Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAM-DRIN CŴN

Ystyried adroddiad gan Reolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd, yn archwilio i ba raddau y caiff cŵn eu gwerthu’n gyfreithlon ac yn anghyfreithlon yn Sir Ddinbych (copi ynghlwm).

 10.15 A.M- 10.45 A.M

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Glesni Owen, Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd, adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r Pwyllgor.

 

Roedd yr adroddiad yn edrych ar faint o gŵn gafodd eu gwerthu’n gyfreithlon ac anghyfreithlon yn Sir Ddinbych (yn benodol yn ystod pandemig COVID-19)- gan gynnwys nifer y cwynion a dderbyniwyd, nifer y cwynion a ddaeth i law, a archwiliwyd ac a gadarnhawyd a sut mae gwahanol asiantaethau yn cydweithio i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau a riportiwyd. 

 

Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 yn disodli Deddf Bridio Cŵn 1973 yng Nghymru ac yn darparu trwydded gan Awdurdodau Lleol (ALl) i unigolion sydd yn rhan o fridio cŵn.  Cyflwynodd y rheoliadau newydd feini prawf llymach i sefydliadau bridio a sefydlwyd bod cymhareb gofalwr a chi yn gorfod bod o leiaf un aelod o staff llawn amser i 20 o gŵn oedd yn oedolion. Y rheoliadau oedd y cyntaf o’r fath yn y DU, ac er bod gan nifer o sefydliadau ac elusennau lles wahanol safbwyntiau ar gynnwys y rheoliadau, roeddynt yn cael eu croesawu’n eang. Ers cyflwyno’r rheoliadau, mae pryderon parhaus ynghylch y safonau mewn rhai eiddo trwyddedig yng Nghymru, a’r adnoddau ac arbenigedd sydd ar gael o fewn Awdurdodau Lleol i fynd i’r afael â’r problemau hyn. 

 

Ym mis Medi 2021, daeth Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 i rym.  Newidiodd y Rheoliadau hyn y trefniadau trwyddedu ar gyfer gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes yng Nghymru, a oedd yn cynnwys gwaharddiad ar werthiant trydydd parti masnachol o

gŵn a chathod bach. Roedd gwneud y gorau o safonau lles ar draws Cymru yn flaenoriaeth a bwriad y Rheoliadau newydd oedd hyrwyddo bridio cyfrifol a sicrhau bod cŵn a chathod bach yn cael eu bridio mewn amodau addas.

 

Ar hyn o bryd, roedd 13 bridiwr cŵn trwyddedig yn Sir Ddinbych. Roedd trwyddedau’n cael eu hadolygu’n flynyddol, gan gynnwys ymweliad gan Swyddog Lles Anifeiliaid a chyswllt rheolaidd â milfeddyg annibynnol. 

 

Amlygwyd, er bod nifer o’r cwynion a dderbyniwyd yn Sir Ddinbych yn ymwneud â honiadau o fridio anghyfreithlon/didrwydded, bod angen mwy o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru (LlC) er mwyn galluogi Awdurdodau Lleol i ymchwilio i fridio cŵn yn anghyfreithlon. Roedd LlC wedi darparu cyllid i alluogi sefydlu Tîm Cenedlaethol o Swyddogion Lles Anifeiliaid er mwyn cefnogi awdurdodau lleol i ymchwilio i honiadau o fridio anghyfreithlon neu dorri amodau trwyddedu. Defnyddiodd Sir Ddinbych wasanaethau’r tîm cenedlaethol i’w helpu ag ymchwilio i’r nifer fechan o fridwyr didrwydded posibl yn y sir. Gwnaed y cais hwn am gefnogaeth gan fod adnoddau staffio’r Cyngor yn gyfyngedig ar gyfer ymgymryd â’r gwaith hwn.

 

Eglurodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd bod ail ran yr adroddiad yn edrych ar effaith y pandemig ar Gŵn Crwydr a’u heffaith ar Ganolfannau Achub Anifeiliaid. Cysylltwyd â dwy Ganolfan Achub Elusennol leol i gael clywed am eu profiadau ac effaith y pandemig ar eu Gwasanaethau. Ni chafwyd ymateb gan un elusen, ond cafwyd gwybodaeth ddefnyddiol gan North Clwyd Animal Rescue (NCAR). Roedd y wybodaeth a gafwyd gan NCAR a’n Gwasanaeth Warden Cŵn ein hunain yn dangos bod gostyngiad sylweddol mewn cŵn crwydr a chŵn yn cael eu trosglwyddo yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, roedd hi’n amlwg bod y ffigyrau a ddarparwyd yn atodiad 2 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) bellach ar gynnydd i lefelau cyn y pandemig. Cadarnhaodd NCAR fod ganddynt dros 400 o gŵn ar restr aros yn disgwyl i gael eu trosglwyddo ac mai dyma’r nifer uchaf ers cyn y pandemig. Roedd tua 100 o gŵn ar y rhestr aros cyn y pandemig. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd am yr adroddiadau ac roedd yn croesawu cwestiynau gan Aelodau. 

 

Gofynnodd Aelodau sut oedd yr Argyfwng Costau Byw wedi effeithio ar allu rhai preswylwyr i fwydo’u cŵn. Dywedodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd bod Banciau Bwyd yn aml yn darparu bwyd ci, ond roedd hyn yn ddibynnol ar gyfraniadau gan y cyhoedd. Roedd elusennau lleol megis NCAR yn cynnig cymorth mewn rhai achosion. Byddai’r elusen People’s Dispensary for Sick Animals (PDSA) yn cynorthwyo â chostau triniaethau milfeddygol ac ati ar gyfer anifeiliaid, pe bai’r perchnogion yn profi caledi ariannol. 

 

Cafwyd cwestiynau ynghylch sut y gallai’r cyhoedd roi gwybod am bryderon ynghylch achosion honedig o fridio cŵn yn anghyfreithlon. Dywedodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd wrth yr Aelodau y gallai’r cyhoedd fynd i wefan Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) a bod gwybodaeth ynghylch rhoi gwybod am unrhyw faterion ar gael yno. Fel arall, gallai’r cyhoedd gysylltu â Safonau Masnach, trwy Ganolfan Gwasanaethau i Gwsmeriaid y Cyngor, ac y byddai eu pryderon yn cael eu hymchwilio. 

 

Cafwyd cwestiynau ynghylch y broses o Fridwyr Cŵn yn cael trwydded ac a oedd yna unrhyw asesiadau cyn bod yn berchen ar gi. Dywedodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd bod disgwyl i Fridwyr Cŵn gynnal eu gwiriadau eu hunain ynghylch addasrwydd prynwyr. Roedd gwybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor ynghylch y camau y dylai darpar brynwyr cŵn eu dilyn cyn prynu ci. Roedd y gofyniad i unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n berchen ar gi gael trwydded wedi’i ddiddymu rai blynyddoedd yn ôl.

 

Gofynnwyd pa adnoddau oedd ar gael gan Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer mynd i’r afael â Bridio Cŵn yn anghyfreithlon. Eglurodd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad bod tîm bach o 3 swyddog lles anifeiliaid. Yn ddiweddar, roedd y tîm wedi gwneud newidiadau er mwyn sicrhau eu bod mor hyblyg â phosibl ar gyfer ymateb i bryderon a dderbynnir yn gyflym. 

 

Holodd yr Aelodau faint o amser a gymerir i ymchwilio i achos o fridio cŵn yn anghyfreithlon ar ôl i bryder gael ei godi. Dywedodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd ei bod hi’n anodd pennu amserlen ar gyfer hyn. Fel arfer, byddai’r tîm yn dechrau ymchwilio i’r pryder a godwyd mewn ychydig ddyddiau. Roedd pob achos yn unigryw ac mae’r amser sydd ei angen ar gyfer casglu tystiolaeth ddibynadwy ar gyfer symud yr achos yn ei flaen yn amrywio. Yn hynny o beth, roedd gwasanaethau’r Tîm Cenedlaethol o Swyddogion Trwyddedu Anifeiliaid yn hynod werthfawr, gan fod ganddynt wybodaeth werthfawr a’u bod yn gallu ymgymryd â gwaith ymchwilio i gefnogi gwaith yr awdurdod lleol wrth ymchwilio i achosion honedig o fridio yn anghyfreithlon.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am eu hadroddiad, am ateb cwestiynau’r aelodau a phwysleisiodd bwysigrwydd y gwaith a gwblhawyd ganddynt.

 

Felly:

 

Penderfynodd y Pwyllgor: yn amodol ar y sylwadau uchod –

 

(i)             dderbyn yr adroddiad a’r wybodaeth a ddarparwyd yn ystod y drafodaeth; a

(ii)           chefnogi’r gwaith a wneir gan y Cyngor a’r gwaith a ddarperir mewn partneriaeth â sefydliadau ac asiantaethau eraill, er mwyn sicrhau hyfywedd masnachwyr sydd â thrwydded briodol i weithredu yn Sir Ddinbych, gan leihau dioddefaint i’r anifeiliaid.  

 

Dogfennau ategol: