Eitem ar yr agenda
CWRICWLWM I GYMRU
Derbyn cyflwyniad
ar y Canllawiau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg.
Cofnodion:
Rhoddodd yr Ymgynghorydd
Addysg Grefyddol gyflwyniad am Ganllawiau a deunydd hyfforddiant Crefydd,
Gwerthoedd a Moeseg (CGM) y gall athrawon eu defnyddio i’w cynorthwyo i ddeall
a chynllunio cwricwlwm CGM priodol yn seiliedig ar Faes Llafur Cytunedig Sir
Ddinbych.
Darparwyd hyfforddiant i
athrawon Conwy yn ystod tymor yr hydref, a chafodd ei groesawu, a’r bwriad oedd
recordio sesiwn tebyg ar gyfer ei ddosbarthu wedi hynny i athrawon Sir
Ddinbych.
Yr oedd y meysydd a gwmpaswyd
yn y cyflwyniad cynhwysfawr yn cynnwys –
·
defnyddio delweddau,
gyda llawer o ddarnau jig-so’n cynrychioli’r gwahanol ddarnau i’w rhoi at ei
gilydd i gynrychioli’r cwricwlwm yn ei gyfanrwydd
·
defnyddio’r pedwar diben
fel man cychwyn – dysgwyr uchelgeisiol a galluog; cyfranwyr mentrus a
chreadigol; dinasyddion egwyddorol, gwybodus; unigolion iach a hyderus – a sut
maent yn gysylltiedig â CGM
·
dolenni i Faes Dysgu a
Phrofiad (MDPh) y Dyniaethau, y ceir mynediad iddo drwy Hwb a chanllawiau
pellach, gan gynnwys Adran 5, Dylunio eich Cwricwlwm, ac ystyriaeth benodol ar
gyfer y maes hwn, gan annog dull holistaidd o ddysgu
·
statws cyfreithiol
canllaw CGM y cytunwyd arno gan Sir Ddinbych i fod yn Faes Llafur
Cytunedig. Yr oedd CGM yn elfen fandadol
o’r pwnc ac yn rhan orfodol o’r Cwricwlwm i Gymru; a dolenni i feysydd
cefnogaeth eraill ar Hwb
·
prif agweddau yn cwmpasu
cynnwys argyhoeddiadau crefyddol ac athronyddol anghrefyddol; peidio â
chaniatáu i blant gael eu tynnu o CGM; rhoi ystyriaeth a newidiadau yn yr
iaith, a’r dysgu’n gorfod adlewyrchu’r ffaith bod traddodiadau crefyddol yng
Nghymru yn Gristnogol yn bennaf, gan ystyried y prif grefyddau eraill a
gynrychiolir yng Nghymru, a bod ystod o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol
yn cael eu harddel yng Nghymru
·
yr oedd Canllawiau
Ategol Sir Ddinbych ar gyfer CGM, sydd ar gael i ysgolion, yn cwmpasu
Disgyblaethau CGM, Datblygiad Ysbrydol, CGM a’r pedwar diben, Cysyniadau CGM,
lens CGM, a Dilyniant Dysgwyr a Siwrneiau Dysgu CGM
·
wedi hwyluso gêm eiriau
(‘wordle’) fel ffordd o ysgogi’r meddwl a thrafodaeth
·
nodau ac amcanion
cyffredinol AG yn ôl Polisïau AG
·
cyffredinedd rhwng MDPh
y Dyniaethau ac enghreifftiau’n ymwneud ag ystyr Datganiadau o’r Hyn sy’n
Bwysig
·
Disgyblaethau CGM, gan
gynnwys astudiaethau crefyddol, athroniaeth, diwinyddiaeth, cymdeithaseg,
seicoleg ac anthropoleg, a chwestiynau mawrion gydag enghreifftiau a fyddai’n
ddefnyddiol i’w hymgorffori i’r canllawiau
·
Cysyniadau CGM a sut
oeddynt yn ymddangos yn y Maes Llafur Cytunedig ynghyd â nifer o themâu
allweddol i’w hystyried fel rhan o’r cwricwlwm hwnnw
·
Lensys CGM a sut oeddynt
yn ymddangos yn y Maes Llafur Cytunedig ynghyd â chrynodeb o’r saith lens a
datganiadau cysylltiedig ‘Mae’n ymwneud â hyn’
·
enghreifftiau o
Siwrneiau Dysgu CGM, gan gynnwys disgwyliad a chynnydd
·
cysyniadau’r Maes Llafur
Cytunedig wedi eu croesgyfeirio â’r cysyniadau a nodir yn Natganiadau o’r Hyn sy’n
Bwysig a Disgrifiadau Dysgu MDPh y Dyniaethau
·
cysyniadau a nodir yn y
Maes Llafur Cytunedig ond nas cyfeirir atynt yn y Datganiadau o’r Hyn sy’n
Bwysig na’r Disgrifiadau Dysgu
·
fframweithiau ac
enghreifftiau o ddatblygiad ysbrydol
·
manylion pellach am weithgareddau
ac adnoddau y gellid eu defnyddio.
Diolchodd yr aelodau i’r
Ymgynghorydd AG am ei gyflwyniad diddorol, llawn gwybodaeth.
Cafwyd ychydig o drafodaeth am
y newidiadau sylweddol i ddysgu’r maes pwnc er mwyn darparu cwricwlwm sy’n
gyfredol, sy’n addas ar gyfer cymdeithas fodern, ac i adlewyrchu’r gwahanol
ddiwylliannau a chredoau mewn cymdeithas ddemocrataidd. Soniwyd am gymariaethau rhwng y gorffennol
a’r presennol, a gwerthoedd a chredoau gwahanol ddiwylliannau a chenedlaethau,
sy’n newid dros amser. Cafwyd ychydig o
drafodaeth am faterion proffil uchel ehangach yn y cyfryngau yn ymwneud â
phriodasau o’r un rhyw a hunaniaeth rhywedd, a hefyd sut y cefnogir plant mewn
ysgolion. Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd AG
at Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) fel elfen fandadol o’r cwricwlwm
newydd mewn ysgolion, a rhoddodd y Cynghorydd Gill German ychydig o gefndir i’r
her gyfreithiol ddiweddar a’r apêl ddilynol yn erbyn addysgu mandadol ACRh, a
oedd wedi ei wrthod gan yr Uchel Lys.
Rhoddodd drosolwg o ACRh ac addysgu am berthnasoedd o fewn teuluoedd,
cariad a pharch, mewn ffordd sy’n briodol o ran oedran, ac amlygodd y
gamwybodaeth a oedd wedi ei rhannu yn y cyfryngau. Dywedodd yr Ymgynghorydd AG fod angen i addysgu
ganolbwyntio ar amrywiaeth a bod yn gynrychioliadol o’r gwahaniaethau mewn
cymdeithas i normaleiddio derbyn y gwahaniaethau hynny. Yr oedd cymal o fewn ACRh a oedd yn ymwneud â
phobl a oedd â chredoau penodol iawn ynglŷn â rhywioldeb a materion rhywedd,
oherwydd y mae yna bobl sydd wirioneddol yn credu ac yn coleddu safbwynt
arbennig. Yr oedd y mater yn ymwneud â
goddefgarwch a derbyn gwahanol safbwyntiau a chredoau mewn cymdeithas
ddemocrataidd.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb
am eu cyfraniad i’r drafodaeth, ac i’r Ymgynghorydd AG am ei gyflwyniad
cynhwysfawr a groesawyd gan yr aelodau.
PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r cyflwyniad gan yr Ymgynghorydd
AG mewn perthynas â chanllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.
Dogfennau ategol: