Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL 2023 - 2024

I ystyried adrodiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) ynghylch penderfyniadau'r Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2023 - 2024 mewn perthynas â thaliadau i aelodau ac aelodau cyfetholedig.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Julie Matthews yr eitem ar Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2023 - 2024.

 

Cafodd y pwyllgor ei hysbysu gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol fod corff wedi cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru sy’n gosod penderfyniadau a dewisiadau penodol ym mholisïau cynghorau ar daliadau a chefnogaeth i aelodau wedi’u hethol ac aelodau lleyg. Y mis blaenorol roedd y Panel wedi cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd a ddechreuwyd ym mis Ebrill.

 

Cafodd y pwyllgor ei atgoffa o ddynodiad rolau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol  a oedd yn cael eu talu ar gyflogau sylfaenol, uwch a dinesig, ac mae’r rheolau ynghylch tâl cyflogau o’r fath yn dibynnu ar agweddau fel maint pleidiau’r cyngor y mae’r Panel yn ei ddefnyddio i osod lefelau cyflog.           

 

Cafodd aelodau wybod:

 

         Byddai Cynghorwyr yn derbyn cynnydd o 4.76% yn eu lwfansau sylfaenol oedd yn golygu cynnydd mewn cyflogau sylfaenol o £800 i £17,600.

 

         Mae cyflogau uwch ar gyfer y Cabinet wedi derbyn y cynnydd llawn o 4.76% h.y. mae elfen gyflog sylfaenol a’r cyflog uwch ar gyfer dyletswyddau Cabinet wedi cael eu cynyddu gyda’r cyfanswm hynny.

 

         Mae elfen y rôl ar gyfer cadeiryddion pwyllgor ac arweinydd yr wrthblaid fwyaf wedi cael ei gynyddu o 3.15% a gydag elfen Gyflog Ddinesig ar gyfer Cadeirydd y Cyngor.

 

         Mae’r cyflog dinesig ar gyfer Is-gadeirydd y Cyngor wedi derbyn y cynnydd i’r cyflog sylfaenol yn unig.

 

O ran yr aelodau lleyg a’r aelodau cyfetholedig mae’r pwyllgor wedi cynghori fod y Panel heb newid y rheolau neu’r cyfansymiau sy’n daladwy.  Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod:

 

         Mae aelodau cyfetholedig sydd â hawliau pleidleisio yn derbyn ffi ddyddiol neu hanner diwrnod yn ôl yr ymrwymiad amser sydd ynghlwm.

 

         Mae cyfarfodydd sy’n gymwys am daliad ffi yn cynnwys cyfarfodydd pwyllgor, gweithgorau, sesiynau briffio a hyfforddiant ac mae disgwyl i aelodau cyfetholedig fynychu’r rhain.

 

         Mae’r Panel wedi caniatáu digon o amser i baratoi ac i allu hawlio unrhyw amser teithio.

 

         Gall y Cyngor benderfynu ar yr uchafswm o ddyddiau y gall aelodau cyfetholedig dderbyn tâl amdanynt mewn blwyddyn.

 

         Mae’r Panel yn galluogi pob cyngor i benderfynu ar yr hyn sy’n rhesymol wrth benderfynu beth y mae graddfa diwrnod llawn yn ei gynnwys.

 

         Dydi Sir Ddinbych heb osod cap ar nifer y dyddiau y gellir hawlio tâl, ond fe ddefnyddiodd cyfradddiwrnod llawnsengl i fod yr uchafswm y gellir ei hawlio ar gyfer mynychu un cyfarfod  neu ddigwyddiad, a oedd yn cynnwys unrhyw waith paratoi ac amser teithio. 

 

         Mae’r ffi hanner diwrnod yn cael ei dalu am unrhyw ymrwymiad amser cymwys o hyd at 4 awr.

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd eu bod wedi gofyn am safbwyntiau’r pwyllgor os ddylai’r cyngor gynnal neu newid ei ffordd o weithio (o fewn y paramedrau sy’n cael eu caniatáu gan y Panel) i dalu cyfradd diwrnod llawn i aelodau cyfetholedig.

 

Canolbwyntiodd yr aelodau eu trafodaeth ar daliadau i aelodau cyfetholedig, yn enwedig o ran y pwyntiau canlynol:

 

         Ni ddylai ymagwedd y Cyngor i daliadau aelodau cyfetholedig fod yn rhwystr i recriwtio neu gynnal aelodau cyfetholedig effeithiol gyda phleidlais.

 

         Mae’r aelodau cyfetholedig â phleidlais yn mynychu’r Pwyllgor Safonau, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, y pwyllgorau Craffu ac wedi eistedd ar rai paneli mewnol.  O ystyried yr ystod o ddyletswyddau sy’n cael eu gweithredu byddai’n werth edrych os fyddai’r Cyngor yn gallu amrywio’r taliadau hanner diwrnod a diwrnod llawn yn unol â gofynion y dyletswyddau, pwyllgor neu banel.

 

         Mae angen rhoi ystyriaeth i’r effaith ar gyllid y Cyngor gydag unrhyw newidiadau sy’n cael eu cynnig.

 

         Mae’r Pwyllgor wedi cytuno ei fod angen ymagwedd y Cyngor tuag at dâl cydnabyddiaeth i aelodau cyfetholedig fod yn deg ac yn unol â naws Adroddiadau Blynyddol y Panel.  Byddai llunio arolwg i aelodau cyfetholedig am eu safbwyntiau a’u profiadau o ran eu dyletswyddau yn gallu darparu gwybodaeth ddefnyddiol.

 

PENDERFYNWYD - bod y pwyllgor yn argymell arolwg o safbwyntiau a phrofiadau'r aelodau cyfetholedig i’w cymryd cyn i’r pwyllgor ystyried yn y dyfodol ymagwedd y Cyngor at dâl cydnabyddiaeth i aelodau cyfetholedig â phleidlais.

 

Dogfennau ategol: