Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PROSIECT YSGOL PLAS BRONDYFFRYN - ADRODDIAD GWRTHWYNEBIAD TREFNIADAETH YSGOL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd (copi ynghlwm), yn gofyn am adolygiad y Cabinet o’r Adroddiad Gwrthwynebiad ac a ddylid cymeradwyo’r cynnig a nodir yn yr Hysbysiad Statudol i gynyddu capasiti Ysgol Plas Brondyffryn o 116 i 220.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       adolygu’r Adroddiad Gwrthwynebiad ynghlwm fel Atodiad 2 i’r adroddiad;

 

(b)       cadarnhawyd ei fod yn fodlon y dilynwyd proses statudol fel y nodwyd yn Nghod Sefydliad yr Ysgol;

 

(c)        cymeradwyo’r cynnig fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Statudol o ran cynyddu gallu Ysgol Plas Brondyffryn o 116 i 220, a

 

(d)       cadarnhawyd eu bod wedi darllen, deall a chymryd i ystyriaeth yr Asesiad o Effaith ar Les, fel y manylwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad, fel rhan o’i ystyriaeth, gan nodi nad oedd lleoliad safle ar gyfer ailddatblygu wedi’i gytuno nai’i ymrwymo gan y Cabinet na’r Cyngor.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gill German yr adroddiad yn gofyn i’r Cabinet ystyried y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd wrth ymateb i’r Hysbysiad Statudol gan y Cyngor ar y cynnig i gynyddu cynhwysedd Ysgol Plas Brondyffryn o 116 i 220 ac i ystyried os fydd y cynnig yn cael ei gymeradwyo ac i symud ymlaen gyda’r prosiect.

 

Roedd y Prosiect yn rhan o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (Band B) a gymeradwywyd ym mis Medi 2020.   Mae’r ysgol yn cynnig darpariaeth arbenigol i ddisgyblion gydag awtistiaeth 3 - 19 oed ar dri safle ar wahân ac y byddai’n symud i gyfleuster pwrpasol a newydd sbon er mwyn gallu cynnal y cynnydd mewn cynhwysedd a chwrdd ag anghenion y plant ar y sbectrwm awtistig.   O ystyried y ddarpariaeth arbenigol, byddai Llywodraeth Cymru yn ariannu 75% o’r gwaith adeiladu a Sir Ddinbych yn cyfrannu 25% ato.

 

Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod adolygiad o’r Adroddiad ar Wrthwynebiadau yn rhan o’r broses gyfreithiol sydd ei angen cyn penderfynu ar yr Hysbysiad Statudol.   Roedd manylion am ddau wrthwynebiad yn yr adroddiad a oedd yn canolbwyntio ar leoliad yr adeilad newydd yn hytrach na’r cynnydd mewn cynhwysedd ynghyd ag ymateb y Cyngor i’r pryderon hynny.   Roedd yr ysgol wedi gordanysgrifio ar hyn o bryd a rhagwelir cynnydd yn y galw wrth symud ymlaen.  Mae’r cynnig i gynyddu’r cynhwysedd yn unol â chytuno ar safle, cymeradwyo caniatâd cynllunio, bod y cyllid ar gael a bod yr adeilad newydd yn gallu ymdopi â’r cynnydd mewn cynhwysedd.

 

Dywedodd yr Arweinydd eto fod yr adroddiad yn cyfeirio at gynnydd yng nghynhwysedd yr ysgol ac nid lleoliad unrhyw adeilad newydd sydd wedi bod wrth wraidd y gwrthwynebu.

 

Cododd y Cynghorydd Rhys Thomas bryderon ynglŷn ag argymhelliad 3.4 gan ei fod yn cyfeirio at yr Asesiad Effaith ar Les a oedd yn cyfeirio at safle penodol ar gyfer yr adeilad newydd sydd eto i’w benderfynu; gofynnodd am eglurhad ynghylch yr argymhelliad yn yr Adroddiad ar Wrthwynebiadau cyn belled ag y mae’n berthnasol i gynhwysedd yn unig, a’r broses ar wahân ar gyfer dewis safle, a thynnodd sylw at y dryswch ynglŷn â’r ddwy broses o ystyried nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi’u derbyn ynghylch cynyddu’r cynhwysedd ond yn hytrach wedi canolbwyntio ar safle’r adeilad newydd. 

 

Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Addysg a’r Dirprwy Swyddog Monitro i’r pwyntiau a godwyd ac unrhyw gwestiynau eraill i ddilyn, fel a ganlyn -

 

·         Roedd yr Asesiad Effaith ar Les yn seiliedig ar y safle a ffefrir ar yr amser ac ni fu rhagdybiaeth mai dyma fyddai’r safle ar gyfer yr adeilad newydd gan nad oedd hynny wedi’i benderfynu eto; roedd dichonolrwydd safle arall hefyd o dan ystyriaeth a byddai unrhyw safle a fyddai’n cael ei adnabod yn cael ei wneud yn unol â’r prosesau priodol.   Pe bai safle gwahanol yn cael ei nodi byddai angen adolygu’r Asesiad Effaith ar Les, a phe bai safle tu allan i Ddinbych yn cael ei gynnig yna byddai angen ail-ddechrau’r broses gyfan.

·         Roedd angen i Cabinet gymryd yr Asesiad Effaith ar Les i ystyriaeth fel rhan o’i ystyriaeth, ond nid oedd angen cytuno â’r holl bwyntiau; mae’n bosib nad yw’r Asesiad wedi canolbwyntio’n ddigonol ar effaith y cynnydd mewn cynhwysedd ac felly roedd elfennau oedd yn canolbwyntio ar leoliad.   O ganlyniad, cynigiodd y Cynghorydd Rhys Thomas fod diwygiad yn cael ei wneud i argymhelliad 3.4, eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, a fyddai’n egluro bod y safle ei hun heb gael ei gytuno arno neu bod y Cabinet neu Gyngor heb ymrwymo i safle eto.

·         Mae’r argymhelliad yn yr Adroddiad ar Wrthwynebiadau yn cyfeirio at y cynnig ‘I ddiwygio Ysgol Plas Brondyffryn yn Ninbych fel bod y cynhwysedd yn cael ei gynyddu o 116 i 220’ ac argymhellir fod y cynnig yn cael ei gymeradwyo a bod caniatâd yn cael ei roi fel penderfyniad terfynol y Cabinet i symud ymlaen i’r cam gweithredu, h.y. i gyflwyno hysbysiad sy’n amodol ar y prosesau eraill: penderfynu ar safle, cymeradwyo caniatâd cynllunio, bod cyllid ar gael a bod yr adeilad newydd yn barod.   Roedd dau broses yn cyd-redeg: (1) i newid maint a chynhwysedd yr ysgol, a (2) cytuno ar safle ar gyfer adeilad newydd a sicrhau'r caniatâd a chyllid sydd ei angen.   Mae’r broses i ddod o hyd i safle yn amodol ar nifer o gamau gan gynnwys trafodaeth gan y Bwrdd Moderneiddio Addysg a Grŵp Ardal Aelodau Dinbych fel rhan o’r broses

·         credai swyddogion eu bod nhw wedi bod yn glir ym mhob un o’r adroddiadau bod dwy broses ar wahân ond cytunwyd bod dryswch wedi bod o ran bod y gwrthwynebiadau yn canolbwyntio ar y lleoliad yn hytrach na chynhwysedd.   Mae gwersi wedi cael eu dysgu o’r broses wrth symud ymlaen.  Awgrymodd yr Arweinydd bod pobl sydd wedi gwrthwynebu i’r lleoliad o bosib wedi cymryd y cyfle i wrthwynebu fel rhan o’r broses ac roedd ganddyn nhw bob hawl i wneud hynny.  Cynghorodd y Cynghorydd Gill German fod yna ystyriaeth wedi bod ynglŷn â chynnwys gwrthwynebiadau yn seiliedig ar leoliad, ond ar gydbwysedd teimlai ei bod yn bwysig i’r Cyngor glywed y sylwadau hynny, er nad oedden nhw’n berthnasol i’r cynnig yn yr Hysbysiad Statudol i gynyddu cynhwysedd.

 

Ymatebodd y Swyddogion i gwestiynau pellach gan aelodau fel a ganlyn -

 

·         o ran amserlenni roedd y cynnig yn rhan o Fand B sydd yn rhedeg rhwng 2019 a 2024.   Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yn ddiweddar fod nifer o awdurdodau lleol mewn sefyllfa lle mae rhai o’r prosiectau o bosib angen eu hymestyn y tu hwnt i 2023 ac wedi cyhoeddi canllaw yn ddiweddar ar sut y byddai’r rhaglen yn parhau, gan ddarparu’n effeithiol fecanwaith i awdurdodau lleol na fyddai yn gallu ymrwymo eu hadnoddau yn ystod yr amserlen gychwynnol ac i’r prosiectau hynny i fod yn rhan o raglen dreigl wrth symud ymlaen.

·         cytunwyd, wrth i ymgynghoriad gymryd lle gyda GAA Dinbych o ystyried lleoliad yr ysgol,  a gan fod yr ysgol yn darparu addysg i blant ar draws y sir gellir rhannu gwybodaeth ar y prosiect gyda’r holl GAA wrth symud ymlaen.

·         cynhwysedd yr ysgol oedd 116 ac roedd wedi gordanysgrifio yn barod gyda 136 o ddisgyblion ar y gofrestr a 72 o bobl ifanc yn aros am asesiad iechyd; mae llawer iawn o waith wedi’i wneud i sicrhau fod maint yr ysgol yn gywir i gwrdd â’r galw wrth symud ymlaen.   Yn 2016 roedd 47% o’r disgyblion yn dod o du allan i’r sir; o Ionawr 2022 mae 16% o’r disgyblion yn dod o du allan i’r sir, gan ddangos cynnydd mewn disgyblion o Sir Ddinbych.

 

Atgoffodd y Dirprwy Swyddog Monitro y Cabinet  o ofynion Cod Trefniadaeth yr Ysgol  wrth benderfynu’r cynnig gyda meddwl teg sy’n cynnwys nifer o ystyriaethau statudol.   Teimlai’r Cynghorydd Gill German y byddai’n ddefnyddiol i’w wneud yn glir fod y cynnig yn berthnasol i gynyddu cynhwysedd yr ysgol yn unig a dangosodd ei gwerthfawrogiad i’r aelodau am eu hystyriaeth a’u cyfraniad i’r ddadl.   Mae Cabinet wedi cydnabod y galw am ddarpariaeth arbenigol sy’n parhau i gynyddu, gyda’r ysgol wedi gordanysgrifio ar hyn o bryd, a gwerthoedd y cynnig i gynyddu cynhwysedd i gwrdd ag anghenion y plant wrth symud ymlaen.    Pe bai’r Cabinet yn cymeradwyo’r cynnig yn yr Hysbysiad Statudol ac yn derbyn yr argymhellion, gallai’r prosiect symud i gam nesaf y broses.

 

Wrth bleidleisio –

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       adolygu’r Adroddiad ar Wrthwynebiadau ynghlwm fel Atodiad 2 i’r adroddiad;

 

(b)       cadarnhawyd ei fod yn fodlon bod y broses statudol wedi cael ei dilyn fel y nodwyd yng Nghod Trefniadaeth yr Ysgol;

 

(c)        cymeradwyo’r cynnig fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Statudol o ran cynyddu gallu Ysgol Plas Brondyffryn o 116 i 220, a

 

(d)       cadarnhawyd eu bod wedi darllen, deall a chymryd i ystyriaeth yr Asesiad o Effaith ar Les, fel y manylwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad, fel rhan o’i ystyriaeth, gan nodi nad oedd lleoliad safle ar gyfer ailddatblygu wedi’i gytuno arno, nac wedi’i ymrwymo arno gan y Cabinet na’r Cyngor.

 

 

Dogfennau ategol: