Eitem ar yr agenda
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM BROSIECT AILFODELU’R GWASANAETH GWASTRAFF
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Prosiect (copi ynghlwm) sy’n ceisio sylwadau Aelodau ar
y cynnydd a wnaed hyd yma mewn perthynas â gweithredu’r dull gwasanaeth
gwastraff newydd.
11.45 A.M- 12.30 P.M
Cofnodion:
Cyn i’r drafodaeth ar yr
eitem hon ddechrau, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r
Economi wrth y Pwyllgor bod cyflwyno’r gwasanaeth newydd yn cyd-fynd â model
gwasanaeth glasbrint Llywodraeth Cymru (LlC).
Dywedodd hefyd nad oedd y depo newydd sy’n cael ei adeiladu, lle
byddai’r model Gwasanaeth newydd yn cael ei weithredu, yn rhan o’r adroddiad sy’n
cael ei drafod yn y cyfarfod presennol. Roedd disgwyl i adroddiad ar y depo
gael ei gyflwyno i’r Cabinet yn ddiweddarach y mis hwnnw, gydag adroddiad yn
cael ei gynnig i’r pwyllgor Craffu yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Amlinellodd y Rheolwr
Prosiect Cynllunio Strategol fanylion yr adroddiad Cyflwyno Gwasanaeth
Gwastraff Newydd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r Pwyllgor.
Byddai’r model ‘Didoli
ar Ymyl y Palmant’ i gasglu gwastraff y cartref i’w ailgylchu yn dechrau ym mis
Mawrth 2024. Byddai casgliadau ailgylchu’n newid o fod yn wasanaeth bob
pythefnos i wasanaeth wythnosol. Byddai hyn yn rhoi mwy o gapasiti i aelwydydd
ailgylchu. Byddai preswylwyr yn derbyn uned bocs troli newydd a sach ychwanegol
ar gyfer cardbord. Roedd yr uned bocs troli’n galluogi i wastraff
ailgylchadwy’r cartref – fel gwydr, plastig, tuniau/caniau, papur a chardbord –
gael ei gasglu wedi ei ddidoli.
Byddai’r newid ar gyfer
gwastraff gweddilliol yn digwydd ddechrau haf 2024, yn dilyn cyflwyno’r system
ddidoli ar ymyl y palmant. Byddai hyn yn galluogi preswylwyr i ddod yn
gyfarwydd â’r system ailgylchu newydd ac i ddangos yr effaith o ran lleihau’r
gwastraff gweddilliol. Byddai casglu gwastraff gweddilliol yn newid o gasgliad
bob pythefnos i gasgliad bob 4 wythnos. Byddai cartrefi’n derbyn biniau mwy ar
gyfer gwastraff gweddilliol i gynyddu capasiti 33.3%, o 180 litr i 240 litr.
Aeth y Rheolwr Prosiect
Cynllunio Strategol yn ei flaen i egluro’r broses o gyflwyno’r Gwasanaeth
Casglu Gwastraff newydd. Byddai’r broses yn cael ei chefnogi gan ymarferion
cyfathrebu ac ymgysylltu cadarn â phreswylwyr y sir.
Byddai tua 45,000 o
aelwydydd angen uned bocs troli newydd yn barod ar gyfer y newid i ‘ddidoli ar
ymyl y palmant’ ym mis Mawrth 2024. Byddant yn dechrau cael eu danfon i
aelwydydd ym mis Tachwedd 2023, a disgwylir cwblhau’r gwaith ddiwedd mis
Chwefror 2024. Byddent yn cael eu danfon rhwng dydd Llun a dydd Gwener, a
byddai 800 ohonynt yn cael eu danfon bob dydd ar gyfartaledd. Pwysleisiwyd bod
y gwaith o osod yr unedau ymyl y palmant newydd at ei gilydd a’u danfon yn waith
sylweddol sy’n gofyn am adnoddau sylweddol. Byddai angen mwy o weithwyr ar y
gwasanaeth newydd i ymgymryd â’r rowndiau newydd. Byddai’r gweithwyr newydd hyn
yn cael eu cyflwyno yn raddol o fis Medi 2023 mewn cyfrannau, i gynorthwyo’r
gweithgareddau cyflwyno fel gosod y bocsys troli at ei gilydd a danfon
cynwysyddion newydd. Cyfeiriwyd yr Aelodau at gynllun o’r gwaith cyflwyno, a
ddosbarthwyd ymlaen llaw, yn Atodiad 1.
Byddai’r aelodau a phreswylwyr yn derbyn mwy o ohebiaeth ynglŷn â’r
gwaith cyflwyno i ardaloedd o ddiwedd haf 2023.
Byddai casgliadau
gwastraff bwyd a gardd yn aros yr un fath. Byddai gwastraff bwyd yn cael ei
gasglu bob wythnos a gwastraff gardd bob pythefnos o hyd. Byddai’r gwasanaeth ailgylchu newydd yn
cynnwys gwasanaeth casglu tecstilau estynedig a byddai casgliadau newydd yn
cael eu cyflwyno ar gyfer eitemau trydanol bach a batris. Byddai casgliad
Cynnyrch Hylendid Amsugnol newydd yn cael ei gyflwyno ym mis Medi 2023. Gan ei
fod yn wasanaeth newydd, mynegwyd bod y galw’n dra anhysbys, ond amcangyfrifwyd
y byddai tua 8% o breswylwyr yn debygol o gofrestru ar gyfer y gwasanaeth.
Byddai’r gwasanaeth hwn am ddim, ond byddai angen i breswylwyr gofrestru ar
gyfer y gwasanaeth.
Dywedodd y Rheolwr
Prosiect Cynllunio Strategol fod y Tîm Cyfathrebu’n cefnogi’r gwaith o
gyflwyno’r System Ailgylchu newydd, a’u bod yn cydweithio’n agos, i sicrhau bod
preswylwyr yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y system newydd yn rheolaidd,
er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei chyflwyno mor effeithlon â phosibl.
Diolchodd y Cadeirydd
i’r Rheolwr Prosiect Cynllunio Strategol am ei hadroddiad a chroesawyd
cwestiynau gan yr Aelodau.
Cafwyd trafodaeth
bellach ymysg yr Aelodau a chodwyd y materion canlynol:-
·
Oherwydd maint y newid
i’r system ailgylchu yn y Sir, byddai’n fanteisiol pe bai’r Tîm yn mynychu
cyfarfodydd Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned i egluro sut mae’r unedau troli
newydd yn gweithio.
·
Roedd nifer sylweddol o breswylwyr
ar gasgliadau bagiau bin du yn unig o hyd a gofynnwyd cwestiynau ynghylch a
fyddai modd iddynt ddefnyddio’r unedau troli newydd.
·
Amlygwyd y byddai angen
cyfathrebu mwy manwl â phreswylwyr, gallai hyn gynnwys addysg mewn ysgolion.
·
Codwyd pryderon ynghylch
y cyfnod o amser y byddai’n ei gymryd i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru, i
ailgylchu 70% o wastraff y cartref.
·
Roedd yr adroddiad yn
cyfeirio at gyflwyno cerbydau Trydan ar gasgliadau newydd. Holodd Aelodau ynghylch effeithlonrwydd y
rhain.
·
Ar hyn o bryd, roedd
holl wastraff y cartref yn cael ei gasglu ar ddiwrnod penodol o’r wythnos,
mynegwyd pryderon ynghylch y casgliadau newydd a nodwyd yn yr adroddiad.
·
Mynegwyd pryderon
ynghylch yr unedau troli yn cael eu troi gan wynt ac y gallent ddod yn darged
ar gyfer fandaliaeth.
·
Mewn perthynas â’r
Gwasanaeth Cynnyrch Hylendid Amsugnol, mynegwyd pryderon ynghylch pa mor gynnil
fyddai’r gwasanaeth hwn. Amlygwyd efallai na fyddai llawer o breswylwyr yn
cofrestru ar gyfer y gwasanaeth, gan fod ganddynt ormod o gywilydd i wneud
hynny.
·
Gan na fyddai’r bin
gweddilliol yn cael ei gasglu am 4 wythnos, byddai gwastraff anifeiliaid anwes
yn sefyllian yn y bin am 4 wythnos, gan greu arogl ac o bosibl denu plâu.
Diolchodd y Swyddogion
i’r Aelodau am eu cwestiynau a rhoddwyd yr ymatebion canlynol:-
·
Roedd y Cynllun
Cyfathrebu i’w ystyried gan y Pwyllgor Craffu wedi’i gyflwyno eisoes i’r
Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu (GCIGC), gan ei bod hi’n
bwysig fod y broses gyflwyno’n eglur i Aelodau er mwyn iddynt eu hyrwyddo â’u
preswylwyr.
·
Byddai llawer mwy o
gartrefi yn Sir Ddinbych yn gallu cael uned bocs troli o gymharu â’r nifer sydd
gyda’r bin glas cymysg presennol, gan fod cerbydau trydan newydd llai yn gallu
cael mynediad at strydoedd/eiddo a maint cyffredinol yr unedau troli.
·
Byddai amserlen
gweithgareddau’n cael ei diweddaru’n rheolaidd yn y Cynllun Cyfathrebu cyn mis
Mawrth 2024 ac roedd trafodaethau ar y gweill ynghylch cynnwys sefydliadau
addysgol.
·
Dywedodd y
Rheolwr Prosiect y byddai’n archwilio cyfleoedd posib ar gyfer cynnwys y
trydydd sector yn y cynllun cyfathrebu/ymgysylltu, gan geisio sicrhau bod
unigolion a grwpiau sy’n anodd eu cyrraedd yn derbyn ac yn deall y wybodaeth
ynghylch y newidiadau.
·
Byddai’n anodd cyrraedd
y targed 70% yn y flwyddyn gyntaf o gyflwyno’r system ailgylchu newydd. Roedd
angen bod yn realistig ynghylch cyrraedd y targed 70%, ond roedd dyheadau amlwg
ar gyfer cyrraedd hyn yn y tymor canolig.
·
Byddai cerbydau trydan
newydd yn cael eu cyflwyno pan fyddai’r system ailgylchu newydd yn cael ei rhoi
ar waith. Derbyniwyd adroddiadau gan awdurdodau eraill am anawsterau â’r
cerbydau, ond cafodd yr anawsterau hyn eu datrys.
·
Byddai casgliadau
gwastraff o bob aelwyd yn parhau ar un diwrnod penodol o’r wythnos. Byddai hyn
yn osgoi dryswch.
·
Byddai gofyn i
breswylwyr roi eu hunedau troli allan ar fore’r casglu ac nid y noson cynt.
Ychydig iawn o gwynion a gofnodwyd gan Gynghorau Cyfagos, lle’r oedd yr unedau
troli ar waith ac nid oeddent yn ymwybodol o unrhyw fandaliaeth.
·
Roeddent yn chwilio am
ddatrysiadau technolegol posibl, gyda’r nod o geisio sicrhau gwasanaeth casglu
tecstilau hyfyw, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig.
·
Byddai’r cynwysyddion
Cynnyrch Hylendid Amsugnol yn ddu a phorffor, ac wedi’u dylunio i fod mor gynnil
â phosibl. Cynhaliwyd ymchwil ar hyn a
ni chodwyd unrhyw gwynion am gywilydd neu stigma mewn ardaloedd cynghorau lle’r
oedd y rhain eisoes ar gael.
·
Byddai gwastraff
anifeiliaid yn parhau i gael ei roi yn y bin gwastraff gweddillol, a fyddai’n
cael ei gasglu bob 4 wythnos.
·
Roeddent yn chwilio am
ddatrysiadau storio a chynwysyddion ymarferol ar gyfer eiddo ansafonol.
·
Unwaith y byddai wedi’i gyflwyno,
amcangyfrifwyd y byddai costau gweithredu’r gwasanaeth newydd, gan gynnwys
costau Benthyca Darbodus, yn is na chostau gweithredu’r model presennol.
·
Byddai gwasanaeth casglu
gwastraff â chymorth yn cael ei ddarparu i’r preswylwyr sydd ei angen neu wedi
cofrestru ar gyfer y gwasanaeth o hyd.
Dywedodd Cyfarwyddwr
Corfforaethol yr Economi a’r Amgylchedd mai Prosiect Ailfodelu’r Gwasanaeth
Gwastraff oedd y newid Gwasanaeth mwyaf yn hanes Cyngor Sir Ddinbych. Dyma
fyddai’r her fwyaf i bawb sy’n rhan o’r gwaith ac roedd cydweithio a
chyfathrebu yn allweddol ar gyfer cyflwyno’r Gwasanaeth Casglu Deunyddiau
Ailgylchu newydd. Roedd gan Aelodau Etholedig rôl hynod bwysig i’w chwarae o
ran rhoi gwybod i breswylwyr am y newidiadau.
Diolchodd y Cadeirydd i’r
Swyddogion am yr adroddiad manwl a diolchodd iddynt am eu gwaith caled parhaus
â’r prosiect. Croesawyd diweddariadau parhaus yn y dyfodol gan y Cadeirydd a’r
Aelodau.
Ar ddiwedd y drafodaeth:
Penderfynodd y Pwyllgor: yn amodol ar
y sylwadau uchod
(i)
nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran cyflwyno’r
model gwasanaeth newydd;
(ii)
cymeradwyo’r gweithgareddau sydd wedi’u nodi ar
gyfer eu cyflawni yn y dyfodol fel rhan o’r paratoadau ar gyfer gweithredu’r
gwasanaeth newydd; ac
(iii)
ar ôl darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o
Effaith ar Les (Atodiad 2), gofyn i’r Asesiad o Effaith gael ei adolygu a’i
ddiweddaru’n rheolaidd wrth i’r prosiect ddatblygu.
Dogfennau ategol:
- Waste and Recycling Project Report 090323, Eitem 7. PDF 239 KB
- Waste and Recycling Project Report 090323 - App 1, Eitem 7. PDF 1 MB
- Waste and Recycling Project Report 090323 - App 2, Eitem 7. PDF 146 KB