Eitem ar yr agenda
GWEITHIO MEWN PARTNERIAETH MEWN PERTHYNAS AG IECHYD MEDDWL
Trafodaeth gyda chynrychiolwyr o Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir
Ddinbych, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Heddlu Gogledd Cymru ar eu
trefniadau gweithio mewn partneriaeth mewn perthynas â materion Iechyd Meddwl.
11.15 A.M- 12.00
P.M
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod
Arweiniol yr eitem fusnes Gweithio mewn Partneriaeth mewn perthynas ag Iechyd
Meddwl i'r Pwyllgor. Nodwyd bod y Cyngor, BIPBC a Heddlu Gogledd Cymru (HGC) i
gyd yn gweithio mewn partneriaeth yn rheolaidd yn y maes penodol hwn.
Eglurodd Cyd-bennaeth
Dros Dro y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol i'r Pwyllgor fod y tri sefydliad yn
gweithio mewn partneriaeth â'i gilydd, a rhoddodd amlinelliad byr o rôl y
Cyngor o fewn y bartneriaeth.
Eglurodd fod y tri
sefydliad yn cydweithio mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd ac yn bennaf maent yn
gweithio o fewn y swyddogaethau statudol yr oedd yn rhaid iddynt eu cyflawni.
Roedd hyn yn bennaf yn cynnwys materion yn ymwneud â'r Ddeddf Iechyd Meddwl a'r
Ddeddf Galluedd Meddyliol. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda phobl ag
anawsterau iechyd meddwl ac yr oedd angen ymyrraeth arnynt. Golygai bod angen
i'r tri phartner gydweithio'n rheolaidd.
Rhoddwyd yr enghraifft ganlynol:-
Pe bai aelod o'r gymuned
angen cael asesiad iechyd meddwl, byddai Gweithwyr Cymdeithasol a Meddygon yn
cymryd rhan yn yr asesiad ac yn ymweld â'r trigolyn. Pe bai’r trigolyn mewn
ardal benodol lle’r oedd yn anodd ei gyrraedd/chyrraedd, byddai’r Awdurdod
Lleol yn cysylltu â’r Llys Ynadon i gael gwarant, a byddai gofyn i Heddlu
Gogledd Cymru gynorthwyo. Roedd gan yr Heddlu bwerau o dan y Ddeddf Iechyd
Meddwl, oedd yn golygu eu bod yn gallu dal unigolion oedd yn ymddangos fel
petaent ag anawsterau Iechyd Meddwl. Byddai’r Heddlu’n cysylltu â’r Awdurdod
Lleol a’r Bwrdd Iechyd ac yna byddai’r tri sefydliad yn gweithio gyda’i gilydd
i sicrhau bod yr unigolyn hwnnw’n cael yr asesiad, y gefnogaeth a’r gofal yr
oedd ei angen arno/arni.
Aeth yn ei flaen i
egluro bod yna Dimau Meddwl Cymunedol, a bod y rhain yn bennaf yn weithwyr y
Bwrdd Iechyd a'r Awdurdod Lleol. Roeddent yn gweithio gyda phobl a oedd wedi'u
hatgyfeirio at y Gwasanaeth Iechyd Meddwl ac yr oedd angen gofal a chymorth
parhaus arnynt.
Eglurodd y Pennaeth
Gweithrediadau a Darparu Gwasanaethau (Canolog) (BIPBC) waith y Bwrdd Iechyd yn
y bartneriaeth. Roedd timau integredig yn gweithio gyda'i gilydd yn bennaf.
Roedd gan y Bwrdd Iechyd rwymedigaethau statudol i gyflawni o dan y Ddeddf Iechyd
Meddwl, y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Roedd gan y Bwrdd Iechyd
Wasanaeth Cyswllt Cyfiawnder Troseddol penodedig a oedd yn cefnogi galwadau
999, drwy roi cymorth a chyfarwyddyd pe bai unrhyw ofynion iechyd meddwl. Roedd
Timau Byrddau Iechyd wedi'u cydleoli hefyd o fewn yr Awdurdod Lleol.
Aeth y Pennaeth
Gweithrediadau ymlaen i ddweud y bu cynnydd sylweddol mewn Atgyfeiriadau Iechyd
Meddwl yn ystod ac ers pandemig COVID. Roedd problemau parhaus o ran recriwtio
a chadw staff, a gafodd effaith ar y gwasanaethau y gellid eu darparu a'r
gweithlu a oedd eisoes yn ei le. Roedd trafodaethau i fynd i’r afael â hyn yn
mynd rhagddynt.
Roedd y Bwrdd Iechyd yn
edrych ar wasanaethau eraill sydd ar gael i helpu pobl, heb fod angen iddynt
gael eu hatgyfeirio at y Gwasanaethau Statudol. Yn ddiweddar, lansiwyd
gwasanaeth 111 Press 2, sydd ar hyn o bryd yn gweithredu 7 diwrnod yr wythnos
8.30am-11pm. Bydd y Gwasanaeth hwn yn wasanaeth 24 awr yn y dyfodol ac ar gael
i holl aelodau'r Gymuned sydd angen cefnogaeth. Pe bai unrhyw un o'r galwadau
i'r gwasanaeth hwn yn cael eu hystyried yn un brys, yna byddai ambiwlans neu'r
Heddlu yn cael eu hanfon. Mae'r Bwrdd Iechyd yn gwneud y mwyaf o gydweithio ac
yn ei ystyried yn hanfodol i lwyddiant y bartneriaeth.
Dywedodd y Pennaeth
Gweithrediadau ei bod yn hollbwysig bod y gwaith partneriaeth rhwng yr Awdurdod
Lleol, y Bwrdd Iechyd a Heddlu Gogledd Cymru yn parhau.
Diolchodd y Cadeirydd
i'r Pennaeth Gweithrediadau am ei chyflwyniad.
Eglurodd y Ditectif
Ringyll, Vicki Keegans, rôl Heddlu Gogledd Cymru o fewn y Bartneriaeth Waith
a’i rôl o fewn yr Uned Diogelu Pobl Ddiamddiffyn.
Ailadroddodd y Ditectif
Ringyll fod y bartneriaeth yn gweithio'n dda ar draws y tri sefydliad.
Roedd perthynas waith
agos rhwng Personél yr Heddlu, yr Arweinydd Iechyd Meddwl o fewn y Bwrdd
Iechyd, ac asiantaethau eraill i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth
a Chanllawiau Cenedlaethol.
Mynegodd y Ditectif
Ringyll fod Iechyd Meddwl yn bwysig iawn ac y dylai fod yn rhan o fywyd pawb yn
y gymuned.
Eglurwyd bod yr Heddlu
yn ymateb i unigolion mewn argyfwng er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw niwed yn
cael ei achosi i'r unigolion na'r bobl o'u cwmpas. Cafwyd galwadau yn yr
ystafell reoli a phenderfynwyd a oedd angen ymatebion brys i sicrhau diogelwch
pawb dan sylw.
Y galwadau a ddaeth i'r
Ystafell Reoli ymhlith eraill oedd:
·
Dychmygu hunanladdiad
·
Hunan-niweidio gydag
arfau
·
Pryderon y cyhoedd
ynghylch unigolion yn rhoi eu hunain mewn perygl.
Gan weithredu ar y galwadau,
byddai ambiwlansys yn cael eu hanfon, a cheid cyfathrebu pellach gyda
phartneriaid iechyd a'r Nyrsys Iechyd Cyfiawnder Troseddol wedi'u Cydleoli.
Roedd y Nyrsys Iechyd
Cyfiawnder Troseddol wedi bod yn rhan o ddarparu hyfforddiant iechyd meddwl i
Swyddogion Heddlu ar y rheng flaen a staff swyddfa. Roedd y Nyrsys hefyd yn
cynnig cymorth a chyngor diogelu ar adeg o argyfwng. Mewn llawer o achosion
roedd angen cefnogi'r unigolyn dan sylw i fynd i'r ysbyty yn ddiogel er mwyn
cael ei asesu a'i drin.
Parhaodd y Ditectif Ringyll i
egluro bod gan yr Heddlu yr awdurdod i ddal aelodau diamddiffyn o'r Gymuned dan
Adran 136 (Iechyd Meddwl). Gweithredwyd ar hyn gydag ystyriaeth ofalus er mwyn
galluogi i’r unigolion hyn gael eu cludo i fan diogel.
Byddai pob Swyddog Heddlu yn
cyflwyno atgyfeiriad ynghylch yr unigolyn mewn perygl, a fyddai wedyn yn cael
ei rannu ag asiantaethau eraill, er enghraifft Gwasanaethau Cymdeithasol a'r
Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, i gynorthwyo gyda'r gofal a'r cymorth a roddir.
Byddai’r atgyfeiriad wedyn yn destun adolygiad pellach i benderfynu ar ymateb
addas i gefnogi’r unigolyn. Gallai gynnwys trafodaeth strategaeth aml-asiantaeth
o dan Ddeddfwriaeth Gweithdrefnau Cymru Gyfan. Adolygwyd yr holl unigolion a
ddelir o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl gan Swyddfa’r Ddeddf Iechyd Meddwl.
Rhannwyd ystadegau a data gyda Llywodraeth Cymru a Heddlu Gogledd Cymru er mwyn
gwella’r gwasanaeth a ddarperir.
Dywedodd y Ditectif Ringyll
fod Swyddogion yn cael mynediad rheolaidd at hyfforddiant, gan gynnwys
hyfforddiant Dementia. Roedd 86% o Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru wedi cael
hyfforddiant Iechyd Meddwl mewnol. Yn y misoedd nesaf byddai Swyddogion yn
mynychu Cwrs Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, a gynhelir gan y Gwasanaethau Iechyd
Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS).
Diolchodd y Cadeirydd i
gynrychiolwyr o'r tri sefydliad am eu hesboniadau manwl ynghylch y gwaith
gwerthfawr a wnaed ganddynt.
Trafododd Aelodau’r canlynol
mewn mwy o fanylder: -
·
Holodd y Cynghorydd
Martyn Hogg a ellid gwneud unrhyw welliannau i'r broses atgyfeirio ac a oedd
integreiddio gwasanaethau yn gweithio'n dda. Dywedodd swyddogion fod tendr ar
gael ar hyn o bryd, gyda’r nod o newid y system atgyfeirio i system o'r enw
Pronto. Byddai hyn yn symud y ddibyniaeth oddi wrth e-bostio. Yn hytrach,
byddai adroddiad awtomataidd yn cael ei anfon at asiantaethau er mwyn sicrhau
na fyddai unrhyw wybodaeth bwysig yn cael ei cholli. Roedd Gwasanaeth Un Pwynt
Mynediad ar waith, sef tîm aml-asiantaeth wedi'i hyfforddi i adolygu
atgyfeiriadau Iechyd Meddwl, er mwyn penderfynu ar y gwasanaeth a'r cymorth
mwyaf addas i'r unigolyn dan sylw.
·
Codwyd cwestiynau
ynghylch lle'r oedd unigolion a oedd wedi'u dal yn cael eu dal, ac a oedd y
lleoedd hyn yn cael eu hystyried yn ddigonol ar gyfer unigolyn â Phroblemau
Iechyd Meddwl. Eglurodd y Swyddogion Ymateb y byddai unigolyn sy'n cael ei ddal
dan Adran 136 yn cael ei ddal yn un o'r Unedau Adran 136 yn yr ysbyty fel man
diogel.
·
Holwyd pa mor sensitif oedd Dementia yn cael ei drin yn y
Gymuned a phwysigrwydd cefnogaeth i deuluoedd. Dywedodd swyddogion fod y Bwrdd
Iechyd ar hyn o bryd yn gweithio ar Strategaeth Dementia, a oedd yn cynnwys
llwybr i ofalwyr a theuluoedd gael cymorth.
Unwaith y byddai diagnosis o Ddementia yn cael ei roi, yn dibynnu ar
lefel yr angen, byddai cleifion yn cael eu gweld gan y Gwasanaethau Cymunedol a
byddai cynllun cymorth yn cael ei bennu er mwyn i asiantaethau allanol (fel
MIND) gymryd rhan.
Diolchodd y Cadeirydd
i'r swyddogion am y wybodaeth a ddarparwyd ganddynt i'r Pwyllgor a chroesawodd
ddiweddariadau cynnydd yn y dyfodol.
Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor:
Penderfynwyd: derbyn y wybodaeth a ddarparwyd ar arferion
gwaith Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol y Cyngor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr a Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas â materion iechyd meddwl, gan
gynnwys eu trefniadau gweithio mewn partneriaeth sy'n anelu at sicrhau
diogelwch unigolion mewn argyfwng a darparu cymorth priodol i'r rhai sydd ei
angen.