Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

STRATEGAETH ARWYDDION I DWRISTIAID SIR DDINBYCH DRAFFT

I ystyried adroddiad gan Mike Jones, Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch y Ffyrdd (copi yn amgaeedig) ar y Strategaeth Arwyddion i Dwristiaid drafft - yn cynnwys ffynonellau ariannu posibl a’r amserlen ddisgwyliedig ar gyfer cyflawni’r Strategaeth.

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffordd wybod i’r Pwyllgor yn anffodus nad oedd yr Aelod Arweiniol yn gallu mynychu i gyflwyno’r adroddiad gan nad oedd y Swyddogion wedi darparu digon o amser i’r Aelod wneud trefniadau i fynychu.

 

Cafodd yr Aelodau eu harwain drwy’r adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn rhoi diweddariad ar y Cynllun Drafft Arwyddion Twristiaeth a gyfeiriwyd yn flaenorol fel y Strategaeth Arwyddion Twristiaeth. Roedd yn gam gweithredu o fewn y Strategaeth Twristiaeth y Cyngor a gyflwynwyd yn flaenorol i’r Pwyllgor Craffu ym mis Mawrth 2020.

 

Pwrpas y papur oedd darparu diweddariad i aelodau ar brosiectau a gwblhawyd hyd yma, gan gynnwys cynllun arwyddion brown Dyffryn Clwyd. Roedd hefyd yn cynnig rhestr syml o brosiectau arwyddion brown a oedd yn cynnwys:

·                     arwyddion twristiaeth allweddol ar yr A55 yn rhestru atyniadau lleol,

·                     arwydd newydd yn lle arwydd y Rhyl presennol ar y ffordd tua gorllewin cyn cyffordd 27,

·                     arwydd newydd ar gyfer y Rhyl wedi’i leoli ar ffordd y dwyrain ar gyffordd 23a a

·                     arwyddion brown ar gyfer Prestatyn ar ffordd y dwyrain yr A55 a fydd yn adlewyrchu’r arwyddion sydd mewn lle ar hyn o bryd ar yr ochr orllewinol.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y strategaeth yn bwriadu datblygu arwyddion brown ar gyfer Llangollen ac adolygu’r arwyddion presennol ar y ffyrdd i mewn i’r ardal, ynghyd ag adolygu’r arwyddion cefnffordd bresennol yn Rhuthun a Chorwen.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog am ei gyflwyniad manwl o’r adroddiad. Cododd bryder bod elfennau o’r adroddiad i weld yn wag. Yn ystod y drafodaeth, trafodwyd y pwyntiau canlynol yn fwy manwl:    

·         Pwysleisiodd Swyddogion bod y sylw mewn perthynas â lloerenni llywio a defnydd o ddyfeisiau yn cydnabod y defnydd cynyddol o ddyfeisiau gan unigolion i lywio i ardaloedd o ddiddordeb. Pwysleisiodd aelodau nad oedd pob unigolyn yn defnyddio technoleg ac yn aml iawn yn dibynnu ar arwyddion brown i lywio i ardal.

·         Roedd cefnffyrdd yn cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru. Maent gyda pholisi mewn perthynas ag arwyddion brown, sydd yn datgan y gallai unrhyw atyniad twristiaeth wedi’i gyfeirio o gefnffyrdd ond cael eu cyfeirio o’r gefnffordd agosaf. Gan edrych ar Ruthun, y gefnffordd agosaf oedd yr A494. Felly ni fyddai arwyddion brown sy’n berthnasol i atyniadau Rhuthun yn gallu cael ei roi ar hyd yr A55. Roedd amod ar wahân yn nodi gallwch ond cyfeirio at atyniad o fewn radiws 10 milltir o gefnffordd.

·         Roedd Grŵp Tasg a Gorffen blaenorol wedi’i sefydlu i adolygu syniad y strategaeth arwyddion gwreiddiol a oedd yn edrych ar deithiau arwyddion twristiaeth a fyddai’n ategu Ffordd y Gogledd. Mae nifer o ffactorau wedi arwain at rai prosiectau yn peidio â datblygu mor gyflym a gobeithiwyd.

·         Nid yw llwybr wedi’i gynnwys yn y strategaeth ddiwygiedig. Cafodd yr Aelodau wybod bod gwaith a wnaethpwyd ar lwybrau yn flaenorol wedi cynyddu ymwybyddiaeth o’r llwybrau yn yr ardal. Cyhoeddwyd taflenni yn hyrwyddo ardaloedd o ddiddordeb drwy Ffordd y Gogledd a Darganfod Sir Ddinbych ar Lwybrau. Atgoffwyd Aelodau bod llawer iawn o wybodaeth ar gael ar-lein ar gyfer preswylwyr.

·         Byddai adnewyddu arwydd y Rhyl yn galluogi swyddogion i gynnwys ychydig o atyniadau newydd i ymwelwyr ar hyd yr arfordir.

·         Presenoldeb gwell ar gyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo atyniadau yn cyd-fynd gyda’r defnydd o arwyddion brown.

·         Adolygiad o’r bylchau mewn adnoddau yn cael ei wneud. Roedd recriwtio yn heriol. Roedd y swyddogion yn trafod pwysau ar y tîm a’r adnoddau sydd ei angen yn yr ardal wasanaeth.

·         Roedd yr arwyddion arfaethedig ar gyfer arwyddion Dwyrain a Gorllewin ar hyd yr A55 wedi bwriadu i annog twristiaid sy’n teithio i’r ddau gyfeiriad i ddod i’r ardal.

·         Byddai’r adroddiad asesiad o les yn cael ei ddatblygu ymhellach i gynnwys gwybodaeth a oedd wedi’i adael allan.

·         Nododd Swyddogion bod yr arwyddion yn cael eu gwneud gan ddeunyddiau cyfansawdd ond yn agored i ddefnydd o ffurfiau eraill o ddeunyddiau.

·         Roedd gwaith cychwynnol wedi dechrau ar adolygiad Llangollen 12 mis yn ôl, oherwydd problemau capasiti nid oedd wedi’i ddatblygu. Gobeithir fel rhan o’r strategaeth ddiwygiedig y gallai’r gwaith ailddechrau. Darparwyd sicrwydd y bydd gwaith gydag Aelodau Lleol yn cael ei wneud.

·         Awgrymodd Aelodau i gael diweddariad ym mhob un Grŵp Ardal yr Aelodau ar y strategaeth ddiwygiedig a’r goblygiadau y gallai gael ar bob ardal.

·         Roedd cyllid ar gyfer arwyddion brown yn cael eu ceisio’n draddodiadol ar ddull ad hoc gan weithredwr twristiaeth i’r awdurdod priffyrdd. Byddai trafodaethau gyda’r asiantaeth cefnffordd yn cael eu cynnal os byddai cais yn dod i law am arwydd cefnffordd. Bydd rhaid bodloni meini prawf i gael caniatâd ar gyfer arwydd brown. Byddai amcangyfrifon cost yn cael ei wneud a’i gyflwyno i’r gweithredwr twristiaeth i bennu os oeddynt yn dymuno parhau.     

·         Cafwyd adborth gan fusnesau ynghylch arwyddion brown gan nifer o wahanol ffynonellau a chynhaliwyd fforymau yn rheolaidd. Teimlwyd bod arwyddion brown yn un elfen o dwristiaeth yn yr ardal ynghyd â thechnoleg, cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu gyda phreswylwyr lleol.

·         Roedd gan Lywodraeth Cymru gynllun ymgysylltu cenedlaethol i hysbysu pobl o’r newidiadau i Gyfraith Cymru o ran y cyfyngiadau cyflymder. 

·         Amlygodd Aelodau'r pwysigrwydd o arwyddion brown o fewn yr awdurdod.   

·         Roedd gwybodaeth o fewn y papurau yn nodi gwybodaeth ynghylch gosod arwyddion brown newydd ar hyd yr A55. Fel awdurdod, roedd Sir Ddinbych yn cefnogi arwyddion brown. Roedd y cynnig ar gyfer arwyddion brown ychwanegol ac nid cael gwared ar arwyddion presennol.

·         Defnyddiwyd y broses C360 ar gyfer ymholiadau cychwynnol i swyddogion gysylltu gyda phreswylwyr neu aelodau i ddechrau’r sgyrsiau.

·         Cadarnhaodd Datganiad Gweinidogol a gyhoeddwyd ar 30 Mawrth bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu dod â deddfwriaeth drafft ymlaen mewn perthynas ag ardoll ymwelwyr.

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion ac aelodau’r pwyllgor am y drafodaeth fanwl a nodwyd yr argymhellion ychwanegol i’w hychwanegu i’r rheiny a nodwyd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR  - yn amodol ar y sylwadau uchod  

I.             cadarnhau, wrth ystyried y mater, ei fod wedi darllen yr Asesiad o’r Effaith ar Les, ei ddeall a’i gymryd i ystyriaeth, a gofyn am adolygu a diwygio’r Asesiad o’r Effaith ar Les yn gyson wrth i’r Cynllun Arwyddion Twristiaeth ddatblygu ac esblygu;

II.            gofyn am adroddiad i’r Pwyllgor ymhen chwe mis ynglŷn â’r cynnydd wrth ddatblygu a gweithredu Cynllun Arwyddion Twristiaeth Sir Ddinbych.  Dylai’r adroddiad gynnwys cynllun gweithredu manwl ar gyfer rhoi’r cynllun ar waith a chyflawni ei amcanion, y costau sy’n gysylltiedig â chyflawni’r cynllun, manylion y ffrydiau cyllid y bwriedir eu defnyddio i’w gynnal, ynghyd ag Asesiad diwygiedig o’r Effaith ar Les a manylion ynglŷn â’r wybodaeth sydd ar wefan y Cyngor am sut y gallai busnesau lleol elwa ar gyfleoedd gydag arwyddion i dwristiaid;

III.          gofyn am gyflwyno Cynllun Arwyddion Twristiaeth Sir Ddinbych gerbron holl Grwpiau Ardal yr Aelodau er trafodaeth, er mwyn ymchwilio i sut y gallai’r holl ardaloedd, yn drefol a gwledig, elwa i’r eithaf ar yr effaith economaidd a’r buddion a ddaw drwy’r Cynllun;

IV.          gofyn am gyflwyno unrhyw wybodaeth oedd ar gael ynglŷn â’r Ardoll Ymwelwyr newydd i aelodau etholedig, gan gynnwys y manteision ac anfanteision economaidd posib o gyflwyno ardoll ymwelwyr yn Sir Ddinbych o safbwynt economi’r sir a’i chymunedau; a

V.           gofyn am wneud ymholiadau â datblygwyr systemau llywio â lloeren ynglŷn â sut y gellid cynnwys atyniadau twristiaid yn Sir Ddinbych wrth ddiweddaru ac uwchraddio systemau yn y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: