Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF. 21/2022/0980 - THE PADDOCK, LLANFERRES

Ystyried cais i newid defnydd tir a rhan o adeilad i ffurfio busnes merlota asynnod a gwaith cysylltiedig (yn rhannol ôl-weithredol) yn The Paddock, Llanferres, Yr Wyddgrug (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i newid defnydd tir a rhan o’r adeilad i ffurfio busnes merlota mulod a gwaith cysylltiedig (rhannol ôl-weithredol) yn The Paddock, Llanferres, yr Wyddgrug (dosbarthwyd ymlaen llaw)

 

Siaradwyr Cyhoeddus –

 

Ian Hemming (Yn Erbyn)– Roedd y siaradwr cyhoeddus yn breswylydd a oedd yn byw wrth ymyl y safle merlota mulod a bu iddo siarad ar ran eraill sy’n byw yn lleol.  Roedd llawer o bryderon, yn cynnwys goleuadau ychwanegol, mwy o draffig a cholli amwynder drwy sŵn ac aflonyddu.  Tynnwyd sylw at golli preifatrwydd gan fod rhai pobl a oedd yn merlota yn gallu gweld i mewn i’w gerddi; cafodd y pryder hwn ei ddwysau ymhellach gan y byddai’r safle ar agor tan 9:00 pm. Cafwyd rhai awgrymiadau gan Gynllunwyr a’r ymgeisydd i liniaru rhai o’r pryderon.  Fodd bynnag, roedd y siaradwr cyhoeddus eisiau i’r rhain gael eu cadarnhau cyn eu cymeradwyo.  Wrth gloi, tynnodd y siaradwr cyhoeddus sylw at y ffaith fod gan y Cyngor ddyletswydd gofal i’r holl breswylwyr.

 

Matthew Davies (O Blaid) – bwriad y cais oedd cael pobl i gerdded gyda chwe mul achub bach o fewn yr AHNE, i gyd o fewn ffin tir yr ymgeisydd.  Roedd y pwyslais ar y manteision lles o fod allan yng nghefn gwlad a meithrin perthynas gydag anifail.  Cynhaliwyd treial o ferlota ar y safle o dan hawliau datblygu a ganiateir ym mis Mehefin, Gorffennaf ac Awst 2022.

 

Roedd yr ymgeisydd wedi cael ei synnu gan yr ymateb i’r treial; roedd wedi denu pobl o’r tu allan i’r sir, gan eu harwain i fynd i drefi a phentrefi cyfagos.  Mae’r safle wedi cael canmoliaeth uchel mewn sioeau gwobrwyo a gan Senedd Cymru.  Y neges oedd y dylid dathlu mentrau fel hyn oherwydd eu manteision i’r economi wledig; roedd sawl corff wedi cysylltu â’r ymgeisydd i rannu’r manteision.  Roedd yr ymgeiswyr yn bartneriaid gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac, yn y gwanwyn, bu iddynt ddechrau cadwraeth yr ardal drwy blannu coed a phlannu dolydd blodau gwyllt.  Nod strategaeth Cyngor Sir Ddinbych yw hyrwyddo a thyfu amrywiaeth o fewn y sector twristiaeth; mae gan y fferm hanes o arallgyfeirio.

 

Wrth gloi, dyfynnodd yr ymgeisydd wefan AHNE Bryniau Clwyd – Dylai Cymunedau wneud yr ardal yn lleoliad dymunol a chroesawgar sy’n llawn bywyd, antur a phersonoliaeth ac mae cymunedau sy’n ffynnu a busnesau llwyddiannus angen y rhyddid i ddatblygu; roedd yr ymgeisydd yn teimlo bod y cais yn glynu’n gryf at hyn.

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Roedd y Cynghorydd Huw Williams (Aelod Lleol) yn cefnogi argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais.  Dywedodd bod y swyddogion a’r ymgeisydd wedi trafod y manylion o ran y cais.  Roedd yn teimlo bod mesurau lliniaru wedi’u cynnal ac roedd yr amodau wedi’u hanelu i leddfu’r pryderon a godwyd.  Dywedodd bod y cais o fudd i’r ardal, gan ei fod yn arallgyfeirio busnes a byddai’n cadw cenedlaethau pellach y teulu yn yr ardal.

 

Ceisiodd y Pwyllgor eglurder ar oriau agor y busnes os byddai’r cais yn cael ei gymeradwyo.  Mewn ymateb, tynnodd yr aelodau sylw at amod pedwar yn yr adroddiad, a oedd yn nodi

 

“Ni ddylai’r safle fod ar agor i ymwelwyr y busnes merlota mulod tu allan i oriau:

·         dydd Llun i ddydd Gwener - 5 pm tan 8 pm.

·         dydd Sadwrn - 10 am tan 3 pm a 5 pm tan 8 pm.

·         dydd Sul a Gwyliau Banc - 10 am tan 5 pm.

Bydd y safle hwn ond yn gweithredu rhwng 1 Ebrill a 31 Rhagfyr.”

 

Eglurwyd hefyd na allai’r busnes weithredu yn y tywyllwch a rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor os byddai’r ymgeisydd eisiau ychwanegu goleuadau i’r ardal, byddai angen cyflwyno’r mater yn ôl i’r pwyllgor cynllunio er mwyn cytuno arno. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Terry Mendies ei fod yn teimlo bod yr ymgeisydd yn colli cyfle drwy beidio â chael toiledau ar y safle.

 

Bu i’r Cynghorydd Huw Williams (Aelod Lleol) ddiolch i’r pwyllgor am y drafodaeth; dywedodd y byddai’n addas i’r ymgeisydd gydweithio ag addysg.  Wrth gloi, dywedodd y Cynghorydd Williams nad oedd y rhai a oedd wedi gwrthwynebu wedi cael eu hanwybyddu os oedd ganddyn nhw unrhyw bryderon, gallant gysylltu â’u cynghorwyr lleol i helpu ag unrhyw faterion. 

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog o fewn yr adroddiad, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Alan James.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID – 17

YN ERBYN – 0

YMATAL – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: