Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

SAFONAU A PHERFFORMIAD Y GWASANAETH LLYFRGELL

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan Bennaeth Cymunedau a Chwsmeriaid a’r Prif Lyfrgellydd, sy’n rhoi gwybodaeth ynghylch perfformiad mewn perthynas â 6ed Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2017-20 ac yn gofyn am sylwadau’r Pwyllgor ar gynnydd a wnaed wrth ddatblygu llyfrgelloedd fel lleoedd o les a gwytnwch unigol a chymunedol.

 

11.40 a.m. – 12.20 p.m.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol dros Iaith, Diwylliant a Threftadaeth Cymru ynghyd â Liz Grieve, Pennaeth Cymunedau a Gwasanaethau Cwsmeriaid a Bethan Hughes, y Prif Lyfrgellydd.

 

Diolchodd yr Aelod Arweiniol i'r Pwyllgor am estyn gwahoddiad i graffu ar Safonau a Pherfformiad Gwasanaeth y Llyfrgell gan gyflwyno'r adroddiad i'r aelodau (a gylchredwyd yn flaenorol). Pwrpas yr adroddiad oedd i'r Pwyllgor graffu ar berfformiad a safonau llyfrgelloedd 2021-22 yn Sir Ddinbych. Bu hefyd yn tywys aelodau drwy Atodiad 2 a oedd yn ymwneud â gwybodaeth am y perfformiad presennol ar gyfer 2022-23.

 

Clywodd yr aelodau wybodaeth am y cynnydd sydd wedi'i wneud i ddatblygu llyfrgelloedd fel canolfannau lles. Y ddyletswydd statudol a roddir ar bob llyfrgell yng Nghymru oedd cael gwasanaeth llyfrgell i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr ac effeithlon i drigolion. Bu Llywodraeth Cymru yn mesur ac asesu sut yr oedd pob awdurdod lleol yn cyflawni'r ddyletswydd honno. Wedi pandemig Covid roedd y gofynion o ran adrodd ar gyfer 2021-22 wedi eu newid i gydnabod y cyfyngiadau ar y gwasanaeth. Clywodd aelodau fod oedi sylweddol i'r adroddiad naratif ac roedd disgwyl iddo gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2023. Felly nid oedd modd ei gynnwys yn llawn gyda'r adroddiad hwn. Roedd y gwasanaeth wedi derbyn drafft cynnar a chafodd sylwadau dethol eu cynnwys yn y papurau.

 

Adlewyrchai'r adroddiad hwn ar y data a gyflwynwyd gan Sir Ddinbych mewn perthynas â 2021-22, ar berfformiad yn erbyn 12 Hawl Craidd a 6 Dangosydd Ansawdd, gyda rhywfaint o sylwebaeth ar y perfformiad gan aseswyr Is-adran Ddiwylliant Llywodraeth Cymru. Cafodd ei amlygu i'r pwyllgor roedd Sir Ddinbych yn parhau i gwrdd â phob un o'r 12 Hawl Craidd.

 

Cyfrannodd darpariaeth y llyfrgell at nifer o'r themâu Corfforaethol gan gynnwys; Iachach Sir Ddinbych, Sir sy'n tyfu ac yn gwella, Sir sydd â chysylltiadau da, Sir deg a chyfartalach, Sir y diwylliant bywiog a'r Gymraeg ffyniannus a chyngor sy'n rhedeg yn dda, sy'n perfformio'n dda.

 

Tynnodd yr Aelod Arweiniol sylw at gwblhau Sialens Ddarllen yr Haf yn llwyddiannus ar draws Llyfrgelloedd Sir Ddinbych. Roedd yn dangos cynnydd sylweddol yn y defnydd o'r gwasanaeth.  Roedd aelodau'n cael gwybod bod pob llyfrgell yn Sir Ddinbych wedi gwella gwasanaethau digidol i drigolion lleol wneud defnydd ohonynt. Gwasanaethau gan gynnwys y One Stop Shops a oedd yn gweithredu o lyfrgelloedd ar draws y Sir. 

 

Ychwanegodd Pennaeth Cymunedau a Gwasanaethau Cwsmeriaid fod Safonau'r Llyfrgell yn gyfle gwych i'r Gwasanaeth Llyfrgell fynychu craffu i gyflwyno perfformiad y gwasanaeth i'w drafod. Roedd hi'n falch o ddweud bod llyfrgelloedd wedi gwella'n dda ar ôl i'r pandemig Covid gau. Cynigiodd ei diolch i staff y llyfrgell am yr ymroddiad a bortreadwyd ganddynt i gyd yn ystod y pandemig i barhau i gynnig rôl broffesiynol a chefnogol i'r trigolion.

 

Daeth y Prif Lyfrgellydd i ben drwy hysbysu'r Pwyllgor bod y fframwaith yn galluogi'r gwasanaeth i fesur a dangos yr effaith a gafodd y gwasanaeth ar drigolion yn y gymuned. Roedd y fframwaith yn cael ei ddiwygio ar hyn o bryd ac roedd yn debygol o fod yn fwy ysbrydoledig yn y blynyddoedd nesaf. Anogodd aelodau i fynychu eu llyfrgell leol i arsylwi ar yr hyn oedd wedi digwydd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelod Arweiniol a'r swyddogion am y cyflwyniad manwl a'r papurau a ddarparwyd i gyd-fynd â'r adroddiad.

 

Llongyfarchodd yr aelodau y gwasanaeth am yr hyn maen nhw'n ei gynnig i drigolion. Roedd y gwasanaethau a ddarparwyd yn cynnig cymorth ac arweiniad i drigolion a llyfrgelloedd yn dod yn fwy o ganolfannau cymunedol.

 

Mewn ymateb i sylwadau a chwestiynau'r aelodau fe ehangodd yr Aelod Arweiniol ynghyd â'r swyddogion ar y canlynol:

·         Doedd dim targed wedi'i osod ar gyfer twf a ragwelwyd mewn aelodau gweithredol, ond roedd yr holl hysbysebu a marchnata mewn partneriaeth ag ystod o bartneriaid a gwasanaethau. Rhan o'r bartneriaeth honno oedd i'r grwpiau hynny annog unigolion i ymuno â'r llyfrgell. 

·         Roedd y gwasanaeth yn cynnig gwasanaeth digidol i unigolion oedd ddim yn gallu cael mynediad i'r llyfrgell yn ystod peth amser agor. Clywodd yr aelodau bod nifer o lyfrgelloedd yn cynnig amseroedd agor ddydd Sadwrn. 

·         Y disgwyl oedd y byddai'r cynnig digidol yn parhau i gynyddu yn ystod y blynyddoedd i ddod.

·         Roedd y gwasanaeth digidol ar sail Cymru gyfan, gyda'r aelodau'n gallu manteisio ar y pwll adnoddau a rennir. Gwelwyd llawer o waith rhanbarthol ar draws Gogledd Cymru, yn enwedig gyda'r catalog cyffredin o lyfrau. Arweiniodd hyn at gynnig ystod ehangach o stoc i ddefnyddwyr.

·         Fel rhan o ymdrechion cynhyrchu incwm y Gwasanaeth cafodd nifer o lefydd eu rhentu i drydydd partïon. Roedd hyn yn cynnig gwasanaeth ychwanegol i drigolion fel anghenion bancio, meysydd i gynnal digwyddiadau addysgol, digwyddiadau lles cymunedol fel Clybiau Dementia ac ati.

·         Ar hyn o bryd roedd rhaglen farchnata ar waith i hyrwyddo'r Gwasanaeth a'i arlwy. Roedd datganiad misol i'r wasg sy'n dangos agweddau newydd o'r gwasanaeth wedi'i weld yn ystod eleni. Defnyddiwyd cyfryngau cymdeithasol yn helaeth i hyrwyddo llyfrgelloedd a'r hyn oedd ar gael i gymunedau.

·         Roedd partneriaethau penodol gyda rhai Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned ar waith mewn rhai rhannau o'r awdurdod. Cafwyd cyfraniadau ariannol tuag at redeg y llyfrgell leol. Roedd y rhain yn caniatáu i grwpiau gyfarfod a chynnal cyfarfodydd rheolaidd yn y gymuned.

·         Roedd gofyn statudol i gynnig gwasanaeth llyfrgell, ac er nad oedd cyfarwyddeb ar beth oedd y gwasanaeth hwnnw'n ei olygu, mae Safonau Llyfrgell Cyhoeddus Cymru yn cynnig modd o ddehongli'r gofyniad statudol.

·         Roedd dileu'r dirwyon mewn llyfrgelloedd wedi digwydd yn 2022. Gwelwyd cynnydd yn nefnydd y llyfrgell ac ymwelwyr er nad oedd tystiolaeth i gysylltu hynny â dileu dirwyon.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, diolchodd y Pwyllgor i'r Prif Lyfrgellydd a holl staff y Gwasanaeth Llyfrgell yn Sir Ddinbych am yr ystod ac ansawdd ardderchog o wasanaethau a ddarparwyd ganddynt i drigolion, ac:

 

Penderfynwyd: yn amodol ar y sylwadau uchod –

 

(i)           derbyn yr adroddiad a llongyfarch Gwasanaeth Llyfrgelloedd y sir ar ei berfformiad yn erbyn 6ed Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru yn ystod 2021/22; a

(ii)          gofyn am adroddiad pellach ar berfformiad y Gwasanaeth yn erbyn y Safonau yn ystod 2022/23, ac amlinellu ei gynnydd wrth ddatblygu llyfrgelloedd fel mannau lles a chadernid unigol a chymunedol. Mae hyn yn unol â themâu corfforaethol y Cyngor, gyda’r nod o gefnogi darpariaeth y Cynllun Corfforaethol wrth iddo gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Ionawr 2024.

 

Dogfennau ategol: