Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PROSIECT GWELLA TAI GORLLEWIN Y RHYL - GORCHYMYN PRYNU GORFODOL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd H.H. Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd (copi’n amgaeëdig) ar ddefnyddio trefniadau Prynu Gorfodol i gaffael eiddo yng Ngorllewin y Rhyl, i ddibenion cyflawni Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd H.H. Evans yr adroddiad a oedd yn manylu ar y defnydd o weithdrefnau Prynu Gorfodol i gaffael eiddo yng Ngorllewin y Rhyl, er mwyn gweithredu Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl, a oedd wedi’i ystyried dan eitem rhif 8 ar yr Agenda.  

 

Gofynnwyd i’r Aelodau astudio’r cynllun a oedd wedi’i gynnwys fel Atodiad 1. Esboniodd y swyddogion bod y Cynllun wedi’i newid fel a ganlyn:- 

 

·        Bloc 2 i gynnwys Stryd Gronant yn y Gorchymyn Prynu Gorfodol i ganiatáu gwaith alinio. 

 

·        Bloc 7 i gynnwys adeilad pellach, sef tŷ allanol ar ochr ddwyreiniol Abbey Street ger Crescent Road.

 

Dosbarthwyd copi o’r cynllun diwygiedig i Aelodau yn y cyfarfod. 

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu cefndir Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl (WRHIP). Nod y Prosiect yw lleihau nifer y tai amlfeddiannaeth yn ardal Gorllewin y Rhyl, gwella ansawdd y tai a’r amgylchedd cyffredinol, a darparu gofod agored newydd. Yn Nhachwedd 2011, penderfynodd y Cabinet fabwysiadu cynllun gwaith Y Rhyl yn Symud Ymlaen fel strategaeth adfywio ar gyfer Y Rhyl. Roedd Achos Cyfiawnhau Busnes Cam 1 WRHIP wedi’i gadarnhau gan Weinidog dros Gyllid Llywodraeth Cymru (LlC) ac arian ar gyfer y prosiect o Gronfa Cyfalaf a Gedwir yn Ganolog LlC.

 

Roedd Cynllun Busnes WRHIP wedi’i gymeradwyo gan LlC ym Mai 2012, ac roedd cyfarfod cyntaf Bwrdd WRHIP, sef partneriaeth strategol y prosiect, wedi’i drefnu yng Ngorffennaf 2012.    

 

Ar ôl i’r Cabinet ystyried adroddiad WRHIP, ac yn unol â Rheoliadau Ariannol a Methodoleg Rheoli Prosiect Sir Ddinbych, byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ym Medi 2012 i gymeradwyo’r prosiect a dirprwyo pwerau i’r Bwrdd Prosiect.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu amcanion y Prosiect, i wella amwynder yr ardal a chreu cymuned fwy cytbwys gyda chyfran o berchen-feddiannaeth.  Roedd manylion o’r eiddo oedd wedi’u cynnwys yn y prosiect wedi’u cynnwys yn Atodiad 1 i’r adroddiad.   Esboniwyd y byddai Gorchmynion Prynu Gorfodol yn berthnasol i unrhyw adeiladau gweddilliol nad oedd dan berchnogaeth gyhoeddus i’r prosiect.  Fodd bynnag, hyd yn oed pe byddai’r Cyngor yn cyflwyno Gorchmynion Prynu Gorfodol, byddai hefyd yn ceisio prynu adeiladau trwy gytundeb. Byddai gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau'r awdurdod i ganiatáu mân newidiadau i’r Gorchmynion ac i dynnu eiddo oddi ar unrhyw rai o’r Gorchmynion yn ôl cyfarwyddyd y Bwrdd Prosiect. Roedd canlyniad y Prosiect i bob bloc wedi’i nodi’n fanwl yn Atodiad 3 i’r adroddiad.   Cyfeiriodd swyddogion at y pŵer i wneud y penderfyniad ac roedd manylion wedi’u cynnwys a’u crynhoi yn yr adroddiad.  

 

Mynegodd y Cynghorydd C. Hughes bryder ynghylch y gostyngiad posibl yn nifer yr unedau un llofft fyddai ar gael ar ôl i’r prosiect gael ei gwblhau, a pha mor fforddiadwy oedd yr adeiladau newydd i bobl sy’n byw yn yr ardal ar hyn o bryd.  Cadarnhaodd Rheolwr Rhaglen Y Rhyl yn Symud Ymlaen mai un o’r amcanion allweddol oedd lleihau nifer yr unedau un llofft yn yr ardal oherwydd bod gormod o unedau o’r fath ar gael yn yr ardal ar hyn o bryd, a bod hynny’n gysylltiedig â rhai o’r problemau amddifadedd economaidd a chymdeithasol a brofwyd yno. Esboniodd nad oedd bwriad i gael gwared ag unedau un llofft yn llwyr, a chadarnhaodd y byddai nifer sylweddol o unedau o’r fath ar gael yn ardal ehangach Gorllewin y Rhyl; roedd yn teimlo y byddai hynny’n darparu gwell cydbwysedd o ran y tai oedd ar gael yn yr ardal. 

        

Roedd Aelodau’n cefnogi’r safbwynt a fynegwyd gan y Cynghorydd E.W. Williams y byddai’n bwysig ei gwneud yn glir fod Sir Ddinbych yn gweithredu’r Gorchmynion Prynu Gorfodol ar ran Llywodraeth Cymru, am nad oedd Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud hynny ei hunan. 

 

PENDERFYNWYD – bod y Cabinet:-

 

(a)   yn cymeradwyo’r defnydd o weithdrefnau Prynu Gorfodol  i gaffael eiddo er mwyn gweithredu Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl.

(b)   bod Gorchmynion Prynu Gorfodol yn cael eu cyflwyno mewn perthynas â Blociau 1 i 7 yn unol ag adran  226(1)(a) o Ddeddf Cynllunio Tref a Sir 1990 i gaffael yr adeiladau hynny nad ydynt ar hyn o bryd ym mherchnogaeth gyhoeddus, ac  

(c)   yn cadarnhau'r newidiadau i Gynllun Prosiect Gwella Gorllewin y Rhyl, Atodiad 1, fel y cytunwyd. 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.15 a.m.

Dogfennau ategol: