Eitem ar yr agenda
DATGANIAD CYFRIFON 2011/2012
Ystyried adroddiad
gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) yn gofyn am gymeradwyo’r
Datganiad Cyfrifon yn ffurfiol.
Cofnodion:
Roedd
copi o adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau, yn gofyn i’r Aelodau
gymeradwyo Datganiad Cyfrifon y Cyngor 2011/12, wedi ei ddosbarthu yn y
cyfarfod.
Esboniodd
y Pennaeth Cyllid ac Asedau bod gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gynhyrchu
datganiad cyfrifon a oedd yn cydymffurfio â safonau cyfrifeg cymeradwy.
Cymeradwywyd y Datganiadau Ariannol ar gyfer 2011/12, yn amodol ar archwiliad,
gan y Prif Swyddog Cyllid ym Mehefin 2012. Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio
yn ei gwneud yn ofynnol bod y Cyngor yn cymeradwyo’n ffurfiol y cyfrifon wedi
eu harchwilio, sy’n cynnwys barn yr archwiliwr allanol, erbyn diwedd Medi 2012.
Roedd cymeradwyo’r cyfrifon archwiliedig yn ffurfiol, gan aelodau etholedig ar
ran y Cyngor, wedi ei ddirprwyo i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.
Cadarnhawyd bod y cyfrifon wedi bod ar gael i’w harchwilio ac yn agored i’r
cyhoedd eu harchwilio. Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyflwyno Adroddiad
Archwilio’r Datganiadau Ariannol a oedd yn cynnwys trosolwg o’u darganfyddiadau
ac asesiad o’r broses.
Roedd y Datganiad Cyfrifon, yn cynnwys 149 o
dudalennau, wedi ei gynhyrchu gan gydymffurfio â Chod Ymarfer ar Gyfrifeg
Awdurdod Lleol sy’n seiliedig ar y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS).
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd M.L. Holland, rhoddodd y Prif Gyfrifydd
fanylion yn ymwneud â’r IFRS ac esboniodd bod cydymffurfio â’r IFRS wedi bod yn
ofyniad ers 2010/11 gyda chyflwyniad parhaus safonau neu ofynion newydd. Y
newid mwyaf nodedig ar gyfer cyfrifon 2011/12 oedd cyflwyno dosbarth newydd o
asedau a elwid yn asedau treftadaeth, ac roedd yn Cyngor, yn unol â hynny, wedi
newid ei bolisïau a’i ddatgeliadau cyfrifeg yn y cyfrifon i gydymffurfio gyda’r
Cod Ymarfe.
Mabwysiadwyd safonau cyfrifeg IFRS ledled y byd.
Fodd bynnag, gan fod rhai meysydd o driniaeth cyfrifeg sector cyhoeddus yn
gwyro oddi wrth yr IFRS, fel mewn gofynion deddfwriaethol, cyflwynwyd Safonau
Cyfrifeg Cyhoeddus Rhyngwladol i ddelio â’r darpariaethau hynny.
Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi gweithio’n agos
â’r tîm Cyllid i sicrhau cwblhau’r archwiliad yn amserol a llwyddiannus. Roedd
y broses archwilio wedi arwain at addasiadau technegol, cywiriadau eraill ac
roedd newidiadau a manylion wedi eu cynnwys yn Adroddiad yr Archwiliwr.
Roedd y Datganiad Cyfrifon unwaith eto wedi derbyn
barn archwilio ddiamod, a oedd yn llwyddiant arwyddocaol o ystyried maint a
chymhlethdod y cyfrifo. Cafwyd ymarfer mawr yn 2010/11 i gynhyrchu’n
llwyddiannus gyfrifon a oedd yn cydymffurfio gyda’r safonau rhyngwladol newydd,
ac roedd y broses i weithredu IFRS wedi parhau wrth i ofynion ychwanegol gael
eu cyflwyno. Byddai trefniadau mewnol yn cael eu hadolygu bob blwyddyn i
sicrhau bod y Cyngor yn parhau i gyflwyno datganiadau ariannol o safon uchel.
Amlygodd y Prif Gyfrifydd
Dros Dro natur gymhleth y cyfrifon, a chyda chymorth cyflwyniad PowerPOint,
rhoddodd drosolwg o’r prosesau a fabwysiadwyd. Roedd hyn yn cynnwys crynodeb
manwl mewn perthynas â’r meysydd allweddol canlynol a’r materion yn ymwneud â’r
Datganiad Cyfrifon:-
·
Trosolwg
·
Cyfrifon
·
Prif Ddatganiadau Ariannol
·
Proses a Fabwysiadwyd
·
Cysylltiad â Cyllidebau Refeniw
·
Rhifau a Nodiadau Allweddol
·
Proses Archwilio
·
Cwerstiynau
Rhoddodd y cyflwyniad
drosolwg o’r prif newidiadau a oedd yn cynnwys cyflwyniad dosbarth newydd o
asedau treftadaeth. Cadarnhawyd bod y Cyngor yn unol â hynny wedi newid ei
bolisïau a’i ddatgeliadau cyfrifeg yn unol â’r Cod Ymarfer.
Mewn ateb i gwestiynau gan Aelodau’r
Pwyllgor, ymatebodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau fel a ganlyn:-
-
Byddai
copïau o’r cyfrifon drafft yn y dyfodol yn cael eu cyflwyno i Aelodau’r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.
-
Gellid
darparu copïau caled o’r adroddiadau ar gyfer 2011/12 a blynyddoedd yn y
dyfodol i’r Aelodau yn ychwanegol at y fersiynau electtronig.
-
Rhoddwyd
amlinelliad o’r anawsterau a gafwyd wrth ddarparu pris mewn perthynas ag asedau
treftadaeth.
-
Manylion
a ddarparwyd mewn perthynas ag arwyddocad cronfeydd wrth gefn a mewn perthynas
â’r cyfrifon terfynol a darpariaethau ar gyfer dyledion drwg.
-
Mewn
perthynas â rhoi sicrhad mewn cysylltiad â chysondeb cofnodion ar y gofrestr
asedau a’r llechresi, gyda chyfeiriad penodol at asedau treftadaeth ac
arteffactau penodol a ddelid gan y Cyngor. Esboniwyd bod dibyniaeth nawr ar
ddarparu gwybodaeth gywir fanwl gan staff proffesiynol yn y Gwasanaeth
Amgueddfa, ynghyd â chymorth proses Archwilio Mewnol.
Dosbarthwyd copi o Adroddiad Archwiliad y Datganiad
Ariannol i Aelodau’r Pwyllgor. Cyflwynodd Archwilwyr Allanol y Cyngor, Swyddfa
Archwilio Cymru, ganfyddiadau eu gwaith archwilio mewn perthynas â’r Datganiad
Cyfrifon 2011/2012 a rhoi crynodeb manwl a oedd yn tanlinellu’r meysydd a’r
materion canlynol:-
·
Rhoi barn ar a
oedd y datganiadau ariannol yn darparu golwg gywir a theg o sefyllfa ariannol y
Cyngor ar 31ain Mawrth 2012, a’i incwm a’i wariant ar gyfer y flwyddyn.
·
Gwaith archwilio
mewn perthynas â’r datganiadau ariannol drafft ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i
ben 31ain Mawrth 2012 wedi ei gyflawni’n sylweddol.
·
Adrodd ar y
materion mwy arwyddocaol yn codi o’r archwiliad, yr oedd y tîm archwilio eisoes
wedi eu trafod gyda’r Pennaeth Cyllid ac Asedau.
·
Mabwysiadu syniad
materoldeb i adnabod camddatganiadau perthnasol yn y datganiadau ariannol.
·
Manylion lefelau
meintiol ar y rhain y bernir camddatganiadau.
·
Cyflwyno adroddiad
archwilio diamod ar ddatganiadau ariannol Sir Ddinbych ac adrodd ar broblemau
cyn eu cymeradwyo.
·
Barn Swyddfa Archwilio Cymru yw bod cyfrifon Sir Ddinbych wedi
cynrychioli golwg wirioneddol o’r sefyllfa ariannol, balansau a thrafodion.
·
Mai’r bwriad yw cyhoeddi adroddiad archwilio diamod ar y datganiadau
ariannol ar ôl darparu Llythyr o Gynrychiolaeth yn seiliedig ar yr hyn a nodir
yn Atodiad 1 i’r adroddiad.
·
Bod yr adroddiad archwilio arfaethedig wedi ei nodi yn Atodiad 2.
·
Nad oedd unrhyw
gamddatganiadau wedi eu nodi yn y datganiadau ariannol, sy’n aros heb eu
cywiro.
·
Camddatganiadau a
gafodd eu cywiro gan y rheolwyr, a oedd, oherwydd eu perthnasedd yn y broses
adrodd ariannol, wedi eu nodi gydag esboniadau yn Atodiad 3.
·
Roedd materion a ystyriwyd fel rhai ansoddol a meintiol mewn perthynas
â’r cyfrifon wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
·
Nid oedd materion arwyddocaol eraill yn codi o’r archwiliad.
·
Cyfeiriwyd at gamgymeriad torbwynt yn ymwneud â’r Rhaglen Gyfalaf, a
chadarnhawyd y byddai hyn yn anochel oherwydd cau system credydwyr ar ddyddiad
penodol.
Diolchodd cynrychiolwyr
Swyddfa Archwilio Cymru Dîm Cyllid Sir Ddinbych am y gwaith a wnaed yn
cynhyrchu Datganiad Cyfrifon y Cyngor ac am eu cymorth a’u cefnogaeth. Cadarnhaodd
SAC ansawdd uchel y cyfrifon a oedd unwaith eto wedi derbyn barn archwilio
ddiamod.
Mewn ymateb i fater a godwyd gan y Cynghorydd M.L.
Holland, cadarnhawyd nad oedd materion o bryder yn ymwneud â phroses gyfrifo,
cofnodion na thrafodion y Cyngor.
Talodd
y Pennaeth Cyllid ac Asedau deyrnged i waith caled ac ymestynnol y Tîm Cyllid
yn cynhyrchu’r set gyfrifon derfynol, a nododd y cynnydd arwyddocaol yn y
manylion sydd eu hangen wrth eu llunio, gyda newidiadau parhaus yn yr
IFRS.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, diolchodd
Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor i’r Tîm Cyllid am eu gwaith caled ac ansawdd a
safon y Datganiad Cyfrifon a gynhyrchwyd.
PENDERFYNWYD:-
(a)
Cymeradwyo’r Datganiad
Cyfrifon 2011/2012, Atodiad 1 i’r adroddiad, a’i lofnodi gan Gadeirydd y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, a
(b)
Bod Cadeirydd y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol a’r Prif Swyddog Cyllid yn llofnodi’r Llythyr
Cynrychiolaeth.
Daeth
y cyfarfod i ben am 10.30 a.m.
Dogfennau ategol: