Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAM 2 O GONTRACT GWAITH - GORSAF TROSGLWYDDO GWASTRAFF NEWYDD CSDD, YMESTYN STAD DDIWYDIANNOL COLOMENDY - DIWEDDARIAD

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet ar gyfer y bwriad arfaethedig o symud ymlaen i gwblhau gwaith Cam 2 yn yr Orsaf Trosglwyddo Gwastraff newydd yn Ninbych, ar ôl i’r prif gontractwr fynd i ddwylo’r gweinyddwyr, a darparu diweddariad ar bwysau cyllideb oherwydd y sefyllfa.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau;

 

(b)       cefnogi’r ffordd ymlaen a ffefrir i gwblhau gwaith Cam 2 yn yr Orsaf Trosglwyddo Gwastraff newydd ar Ystâd Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych a

 

(c)        chydnabod y pwysau diweddaraf ar y gyllideb a chytuno i barhau i weithio ar risg wrth i drafodaethau am ffynonellau cyllid posibl ar gyfer y pwysau gael eu cynnal â Llywodraeth Cymru.  Roedd hyn yn hanfodol er mwyn lliniaru’r risg o oedi pellach fyddai’n effeithio eto ar gostau a’r rhaglen, yn cynnwys y rhaglen ehangach o newid mewn gwasanaeth y mae cwblhau’r Orsaf yn hanfodol ar ei chyfer.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mellor yr adroddiad yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet i’r ffordd ymlaen arfaethedig i gwblhau gwaith Cam 2 Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff yn Ninbych, ar ôl i’r prif gontractwr (RL Davies & Son Ltd) fynd i ddwylo’r gweinyddwyr, a darparodd y wybodaeth ddiweddaraf ar y pwysau mae hynny’n ei rhoi ar y gyllideb.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r Economi a’r Rheolwr Prosiect Corfforaethol yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Atgoffwyd y Cabinet o’r cefndir a’r sefyllfa ddiweddaraf o ran gwaith Cam 2 a’r pedwar dewis i symud ymlaen. Argymhellir dewis 4 er mwyn i’r Cyngor barhau i fod yn gontractwr rheoli a fydd yn ffurfioli’r trefniadau sydd yn eu lle dan yr Adroddiad Eithrio sydd wedi galluogi parhau â’r gwaith ers diwedd mis Chwefror 2023. Soniwyd am y sefyllfa o ran y gyllideb a dywedwyd bod y trafodaethau yn parhau gyda Llywodraeth Cymru o ran a fyddant yn mynd i’r afael â’r pwysau diweddaraf ar y gyllideb o £890,987. Os nad yw’r llywodraeth yn gallu ariannu’r pwysau, bydd adroddiad ar y dewisiadau yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet.

 

Trafododd y Cabinet yr adroddiad gyda’r swyddogion a chadarnhawyd bod gorffen y gwaith yn hanfodol i weithredu’r newid i’r gwasanaeth. Roedd y prosiect gwastraff yn ei hanfod yn ymwneud â gwelliant amgylcheddol a chynyddu cyfraddau ailgylchu er mwyn cyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% (mae’r llywodraeth hefyd wedi buddsoddi llawer yn y prosiect). Roedd y Cabinet yn croesawu buddion amgylcheddol y model gwastraff newydd a’r system newydd o wahanu ac ailgylchu, ac yn cydnabod cost cynyddol sylweddol parhau gyda’r trefniadau ailgylchu cymysg sy’n oddeutu £75 y dunnell ynghyd â’r ddirwy bosib’ gan Lywodraeth Cymru os nad ydym yn cyrraedd y targedau ailgylchu. Mae yna hefyd berygl o’r llywodraeth yn adfachu’r arian os nad yw’r depo yn cael ei orffen a’r gwasanaeth newydd ddim yn dwyn ffrwyth. Wrth gydnabod cymhlethdod y prosiect diolchodd y Cabinet i’r swyddogion am eu gwaith gan obeithio y bydd y canlyniad yn un llwyddiannus ar ôl trafod y pwysau cyllidebol gyda Llywodraeth Cymru.

 

Agorodd yr Arweinydd y drafodaeth i’r aelodau etholedig eraill a oedd yn bresennol a bu iddynt ofyn cwestiynau a mynegi pryderon ynghylch y goblygiadau ariannol a’r pwysau cyllidebol, ynghyd â’r risgiau a’r dewisiadau i’r dyfodol. Ymatebodd y swyddogion fel a ganlyn –

 

·         Cadarnhawyd cywirdeb yr amcangyfrif cyllidebol yn dilyn yr adolygiad diweddar o’r holl becynnau gwaith a’r arian at raid gan ddweud y bydd yna wastad berygl o’r anhysbys

·         Mae’r pwysau cyllidebol wedi’i achosi gan y ffaith bod prif gontractwr y prosiect wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, rhywbeth y tu hwnt i reolaeth y Cyngor

·         Darparwyd manylion y gwarantau a’r indemniadau proffesiynol sy’n ymwneud â’r prosiect

·         Bydd risgiau’r prosiect yn mynd yn llai wrth i’r gwaith fynd rhagddo a thynnu tua’r terfyn

·         Mae’r oedi o ran cael trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru i weithredu o’r depo newydd yn dal yn risg, ond bydd yr aelodau yn cael gwybod am y cynnydd

·         Mae trafodaethau yn parhau efo Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyllido’r pwysau cyllidebol ac os nad yw’r trafodaethau yn dwyn ffrwyth bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno ar y dewisiadau cyllido / yr effaith

·         Rhoddwyd sicrwydd ynghylch rheolaeth y prosiect, y trefniadau llywodraethu a’r gwaith monitro risg, ac roedd y swyddogion yn hyderus y bydd y prosiect yn cael ei gyflawni

·         Amlygwyd y cyfle i’r aelodau ymgysylltu ag agweddau craffu ar y newid yn y gwasanaeth a’r cynnydd yn ystod cyfarfodydd y pwyllgor craffu ym mis Mehefin a mis Hydref, a chytunwyd i gynnwys y risgiau cysylltiedig â’r prosiect fel rhan o’r broses honno.

·         Eglurwyd sut y cafodd y contract ei ddyfarnu i RLD drwy awdurdod wedi’i ddirprwyo oherwydd yr etholiadau lleol a’r amserlen ar gyfer dyfarnu’r contract.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth ategodd y Cynghorydd Gill German y rheswm sylfaenol dros y model gwastraff newydd, sef i fynd i’r afael â phryderon amgylcheddol a’r her newid hinsawdd, ac roedd yna gefnogaeth eang i dargedau Llywodraeth Cymru yn hynny o beth. Cyfeiriodd y Cynghorydd Barry Mellor at Ddatganiad Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol y Cyngor yn 2019 a’r nodau y byddai’r prosiect gwastraff yn cyfrannu tuag atynt.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       Cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau;

 

(b)       Cefnogi’r ffordd ymlaen a ffefrir i gwblhau gwaith Cam 2 yr Orsaf Trosglwyddo Gwastraff newydd ar Ystâd Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych; ac yn

 

(c)        Cydnabod y pwysau diweddaraf ar y gyllideb a chytuno i barhau i weithio ar risg wrth i drafodaethau am ffynonellau cyllid posibl ar gyfer y pwysau gael eu cynnal â Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn angenrheidiol i liniaru’r perygl o oedi pellach a fyddai’n effeithio unwaith eto ar y costau a’r rhaglen, yn cynnwys y rhaglen ehangach o newid y gwasanaeth y mae cwblhau’r Orsaf Trosglwyddo Gwastraff yn hanfodol ar ei chyfer.

 

Ar y pwynt hwn (11.10 am) cymerodd y pwyllgor egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: