Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PROSIECT GWELLA TAI GORLLEWIN Y RHYL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd H.H. Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd (copi’n amgaeëdig) sy’n rhoi manylion Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd H.H. Evans yr adroddiad a roddai fanylion ar Brosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl (WRHIP), a gyflwynwyd yn wreiddiol yn sesiwn briffio’r Cabinet ar 5 Rhagfyr 2011. 

 

Roedd arian wedi’i ddyrannu gan Lywodraeth Cymru (LlC) i weithredu’r Prosiect, heb ddim gofyniad am arian cyfalaf o Sir Ddinbych. Roedd gofyn i’r Cabinet ystyried y prosiect yn unol gyda Rheoliadau Ariannol a Methodoleg Rheoli Prosiect.

 

Mae’r manylion canlynol yn ymwneud â’r WRHIP wedi’u darparu yn yr adroddiad:-

 

Atodiad 1 – Briff y Prosiect – Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl. 

Atodiad 2 – Cynllun Bloc WRHIP.

Atodiad 3 – Argraff Arlunydd o Fan Gwyrdd.

 

Hysbyswyd Aelodau y dylai’r ffynhonnell arian mewn perthynas â WG-NWCRA am 2013/14 fod yn £1,647,000 ac nid £1,747,000 fel y nodwyd yn y tabl yn yr adroddiad. 

 

Roedd y WRHIP yn barhad o waith a oedd eisoes ar y gweill yng Ngorllewin y Rhyl dan nawdd Ardal Adfywio Strategol Arfordir Gogledd Cymru  (NWCRA) ac roedd nifer sylweddol o adeiladau oedd angen sylw’r prosiect eisoes wedi’u prynu gydag arian LlC.  Roedd manylion ynghylch y Man Gwyrdd, y Rhaglen Gaffael, math o dai i’w creu, Rhaglen Weithredu, Rheoli Prosiect a Threfniadau Llywodraethu wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Roedd rhaglen amlinellol ar gyfer gweithredu blociau unigol wedi’i dosbarthu ac roedd Atodiad 4 yn cynnwys Cynllun Rhaglen WRHIP.  Roedd Bwrdd Prosiect wedi’i sefydlu ac roedd y Cylch Gorchwyl drafft, gyda manylion aelodaeth, wedi’i gynnwys yn Atodiad 5.  Dywedodd Rheolwr Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen wrth y Cabinet bod Canllawiau Cynllunio Atodol drafft wedi’u cynhyrchu i’r ardal, a allai ddarparu’r fframwaith polisi ar gyfer unrhyw ymholiad CPO posibl, ac y byddai’r Pwyllgor Cynllunio yn ystyried hyn gyda golwg ar ei anfon at ymgynghoriad ffurfiol.

 

Roedd cyfrifoldebau allweddol y Bwrdd WRHIP ar gyfer gweithredu’r prosiect wedi’u hamlygu yn yr adroddiad.  Esboniwyd y byddai mynd i’r afael â materion sydd wedi poeni’r ardal ers amser yn helpu creu argraff fwy positif o’r dref, ac y byddai hynny wedyn yn arwain at fuddion adfywio mwy pellgyrhaeddol. Trwy greu cymuned a marchnad dai mwy cytbwys, byddai’r prosiect yn lleihau amddifadedd yn yr ardal, a dyma oedd un o ddeilliannau allweddol y flaenoriaeth.  Byddai hefyd yn hybu hyder y sector preifat yn y Rhyl ac yn ysgogi buddsoddiad a hyder sector preifat pellach trwy greu swyddi newydd a chyfleoedd busnes.

 

Byddai’r prosiect yn cael effaith uniongyrchol ar y deilliant blaenoriaeth o “gynnig amrywiaeth o fathau a ffurfiau tai gwahanol... i gyflawni anghenion unigolion a theuluoedd”. Roedd y costau a godwyd o Atodiad 1, Briff y Prosiect – Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl, wedi’u manylu yn yr adroddiad. Fodd bynnag, cadarnhawyd nad oedd arian ar gyfer 2014/15 wedi’i dderbyn o’r NWCRA hyd yma.

 

Roedd y tabl o fewn yr adroddiad yn dangos y byddai’r arian i’r WRHIP yn cael ei ddarparu gan LlC ac yn dod o gyfuniad o Gronfa Gyfalaf a Gedwir yn Ganolog ac arian o’r Ardal Adfywio Strategol Arfordir Gogledd Cymru  (NWCRA). Roedd yr arian wedi’i neilltuo’n benodol i’r prosiect ac nid oedd i’w wario tu allan Y Rhyl nac ar brosiect gwahanol. 

 

Darparwyd yr ymatebion canlynol i bryderon a fynegwyd a chwestiynau a godwyd:-

 

- Esboniodd Rheolwr Prosiect Y Rhyl yn Symud Ymlaen y byddai’r adeiladu newydd yn cael ei ddylunio a’i adeiladu i fod mor hyblyg â phosibl, felly byddai modd addasu llety i gyflawni gofynion bobl hŷn.

     

- Esboniwyd nad oedd unrhyw gynnig i ddarparu tai gofal ychwanegol o fewn y prosiect, fodd bynnag byddai modd ystyried darpariaeth ar safle West Parade.

 

- Mewn perthynas â’r trefniadau llywodraethu i Fwrdd Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl. Ar hyn o bryd, mae Arweinydd y Cyngor yn cynrychioli Sir Ddinbych ar y Bwrdd fel yr Aelod Arweiniol dros Adfywio ac fel Arweinydd y Cyngor. Trafododd y Cabinet y trefniadau aelodaeth a chytunodd i argymell penodi’r Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a’r Gymuned i gynrychioli Sir Ddinbych yn ogystal â’r arweinydd.  

 

Amlinellodd y Prif Weithredwr bwysigrwydd y Prosiect a fyddai â’r potensial i drawsffurfio’r ardal a chael effaith arwyddocaol ar nifer fawr o drigolion yr ardal. Esboniodd bod cynnig gan Sir Ddinbych i reoli’r prosiect, a oedd ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru, wedi cael ei wrthod. Esboniodd hefyd bod Sir Ddinbych yn isbartneriaid ond er hynny’n bartneriaid pwysig; ac er mai golwg unochrog o’r trafodion fyddai gan Sir Ddinbych, y byddai’n bwysig nodi amodau rheoli’r prosiect. Cyfeiriodd y Prif Weinyddwr hefyd at Floc 1, y Parc Trefol, a oedd yn ymwneud â thrawsffurfio’r ardal yn ardal werdd. Mynegodd bryder y gallai’r gwaith cynnal ôl-brosiect fod â goblygiadau cost mewn perthynas â chynnal a chadw’r gofod gwyrdd, a bod angen trafod y mater hwn gyda’r datblygwyr gan y byddai opsiynau a chyfrifoldebau posibl yn elfen allweddol yn y broses dylunio a chynllunio. 

 

PENDERFYNWYD:- bod y Cabinet:-

 

(a)   yn argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r prosiect. 

(b)   yn cymeradwyo cyfraniad Sir Ddinbych ar y Bwrdd o safbwynt aelodaeth, ac yn cadarnhau’r Cylch Gorchwyl fel yn Atodiad 5, ac yn 

(c)   argymell penodiad yr Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a’r Gymuned i Fwrdd Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl. 

 

 

Dogfennau ategol: