Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PREMIWM TRETH Y CYNGOR AR GARTREFI GWAG HIRDYMOR AC AIL GARTREFI

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn diweddaru’r Cabinet ar ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu’r uchafswm lefel o bremiymau treth y cyngor ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor a gofyn am safbwyntiau'r Cabinet ar sut i symud ymlaen gydag unrhyw godi tâl ychwanegol posib ar y cartrefi hyn yn Sir Ddinbych.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cytuno bod y premiymau ail gartrefi safonol, ac eiddo gwag hirdymor yr un fath, i leihau effaith trethdalwyr yn osgoi talu (a fyddai efallai’n gwneud cais i symud i’r categori mwyaf ffafriol) ac i sicrhau nad yw’r baich gweinyddol yn cael ei gynyddu’n sylweddol, ac eithrio ar gyfer eiddo sy’n gorwedd o fewn yr argymhelliad;

 

(b)       cytuno â’r cynigion canlynol a fydd yn hysbysu ymgynghoriad cyhoeddus cyn i’r Cabinet a’r Cyngor wneud eu penderfyniadau terfynol:

 

·         bod y Premiwm a godir ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn aros ar 50% o Ebrill 2023 ac yna’n cynyddu i 100% o Ebrill 2024 ac i 150% o Ebrill 2025

·         bod eiddo sydd wedi bod yn wag a heb ddodrefn ers 5 mlynedd neu fwy yn talu premiwm o 50% yn fwy na’r Premiwm safonol, a

 

(c)        bod y penderfyniad yn cael ei weithredu ar unwaith, yn unol â pharagraff 7.25 o gyfansoddiad y Cyngor, o wybod bod angen cwblhau’r ymgynghoriad angenrheidiol mewn modd amserol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad ar y ddeddfwriaeth sydd wedi’i chyflwyno gan Lywodraeth Cymru i gynyddu’r uchafswm lefel o bremiymau treth y cyngor ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor a gofynnodd am farn y Cabinet ar sut i symud ymlaen gyda chyflyno unrhyw dâl ychwanegol posib’ ar y cartrefi hyn yn Sir Ddinbych.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfres o fesurau i fynd i’r afael a diffyg tai fforddiadwy yng Nghymru, sy’n cynnwys hyblygrwydd newydd i godi cyfraddau uwch ar gyfer eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi (hyd at 300% o’r premiwm). Mae’r swyddogion yn argymell ymateb pwyllog i gadw’r premiwm ar 50% ar gyfer mis Ebrill 2023, ac yna cynyddu’r premiwm i 100% ym mis Ebrill 2024 ac i 150% ym mis Ebrill 2025. Bydd unrhyw gynnydd arfaethedig yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. Nod y cynnydd arfaethedig yw lleihau nifer yr eiddo gwag ac ail gartrefi, nid cynhyrchu incwm.

 

Manylodd Pennaeth Cyllid ac Archwilio ar amserlenni tynn y broses i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus, adrodd yn ôl i’r Cabinet ac yna cyflwyno cynnig gerbron y Cyngor Llawn a gwneud y penderfyniad terfynol. O ystyried yr amserlen gofynnir i’r Cabinet hefyd gymeradwyo gweithredu’r penderfyniad ar unwaith. Y penderfyniad ar y cam hwn yw ymgynghori ynghylch y cynigion a bod unrhyw benderfyniad sylweddol yn destun adroddiad arall.

 

Roedd y Cabinet yn croesawu’r cynigion yn yr adroddiad fel ffordd i ddefnyddio eiddo gwag, cynyddu nifer y cartrefi fforddiadwy ar gyfer pobl sydd angen tai a galluogi pobl leol i aros yn eu cymunedau. Mae’r dull graddol i gynyddu’r premiwm hefyd yn derbyn croeso, a bod digon o rybudd yn cael ei roi o’r cynigion er mwyn rhoi digon o amser i berchnogion ystyried eu sefyllfa. Cyfeiriwyd at y cydweithio rhwng y llywodraeth a Phlaid Cymru, a’r ymrwymiad i fynd i’r afael a materion fel prinder tai a diffyg tai fforddiadwy i bobl leol. Cadarnhaodd y swyddogion fod diffyg eglurder ynghylch bwriad awdurdodau lleol cyfagos wrth ddefnyddio’r hyblygrwydd newydd yma.

 

Gwnaeth ddau aelod etholedig (nad ydyn yn aelodau o’r Cabinet) sylwadau a gofyn cwestiynau am yr effaith niweidiol bosib’ ar dwristiaeth, busnesau bach a’r economi leol o ganlyniad i godi cyfraddau uwch ynghyd â’r incwm posib’.

 

Ymatebodd y Cabinet a’r swyddogion i’r materion a godwyd fel a ganlyn –

 

·         Nod y cynnydd arfaethedig yn y cyfraddau yw newid ymddygiad ac annog perchnogion i ddefnyddio eu heiddo – nid cynhyrchu incwm

·         Mae’r cynigion yn darparu dull graddol a phwyllog i gyrraedd uchafswm o 150%, sy’n llai na’r uchafswm o 300% a ganiateir

·         Mae angen cydbwysedd rhwng yr effaith ar dwristiaeth a’r ddarpariaeth dai, gyda’r angen am dai a digartrefedd yn prif flaenoriaethau

·         Byddai unrhyw eiddo sy’n fusnes yn destun cyfraddau busnes ac felly ni fydd yn rhaid iddynt dalu treth y cyngor

·         Amlygwyd yr anawsterau wrth amcangyfrif unrhyw refeniw ychwanegol, yn enwedig o ystyried mai lleihau ail gartrefi yw’r rheswm dros wneud y cynnydd – na fyddai’n cynhyrchu unrhyw refeniw ychwanegol os yw’n llwyddiannus

·         Byddai unrhyw refeniw ychwanegol yn sgil y cynnydd yn cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â’r materion tai, yn cynnwys digartrefedd a phrinder tai

·         Byddai Asesiad o’r Effaith ar Les yn cael ei ddarparu fel rhan o’r broses o wneud penderfyniad ar y cynigion, drwy adroddiadau i’r Cabinet ym mis Gorffennaf ac yna i’r Cyngor ym mis Medi

·         Rhoddwyd sicrwydd ynghylch bod trefniadau diogelu yn eu lle fel rhan o’r broses i helpu pobl sy’n wynebu caledi ariannol

 

Ar ôl adolygu’r adroddiad a’r wybodaeth ategol –

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       Cytuno bod y premiymau ail gartrefi safonol, ac eiddo gwag yn yr hirdymor yr un fath, i leihau nifer yr achosion o drethdalwyr yn osgoi talu (a fyddai efallai’n gwneud cais i symud i’r categori mwyaf ffafriol) ac i sicrhau nad yw’r baich gweinyddol yn cynyddu’n sylweddol, ac eithrio ar gyfer eiddo sy’n gorwedd o fewn yr argymhelliad;

 

(b)       Cytuno â’r cynigion canlynol a fydd yn hysbysu ymgynghoriad cyhoeddus cyn i’r Cabinet a’r Cyngor wneud eu penderfyniadau terfynol:

 

·         Bod y Premiwm a godir ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn aros ar 50% o Ebrill 2023 ac yna’n cynyddu i 100% o Ebrill 2024 ac i 150% o Ebrill 2025

·         Bod eiddo sydd wedi bod yn wag a heb ddodrefn ers 5 mlynedd neu fwy yn talu premiwm o 50% yn fwy na’r Premiwm safonol

 

(c)        Cytuno bod y penderfyniad yn cael ei weithredu ar unwaith yn unol â pharagraff 7.25 Cyfansoddiad y Cyngor oherwydd bod angen cwblhau’r ymgynghoriad angenrheidiol mewn modd amserol.

 

 

Dogfennau ategol: