddir y bydd gwasanaethau presennol yn dal i weithredu hyd nes y bydd y cyfleusterau a’r gwasanaethau newydd yn agor? 

Ymatebodd Geoff Lang na fyddai arian yn cael ei ryddhau hyd nes bod ymgynghori terfynol wedi digwydd. Roedd BCUHB yn hyderus y byddai arian ar gael. Byddai rhai newidiadau yn gallu digwydd yn sydyn, ond roedd rhai yn fwy cysylltiedig â chyfleusterau a fyddai’n dibynnu ar y cynllun terfynol gaiff ei gynhyrchu yn Rhagfyr. Ni fyddai unrhyw fylchau mewn gwasanaethau. Er enghraifft, cau Llangollen, byddai gofal yn y cartref ar waith cyn y cau. Rhoddodd gynrychiolwyr BCUHB sicrwydd y byddai cyfleusterau newydd ar agor yn 2015.

 

Cwestiwn 4 – cyflwynwyd gan y Cynghorydd Martyn Holland.  Pam bod Inffyrmari Dinbych wedi cael ei ddewis fel canolbwynt ysbytai yn hytrach na Rhuthun, gan ein bod yn teimlo bod modd hefyd dadlau o blaid Rhuthun?

Ymatebodd Geoff Lang ynghylch Ysbyty Rhuthun ac Inffyrmari Dinbych.  Edrychwyd ar faint ac ystod y cyfleusterau ar gael, oriau estynedig a lle'r oedd y gweithgaredd mwyaf, yn ogystal â photensial y safle i ddatblygu dros amser. Ym marn BCUHB, roedd gan Inffyrmari Dinbych well siawns o gynnig y cyfleusterau hyn fel canolbwynt.

 

Cwestiwn 5 – cyflwynwyd gan y Cynghorydd Cefyn Williams.  Gydag uned mân anafiadau Bala yn cau, yn ogystal â’r cynigion i Ysbyty Cymunedol Llangollen, a ydych yn hyderus y bydd darpariaeth iechyd mân digonol ar gael i drigolion parthau uchaf Dyffryn Dyfrdwy a fydd yn hawdd mynd ato?

Ymatebodd Geoff Lang nad oedd uned mân anafiadau wedi bod yn Bala. Roedd Meddygon Teulu yn darparu gwasanaeth mân anafiadau a byddai hynny’n parhau. Yn nhermau Llangollen, ymgynghorwyd â Meddygon Teulu i holi a fyddent yn darparu gwasanaeth mân anafiadau ond y byddai hynny’n digwydd yn lle uned mân anafiadau.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Cefyn Williams am ymateb mwy pendant. 

 

Ymatebodd Grace Lewis Parry mai’r cynigion ar hyn o bryd oedd cau Ysbyty Gymunedol Llangollen ac adeiladu cyfleuster newydd. Byddai gwasanaeth mân anafiadau yn cael ei ddarparu gan Feddygon Teulu ac nid oedd unrhyw reswm pam na fyddai’r gwasanaeth hwnnw yn parhau.  Byddai’r gwasanaeth mân anafiadau yn cysylltu gydag Ysbyty Maelor Wrecsam. 

 

Cwestiwn 6 - cyflwynwyd gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans.  Deallwn fod y Bwrdd Iechyd yng Ngorffennaf wedi cytuno i gadw ystod o wasanaethau ar y 3 safle ysbytai aciwt (e.e. gwasanaethau mamolaeth, pediatrig, cleifion mewnol, gwasanaethau fasgwlaidd cyffredin, llawdriniaeth gyffredinol gyffredin, trawma a gwasanaethau orthopedig) - ond mynegwyd llawer o amheuaeth ynghylch dichonoldeb hyn yn y tymor hir.  Hoffem dderbyn sicrwydd pe bai’r penderfyniad hwn yn cael ei wyrdroi, y byddai ymgynghoriad cyhoeddus llawn   ynghylch newidiadau ac na fyddai Ysbyty Glan Clwyd yn cael ei israddio. Sut gaiff y penderfyniadau hyn eu cymryd, a sut fydd y cyhoedd yn gwybod beth sy’n digwydd? 

Ymatebodd Geoff Lang bod y Bwrdd wedi cynnal cyfarfod cyhoeddus yng Ngorffennaf ac wedi derbyn adborth. Roedd clinigwyr o’r farn eu bod am gadw gwasanaethau craidd ar dri safle. Byddai’r Bwrdd yn monitro diogelwch yn agos iawn. Pe byddai’r cynllun tymor hir yn newid, byddai’n destun ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddarach. 

 

Cwestiwn 7 – cyflwynwyd gan y Cynghorydd Raymond Bartley.  Hoffem i rai o’r cynigion ymestyn gwasanaethau i bobl hŷn gydag anghenion iechyd meddwl. Fodd bynnag, rydym yn amau os ydy’r cynlluniau yr ydych wedi’u cyflwyno yn golygu y bydd digon o adnoddau i ddarparu gwasanaethau cleifion mewnol a gwasanaethau iechyd cymunedol i’r bobl hyn a’u gofalwyr. Allwch chi esbonio pam eich bod yn credu y bydd digon?

Ymatebodd Grace Lewis Parry.  Yn nhermau bobl hŷn, roedd gwelyau yn aml yn wag ac yn ôl tystiolaeth y clinigwyr, byddai’r galw am welyau yn gostwng pe byddai gwasanaethau yn cael eu darparu yn eu cartrefi eu hunain.  Mae clinigwyr a BCUHB fel ei gilydd yn credu y byddai hyn yn darparu mwy o ofal ac yn cyflawni anghenion y boblogaeth. 

 

Cwestiwn 8 – cyflwynwyd gan y Cynghorydd Bobby Feeley.  Rydym yn poeni y byddai’r cynlluniau yn rhoi pwysau cynyddol ar gyllidebau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol, yn enwedig gan nad yw’n ymddangos fel petai yna unrhyw gynlluniau ariannol clir ar gyfer buddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i ni ynghylch hynny?

Ymatebodd y Dr Chris Stockport.  Roedd trafodaethau wedi digwydd ynghylch sut i ddelio gyda’r mater o bwysau cynyddol bosibl ar gyllidebau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol. Dyma wasanaeth a oedd yn edrych yn benodol ar ddarparu gofal yn y cartref yn hytrach nag anfon claf i’r ysbyty neu mewn achosion lle byddai angen i’r claf aros yn hirach yn yr ysbyty.  Roedd gwaith gofalus wedi’i gynnal gyda swyddogion mewn Awdurdodau Lleol ynghylch sut y gellid defnyddio adnoddau yn y ffordd gywir. Roedd yn fenter iechyd a’r adran iechyd fyddai’n ymgymryd â’r gwaith. Trwy weithio fel un tîm, byddai modd darparu gwasanaeth gweithiol gwell a mwy effeithlon.  Heb amheuaeth, byddai ymyriad iechyd yn cael ei ddarparu ac yn cael ei ariannu gan iechyd. Unwaith bo’r claf gartref, nid yw iechyd yn achosi cymaint o anabledd ag y byddai’n ei wneud mewn ysbyty. Dyma oedd y profiad yn genedlaethol.

 

Cwestiwn 9 – cyflwynwyd gan y Cynghorydd Ann Davies.  Byddai’r cynigion yn effeithio’n fawr ar ofalwyr a’r gwasanaeth i ofalwyr a ddarperir gan awdurdodau lleol. A fyddech chi’n ymrwymo at ddatblygu cynllun cynhwysfawr i ofalwyr a fyddai’n dangos sut fyddwch chi’n ariannu mwy o wasanaethau, ac yn enwedig trwy ddarparu gofal seibiant? 

Ymatebodd Grace Lewis Parry, roedd bobl yn byw’n hirach ac arnynt eisiau aros yn eu cartrefi eu hunain, ond heb y gofal a ddarperir gan ofalwyr, byddai’r sector cyhoeddus cyfan yn chwalu. Byddai Mesur Gofalwyr ar gael ym mis Hydref. Mae gofalwyr yn gallu gofidio’n arw pan nad ydynt yn cael cefnogaeth. Byddai cefnogaeth ychwanegol yn cael ei darparu i holl ofalwyr. 

 

Cwestiwn 10 - cyflwynwyd gan y Cynghorydd David Smith.  Mae’n anochel y bydd y cynigion yn dibynnu’n helaeth ar gael cludiant da, sef bobl angen ambiwlans ar frys a chleifion a theuluoedd yn teithio’n bellach am welyau ysbyty cymunedol neu wasanaethau arbenigol. Allwch chi ddweud wrthym pa ymgynghoriad sydd wedi digwydd gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru? Pa sicrwydd allwch chi roi i ni y byddant yn gallu cyflawni’r sialensau newydd? Cyn i unrhyw newidiadau ddigwydd, allwch chi warantu y bydd Cynllun Teithio holl gynhwysfawr ac wedi’i ariannu’n briodol, yn cael ei lunio i helpu cleifion a gofalwyr deithio at y gwasanaethau newydd a dychwelyd adref wedyn? 

Ymatebodd Sally Baxter.  Gan ddechrau gydag Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru, mae BCUHB wedi cymryd rhan yn yr holl ffrydiau gwaith. Mae gwaith wedi’i wneud gyda’r Bwrdd wrth ddatblygu system casglu feddygol brys a hefyd canolfan gydgysylltu i wahanol wasanaethau y bydd, o bosibl, eu hangen. Roedd BCUHB yn gweithio gyda darparwyr cludiant cymunedol i archwilio sut y gallent ddarparu cludiant ychwanegol. Cafwyd buddsoddiad enwol o £80,000 ar gyfer cynllun peilot ynghylch cludiant ychwanegol. Roedd BCUHB yn ymwybodol nad oedd pawb â char i’w ddefnyddio, ac felly’n gorfod defnyddio dulliau cludiant eraill. Mae BCUHB am fonitro’r sefyllfa ac roedd wedi cysylltu â’r Rheolwr Cyngor Cymunedol.  Pe byddai cynigion yn cael eu derbyn, byddai’n edrych ar newidiadau manwl. Nid oedd cynllun manwl yn ei le ar hyn o bryd gan mai’r broses ymgynghori sy’n digwydd, ond byddai cynllun manwl yn cael ei lunio unwaith bo’r ymgynghori wedi dod i ben. 

 

Cwestiwn 11 – cyflwynwyd gan y Cynghorydd Alice Jones.  Byddai’n well gennym petai gofal dwys i fabanod newydd anedig sâl iawn ar gael yng Ngogledd Cymru yn  Ysbyty Glan Clwyd. Pam bod Arrowe Park dan ystyriaeth? Beth yw costau cymharol hyn mewn cymhariaeth ag uned yng Ngogledd Cymru? Pa sicrwydd allwch chi ei roi ynghylch darpariaeth i rieni a gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg os yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu tu hwnt i Ogledd Cymru? Allwch chi esbonio’n union pa grŵp o fabanod yr ydym yn siarad amdanyn nhw? Pa wasanaethau fyddai’n aros yng Ngogledd Cymru petai Arrowe Park yn cael ei ddewis?

Ymatebodd Grace Lewis Parry.  Nid oedd unrhyw broblemau ynghylch safon gwasanaethau a diogelwch. Ymateb cynnig BCUHB yw bod safonau yn golygu bod yn rhaid i BCUHB symud ymlaen. Byddai’n costio oddeutu £1miliwn i ddod â’r uned newydd-anedig i fyny i safon genedlaethol. Byddai’n costio £1miliwn yn llai i Arrowe Park.  Grace Lewis Parry i ddarparu papurau i Aelodau er gwybodaeth.

Roedd y mater o’r iaith Gymraeg wedi’i nodi yn y cytundeb.

Gan fod babanod ifanc iawn angen derbyn gofal am sawl wythnos, roedd yr adborth a dderbyniwyd ynghylch yr uned deuluol a threfniadau mynediad yn Arrowe Park yn ardderchog.

 

Cwestiwn 12  - cyflwynwyd gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler.  A fydd y newidiadau iechyd hyn yn gwella gwasanaethau ac yn gwarantu urddas a gofal i’r sawl sydd arnynt angen gofal lliniarol a’r sawl sy’n dod i derfyn eu bywydau? 

Ymatebodd Dr Chris Stockport.  Mae’r mwyafrif o bobl yn marw mewn ysbyty ond byddai’n well gan y rhan fwyaf o bobl  farw yn eu cartref eu hunain. Y ffaith amdani yw bod gwasanaethau heb eu ffurfweddu’n gywir, ac o ganlyniad, roedd bobl a oedd ar fin marw yn mynd i amgylchedd a oedd yn feddygol iawn, sef amgylchedd lle nad oedd modd iddynt gael y farwolaeth naturiol yr oeddent yn ei dymuno. Roedd y cynllun gofal gwell yn gysyniad a ddefnyddiwyd mewn gwledydd eraill; roedd yn gadael i bobl weithio allan beth oedd yn werthoedd pwysig iawn, a sut allai BCUHB ddelio gyda hyn. Roedd cynllun peilot i gychwyn yng Ngogledd Sir Ddinbych ymhen ychydig o wythnosau ac yn y cynllun, y cartref fyddai’r man dymunol ac nid ysbyty.    

 

Ar y pwynt hwn, cyhoeddodd y Cadeirydd bod amser i 4 cwestiwn pellach.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Stuart Davies i gynrychiolwyr BCU a oedd uned mân anafiadau yn mynd i fod yn Llangollen. 

Ymatebodd Geoff Lang.  Ni fyddai uned mân anafiadau yn  Llangollen ond byddai meddygon teulu yn darparu gwasanaeth mân anafiadau. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Arwel Roberts bryder ynghylch Meddygfa Rhuddlan a’r ffaith ei bod yn ymddangos fel nad oedd arian digonol i gynnal y feddygfa. 

Ymatebodd Grace Lewis Parry nad oedd ganddi unrhyw fanylion ynghylch Meddygfa Rhuddlan ar y pryd.

 

Cododd y Cynghorydd Rhys Hughes y cwestiwn ynghylch adrannau allgleifion a gofal dydd Ysbyty Gymunedol Llangollen.  A fyddai’r adrannau hyn yn cael eu hadleoli i’r ganolfan adnoddau gofal sylfaenol estynedig newydd? A fydden nhw’n parhau ar y safle presennol hyd nes byddai’r cyfleuster newydd wedi’i adeiladu?  

Cadarnhaodd y CD:DWP y byddai’r adrannau allgleifion a gofal dydd yn cael eu trosglwyddo i’r cyfleuster newydd. 

Nododd Grace Lewis Parry bod darparu gwasanaethau yn  bwysig. Ni allai BCUHB warantu y byddai’r ysbyty yn aros ar agor, ond byddai ystod o wasanaethau yn cael eu darparu yn yr ardal leol. 

 

Cododd Aelodau gwestiynau pellach, ac ymatebodd cynrychiolwyr BCU fel a ganlyn:

 

Bydd gwelyau Glan Traeth yn cael eu darparu o fewn Ysbyty Glan Clwyd hyd nes y byddai’r cyfleuster newydd yn cael ei adeiladu ar safle Ysbyty Frenhinol Alexandra.  Bydd Lawnside yn cael ei adleoli fel canolfan allgymorth.  Y Ddeoniaeth sy’n gosod safonau ynghylch nifer y Meddygon sy’n cymryd llefydd hyfforddi.  Byddai unedau babanod gofal arbennig a gofal dwys yn cael eu rhedeg gan Bediatryddon ac roedd y trefniadau yn cael eu rhoi ar waith ar hyn o bryd.

 

Roedd BCUHB yn ymwybodol o bryderon ynghylch pwysau ychwanegol ar feddygon teulu oherwydd gofal gwell yn y cartref. Roedd y Pwyllgor Meddygol yn edrych ar rifau meddygon teulu ar hyn o bryd.  Un mecanwaith yw ariannu yn arwain at gapasiti mwy.   

 

Byddai’r gwrthwyneb i golli swyddi yn digwydd gan fod BCUHB yn trosglwyddo arian o welyau ac adeiladau i staff. 

 

Roedd holiaduron ymgynghori ar gael i holl Aelodau a oedd yn awyddus i’w cwblhau fel personau unigol.

 

Mynegodd y Cadeirydd ei diolch i’r Cydweithwyr Iechyd am fynychu cyfarfod y Cyngor.

 

Penderfynwyd – yn amodol ar yr uchod, bod y Cyngor yn cwblhau’r ymateb drafft i BCUHB ar y broses ymgynghori a bod yr ymateb terfynol yn dod gerbron y Cyngor Llawn yn y cyfarfod nesaf ym mis Hydref 2012.

 

Cafwyd egwyl am 11.15 y.b. 

 

Gwnaeth y cyfarfod ail-ymgynnull am 11.35 y.b.

 

 

Dogfennau ategol: