Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU AR ADOLYGIAD PENN

Derbyn adroddiad (copi ynghlwm) a chyflwyniad gan y Swyddog Monitro yn unol â’r papur ymgynghori ar adolygu’r Fframwaith Moesegol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn cyflwyno’r ymgynghoriad ar argymhellion Adolygiad Penn a gofynnodd am farn y Pwyllgor ar ymateb Llywodraeth Cymru a 21 o gwestiynau a godwyd yn yr ymgynghoriad, cyn coladu barn aelodaeth ehangach y Cyngor a swyddogion allweddol sy'n ymwneud â Fframwaith Safonau Moesegol Llywodraeth Leol.

 

Rhoddodd y Swyddog Monitro a’r Dirprwy Swyddog Monitro gyflwyniad PowerPoint ar y ddogfen i hwyluso’r drafodaeth a hysbysu a chyfrannu at ymateb y Cyngor.   Roedd y cyflwyniad yn cynnwys peth cefndir i'r adolygiad a'i gasgliadau; ymhelaethu ar y 12 argymhelliad a materion cysylltiedig eraill; tywys yr aelodau drwy gwestiynau’r ymgynghoriad, ac adrodd ar y camau nesaf yn y broses ymgynghori gydag ymateb terfynol yn cael ei ystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor a chyflwyno sylwadau erbyn 23 Mehefin 2023.

 

O ran Argymhelliad 2 a'r gofrestr buddiannau, roedd y newidiadau wedi'u gwneud o ran aelodau'n darparu enw stryd neu god post yn unig er mwyn darparu lefel uwch o amddiffyniad.  Amlygwyd, mewn rhai achosion, mai dim ond un eiddo fyddai'r cod post/enw stryd.  Cytunodd y Swyddog Monitro i ymchwilio i'r mater ymhellach a chanfod, o ystyried y newidiadau i'r rheoliadau, a oedd y ddarpariaeth i beidio â datgelu cyfeiriad mewn amgylchiadau penodol yn dal i fodoli.

 

Yn ystod trafodaeth hir, ymatebodd y Pwyllgor i’r cwestiynau fel a ganlyn -

 

C1 – cytunwyd i newid y Cod i adlewyrchu diffiniadau Deddf Cydraddoldeb 2010 o nodweddion gwarchodedig

 

C2 – cytunwyd y gallai Panel Dyfarnu Cymru gyhoeddi Gorchmynion Adrodd Cyfyngedig i’w defnyddio’n gymesur er mwyn tegwch ac amddiffyn tystion

 

C3 – cytunwyd y dylid cael darpariaeth gyfreithiol benodol i alluogi Panel Dyfarnu Cymru i sicrhau bod tystion yn aros yn ddienw

 

C4 - cytunwyd  cefnogi’r newidiadau arfaethedig i’r weithdrefn caniatâd i apelio a amlinellir yn yr argymhelliad i symleiddio'r broses ond cynigiwyd y dylid cynnwys amserlen i sicrhau bod y broses yn cael ei chwblhau o fewn cyfnod rhesymol o amser

 

C5 - cytunwyd y dylai’r Panel gael pŵer penodol i alw tystion i dribiwnlysoedd apêl ond soniwyd am yr anawsterau o orfodi y fath ddarpariaeth

 

C6 – nid oedd y rhan fwyaf o’r aelodau’n cydnabod y fantais pe bai’r Panel yn cyfeirio penderfyniadau apêl yn ôl i’r Pwyllgor Safonau, yn enwedig o ystyried y byddai’r un Pwyllgor yn adolygu’r un achos ac yn debygol o ymestyn y broses gyffredinol i’r apelydd, er bod un aelod yn teimlo y gallai fod rhywfaint o hyblygrwydd o ystyried bod pob achos yn wahanol.  Roedd un aelod yn ystyried bod gwerth i gyfeirio’r mater yn ôl i’r Pwyllgor Safonau er mwyn adlewyrchu ar rinweddau’r rhesymau a roddwyd i ailystyried eu penderfyniad a chadw rheolaeth a chyfrifoldeb lleol.

 

C7 - cytunwyd y dylid cael darpariaeth benodol i alluogi cynnal rhan neu’r cyfan o wrandawiadau tribiwnlys yn breifat; a'r ddarpariaeth honno i'w defnyddio'n gymesur er budd cyfiawnder

 

C8 - cytunwyd y dylid cadw’r gofyniad i roi dim llai na saith niwrnod o rybudd o ohirio gwrandawiad er mwyn darparu mwy o hyblygrwydd  Fodd bynnag, dylid rhoi rhybudd rhesymol

 

C9 - cytunwyd y dylai ystod ehangach o sancsiynau fod ar gael i’r Panel, gan fod y pwerau presennol sydd ar gael yn rhy gyfyngol

 

C10 - cytunwyd cefnogi diwygiadau arfaethedig i’r broses ar gyfer tribiwnlysoedd achos interim mewn amgylchiadau eithafol

 

C11 – mewn perthynas â gweithrediad y Panel a datgelu, roedd y Pwyllgor yn cefnogi gofyniad i sicrhau bod deunydd nas defnyddiwyd a gedwir gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) a’r Swyddog Monitro ar gael er budd cyfiawnder naturiol.

 

C12 – cytunwyd bod angen codi ymwybyddiaeth o’r Fframwaith Safonau Moesegol a gweithio gydag eraill fel y bo’n briodol yn hynny o beth

 

C13 – tra’n nodi bod rhinweddau i hysbysebu am aelodau lleyg yn y papur newydd lleol, cytunwyd na ddylai fod yn ofyniad gorfodol cyn belled â bod amrywiaeth o ddulliau eraill yn cael eu defnyddio er mwyn cyrraedd cynulleidfa eang ac amrywiol.

 

C14 – cytunwyd i ddileu’r gwaharddiad gydol oes ar gyn-weithwyr y cyngor rhag bod yn aelodau annibynnol o Bwyllgor Safonau eu cyflogwr blaenorol, gyda chyfnod gras o 12 mis rhwng cyflogaeth a phenodiad ar gyfer y rhan fwyaf o gyflogeion, a chyfnod hwy ar gyfer y rhai a oedd yn dal swyddi statudol neu rai â chyfyngiadau gwleidyddol yn flaenorol.

 

C15 – cytunwyd y dylid dileu’r gwaharddiad gydol oes ar wasanaethu fel aelod annibynnol ar Bwyllgor Safonau’r Cyngor yr etholwyd cynghorydd iddo, gyda’r rhan fwyaf o’r aelodau’n cytuno y byddai un tymor cyngor yn gyfnod gras addas, gydag un aelod yn dadlau o blaid cyfnod llai o ras neu ddim o gwbl

 

C16 – cytunwyd na ddylai'r Pwyllgor Safonau gael y pŵer i wysio tystion o ystyried na ellid gorfodi'r pŵer

 

C17 – cytunwyd y dylid ychwanegu at y sancsiynau y gall Pwyllgor Safonau eu gosod; awgrymu pwerau i gyfarwyddo hyfforddiant yn hytrach na'r argymhelliad presennol, a chynnydd yn y cyfnod atal o hyd at flwyddyn

 

C18/19/20 – yn ystyried bod y ddarpariaeth ddwyieithog bresennol yn ddigonol gydag unrhyw newidiadau yn cael effaith niwtral ar y Gymraeg

 

C21 – nodwyd bod y ddogfen wedi’i chyhoeddi gyntaf a’i diweddaru ddiwethaf ar 24 Mawrth 2023.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog Monitro a'r Dirprwy Swyddog Monitro am y cyflwyniad a chytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am faterion yn deillio o Adolygiad Penn.

 

PENDERFYNWYD y dylid coladu barn gychwynnol y Pwyllgor ar yr ymgynghoriad fel y manylwyd uchod a'i chynnwys yn yr ymateb terfynol i'w hystyried gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf.

 

 

Dogfennau ategol: