Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

STRATEGAETH YNNI GOGLEDD CYMRU, Y CYNLLUN GWEITHREDU CYSYLLTIEDIG Â CHYNLLUNIO YNNI ARDAL LEOL YN SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant (copi ynghlwm), yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Strategaeth Ynni Gogledd Cymru, a nodi’r wybodaeth a ddarparwyd ynglŷn â chychwyn Cynllunio Ardal Leol yn Sir Ddinbych.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cymeradwyo Strategaeth Ynni Gogledd Cymru a Chynllun Gweithredu fel sydd ynghlwm i’r adroddiad, yn cymeradwyo’r weledigaeth ac uchelgais y strategaeth, ond yn dymuno mynegi amheuaeth am y defnydd o niwclear i gyflawni uchelgeisiau datgarboneiddio’r rhanbarth, a    

 

(b)       nodi dechrau Cynllunio Ynni Ardal Leol yn y sir.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor adroddiad yn gofyn am gefnogaeth Strategaeth a Chynllun Gweithredu Ynni Gogledd Cymru, ac i nodi’r wybodaeth a ddarparwyd ynglŷn â pharhau gyda Chynllunio Ardal Leol yn Sir Ddinbych.

 

Mae pob rhanbarth yng Nghymru wedi datblygu Strategaeth a Chynllun Gweithredu Ynni a bellach yn gofyn am gefnogaeth ddemocrataidd gan bob rhanbarth awdurdod lleol.

 

Eglurodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd fod gan Gymru darged deddfwriaethol i leihau ei allyriadau carbon i sero net erbyn 2050.   Mae Strategaeth Ynni Gogledd Cymru wedi nodi’r prif flaenoriaethau a chyfleoedd i gyflawni ei huchelgais ar gyfer datgarboneiddio ac mae’r Cynllun Gweithredu yn dehongli’r blaenoriaethau’n gamau gweithredu ac ymyriadau strategol.   Mae gwaith wedi cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru ac Uchelgais Gogledd Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, ynghyd â budd-ddeiliaid yn cynnwys y Cyngor, i lunio’r ddogfennaeth hynny.   Roedd rhai camau gweithredu lle'r oedd awdurdodau lleol wedi cael eu cynnig i arwain; nid oedd angen cyllid ar lawer ond byddai’n golygu amser staff ar draws ystod o wasanaethau.   Un cam gweithredu oedd cwblhau Cynllun Ynni Ardal Leol ar gyfer pob sir, gan gynnwys Sir Ddinbych, i ddarparu dull yn seiliedig ar dystiolaeth i adnabod y ffordd fwyaf effeithiol i gwrdd â’r targed sero net yn lleol ac yn genedlaethol.    Dechreuodd y gwaith hynny yn Ionawr 2023 gyda’r bwriad o’i orffen yn Ionawr 2023 gyda chynlluniau i gael eu cyflwyno i’r Cabinet i’w cymeradwyo.

 

Nododd y Cabinet yr adroddiad cynhwysfawr a phwysigrwydd y strategaeth ynni ar gyfer cyflawni uchelgeisiau’r rhanbarth ar gyfer datgarboneiddio.   Wrth ystyried yr adroddiad, canolbwyntiodd y drafodaeth ar y meysydd canlynol -

 

·         Mynegodd y Cynghorydd Rhys Thomas ei bryderon ei hun, ac eraill ar y Cyngor, ynglŷn â’r defnydd posib o ynni niwclear yn y rhanbarth fel y cyfeirir ato yn y Strategaeth.  Eglurodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd fod niwclear yn y rhestr fel rhan o gymysgedd technoleg, yn arbennig mewn perthynas â chreu trydan adnewyddadwy er mwyn cwrdd â tharged 2050, ac roedd yn unol â pholisïau Llywodraeth Cymru a’r DU.   Tynnwyd sylw at raddfa’r cyfraniad niwclear y byddai’r Strategaeth yn ei ddisgwyl er mwyn cwrdd â’r targed ochr yn ochr ag ynni gwynt ar y tir ac ar y môr, PV solar ac ynni llanw a morol.  Y disgwyl fyddai bod prosiectau niwclear yn cael eu cyfyngu i safleoedd trwyddedig yn barod fel Wylfa a Thrawsfynydd gyda rheoli gwastraff yn cael ei wneud yn y fan a’r lle.   Cynigodd y Cynghorydd Rhys Thomas fod diwygiad yn cael ei wneud i argymhelliad 3.1, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Barry Mellor, i fynegi amheuaeth ynglŷn â defnyddio niwclear er mwyn cwrdd ag uchelgeisiau datgarboneiddio’r rhanbarth, gyda’r holl Gabinet yn pleidleisio o blaid y diwygiad.

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis at y Cynllunio Ynni Ardal Leol gan gynnig y defnydd o gynlluniau ynni lleol fel yr un yng Nghorwen, fel rhan o’r broses gan ganmol y gwaith o ran hynny.  Roedd y Cynghorydd Julie Matthews hefyd yn awyddus i sicrhau fod y cymunedau lleol yn elwa.   Cadarnhawyd fod perchnogaeth leol o ynni adnewyddadwy yn cael ei gynnwys ym mlaenoriaethau’r Strategaeth

·         Roedd y Cynghorydd Barry Mellor yn falch o adrodd ar ei ymweliad sydd i ddod o Ysgol Tir Morfa, Y Rhyl, ac i weithio i leihau allyriadau carbon yr ysgol gydag offer newydd wedi’i gomisiynu gan Dîm Ynni'r Adran Eiddo.  Mae cwmni bwyler o’r DU, ‘Ideal’ wedi darparu dau bwmp gwres yr awyr i’w gosod yn yr ysgol fel rhan o gynllun peilota ac mae’r Tîm Ynni wedi gosod PV solar a storfa batri er mwyn cefnogi’r lleihad mewn allyriadau carbon ar y safle, a allai leihau biliau tanwydd a lleihau allyriadau carbon.

·         Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley yn awyddus i sicrhau fod cyllid digonol ar gael gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni’r Cynllun Gweithredu.   Cydnabuwyd fod mwy o waith manwl angen ei wneud i adnabod y gofynion a ffynonellau  ariannu ar gyfer unrhyw gamau gweithredu heb gael eu costio, a bod rhai camau gweithredu yn cael eu cyflawni gan Sir Ddinbych ond byddai llawer yn gyfrifoldeb sectorau eraill fel darparwyr ynni a chludiant ac ati.  Cyfeiriwyd at ffrydiau ariannu posib fel gwaith, yn cynnwys prosiectau bargen twf a phrosiectau ynni clyfar yn lleol.   Mae’r Arweinydd a’r Aelod Arweiniol wedi adrodd ar y drafodaeth agored gyda Llywodraeth Cymru trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a sianeli eraill ar lefel gweinidogol gyda’r nod gyffredinol o leihau allyriadau.   Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod gan lawer ran i’w chwarae mewn cyflawni’r Strategaeth a’r Cynllun Gweithredu, yn y sectorau preifat a chyhoeddus, a budd-ddeiliaid eraill, ar lefel lleol a chenedlaethol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cymeradwyo Strategaeth Ynni Gogledd Cymru a Chynllun Gweithredu fel sydd ynghlwm i’r adroddiad, yn cymeradwyo gweledigaeth ac uchelgais y strategaeth, ond yn dymuno mynegi amheuaeth am y defnydd o niwclear i gyflawni uchelgeisiau datgarboneiddio’r rhanbarth, a    

 

(b)       nodi dechrau Cynllunio Ynni Ardal Leol yn y sir.

 

 

Dogfennau ategol: