Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYNNYDD AR BROSIECT RHOSTIROEDD SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Rheolwr Ardal ar gyfer yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn amlinellu’r cynnydd hyd yma o ran darparu amcanion Prosiect Rhostiroedd Sir Ddinbych.   Mae’r adroddiad hefyd yn ceisio cefnogaeth y Pwyllgor ar gyfer ymestyn y bartneriaeth bresennol gyda’r nod o gyflawni ymrwymiadau i’r dyfodol a gwireddu uchelgais y Cyngor o fod yn gyngor di-garbon net ac awdurdod ecolegol gadarnhaol. 

10.45 A.M- 11.30 A.M

 

~~~~ EGWYL (11.30 A.M- 11.45 A.M) ~~~~

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd David Shiel, Swyddog Cefn Gwlad, yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r Pwyllgor.

 

Roedd yr adroddiad yn monitro cynnydd yn erbyn amcanion Prosiect Rhostiroedd Sir Ddinbych a sefydlwyd fel un o argymhellion Adolygiad Tân Mynydd Llandysilio yn 2019.

 

Roeddent yn feysydd allweddol o weithgaredd a gafodd eu cwmpasu yn y 2 flynedd ddiwethaf. Bu’r Bartneriaeth bresennol â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn hynod effeithiol o ran rhannu gwybodaeth gydweithredol. Roedd disgwyl i Bartneriaeth CNC ddod i ben ym mis Awst 2023 ac roedd trafodaethau ar y gweill i geisio ymestyn y Bartneriaeth. 

 

Defnyddiwyd sawl dull i alluogi adfer difrod y tân ar y mynydd a rhoddwyd y manylion canlynol:-

·       Defnyddiwyd Grug i amddiffyn y pridd rhag cael ei erydu gan yr elfennau a microhinsawdd ar gyfer cytrefu hadau grug yn naturiol. Plannwyd cymysgedd hadau gwair ucheldir hefyd o dan docion grug er mwyn sefydlogi’r pridd ac fel cnwd meithrin ar gyfer planhigion rhostir sy’n cytrefu’n naturiol.

·       Roedd arolygon ar y lleiniau’n dangos cryn lwyddiant wrth osod y cymysgedd hadau gwair lle’r oedd y tocion grug wedi’u gwasgaru’n denau. Canfuwyd bod tomwellt grug trwchus yn atal hadau gwair rhag egino ac aildyfu’n naturiol. 

·       Ym mis Hydref 2021, cafodd ardal 5 hectar o Moel y Faen, a effeithiwyd fwyaf gan y tanau gwyllt, ei hadu gyda chymysgedd o hadau gwair ucheldir. Gan weithio â Chontractwr Arbenigol, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Severn Trent Water, cafodd dros 100,000 litr o ddŵr ei bwmpio i gopa Moel y Faen, lle cafodd y slyri hadau hydro eu cymysgu a’u gwasgaru. 

·       Cafodd 5 hectar arall o rostir hygyrch ar Moel y Faen a Moel y Gamelin eu hadu fel arfer, gan ddefnyddio Tractor Alpaidd arbenigol.  

·       Roedd colli pridd yn broblem a byddai’n cymryd llawer o flynyddoedd i’w adfer.

·       Yn ystod y prosiect, canolbwyntiwyd yn bennaf ar ymgysylltu â’r gymuned ffermio, dysgu am faterion a rhwystrau o ran rheoli’r rhostir a chwilio am ddulliau o ddatrys eu hanghenion. Roedd y Swyddog Maes Rhostiroedd wedi datblygu perthnasoedd gwaith da gyda phorwyr a thirfeddianwyr.  Roedd perthynas waith gadarn hefyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, lle cynhaliwyd diwrnodau hyfforddiant ar y cyd a rhoddwyd cyfleoedd i’r Gwasanaeth dreialu offer a dulliau newydd o ymdrin â thanau gwyllt.

·       Yn sgil y Prosiect, cafodd tua 140 hectar o Rostir ei reoli ar draws safleoedd yn Sir Ddinbych, yn cynnwys Mwynglawdd a Mynyddoedd Rhiwabon/Llandysilio, Rhostir Llandegla a safleoedd ar Fryniau Clwyd (Parc Gwledig Moel Famau).

·       Bu i’r prosiect hefyd alluogi creu fideos a chyfathrebiadau gwybodaeth gyhoeddus amlasiantaethol i’w lansio a’u rhannu’n genedlaethol trwy gyfryngau amrywiol. 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog Cefn Gwlad am ei adroddiad manwl a chroesawodd gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

 

Roedd y Cynghorydd Merfyn Parry yn croesawu’r adroddiad a’r gwersi a ddysgwyd o’r gorffennol, yn ôl pob golwg. Fodd bynnag, roedd yn cwestiynu nad oedd unrhyw sôn am ymgysylltu ag Aelodau lleol ynghylch yr hyn oedd yn digwydd yn yr ardal leol. Yr Aelodau sy’n adnabod eu wardiau orau, felly gallent hwythau gynnig gwybodaeth werthfawr i’r Tîm.  Roedd y Swyddog Cefn Gwlad yn croesawu’r ymgysylltiad hwn a dywedodd, er bod y Bwrdd Partneriaeth yn Fwrdd gweithredol, y byddai’n ystyried rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â Grwpiau Ardal leol yr Aelodau fel y bo’n briodol. 

 

Holodd y Cynghorydd Jon Harland pam nad oedd llawer o sôn am blannu coed yn yr adroddiad. Eglurodd y Swyddog Cefn Gwlad fod y rhain yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig dynodedig a’u bod felly’n destun rheoliadau cadwraeth llym, gan eu bod yn ardaloedd o ddiddordeb ecolegol a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Er, o bosib miloedd o flynyddoedd yn ôl, bod modd plannu coed ar y gweundiroedd a’r rhostiroedd hyn, nid coed oedd y prif gynefin ar y rhostiroedd a chafodd rhai coed eu tynnu, gan fod posib iddynt achosi tannau gwyllt trwy gynyddu’r llwyth tanwydd. Roedd gweundiroedd a rhostiroedd, oherwydd eu natur, yn hynod werthfawr o ran brwydro yn erbyn effeithiau newid hinsawdd, gan eu bod nhw’n ddefnyddiol iawn at ddibenion storio carbon.

 

Mynegodd yr Aelodau bryderon fod disgwyl i’r bartneriaeth bresennol â CNC ddod i ben ym mis Awst 2023, ac a oedd cynllun yn ei le pe na bai’r Bartneriaeth yn cael ei hymestyn ac na fyddai cyllid yn cael ei sicrhau ar gyfer parhad swydd y Swyddog Maes Rhostiroedd. Dywedodd y Swyddog Cefn Gwlad eu bod wedi ymgynghori â CNC a’u bod yn hynod gefnogol ar hyn o bryd gyda pharhau â’r Prosiect a’r Bartneriaeth.

 

Diolchodd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad i’r Aelodau am eu hadborth a rhoddodd sicrwydd i’r Pwyllgor y byddent yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch datblygiadau yn y dyfodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am yr adroddiad a’u gwaith caled parhaus â’r Prosiect.

 

Cafwyd trafodaeth ar fanteision ac anfanteision plannu coed ar weundiroedd a rhostiroedd er mwyn mynd i’r afael â heriau newid hinsawdd, gan gynnwys y rhwystrau ffisegol a chyfreithiol o ymgymryd ag arferion o’r fath, y potensial sylweddol iddynt arwain at ddiflaniad ecosystem unigryw, sefydledig, yn ogystal â risg uwch o ddinistr sylweddol a achosir gan dannau gwyllt.   

 

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, cafodd yr argymhellion canlynol eu cynnig a’u heilio:

 

(i)             cymeradwyo’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran cyflawni Prosiect Rhostiroedd Sir Ddinbych a chefnogi’r ymdrechion sydd ar y gweill i ehangu’r bartneriaeth bresennol â Chyfoeth Naturiol Cymru;  

(ii)            gofyn i swyddogion y Bwrdd Partneriaeth Rhostiroedd rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â chynghorwyr lleol yn rheolaidd ynghylch unrhyw waith gweithredol neu benderfyniadau gan y Bwrdd, sy’n effeithio ar eu ward etholiadol; ac

(iii)          archwilio cyfleoedd i blannu coed ar rostiroedd yn Sir Ddinbych.

 

Wedi pleidlais ar bob un o’r uchod, cafodd argymhellion (i) ac (ii) eu cymeradwyo’n unfrydol. Ni chymeradwywyd argymhelliad (iii) oherwydd mwyafrif o 7 pleidlais i 2.

 

Felly:  

 

Penderfynodd y Pwyllgor:  yn amodol ar y sylwadau uchod –  

 

(i)             gymeradwyo’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran cyflawni Prosiect Rhostiroedd Sir Ddinbych a chefnogi’r ymdrechion sydd ar y gweill i ehangu’r bartneriaeth bresennol â Chyfoeth Naturiol Cymru;  

(ii)           gofyn i swyddogion y Bwrdd Partneriaeth Rhostiroedd rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â chynghorwyr lleol yn rheolaidd ynghylch unrhyw waith gweithredol neu benderfyniadau gan y Bwrdd, sy’n effeithio ar eu ward etholiadol.

 

Dogfennau ategol: