Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 43/2022/0537/ PF - STATION HOUSE, 1 BRIDGE ROAD, PRESTATYN

Ystyried cais i newid defnydd cyn amgueddfa ac ystafelloedd te i ffurfio un annedd yn Station House, 1 Bridge Road, Prestatyn, LL19 7ER (copi ynghlwm).

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i newid defnydd hen amgueddfa ac ystafelloedd te i ffurfio un annedd yn Station House, 1 Bridge Road Prestatyn (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Cynhaliwyd cyfarfod safle ddydd Gwener 17 Mawrth 2023. Roedd y Cynghorydd Andrea Tomlin wedi bod yn bresennol ar yr ymweliad safle. Dywedodd wrth yr aelodau ei bod wedi byw yn yr ardal ers nifer o flynyddoedd a'i bod yn adnabod y safle'n dda gan ddweud ei fod yn eiddo o gymeriad eiconig wedi'i leoli o fewn ardal gadwraeth. Roedd yr eiddo wedi bod yn eiddo preswyl cyn iddo gael ei ddefnyddio fel ystafell de. Roedd yr eiddo wedi'i leoli mewn man uwch ar Bridge Road. Yn ei barn hi, er ei fod wedi ei gynnwys ym mapiau llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru, dylai aelodau ystyried cymeriad yr eiddo, y safle a hanes yr ardal fel rhan o'u penderfyniad. Pwysleisiodd i'r aelodau bwysigrwydd yr ardal gadwraeth yr oedd yr eiddo wedi'i leoli ynddi. Roedd yr aelodau i sicrhau bod cymeriad neu ymddangosiad yr ardal yn cael ei gynnal neu ei wella. Yn ei barn hi nid oedd unrhyw reswm dros beidio â chaniatáu i'r eiddo ddod yn eiddo preswyl fel y bu unwaith. Felly, cynigiodd y Cynghorydd Tomlin ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog.

Roedd y Cynghorydd Alan James hefyd wedi bod yn bresennol ar yr ymweliad safle a diolchodd i'r swyddogion am eu hamser. Eiliodd y Cynghorydd James y cynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Tomlin.

 

Roedd y Cynghorydd Hugh Irving yn cynrychioli ward gyfagos ym Mhrestatyn, adleisiodd y sylwadau a nodwyd gan y Cynghorydd Tomlin uchod. Diolchodd i'r swyddogion am y lluniau oedd wedi eu cynnwys yn y cais, gan ddweud eu bod yn dangos cymeriad yr eiddo yn glir i'r aelodau. Dywedodd wrth yr aelodau fod y ddau achos diweddaraf o lifogydd ym Mhrestatyn wedi digwydd yn 2001 a 1978 pan dorrodd yr amddiffyniad môr ac ar y ddau achlysur ni chyrhaeddodd dŵr y môr yr ardal lle safai'r eiddo.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Merfyn Parry at y mapiau llifogydd a ddarparwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Dywedodd fod yn rhaid i'r aelodau ystyried y canllaw. Cydnabu'r Aelodau'r risg i'r eiddo ond dywedodd ei fod yn berthnasol i'r ardal gyfan, yn fusnesau ac yn eiddo preswyl.

Nodwyd nad oedd unrhyw newidiadau ffisegol i'r eiddo yn cael eu gwneud o fewn y cais.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu yr ymgynghorwyd â'r cyrff statudol. Ystyriodd y swyddogion cynllunio'r sylwadau a dderbyniwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru wrth benderfynu ar yr argymhelliad. Daeth Cyfoeth Naturiol Cymru i’r casgliad y gallai llifogydd yn yr ardal olygu y gallai’r eiddo fod 0.6m o dan ddŵr. Nododd yr aelodau pe byddai llifogydd, byddai'n rhaid i unigolion adael yr adeilad neu gael eu hachub.

 

Gofynnodd yr aelodau a oedd swyddogion wedi ystyried hanes y safle, gan gynnwys a welwyd unrhyw lifogydd ar y safle. Gan ymateb i bryderon yr aelodau cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu fod hanes y safle yn cael ei ystyried wrth edrych ar yr holl ystyriaethau cynllunio perthnasol ar gyfer argymhelliad y swyddog. Cadarnhaodd swyddogion nad oedd ganddynt unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod yr eiddo wedi wynebu llifogydd yn flaenorol. Nododd y Swyddogion Datblygu'r sylwadau gan gynnwys yr angen am dai yn y Sir.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Tomlin ei rhesymau dros ganiatáu’r cais yn groes i argymhellion y swyddog am y rhesymau canlynol;

·         Roedd yr eiddo wedi'i adeiladu ar gyfer annedd preswyl i feistr yr orsaf. Roedd yr eiddo wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer defnydd preswyl am ran fwyaf o fodolaeth yr adeilad.

·         Roedd yr eiddo o fewn ardal gadwraeth.

 

Dywedodd y Swyddog Cyfreithiol pe bai llifogydd yn digwydd yn yr ardal y byddai'n drasig i'r rhai sy'n meddiannu'r eiddo ond ar ôl pwyso a mesur yn erbyn y difrod a fyddai'n digwydd yn fwy cyffredinol yn yr ardal byddai'r risg yn weddol fach.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Andrea Tomlin fod y cais yn cael ei ganiatáu yn groes i argymhelliad y swyddog, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Alan James.

 

PLEIDLAIS

O blaid - 17

Ymatal - 1

Gwrthod - 0 

 

PENDERFYNWYD RHOI caniatâd yn groes i argymhelliad y swyddog am y rhesymau a nodir uchod.

  

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: