Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD O DDIWEDDARIAD ARIANNOL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi’n amageedig) yn manylu’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd mewn perthynas â’r strategaeth gyllidebol a gytunwyd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd J. Thompson Hill yr adroddiad i’r Cabinet a oedd yn amlinellu cyllideb refeniw y Cyngor a’i arbedion ar gyfer 2012/13.  Rhoddodd grynodeb fanwl o’r adroddiad a oedd yn cynnwys y Cynllun Cyfalaf,  y Cyfrif Refeniw Tai, a’r Cynllun Cyfalaf Tai, nododd beth oedd ffurf y cyllidebau a nododd hefyd y strwythur adrodd nôl i’r flwyddyn sydd i ddod. Cadarnhaodd nad oedd ar hyn o bryd unrhyw wyriadau sylweddol o’r strategaeth gyllideb y cytunwyd arni ar gyfer 2012/13 fel y’i diffiniwyd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig, y Cynllun Cyfalaf a Chynllun Busnes y Stoc Tai. 

 

Mae’r rhagolygon mwyaf diweddar o’r gyllideb refeniw, Atodiad 1, yn dangos gorwariant bach ar draws holl wasanaethau, gan gynnwys ysgolion a chyllidebau corfforaethol. Roedd hefyd yn cynnwys crynodeb o’r Cyfrif Refeniw er gwybodaeth; fodd bynnag, dyma gronfa ar wahân nad yw’n rhan o gyllideb refeniw'r Cyngor. Mae Atodiad 2 yn rhoi diweddariad yn dangos cynnydd yn erbyn yr arbedion a’r pwysau y cytunwyd arnynt fel rhan o’r broses gosod y gyllideb. Cytunwyd ar gyfanswm arbedion net o £3.443m ac roedd £1.774m wedi’i gyflawni gyda £1.669m ar y gweill. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at amrywiannau allweddol o’r gyllideb neu dargedau arbedion, risgiau neu arbedion potensial ychwanegol allai godi drwy’r flwyddyn, ac yn darparu diweddariad mwy cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r sefyllfa o ran y Gyllideb Refeniw a rhoddodd y swyddogion grynodeb mewn perthynas â’r canlynol: Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden, Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio, Gwasanaethau Oedolion, Gwasanaethau’r Amgylchedd, cyllidebau Moderneiddio Addysg a Gofal Cwsmeriaid ac Ysgolion. O ran y Cynllun Cyfalaf, roedd yr alldro oedd wedi'i amcangyfrif yn £3.8m ar ddiwedd Gorffennaf yn erbyn Cynllun y cytunwyd arno o £37.3m.  Roedd atodiad 3 yn crynhoi’r cynllun presennol, a sut ddylid ei ariannu, ac roedd Atodiad 4 yn darparu trosolwg o brosiectau cyfalaf mawr.  

 

Cyfeiriwyd yn arbennig at Gyfathrebu, Marchnata a Hamdden ac esboniwyd bod y gyllideb i Ganolfan Plant Integredig Rhyl, Canolfan Oaktree wedi bod dan bwysau ar ôl colli £80k o arian grant. Er bod y gwasanaeth yn gweithredu i leihau gorwariant, roedd yn debygol y byddai’r cyfleuster yn gorwario o £40k a chytunwyd y byddai hyn yn cael ei ariannu’n gorfforaethol y flwyddyn ariannol hon.  Byddai pwysau ar flynyddoedd i’r dyfodol yn cael sylw yn y broses herio gwasanaeth a gosod y gyllideb. 

 

Roedd rhagolygon diweddaraf y Cyfrif Refeniw Tai a’r Cynllun Cyfalaf Tai wedi’u crynhoi yn yr adroddiad, ynghyd â’r Sylwebaeth Economaidd a Diweddariad Rheolaeth y Trysorlys. Esboniwyd y byddai hwn yn gyfnod ariannol heriol i’r Cyngor, ac y byddai methu â chyflawni strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni yn rhoi pwysau pellach ar wasanaethau yn y flwyddyn ariannol hon ac yn y dyfodol. Hysbyswyd aelodau y byddai monitro a rheoli cyllideb effeithiol ynghyd ag adrodd yn fuan ar unrhyw amrywiannau yn helpu sicrhau bod y strategaeth ariannol yn cael ei gwireddu. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Feeley at elfen ariannu prosiectau Harbwr y Foryd ac Amddiffyn Arfordir Rhyl  a’r angen posibl i ddefnyddio arian wrth gefn. Esboniodd y Cynghorydd Thompson-Hill bod elfennau risg fel arfer yn fwy amlwg yn ystod camau cynnar prosiectau o’r fath, ac y byddent yn lleihau’n sylweddol wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Esboniodd y Prif Weithredwr y byddai adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Prosiect yn ddiweddarach yn y dydd. 

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd  D.I. Smith ynghylch sefyllfa’r Honey Club, a’r diffyg cynnydd mewn perthynas â’r cais a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru am ganiatâd ardal gadwraeth i ddymchwel yr adeilad, a oedd bellach mewn cyflwr ansefydlog ac o bosibl yn anniogel. Amlinellwyd manylion o’r opsiynau a’r canlyniadau amrywiol, a chadarnhawyd y byddai’n drosedd dymchwel yr adeilad heb ganiatad priodol. Fodd bynnag, roedd holl gamau posibl wedi’u cymryd i liniaru’r holl risgiau, ac roedd ceisiadau pellach wedi’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru yn gofyn am y caniatâd priodol i ddymchwel yr adeilad. Cytunodd Aelodau y dylid cyflwyno adroddiad gwybodaeth yn amlinellu’r cynnydd mewn perthynas â’r Honey Club i’r Cabinet.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Arweinydd,  rhoddodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau fanylion o’r amserlenni a’r agenda dan sylw i ymdrin â materion yn ymwneud â’r Cynllun Cyfalaf, a’r arbedion potensial o’r Rhaglen Gydweithio.    

 

Yn dilyn trafodaeth bellach:-

 

PENDERFYNWYD – bod y Cabinet:-

 

(a)               yn nodi’r cyllidebau a’r targedau arbedion i’r flwyddyn a’r cynnydd a wnaed yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni, ac 

(b)               yn derbyn adroddiad gwybodaeth ar y sefyllfa a’r cynnydd mewn perthynas â’r Honey Club.

 

 

Dogfennau ategol: