Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

STRATEGAETH DDEWISOL Y CYNLLUN DATBLYGU LLEOL NEWYDD - ADRODDIAD YMGYNGHORI

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Win Mullen-James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio (copi ynghlwm) ynghylch Adroddiad Ymgynghori’r Strategaeth Ddewisol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl) a cheisio cefnogaeth y Cabinet ar gyfer Strategaeth Ddewisol y CDLl, gan gyflwyno’r newidiadau a argymhellir i’r Cyngor i’w cymeradwyo’n derfynol.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau;

 

(b)       argymell y Strategaeth a Ffefrir fel y’i diwygiwyd gan yr adroddiad i’r Cyngor i’w gymeradwyo’n derfynol, ac

 

(c)        argymell bod y Strategaeth a Ffefrir gymeradwy fel y’i diwygiwyd gan yr adroddiad yn ffurfio sail i ddatblygu’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd i’w Archwilio ar gyfer ymgynghoriad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Win Mullen-James yr adroddiad ar Adroddiad Ymgynghori’r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl) a cheisio cefnogaeth y Cabinet ar gyfer Strategaeth a Ffefrir y CDLl, a chyflwyno’r newidiadau a argymhellir i’r Cyngor i’w cymeradwyo’n derfynol.

 

Roedd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai a’r Prif Swyddog Cynllunio yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.  Roedd yr adroddiad eglurhaol i gyfarfod y Grŵp Cynllunio Strategol ar 23 Chwefror 2023 (Atodiad 1 yr adroddiad) yn crynhoi’r newidiadau a argymhellwyd i’r Strategaeth a Ffefrir.  Roedd Adroddiad Ymgynghori’r Strategaeth a Ffefrir (Atodiad 2 yr adroddiad), yn nodi manylion llawn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd, yr ymatebion a ddaeth i law, a’r diwygiadau a argymhellwyd i Strategaeth a Ffefrir y CDLl.  Roedd y newidiadau arfaethedig wedi cael eu hasesu drwy’r Gwerthusiad Cynaliadwyedd ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, ac mae’r canlyniadau wedi llunio’r newidiadau arfaethedig terfynol.

 

Yn gryno, roedd newidiadau allweddol i’r Strategaeth a Ffefrir yn cynnwys rhagor o amlygrwydd a phwysigrwydd i elfennau fel lliniaru newid hinsawdd, lleihau carbon a theithio llesol yn y weledigaeth, amcanion a pholisïau allweddol; gostyngiad o ran faint o dir glas cyflogaeth Dosbarth B newydd ddylid ei ddyrannu yn y strategaeth dwf yn dilyn adolygiad yr ymgynghorwyr o’r sylfaen dystiolaeth, a dileu Safle Strategol Bodelwyddan o’r strategaeth ofodol yn dilyn pryderon am ei ddarparu yn sgil newidiadau i gyllid y fargen dwf.  Argymhellwyd bod y targed tai fforddiadwy’n cael ei gynyddu hefyd.  Byddai’r targed gwirioneddol yn cael ei lywio gan yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol.  Yn olaf, cyfeiriwyd at waith y Grŵp Cynllunio Strategol a rhoddwyd gwahoddiad agored i bob Aelod fynychu.

 

Cydnabu’r Cabinet bwysigrwydd datblygu gwaith ar y CDLl i sicrhau bod y Cyngor yn cael dylanwad lleol ar fathau o ddatblygiadau ar draws y sir a’u lleoliad, a’u bod yn cael cyfle i newid polisïau a dyraniadau i adlewyrchu materion a meysydd newydd fel newid hinsawdd.  Croesawodd y Cabinet y newidiadau allweddol, yn enwedig y pwyslais o’r newydd ar liniaru newid hinsawdd, teithio llesol, y Gymraeg a chynyddu’r targed tai fforddiadwy.  Croesawyd y mewnbwn gan Gynghorwyr, swyddogion proffesiynol, a’r ymateb da o’r ymgynghoriad cyhoeddus hefyd, a soniwyd yn benodol am waith caled y Grŵp Cynllunio Strategol.  Fel aelod o’r Grŵp Cynllunio Strategol, amlygodd y Cynghorydd Peter Scott y gwaith caled a wnaed eisoes a gwaith pellach wrth symud ymlaen, a rhoddodd deyrnged i waith caled swyddogion, gan gymeradwyo’r adroddiad yn llawn.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         amlygwyd yr angen am fanylion yn y CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd am fwriad y Cyngor, gan gynnwys elfennau sy’n ymwneud â newid hinsawdd a rhoddodd swyddogion sicrwydd y byddai adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno, yn gyntaf i’r Grŵp Cynllunio Strategol, ar fanylion a geiriad polisïau i gwmpasu’r materion hynny a fyddai’n rhoi cyfle i Aelodau fod yn rhan o’r gwaith hwnnw ar gam cynnar

·         roedd yr adroddiad yn cyfeirio at ddarpariaeth ar gyfer lefel o dwf a gaiff ei gefnogi gan dir ar gyfer 3,775 o gartrefi newydd er mwyn bodloni gofyniad tai o 3,275 annedd, a bod y gwahaniaeth yn ymwneud â chynllun wrth gefn i sicrhau bod y 3,275 o anheddau’n cael eu darparu.  Ers dechrau cyfnod y cynllun yn 2018, roedd tua 1,200 o anheddau o’r cyfanswm o 3,275 wedi’u hadeiladu eisoes, ac roedd tua 1,000 o anheddau naill ai’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd neu’n safleoedd lle’r oedd caniatâd cynllunio wedi’i roi ac a fyddai’n debygol o ddatblygu dros y blynyddoedd nesaf.  Felly, roedd yn debygol y byddai darpariaeth tir ar gyfer tua 1,000 o anheddau yn cael ei cheisio ar gyfer dyraniadau newydd

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Arwel Roberts at y potensial fod gan safleoedd tir llwyd penodol, a oedd wedi’u gadael heb eu cyffwrdd ers peth amser, werth uchel o ran bioamrywiaeth a chytunodd y Cynghorydd Emrys Wynne, a amlygodd bwysigrwydd diogelu’r safleoedd tir glas gorau ar gyfer amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd, a’r angen am gydbwysedd.  Cafwyd trafodaeth am gydbwyso dyheadau ar gyfer darparu tai fforddiadwy a thir cyflogaeth yn erbyn yr angen i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, a chafwyd cydnabyddiaeth o’r gwaith da sydd wedi’i wneud eisoes ar hynny.  Nodwyd bod y Tîm Bioamrywiaeth a Newid Hinsawdd a’r Tîm Cynllunio yn cydweithio’n agos.  Cadarnhaodd Swyddogion fod angen cydbwyso amryw ystyriaethau allweddol wrth edrych ar ddyrannu safleoedd yn y CDLl, gan gynnwys bioamrywiaeth a gwerth tir amaethyddol.  Byddai gofyniad ar safleoedd ar gyfer enillion bioamrywiaeth net hefyd wrth symud ymlaen, a oedd yn gam cadarnhaol er mwyn diogelu a gwneud gwelliannau.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau;

 

(b)       argymell y Strategaeth a Ffefrir fel y’i diwygiwyd gan yr adroddiad i’r Cyngor i’w gymeradwyo’n derfynol, ac

 

(c)        argymell bod y Strategaeth a Ffefrir gymeradwy fel y’i diwygiwyd gan yr adroddiad yn ffurfio sail i ddatblygu’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd i’w Archwilio ar gyfer ymgynghoriad.

 

 

Dogfennau ategol: