Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD PERFFORMIAD CEFNDY 2022-23

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol Dros Dro a'r Rheolwr Gwasanaeth Gweithredol i roi trosolwg o berfformiad presennol Cefndy o fewn y flwyddyn ariannol hon ac amodau'r farchnad y mae'n gweithredu oddi mewn iddi.

11:15 a.m. – 11:45 a.m.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Cynghorydd Elen Heaton, Adroddiad Perfformiad Cefndy 2022-23 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).  Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o berfformiad Cefndy ar hyn o bryd yn y flwyddyn ariannol 2022-23 ac amodau'r farchnad y mae'n gweithredu ynddi.

 

Cadarnhawyd bod Cefndy yn cynhyrchu cymhorthion byw amrywiol ac wedi bodoli ers oddeutu 40 mlynedd.   Roedd llawer o aelodau staff wedi gweithio yng Nghefndy ers sawl blwyddyn a’r cyfartaledd o ran hyd y gwasanaeth yw 17 mlynedd.

 

Eglurodd Pennaeth Dros Dro Cefnogaeth Gymunedol, Ann Lloyd, bod adroddiadau wedi’u cyflwyno i’r Pwyllgor Craffu ers sawl blwyddyn.   Bu amhariad sylweddol ac ansefydlogrwydd o ran cost i gadwyni cyflenwi byd-eang ers dechrau pandemig Covid, gan gynyddu gallu Cefndy i gystadlu yn erbyn mewnforion.  Roedd hyn wedi cael effaith gadarnhaol gyda gwerthiant yn cynyddu o ran cwsmeriaid presennol ac roedd wedi gweld rhywfaint o fusnes ychwanegol gan gwsmeriaid newydd.

 

Roedd Cefndy wedi wynebu rhywfaint o bwysau cyllidebol na ellir ei ragweld yn ystod y flwyddyn ariannol hon gan gynnwys costau ynni ychwanegol, cynnydd uwch na'r disgwyl i gyflogau ac atgyweiriadau brys i adeiladau.

 

Gwnaed gwaith dros y 18-24 mis blaenorol i gynorthwyo i sefydlogi’r gwasanaeth.  

 

Yr adborth a gafwyd gan un o gwsmeriaid mwyaf Cefndy yw y dylai Cefndy fod yn adeiladu ar y ffaith eu bod yn Wneuthurwr Prydeinig, ac yn sicrhau gwerth cymdeithasol.   O ganlyniad i'r adborth, cynhaliodd y Prif Reolwr Marchnata Strategol, sesiwn i gefnogi'r tîm i ddatblygu cynllun gweithredu ynghylch cynyddu gwerthiant o un busnes i’r llall â chwsmeriaid presennol.  Roedd swyddogion hefyd yn ystyried cyfleoedd i ailddechrau perthnasoedd â chwsmeriaid blaenorol yn seiliedig ar y cyfleoedd presennol yn y farchnad a'r gallu i gystadlu (ar ystod o gynhyrchion) â mewnforion.

 

Gan fod rhai swyddi gwag yng Nghefndy, roedd yn gyfle i adolygu’r model busnes.

 

Roedd gwaith ar y gweill gan fod yr adeilad angen atgyweiriadau sylweddol.   Roedd angen disodli’r System Echdynnu i adlewyrchu newid mewn deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.   Roedd rhai eitemau o offer y tu hwnt i’w hoes ac nid oedd darnau sbâr ar gael mwyach.    Roedd achos busnes yn cael ei ddatblygu i’w gyflwyno i’r Grŵp Buddsoddi Strategol am £400mil.

 

Gan fod yr Atodiad yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol cynigodd y Cynghorydd Carol Holliday fod y cyfarfod yn symud i Ran II ar gyfer gweddill y drafodaeth, eiliodd y Cynghorydd Andrea Tomlin y cynnig hwn.   Penderfynodd y Pwyllgor i :

 

WAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD o dan Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn ar y sail ei fod yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau gwnaeth yr Aelod Arweiniol a swyddogion:

 

·         gynghori er bod gan Cefndy bum cwsmer mawr yr oedd yn archwilio cyfleoedd datblygu â nhw, roedd yn cyflawni busnes gyda dros 100 o gwsmeriaid unigol gwahanol, gan gynnwys awdurdodau lleol eraill

·         cynghori bod Cefndy yn darparu cyfleoedd cyflogaeth gwerthfawr i bobl anabl.   Roedd Cefndy yn wahanol i Wasanaethau Cyfleoedd Gwaith y Cyngor gan fod y rhai a oedd yn cael eu cyflogi yng Nghefndy yn weithwyr cyflogedig y Cyngor ac felly’n destun amodau a thelerau cyflogaeth y Cyngor   

·         darparu manylion costau untro annisgwyl a brofwyd yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol, y pwysau annisgwyl eraill a’r mesurau a gymerwyd i fynd i’r afael â nhw ynghyd â mesurau lliniaru risg yn y dyfodol

·         cynghori bod yr holl gyfleoedd wedi’u harchwilio gyda’r nod o ddatblygu a chynnal y busnes ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys cynyddu y cyfleoedd gwaith partneriaeth gyda Choleg Llandrillo pan agorodd y safle newydd yn y Rhyl, ger eiddo Cefndy.

 

Felly, ar ddiwedd trafodaeth fanwl, fe wnaeth y Pwyllgor:

 

Benderfynu: yn amodol ar y sylwadau uchod –

 

(i)   derbyn y dadansoddiad perfformiad, gwerthiant a chostau a gyflwynwyd ar gyfer Cefndy ar gyfer 2022/23 hyd yma, gan gydnabod y pwysau annisgwyl ar y gyllideb a wynebwyd a’r gwaith a wnaed i liniaru’r effaith;

(ii) cefnogi’r gwaith a wnaed yng Nghefndy a chyflawniadau’r model busnes a weithredir o fewn Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol y Cyngor;

(iii)                gofyn bod Adroddiad Gwybodaeth yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol yn nodi dadansoddiad perfformiad diwedd blwyddyn Cefndy ar gyfer 2022/23.

(iv)   Gofyn bod adroddiad perfformiad blynyddol Cefndy ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, gan gynnwys dadansoddiad o ddarpariaeth ei amcanion ariannol, busnes a lles cymdeithasol, yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn ystod yr haf 2024; a

(v) gofyn am gael trefnu ymweliad ar gyfer holl aelodau’r Pwyllgor i safle Cefndy i weld y cyfleusterau gweithgynhyrchu, y gwaith cynhyrchu a wneir yno a’r cyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael ac i gwrdd â’r gweithlu.

 

 

 

Dogfennau ategol: