Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

FFRWD WAITH ADFYWIO GORLLEWIN Y RHYL

Ystyried adroddiad gan Reolwr Rhaglen Y Rhyl yn Symud Ymlaen (copi’n amgaeëdig), sy’n amlinellu nodau ac amcanion y Strategaeth, y goblygiadau ariannol a’r cynnydd neu’r rhagolygon o ran gwireddu manteision.

                                                                                                          10.35 a.m.

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan Reolwr Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen, a oedd yn rhoi diweddariad ar y cynnydd o ran cyflawni Ffrwd Waith Adfywio Gorllewin y Rhyl yn Strategaeth Adfywio’r Rhyl yn Symud Ymlaen, y goblygiadau ariannol a’r cynnydd neu’r rhagolygon o ran gwireddu manteision, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Er mwyn cyflawni'n effeithiol, roedd gwaith Strategaeth Adfywio’r Rhyl yn Symud Ymlaen wedi ei drefnu mewn ffrydiau gwaith:-

 

·                    Ardal Adfywio Gorllewin y Rhyl

·                    Twristiaeth a’r Llain Arfordirol

·                    Manwerthu a Chanol y Dref

 

Roedd Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl yn barhad o’r gwaith parhaus yng Ngorllewin y Rhyl dan Ardal Adfywio Strategol Arfordir Gogledd Cymru. Amlinellwyd amcanion a manteision y Prosiect yn yr adroddiad, ynghyd â chyfrifoldebau Bwrdd y Prosiect Gwella ar gyfer cyflawni’r prosiect. Esboniodd Rheolwr y Rhaglen y byddai delio â’r materion a oedd wedi bodoli ers amser maith yn yr ardal yn helpu creu argraff fwy cadarnhaol o’r dref yn gyffredinol a thrwy hynny gael manteision adfywio mwy pell-gyrhaeddol. Trwy greu cymuned mwy cytbwys byddai’r prosiect yn lleihau amddifadiad yn yr ardal, sef un o ganlyniadau allweddol y flaenoriaeth. Byddai hefyd yn hybu hyder y sector preifat yn y Rhyl ac yn ysgogi buddsoddiad pellach yn y sector preifat a hyder trwy greu swyddi newydd, cyfleoedd busnes a hybu twristiaeth.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr angen i gydnabod a delio â’r gwendidau a adnabuwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru yn ei Hadroddiad Gwella Blynyddol ar y Cyngor, a gyhoeddwyd yn Ionawr 2012, a nododd fylchau ym mecanwaith a chefnogaeth y Cyngor tuag at y Rhaglen.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Rhaglen yr aelodau at yr adroddiad a’r atodiadau cysylltiedig a oedd yn manylu sut byddai’r prosiect yn cael effaith uniongyrchol ar y Blaenoriaethau Corfforaethol newydd arfaethedig, y costau tebygol a’r ffrydiau ariannu, y risgiau a adnabuwyd mewn perthynas â’i gyflawni, a’r cyfathrebu a’r gwaith ymgynghori a ymgymerwyd gyda’r gymuned yn yr ardal. Pwysleisiwyd  bod y cyllid wedi ei ddyrannu’n benodol ar gyfer Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl, ac na ellid ei ddefnyddio y tu allan i’r Rhyl nac ar brosiectau amgen. Cyfeiriwyd at Floc 1, y Parc Trefol, a oedd yn golygu gweddnewid yr ardal yn ardal werdd. Mynegwyd pryder y gallai’r cyfnod ar ôl cwblhau’r prosiect fod â goblygiadau ariannol mewn perthynas â chynnal a chadw’r man gwyrdd, a byddai angen delio â hyn gyda’r datblygwyr gan y byddai opsiynau posibl a chyfrifoldebau yn elfen allweddol yn y broses o ddylunio a chynllunio. Hysbyswyd yr Aelodau bod canllawiau cynllunio atodol drafft wedi eu cyhoeddi a oedd yn amlinellu datblygiad yr ardal yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, esboniodd Rheolwr y Rhaglen bod cytundeb wedi ei lunio, gyda Chymdeithas Tai Clwyd Alun yn unig, y byddai pobl a oedd yn byw yn ardal y prosiect yn cael lefel o flaenoriaeth mewn perthynas â’r rhestr dai, er mwyn delio ag amserlenni.    

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd J.M. Davies bwysigrwydd yr angen i newid syniad pobl ledled y DU ynglŷn â’r Rhyl, ac arwyddocad cael atyniad mawr i’r dref i ddenu ymwelwyr i’r Rhyl.  Cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen bod gwaith wedi ei wneud ar y cyd gyda’r Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden i ddelio â hyn trwy annog buddsoddiad sector preifat i’r dref a chafwyd peth llwyddiant arwyddocaol eisoes gyda lefel uchel o diddordeb o’r tu allan eisoes yn cael ei dangos yn y dref. Esboniodd bod Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio gyda’i phartner strategol Alliance Leisure i geisio mapio digwyddiadau priodol a darparu cyfleusterau ar gyfer nawr ac i’r dyfodol. Roedd y rhain yn cynnwys y posibilrwydd o ailddatblygu a disodli’r Heulfan. Cyfeiriodd y Cynghorydd W. Mullen-James at lwyddiant digwyddiadau a gynhaliwyd yn y Rhyl yn ddiweddar a’r adborth cadarnhaol a gafwyd gan y sawl a fynychodd.

 

Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, pwysleisiwyd y materion canlynol:-

·        Pwysigrwydd marchnata’r Rhyl ledled y DU ac i gynulleidfa dramor;

·        Pwysigrwydd cysylltu prosiectau â’i gilydd, gyda’r rhaglen adfywio economaidd ehangach ar gyfer y Sir, ac ardal Gogledd Cymru yn gyffredinol – yr angen i sicrhau bod prosiectau a blaengareddau yn ategu a chefnogi ei gilydd;

·        Yr angen i greu a denu cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy gyda sgiliau a chyflog da i ardal y Rhyl; a’r

·        Angen i wahaniaethu ac esbonio amcanion cyffredinol a chanlyniad cyflawniad prosiectau ar gyfer y Rhyl a bod yn glir ar y weledigaeth gynaliadwy ar gyfer y dref a’r ardal o gwmpas

 

Bu i’r Pwyllgor:

 

BENDERFYNU – yn amodol ar y sylwadau uchod, derbyn yr adroddiad a chydnabod sylwadau’r Aelodau.

 

 

Dogfennau ategol: