Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

STRATEGAETH TAI A DIGARTREFEDD

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai sy’n gofyn i’r Pwyllgor ystyried y cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r Strategaeth Digartrefedd diwygiedig a’r Cynllun Gweithredu a gymeradwywyd gan y Cyngor Sir ar 8 Rhagfyr 2020.

 

10.10 – 10.50 a.m

 

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Rhys Thomas ynghyd â swyddogion i arwain yr aelodau drwy'r eitem ar y rhaglen.

 

Fe wnaeth yr Aelod Arweiniol arwain yr aelodau drwy'r adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw), gan ddweud wrth y Pwyllgor ei fod yn darparu gwybodaeth am y cynnydd a wnaed o ran cyflawni'r Strategaeth Tai a Digartrefedd a'r Cynllun Gweithredu diwygiedig a gymeradwywyd gan y Cyngor Sir ar 8 Rhagfyr 2020. Dywedodd wrth yr aelodau bod y Strategaeth wedi'i rhoi ar waith i barhau hyd at 2026. Cydnabu'r Aelod Arweiniol waith yr Aelodau Arweiniol blaenorol am y gwaith a gwblhawyd yn ystod tymor y Cyngor diwethaf.

 

Dywedodd wrth yr aelodau bod y Grŵp Tai a Digartrefedd Strategol (SHHG) yn goruchwylio'r gwaith o gyflawni'r Cynllun Gweithredu, a oedd yn cael ei gadeirio ganddo ef yn ei rôl fel Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau. Roedd Aelodau o'r Grŵp yn cynnwys Aelodau Arweiniol â chyfrifoldeb am ardal o dai neu ddigartrefedd o fewn eu portffolios, Penaethiaid Gwasanaeth perthnasol a’r Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai. Cyfarfu'r Grŵp bob tri mis er mwyn monitro'r strategaeth ac i rannu gwybodaeth. Roedd y ddogfen yn ddogfen fyw, yn cael ei monitro a’i gweithredu'n rheolaidd.  Clywodd yr Aelodau bod y Strategaeth yn cyd-fynd â Chynllun Gweithredu 41 pwynt. Mae’n nodi cyfrifoldebau’r timau perthnasol o fewn y Cyngor mewn mwy o fanylder, a sut roeddent yn gweithio gyda phartneriaid i helpu i gyflawni gweledigaeth y Cyngor ar gyfer tai a digartrefedd. Roedd gan y Strategaeth Tai a Digartrefedd hyd oes o bum mlynedd (2021 - 2026) a byddai angen ei hadolygu erbyn 2026.

 

Yn ogystal, dywedodd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai fod crynodeb o'r Strategaeth wedi'i atodi i'r dogfennau a oedd wedi’u cynnwys ym mhecyn y rhaglen, roedd copi o'r strategaeth lawn ar gael ar-lein. I gyd-fynd â'r cynllun gweithredu roedd adroddiad cynnydd ar waith ar gyfer pob pwynt gweithredu ar wahân. Pwysleisiodd wrth yr aelodau fod y Strategaeth yn ddogfen allweddol i'r awdurdod, ei bod yn ddogfen gorfforaethol a oedd yn darparu fframwaith ar gyfer yr holl waith a gwblhawyd mewn perthynas â thai.

Nododd y Strategaeth chwe "Thema" sydd yn feysydd blaenoriaeth i dargedu camau gweithredu:

·         Mwy o gartrefi i fodloni’r angen a’r galw lleol;

·         Creu cyflenwad o dai fforddiadwy;

·         Sicrhau cartrefi diogel ac iach;

·         Atal a rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn Sir Ddinbych;

·         Cartrefi a chymorth i bobl ddiamddiffyn;

·         Hyrwyddo a chefnogi cymunedau.

 

Yn gynwysedig yn yr adroddiad roedd nodiadau ar y meysydd allweddol o gynnydd. Pwysleisiwyd bod llawer o waith da a chynnydd wedi'i wneud ac yn parhau i gael ei wneud. Roedd cydweithio agos ar draws gwahanol wasanaethau yn allweddol i gyflawni yn erbyn pob pwynt gweithredu.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Arweiniol a’r swyddogion am yr adroddiad manwl a’r cyflwyniad.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol a swyddogion:

 

·         Roedd 316 o aelwydydd mewn llety brys a llety dros dro yn y sir. Cafodd hyn ei dorri i lawr i 184 o aelwydydd mewn llety brys a 132 mewn llety dros dro. Yn ystod y 12 mis diwethaf roedd y gwasanaeth wedi cefnogi 324 o aelwydydd i denantiaethau drwy wasanaethau digartrefedd. Roedd nifer yr aelwydydd mewn llety brys wedi tueddu i aros yn weddol sefydlog ers dechrau Pandemig Covid. Sylwyd bod mwyafrif yr aelwydydd a oedd yn datgan eu bod yn ddigartref yng Ngogledd y Sir, roedd cyfran fawr o aelwydydd yn byw yn y Rhyl.

·         Ar ôl cwblhau datblygiad tai ym Mhrestatyn, byddai 14 o fflatiau ar gael i drigolion hŷn/aelwydydd yn y gymuned. Byddai'r rhain yn cael eu dyrannu i bobl sydd ar y gofrestr Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH) ar hyn o bryd.

·         Nid oedd tan feddiannaeth wedi'i gynnwys yn y cynllun gweithredu ar hyn o bryd, cytunodd swyddogion y byddai'n ychwanegiad cadarnhaol i'w gynnwys yn y cynllun gweithredu. Byddai gallu cael eiddo sy’n cael ei dan feddiannu ar gael i’w osod i deuluoedd drwy gartrefu preswylwyr presennol mewn llety o faint priodol yn helpu i wireddu argaeledd cartrefi maint teulu. Fodd bynnag, roedd hwn yn faes cymhleth a sensitif na ellid ei ddatrys dros nos.

·         Ar hyn o bryd roedd 3 o bobl hysbys yn cysgu ar y stryd yn y sir. Roedd gan bob un ohonynt anghenion cymhleth gwahanol ac maent wedi gwrthod cymorth gan y gwasanaeth. Cynhaliodd swyddogion lefel uchel o gyfathrebu dyddiol gyda phob unigolyn. Roedd swyddogion yn rhagweithiol iawn ac yn gefnogol i unigolion a oedd yn cysgu ar y stryd. 

·         Nid oedd aelwydydd a oedd yn byw mewn cartrefi gwyliau/carafanau wedi'u cynnwys yn yr ystadegau digartrefedd, gan fod gan yr aelwydydd hynny a oedd yn byw mewn llety gwyliau hefyd gyfeiriad cartref parhaol.

·         Byddai ailstrwythuro'r Tîm Arwain Strategol yn dod i rym o 1 Ebrill. Yn dilyn yr ailstrwythuro byddai manylion ynglŷn â phenodiadau neu newidiadau i swyddi yn cael eu cynnwys yn y ddogfen. Byddai’r Rhaglen Datblygu Tai yn rhan o rôl y Pennaeth Cyfathrebu a Gwasanaethau Cwsmeriaid o 1 Ebrill 2023.

·         Roedd nifer o ffactorau, gan gynnwys Pandemig Covid, wedi achosi oedi cyn cwblhau prosiectau o fewn y Rhaglen Datblygu Tai. Clywodd yr aelodau bod nifer o brosiectau tai i'w cwblhau yn y dyfodol agos.

·         Bu oedi wrth gyflwyno'r Cynllun Datblygu Lleol oherwydd nifer o faterion. Parhaodd y gwaith i ddatblygu a mabwysiadu Cynllun newydd ac roedd yn mynd rhagddo'n dda.

·         Roeddent yn ymwybodol bod nifer o aelwydydd yn dod yn ddigartref oherwydd bod landlordiaid yn penderfynu gwerthu eiddo. Clywodd yr Aelodau fod yr Awdurdod wedi rhoi cyngor am gynllun prydlesu’r sector preifat. Bu cyfathrebu â'r landlordiaid yn eu hannog i ymuno â'r cynllun hwnnw. Y targed oedd cael 80 o landlordiaid ar y cynllun o fewn y 5 mlynedd nesaf. Pwysleisiwyd y byddai cyflawni’r targed hwn yn her.

·         Roedd cynllun prydlesu’r sector preifat yn gynllun gan Lywodraeth Cymru a oedd yn gwarantu rhent i landlordiaid ar gyfradd y lwfans tai lleol gyda ffi reoli fach ar ben hynny. Byddai hynny'n cael ei gynnwys dros brydles 5-20 mlynedd. Roedd gwarant y byddai'r eiddo'n cael ei ddychwelyd yn yr un cyflwr ag y cafodd ei brydlesu gyntaf. Derbyniwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i reoli’r cynllun hwnnw. Y gobaith oedd marchnata'r cynllun hwn dros y cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu â landlordiaid.

·         Byddai dyletswydd statudol yn dechrau 56 diwrnod cyn i aelwydydd gael eu gwneud yn ddigartref. Ystyriwyd bod atal ac ymyrraeth gynnar yn flaenoriaeth i gefnogi unigolion a bod yn well gwasanaeth.

·         Roedd swyddogion hefyd yn rhoi cymorth parhaus i denantiaid i gynnal tenantiaeth mewn llety ar rent. Clywodd yr Aelodau am gontract atal ac ymyrraeth gynnar sy’n cael ei gynnal drwy Shelter a Chlwyd Alyn o’r enw Fy Nghartref Sir Ddinbych. Roedd gan y contract hwn hefyd gyfrifoldeb i leihau'r risg o ddigartrefedd.

 

 

Amlinellodd yr Aelod Arweiniol a Swyddogion eu huchelgeisiau ar gyfer cyflawni’r Strategaeth, gan gynnwys: cynnal safle Sir Ddinbych fel yr awdurdod sy’n perfformio orau ar gyfer tai fforddiadwy fesul pen o’r boblogaeth, caffael adnoddau i gwblhau prosiectau a chynlluniau, parhau â’r gwaith partneriaeth i gyflawni yn erbyn y cam gweithredu cynllun, cynnydd wrth weithredu'r Cynllun Datblygu Lleol, gostyngiad o 15% yn nifer yr unigolion sy'n mynd i'r gwasanaeth digartrefedd o flwyddyn i flwyddyn dros y pum mlynedd nesaf a sicrhau bod mwy o dai fforddiadwy ar gael.

 

Diolchodd yr aelodau i'r swyddogion am y drafodaeth fanwl a'r atebion i'r sylwadau a'r cwestiynau.  

 

Ar ddiwedd trafodaeth fanwl, fe wnaeth y Pwyllgor:

 

Benderfynu: yn amodol ar y sylwadau uchod

 

(i)   derbyn a chadarnhau'r cynnydd a wnaed hyd yma o ran cyflawni'r Strategaeth Tai a Digartrefedd a’r Cynllun Gweithredu diwygiedig; a

(ii) cytuno i barhau i fonitro’r gwaith o gyflawni Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Tai a Digartrefedd bob chwe mis.

 

Dogfennau ategol: