Eitem ar yr agenda
FFRWD WAITH MANWERTHU A CHANOL Y DREF
Ystyried adroddiad
gan Reolwr Rhaglen Y Rhyl yn Symud Ymlaen (copi’n amgaeëdig), sy’n amlinellu
cynnydd o ran gweithredu’r Ffrwd Waith, y goblygiadau ariannol a’r cynnydd
neu’r rhagolygon o ran gwireddu manteision.
11.10 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan Reolwr Rhaglen y Rhyl yn
Symud Ymlaen, a oedd yn rhoi diweddariad ar Ffrwd Waith Manwerthu a Chanol Tref
y Rhyl yn Strategaeth Adfywio’r Rhyl yn Symud Ymlaen, wedi ei ddosbarthu gyda’r
papurau ar gyfer y cyfarfod.
Roedd
yr adroddiad yn amlinellu cynnydd o ran gweithredu Ffrwd Waith Manwerthu a
Chanol y Dref yn y Strategaeth, ei goblygiadau ariannol a’r cynnydd neu’r
rhagolygon o ran gwireddu manteision. Roedd cynnydd y ffrwd waith wedi ei
fonitro gan Fwrdd Rhaglen Cymdogaethau a Lleoedd y Rhyl yn Symud Ymlaen.
Cyfeiriwyd yn benodol at y prosiectau allweddol canlynol au harwyddocad:
Ø Ailwampio’r Orsaf Bysus.
Ø Penodi Rheolwr Canol y
Dref.
Ø Datblygiad Swyddfa Bee and
Station.
Ø Costigans.
Ø Marchnad y Rhyl.
Ø Prosiectau a gweithgareddau
eraill.
Esboniwyd
mau ffrwd waith canol y dref oedd un o’r rhai a oedd wedi ei diffinio leiaf o
ran cyfeiriad a strategaeth gyffredinol. Pwysleisiwyd yr angen i ddatblygu
gweledigaeth glir ar gyfer canol y dref ac amlinellwyd agwedd bosibl tuag at y
strategaeth ar gyfer Canol Tref y Rhyl yn yr adroddiad. Cyfeiriwyd at y ffaith
y byddai’r ffrwd waith yn cefnogi cyflawni Blaenoriaeth Gorfforaethol newydd
arfaethedig Datblygu’r Economi Lleol a’n Cymunedau, gan mai prif nod y ffrwd waith
oedd cynyddu nifer ymwelwyr â chanol y dref a chreu mwy o gyfleoedd busnes a
swyddi yn y sector twristiaerth.
Hysbyswyd
yr Aelodau bod nifer o feysydd gwasanaeth yn chwarae rhan yn y cynlluniau, yn
amrywio gyda natur y prosiect. Roedd meysydd gwasanaeth allweddol a oedd yn
cael mewnbwn rheolaidd ac yn chwarae rhan yn y cynlluniau adfywio yn cynnwys y
Gwasanaethau Hamdden, Parth Cyhoeddus, Gwasanaethau Eiddo a Chynllunio.
Pwysleisiwyd, er mwyn cael canol y dref a oedd yn llwyddiannus, bod angen cydnabod
a delio â nifer o faterion a risgiau, ac roedd y rhain wedi eu hamlinellu yn yr
adroddiad.
Pwysleisiodd
yr Aelodau yr angen i wella’r farchnad gyflogaeth bresennol yn yr ardal a
sicrhau bod datblygu’r prosiectau yn cynnwys rhagolygon gwaith ar gyfer trigolion
lleol yn y gymuned. Cyfeiriodd Rheolwr y Rhaglen at ddatblygiad arfaethedig
safle’r Honey Club, y rhagwelwyd y byddai’n darparu rhwng 30 a 40 swydd yn yr
ardal. Hysbysodd y Pwyllgor bod Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio gyda’r
datblygwr, ac yn parhau i weithio gyda’r mudiad partner Strategaeth Dinas y
Rhyl, a oedd yn darparu hyfforddiant i ddatblygu’r sgiliau a oedd eu hangen i
ddiwallu gofynion cyflogaeth buddsoddwyr. Cyfeiriwyd at y datblygiad manwerthu
newydd ym Mhrestatyn a sefydliad academi sgiliau manwerthu newydd ar y cyd â’r
Ganolfan Byd Gwaith. Byddai darpar weithwyr lleol yno yn cael eu hyfforddi i
gael y sgiliau a’r cymwysterau hanfodol yn barod ar gyfer gwaith posibl yn y
dyfodol. Cytunodd yr Aelodau gyda’r farn a fynegwyd y dylai effaith ailddabtlygu
yn y Rhyl a Phrestatyn fynd gyda’r cynllun adfywio ar gyfer gweddill y Sir.
Cyfeiriwyd
at yr effaith andywol bosibl ar y Rhyl yn deillio o adleoli siop Marks and
Spencer i Brestatyn. Cytunodd yr Aelodau ei bod yn hanfodol annog manwerthwyr
allweddol i fuddsoddi yn y Rhyl, er mwyn galluogi i’r dref ddod yn lleoliad
manwerthu pwysig ac yn atyniad i ymwelwyr o’r tu allan i’r ardal. Pwysleisiwyd
hefyd y byddai angen i unrhyw ddatblygiad neu fuddsoddiad o’r fath fod yn
gynaliadwy er mwyn sicrhau cyflawniad hirdymor yr amcanion ar gyfer yr ardal.
Mewn
ymateb i gwestiwn, cytunodd y swyddogion y byddai pryderon a fynegwyd
ynglŷn â’r argraff negyddol a grëwyd gan ddiffyg staff ar Orsaf y Rhyl ar
adegau gwahanol, yn enwedig gyda’r nos, yn cael eu cyfleu i Network Rail.
Tra
bod haeddiant i gynnig trethi busnes is er mwyn denu buddsoddiad o’r tu allan
neu annog mentrau busnes newydd, roedd consensws barn y dylid cynnig
consesiynau neu drethi busnes is ledled y Sir, ac nid mewn un ardal benodol yn
unig. Cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen bod cyfleoedd datblygu mewn perthynas â
safle Queen’s Market. Fodd bynnag, er
bod Sir Ddinbych yn hwyluswr, roedd y safle mewn meddiant preifat ac yn yr
hinsawdd economaidd farwaidd hon, roedd datblygwyr yn nerfus o ran buddsoddi.
Bu i’r Pwyllgor:
BENDERFYNU – yn amodol ar
y sylwadau uchod, gydnabod y llwyddiant a gafwyd hyd yma.
Dogfennau ategol:
- Retail Report 130912, Eitem 6. PDF 101 KB
- Retail Report 130912 - App 1, Eitem 6. PDF 126 KB
- Retail Report 130912 - App 2, Eitem 6. PDF 153 KB