Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CEISIADAU AR Y RHESTR FER AR GYFER CYLLID Y GRONFA FFYNIANT GYFFREDIN

Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiadau cyfrinachol) gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd (copi ynghlwm) ar y broses ymgeisio a llunio rhestr fer a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i ariannu’r prosiectau fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Partneriaeth Craidd.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cadarnhau eu bod wedi deall y broses ymgeisio a llunio rhestr fer ac yn cymeradwyo bod y gweithdrefnau hynny’n deg ac agored.

 

(b)       cytuno i ariannu’r prosiectau a roddwyd ar y rhestr fer gan y Grŵp Partneriaeth Craidd (Atodiad C yr adroddiad) a

 

(c)        rhoi pwerau dirprwyol i’r Arweinydd i wneud penderfyniadau dilynol, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol a Chyfarwyddwr Corfforaethol yr Amgylchedd a’r Economi.     Efallai y bydd angen y penderfyniadau hynny pe bai’r amgylchiadau a nodwyd ym mharagraffau 4.9, 4.10 a 4.11 yr adroddiad yn digwydd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan yr adroddiad ar y broses ymgeisio a llunio rhestr fer ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin a cheisiodd gymeradwyaeth y Cabinet i ariannu’r prosiectau a argymhellwyd gan y Grŵp Partneriaeth Craidd. Roedd yr adroddiad yn cynnwys atodiadau cyfrinachol am y ceisiadau (oedd yn cynnwys materion ariannol a busnes) a’r canlyniadau a argymhellwyd, a chafodd y Cabinet eu cynghori gan y Swyddog Monitro i symud i sesiwn breifat i drafod yr elfennau hynny.

 

Roedd y Pennaeth Tai a Chymunedau, Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro: Perfformiad, Digidol ac Asedau a’r Rheolwr Cyllid Allanol yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.

 

Arweiniwyd y Cabinet yn fanwl drwy’r broses ymgeisio a llunio rhestr fer. Cafwyd mwy o geisiadau ar gyfer y gronfa na’r adnoddau sydd ar gael sef 110 o geisiadau gyda chyfanswm o £88.7miliwn yn erbyn dyraniad o £25.6miliwn. Darparwyd trosolwg o’r arian a dderbyniwyd a phrosiectau a argymhellwyd i’w cymeradwyo, prosiectau na argymhellwyd i’w cymeradwyo a rhestr wrth gefn o brosiectau (Atodiad C yr adroddiad). Roedd adborth ar y rhestr hir o brosiectau gan y grŵp partneriaeth ehangach (Atodiad B yr adroddiad) wedi cael ei rannu â’r Grŵp Partneriaeth Craidd i lywio eu trafodaethau. Roedd ceisiadau nad oedd wedi pasio’r sgrinio cychwynnol hefyd wedi eu cynnwys yn ogystal â cheisiadau am arian a ddyrannwyd eisoes i Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych neu Gadwyn Clwyd, fyddai’n cael eu cyfeirio at y sefydliadau hyn (Atodiad A yr adroddiad). Roedd gan bob prosiect ei rinweddau a byddai’r rhai na chymeradwywyd yn cael adborth positif a’u cyfeirio am gymorth pellach.

 

Amlygodd y Pennaeth Tai a Chymunedau y canlynol hefyd -

 

·         wynebir heriau yn lleol a rhanbarthol oherwydd yr amodau a osodwyd i weinyddu’r rhaglen a’r dyraniad cyllid mewn amserlen dynn

·         goblygiadau i brosiectau rhanbarthol oedd angen cymeradwyaeth ar draws gwahanol feysydd y cyngor, a defnyddio rhestr wrth gefn os bydd cyllid yn dod ar gael. Gofynnwyd i’r Cabinet ddirprwyo awdurdod i’r Arweinydd i wneud hynny, mewn ymgynghoriad ag eraill

·         y dull a ddefnyddiwyd gyda’r thema Pobl a Sgiliau i Sir Ddinbych yn Gweithio i gomisiynu gwasanaethau.

 

Trafododd y Cabinet y broses ymgeisio a llunio rhestr fer, a’r farn oedd ei bod yn gadarn a chynhwysol iawn ac yn heriol o ran gwneud penderfyniadau ar brosiectau. Roedd nifer y ceisiadau a gafwyd o’i gymharu â’r cyllid oedd ar gael yn golygu na ellid cymeradwyo llawer o’r ceisiadau’n anffodus. Roedd y Cabinet wedi cael sicrwydd y byddai’r Cyngor yn parhau i weithio gydag ymgeiswyr aflwyddiannus i roi cymorth pellach a llwybrau posibl at ffrydiau cyllid eraill neu yn y dyfodol er mwyn datblygu’r prosiectau hynny drwy ffyrdd eraill pan fyddai’n bosibl.    Amlygwyd y sefyllfa ar ôl Brexit hefyd a nodwyd bod nifer o’r dangosyddion wedi dynodi diffyg sylweddol yng nghynlluniau ariannu Llywodraeth y DU i ddisodli cyllid yr UE.

 

Roedd y Cabinet wedi bod yn falch o nodi cydbwysedd y cynrychiolwyr ar y grŵp partneriaeth ehangach hefyd, gyda mewnbwn eang ar draws sectorau gwahanol yn y broses honno. Amlygwyd hefyd bod Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a Chadwyn Clwyd wedi cael eu comisiynu i weinyddu grantiau lefel is i brosiectau a meithrin gallu yn y gymuned a diolchodd yr Arweinydd i’r sefydliadau hynny am eu mewnbwn. Cafodd dull comisiynu i Sir Ddinbych yn Gweithio ei groesawu hefyd, yn enwedig ar gyfer ymgysylltu â grwpiau anodd eu cyrraedd. Nodwyd bod y prosesau penderfynu eraill ar draws y rhanbarth yn amrywio, a bod dull Sir Ddinbych drwy’r Cabinet yn cynnig proses agored a thryloyw.  Ystyriodd y Cabinet fod preswylwyr a chymunedau wedi bod ar flaen y broses gwneud penderfyniadau er mwyn targedu’r rhai â’r angen mwyaf, rhai diamddiffyn ac anodd eu cyrraedd, a diolchwyd i bawb oedd yn rhan o’r broses am eu mewnbwn.

 

Ar y pwynt hwn, agorodd yr Arweinydd y drafodaeth i aelodau nad oeddent yn aelodau o’r Cabinet.

 

Codwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd yr Arweinydd a swyddogion iddynt -

 

·         roedd y meini prawf ar gyfer Cam 1 wedi bod yn glir ac nid oedd cyswllt uniongyrchol wedi’i wneud ag ymgeiswyr gan fod digon o wybodaeth wedi’i ddarparu i wneud argymhellion; roedd Cam 2 yn cynnwys cael mwy o fanylion am ddulliau darparu, canlyniadau ac allbynnau

·         nid oedd yr amserlenni’n caniatáu amser i geisiadau unigol aflwyddiannus gael hawl i apelio; roedd y mecanwaith galw i mewn ar gyfer craffu ar gael  

·         anghytuno y dylai'r broses fod wedi cynnwys darparu mwy o fanylion ar y dechrau, roedd digon o wybodaeth wedi’i darparu i wneud argymhelliad a darparwyd mwy o wybodaeth a diwydrwydd dyladwy yn ail gam y broses

·         derbyniwyd y byddai ymgeiswyr aflwyddiannus yn siomedig ond dim ond hyn a hyn o arian oedd ar gael i’w ddyrannu a byddai’r sgwrs yn parhau gyda’r ymgeiswyr aflwyddiannus a byddai adborth positif yn cael ei roi, ynghyd â’u cyfeirio at gymorth pellach a ffynonellau ariannu posibl eraill fel bo’n briodol

·         roedd Llywodraeth y DU wedi gosod rhannau helaeth o’r dull o gynnal y broses o ran yr amodau ariannu a chynnwys y Grŵp Partneriaeth Craidd, oedd wedi cael ei ymestyn i gynnwys ymgynghoriad ehangach

·         nid oedd swyddogion yn ymwybodol o unrhyw brosiectau oedd wedi cael eu hisraddio oherwydd diffyg eglurder am amserlenni darparu

·         fel oedd yn orfodol, roedd cyllid wedi’i ddyrannu ar draws themâu yn hytrach na dosbarthiad daearyddol ar draws y sir. Fodd bynnag, roedd mwyafrif y prosiectau a argymhellwyd i’w cymeradwyo yn rhai i’r sir gyfan

·         o ran cyllid i’r dyfodol, roedd yn debygol y byddai Llywodraeth y DU yn cyhoeddi cyllid pellach ar ddiwedd y rhaglenni Ffyniant Bro a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin presennol. 

 

GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

 

Cynigiodd y Cabinet y dylid trafod yr atodiadau cyfrinachol yn yr adroddiad a -

 

PENDERFYNWYD o dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn ar y sail ei fod yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

Crynhodd y Pennaeth Tai a Chymunedau yr argymhellion ar gyfer y prosiectau ar y rhestr fer fesul thema, oedd wedi eu rhannu eto i gyd-fynd yn agos â blaenoriaethau’r cynllun corfforaethol, ac roedd y prosiectau wedi eu blaenoriaethu yn erbyn y cyllid a ddarparwyd.  

 

Nododd y Cabinet bod fframwaith y rhaglen a’r amodau ariannu wedi cael eu gosod gan Lywodraeth y DU ac roedd y sefyllfa’n parhau’n hyblyg.  Yn dilyn trafodaethau â Llywodraeth y DU, cadarnhawyd y gellir ailddyrannu’r tanwariant lluosog ym Mlwyddyn 1 i Flwyddyn 2 ac roedd trafodaethau pellach ar y gweill o ran y posibilrwydd o ailddyrannu tanwariant o Flynyddoedd 2 a 3 i themâu eraill wrth symud ymlaen, fyddai o fudd i brosiectau ar y rhestr wrth gefn. Oherwydd y cyllid cyfyngedig oedd ar gael, roedd yn anorfod y byddai ymgeiswyr aflwyddiannus yn siomedig, ond dywedwyd eto y byddai’r ymgeiswyr hynny yn cael adborth positif ac yn cael eu cyfeirio at gymorth pellach a ffrydiau ariannu pellach pan fo’n bosibl. 

 

Yn ystod y drafodaeth ehangach, tynnodd rai cynghorwyr sylw at rinweddau prosiectau penodol yn eu wardiau nad oedd wedi cael eu hargymell i’w cymeradwyo, i’r Cabinet eu hadolygu a sicrhau y byddai ymdrech fawr yn cael ei gwneud o leiaf i gefnogi’r prosiectau hynny i ddatblygu yn y dyfodol. Soniodd yr Arweinydd eto am yr addewid i weithio gydag ymgeiswyr aflwyddiannus i ddatblygu prosiectau fel bo’n briodol ac ymhelaethodd y swyddogion am y rhesymau pan nad oedd y prosiectau penodol hynny wedi cael eu hargymell i’w cymeradwyo. Tynnwyd sylw at effaith cais aflwyddiannus Dyffryn Clwyd am gyllid Ffyniant Bro ar rai o’r prosiectau hyn hefyd.

 

Trafododd aelodau bwysigrwydd ymdrin â thlodi ac amddifadedd drwy brosiectau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.  Nodwyd bod y Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol yn cyd-fynd yn agos â’r Cynllun Corfforaethol a’i fod yn targedu gwella lles ac ymdrin ag amddifadedd ar draws y sir; gellid mesur effaith y prosiectau hynny dros dymor y cyngor. Wrth ymateb i gwestiynau, dywedodd y swyddogion bod trosolwg o’r prosiectau wedi’i gynnwys yn Atodiad B yr adroddiad a’i fod yn ehangu ar y rhesymeg y tu ôl i’r cynigion yn seiliedig ar gyfres o brosiectau i gyflawni allbynnau a chanlyniadau pob thema o fewn y cyllid cyfyngedig sydd ar gael. Roedd y Cynghorydd Peter Scott yn falch o nodi’r prosiectau a argymhellwyd yn Ardal Aelod Elwy.

 

Wrth gloi’r drafodaeth, soniodd yr Arweinydd eto am y penderfyniadau anodd oedd angen eu gwneud a diolchodd i’r aelodau am graffu a herio hynny. Cytunodd y Cabinet ar ddiwygiad i gynnwys paragraff 4.10 yn argymhelliad 3.3.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cadarnhau eu bod wedi deall y broses ymgeisio a llunio rhestr fer ac yn cymeradwyo bod y gweithdrefnau hynny’n deg ac agored.

 

(b)       cytuno i ariannu’r prosiectau a roddwyd ar y rhestr fer gan y Grŵp Partneriaeth Craidd (Atodiad C yr adroddiad) a

 

(c)        rhoi pwerau dirprwyol i’r Arweinydd i wneud penderfyniadau dilynol, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol a Chyfarwyddwr Corfforaethol yr Amgylchedd a’r Economi. Efallai y bydd angen y penderfyniadau hynny pe bai’r amgylchiadau a nodwyd ym mharagraffau 4.9, 4.10 a 4.11 yr adroddiad yn digwydd.

 

Ar y pwynt hwn (11.35 am) cymerodd y pwyllgor egwyl am luniaeth.

 

SESIWN AGORED

 

Ar ôl cwblhau'r busnes uchod, ailddechreuodd y cyfarfod mewn sesiwn agored.

 

 

Dogfennau ategol: