Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN CYFALAF 2022/23 – 2025/26 AC ARGYMHELLION BWRDD Y GYLLIDEB – CYFALAF

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Gwyneth Ellis y Cynllun Cyfalaf 2022/23 - 2025/26 ac adroddiad Argymhellion y Bwrdd Cyllideb - Cyfalaf (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Darparwyd Cynllun Cyfalaf diwygiedig i’r aelodau gan gynnwys diweddariad ar brosiectau mawr a'r cynllun corfforaethol.   Mae’r adroddiad hwn hefyd yn cynnwys Adroddiad Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2023/24.  Mae’n darparu trosolwg lefel uchel, byr a chynhwysfawr i’r holl aelodau o sut mae gwariant cyfalaf, ariannu cyfalaf a gweithgaredd rheoli trysorlys yn cyfrannu at ddarpariaeth gwasanaethau’r Cyngor.

 

Cafwyd crynodeb o’r adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo gan dynnu sylw at y prif bwyntiau.

 

Yn ystod trafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol:

 

·                    Tudalen 41, Rhaglen Gyfalaf - Llety Safle Sipsiwn a Theithwyr.  Gofynnodd y Cynghorydd Peter Scott beth oedd bwriad cynnwys y cyllid dichonoldeb yn y cynllun cyfalaf. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio fod y dyraniad yn syml yn gwneud cyllid ar gael pe bai prosesau a phenderfyniadau’r Cyngor ar lety safle sipsiwn a theithwyr ei angen.

·                    Holodd y Cynghorydd Terry Mendies pam fod Hamdden Sir Ddinbych Cyf ddim yn ymddangos yn y Cynllun Cyfalaf, ac fe adroddodd ar ei ymdrechion i sicrhau mwy o wybodaeth ar y rôl, gweithgareddau a’r buddsoddi yn Hamdden Sir Ddinbych Cyf. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod sesiwn briffio ar Hamdden Sir Ddinbych yn cael ei drefnu ar gyfer aelodau. 

Cafwyd crynodeb gan Bennaeth Cyllid ac Archwilio ar gyllideb a threfniadau cyfrifyddu Hamdden Sir Ddinbych, er enghraifft yn y cyllidebau a gynhaliwyd gan y Cyngor ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw.  Tynnodd sylw fod y cyllid rheoli craidd a Chytundeb Lefel Gwasanaeth a dalwyd i Hamdden Sir Ddinbych wedi dod i gyfanswm o £2 miliwn a heb gynyddu ers sefydlu’r cwmni. Mae’r cwmni yn eiddo llawn y Cyngor.  Mae hynny’n golygu bod y cwmni wedi amsugno’r pwysau ariannol dros y tair blynedd ddiwethaf.  

·                     Wrth ymateb i ymholiad y Cynghorydd Butterfield, cadarnhawyd fod y cyllid ar gyfer y cribyn traeth a’r peiriant cael gwared ar gwm cnoi wedi dod bron iawn yn gyfan gwbl o ffynonellau allanol a bod cyllid llety Dechrau’n Deg wedi dod gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith adeiladu i alluogi mwy o lefydd Dechrau’n Deg.

·                     Wrth ymateb i ymholiad ynglŷn â pham fod y ffigurau yn Atodiad 3 yn ymddangos mor uchel fe gynghorwyd yr aelodau fod Atodiad 3 yn cynnwys dim ond y costau gros a gafwyd ond nid oedd yn dangos incwm o gyllid grant, felly roedd y ffrydiau incwm a gwariant yn yr adroddiad hwn yn cael eu dangos ar wahân. Cynghorwyd Aelodau fod Atodiad 1 o’r adroddiad yn rhoi crynodeb lefel uchel o’r cynllun cyfalaf.

·                     Cadarnhaodd y Cynghorydd Gill German wrth y Cynghorydd Mark Young fod y gyllideb a ddyrannwyd ar gyfer ysgol (Ysgol Plas Brondyffryn) yn sicrhau fod cyllid ar gael beth bynnag y byddai’r Cyngor yn bwriadu ei wneud, ac y byddai modd cario’r swm ymlaen i flynyddoedd ariannol yn y dyfodol pe bai angen gwneud hynny.  Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio mai dyma’r achos hefyd ar gyfer dyraniad tuag at Ddatblygiad Pafiliwn Corwen.  O ran Ysgol Plas Brondyffryn, anogodd y Cynghorydd Rhys Thomas i’r Cyngor fod yn ofalus yn ei ddefnydd o derminoleg wrth ddisgrifio cynnydd, gan fod defnyddio ‘gweithredu’ wedi cael ei gamddehongli gan rai i olygu cynnydd gyda dechrau ar y gwaith adeiladu. Ychwanegodd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd German fod datganiadau cyhoeddus am Ysgol Plas Brondyffryn wedi eu cymeradwyo i gynrychioli’r sefyllfa go iawn.

 

CYNIGODD y Cynghorydd Gwyneth Ellis argymhellion y Cynllun Cyfalaf 2022/23 - 2025/26 ac Argymhellion y Bwrdd Cyllideb  - adroddiad Cyfalaf, EILIWYD gan y Cynghorydd Peter Scott.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn:

 

(i)            nodi’r sefyllfa ddiweddaraf ar yr elfen 2022/2023 o’r Cynllun Cyfalaf a’r diweddariad ar brosiectau mawr;

(ii)          cefnogi argymhelliad y Bwrdd Cyllideb - Cyfalaf fel y manylir yn atodiad 5 ac sydd wedi ei grynhoi yn atodiad 6;

(iii)         cymeradwyo Cynllun Cyfalaf 2023/24; a

(iv)         chymeradwyo’r Adroddiad Strategaeth Cyfalaf ar gyfer 2023/2024 fel y manylir yn atodiad 7

 

 

Dogfennau ategol: