Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYLLIDEB 2023/24 - CYNIGION TERFYNOL

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Gyllideb 2023/24 – Adroddiad Cynigion Terfynol (a gylchlythyrwyd yn flaenorol).

 

Roedd yr adroddiad yn nodi goblygiadau Setliad Llywodraeth Leol 2023/24 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar gyfer 2023/24.

 

Roedd yn ofynnol yn gyfreithiol i'r Cyngor osod cyllideb gytbwys y gellid ei chyflawni cyn dechrau pob blwyddyn ariannol a gosod lefel canlyniadol Treth y Cyngor er mwyn caniatáu i filiau gael eu hanfon at drigolion.

 

Darparwyd trosolwg o broses y gyllideb ac effaith y Setliad Llywodraeth Leol. Gofynnwyd am gymeradwyaeth i gyllideb 2023/24 gan gynnwys lefel Treth y Cyngor.

 

Roedd y Cyngor wedi derbyn y Setliad Llywodraeth Leol Drafft ar gyfer 2023/24 ar 14 Rhagfyr a oedd wedi arwain at setliad cadarnhaol o 8.2%, o gymharu â chyfartaledd Cymru o 7.9%. Roedd disgwyl y Setliad Terfynol ddechrau mis Mawrth ond roedd Llywodraeth Cymru wedi nodi na ddylai fod llawer o newidiadau.

 

Roedd y setliad drafft yn cynnwys cynnydd o 3.0% ar gyfartaledd mewn setliad dangosol ar gyfer 2024/25. Er bod y cynnydd wedi'i groesawu, byddai angen gwneud penderfyniadau anodd dros y blynyddoedd i ddod.

 

Dangoswyd y cynigion terfynol i fantoli cyllideb 2023/24 yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

Cyfanswm y pwysau a nodwyd yn y cynigion terfynol oedd £25.116m. Byddai angen setliad drafft o tua 14.5% er mwyn ariannu'r holl bwysau. Cynhyrchodd y setliad net o +8.2% £14.231m o refeniw ychwanegol gan adael bwlch ariannu o £10.885m.

 

Cafodd y canlynol eu cynnwys yn y cynigion i bontio’r bwlch ariannu –

• Cyfanswm yr arbedion yn y Gyllideb Ariannu Cyfalaf oedd £1.067m.

• Roedd y cronfeydd wrth gefn corfforaethol yn ymwneud â'r elfen nas defnyddiwyd o'r gronfa wrth gefn covid a roddwyd o'r neilltu fel rhan o broses cyllideb y flwyddyn flaenorol yn dod i £1.200m.

• Roedd effaith yr adolygiad actiwaraidd tair blynedd o Gronfa Bensiynau Clwyd yn golygu bod gan y Cyngor warged bach yn hytrach na diffyg sylweddol a arweiniodd at arbediad o £3.828m.

• Cadarnhawyd yr arbedion o ddod â'r Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau yn ôl yn fewnol a gellir rhyddhau £300k pellach.

• Gofynnwyd i wasanaethau nodi 1% o arbedion/effeithlonrwydd a oedd yn nodi £961k o arbedion (wedi'u cynnwys yn llawn yn Atodiad 3 yr adroddiad).

• Ffioedd a Thaliadau Roedd Cyllidebau Incwm wedi'u chwyddo yn unol â'r Polisi Ffioedd a Thaliadau y cytunwyd arno a oedd yn cynyddu incwm allanol o £423k

• Roedd arbedion yn ymwneud â rhyw elfen o newid gwasanaeth yn dod i £371k.

• Cyfanswm y gostyngiadau technegol yn y gyllideb na chafodd unrhyw effaith ar y gwasanaethau a ddarperir oedd £167k

• Gofynnwyd hefyd i ysgolion gynllunio ar gyfer arbedion effeithlonrwydd o 1% sef cyfanswm o £816k.

• Argymhellwyd codi Treth y Cyngor 3.8% a fyddai, ynghyd â mân newidiadau i Sylfaen Treth y Cyngor, yn cynhyrchu £2.713mo refeniw ychwanegol. Roedd y lefel hon ar ben isaf y codiadau dangosol ledled Cymru. Roedd hefyd yn is na'r cyfartaledd o 4.35% dros y pedair blynedd diwethaf.

 

Yn dilyn trafodaethau diolchodd yr aelodau i'r Aelod Arweiniol a'r Swyddogion am eu holl waith yn darparu cyllideb gytbwys a fu'n broses anodd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis gymeradwyo adroddiad y Gyllideb, a eiliwyd gan y Cynghorydd Barry Mellor.

 

Yn dilyn pleidlais, y canlyniadau oedd –

 

Cymeradwyo Adroddiad y Gyllideb – 38

Ymatal - 1

Yn erbyn – 3

 

Felly, yr oedd

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor Llawn:

• Nodi effaith y Setliad Llywodraeth Leol Drafft 2023/24

• Cefnogi'r cynigion a amlinellir yn Atodiad 1, ac y manylir arnynt yn Adran 4, a chwblhau'r gyllideb ar gyfer 2023/24.

• Cymeradwyo'r cynnydd cyfartalog o 3.8% yn Nhreth y Cyngor a gynigir

• Dirprwyo awdurdod i'r Pennaeth Cyllid ac Eiddo mewn ymgynghoriad â'r Aelod Arweiniol dros Gyllid i addasu'r defnydd o arian parod sydd wedi'i gynnwys yn y cynigion cyllidebol hyd at £500k os oes symudiad rhwng ffigurau'r setliad drafft a'r setliad terfynol er mwyn caniatáu hynny. gosod Treth y Cyngor mewn modd amserol.

 

 

Dogfennau ategol: