Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYLLIDEB 2023/24 – CYNIGION TERFYNOL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) sy’n nodi goblygiadau Setliad Llywodraeth Leol 2023/24 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar gyfer 2023/24.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi effaith Setliad Drafft Llywodraeth Leol 2023/24;

 

(b)       cefnogi’r cynigion a amlinellir yn Atodiad 1 yr adroddiad, ac y manylir arnynt yn Adran 4 yr adroddiad, a’u hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn llunio’r gyllideb yn derfynol ar gyfer 2023/24;

 

(c)        argymell i’r Cyngor y cynnydd cyfartalog arfaethedig o 3.8% yn Nhreth y Cyngor; 

 

(d)       argymell i’r Cyngor fod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol Cyllid i addasu’r defnydd o arian sydd wedi’i gynnwys yng nghynigion y gyllideb o hyd at £500mil os oes yna symud rhwng ffigyrau’r setliad drafft a’r setliad terfynol er mwyn gallu gosod Treth y Cyngor yn amserol, a

 

(e)       chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 5 i’r adroddiad).

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad a oedd yn amlinellu goblygiadau Setliad drafft Llywodraeth Leol 2023/24 a'r cynigion ar gyfer cyllideb derfynol 2023/24, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor.  Cyfeiriodd yr Arweinydd at Weithdy Cyllideb y Cyngor a gynhaliwyd yr wythnos flaenorol, y daeth llawer iddo, ac ychwanegodd y Cynghorydd Ellis fod aelodau wedi cydweithio’n dda ar y broses i bennu’r gyllideb, a chanmolodd y Pennaeth Cyllid a’i dîm ar y gwaith hwnnw. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Ellis a’r Pennaeth Cyllid drosolwg o broses y gyllideb a’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf, gan ymhelaethu ar y cynigion i’w hystyried a’u hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn pennu’r gyllideb ar gyfer 2023/24.  Roedd y setliad drafft wedi arwain at setliad cadarnhaol o 8.2% (o gymharu â chyfartaledd Cymru o 7.9%) a disgwylir setliad terfynol ddechrau mis Mawrth 2023.  Roedd y setliad yn cynnwys yr holl godiad cyflog ar gyfer swyddi dysgu a swyddi nad ydynt yn rhai dysgu, a’r cyfrifoldeb i dalu Cyflog Byw Gwirioneddol i staff gofal cymdeithasol.   Roedd pwysau o £25.116m wedi'u nodi ac roedd y setliad o +8.2% wedi cynhyrchu £14.231m gan adael bwlch ariannu o £10.885m, a chynigion i lenwi'r bwlch hwnnw wedi'u nodi yn yr adroddiad a'u hegluro ymhellach yn y cyfarfod.  Roedd cynnydd o 3.8% yn Nhreth y Cyngor wedi’i gynnig i gynhyrchu £2.13m o refeniw ychwanegol.   Gan fod y setliad terfynol yn hwyr, argymhellwyd bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo er mwyn galluogi addasiadau arian parod yng nghynigion y gyllideb hyd at £500,000.   Roedd y setliad drafft hefyd wedi cynnwys codiad setliad cyfartalog dangosol o 3.0% ar gyfer 2024/25.  Yn olaf, ategwyd yr ymgynghoriad helaeth ar y broses gosod cyllideb a chyfranogiad yr holl aelodau yn y broses honno.

 

Talodd y Cabinet deyrnged i waith y Pennaeth Cyllid a'i dîm ar y gyllideb, gan ganmol yr ymgysylltiad ehangach â'r holl fudd-ddeiliaid ac aelodau etholedig fel rhan o broses pennu’r gyllideb, a oedd wedi bod yn glir, yn dryloyw ac yn gynhwysol. Croesawyd hefyd y setliad gwell na’r disgwyl gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â rhai o’r pwysau a nodwyd a’r gwaith rheoli cyllideb effeithiol a gynigiwyd i gau’r bwlch ariannu. Bu modd sicrhau codiad arfaethedig o 3.8% yn Nhreth y Cyngor, a oedd ar ben isaf y codiadau dangosol ledled Cymru.

 

Wrth ystyried yr adroddiad cafwyd dadl faith ar wariant priffyrdd.  Gofynnodd y Cynghorydd Emrys Wynne am sicrwydd ynghylch digonolrwydd y buddsoddiad uwch o £4m yn y rhaglen gyfalaf priffyrdd wrth symud ymlaen, fel y cynigiwyd gan y Cyngor.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Bobby Feeley at y difrod difrifol a achoswyd i rai o ffyrdd y sir o ganlyniad i’r tywydd garw eithafol dros y misoedd diwethaf, na ellid bod wedi ei ragweld, ac roedd wedi creu ôl-groniad enfawr o waith atgyweirio a fyddai angen cyllid ar ei gyfer.  Amlygodd y Cynghorydd Terry Mendies effaith chwyddiant ar y gwariant o £4m a’r angen dirfawr am fuddsoddiad mewn ffyrdd gwledig. Rhoddodd enghreifftiau o ffyrdd bron yn amhosibl eu croesi yn ward Dyffryn Alun, gyda rhai ffyrdd yn darparu un llwybr, ac felly yn rhaff achub, ar gyfer y cymunedau hynny.  Awgrymodd y dylid ailedrych ar y gyllideb, ac y dylid cynyddu gwariant priffyrdd o 3.8% o leiaf, yn unol â'r cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor.

 

Ymatebodd Aelodau Arweiniol y Cabinet a swyddogion perthnasol i’r materion a godwyd, a’r cwestiynau a’r sylwadau dilynol ar gynnal a chadw priffyrdd fel a ganlyn -

 

·         roedd y buddsoddiad o £4m yn y rhaglen gyfalaf priffyrdd a gynigiwyd gan y Cyngor wedi'i gynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2023/24, yn unol â'r ymrwymiad gwreiddiol i ariannu'r buddsoddiad dros bum mlynedd.  Fodd bynnag, roedd angen cymeradwyo'r buddsoddiad cynyddol hwnnw'n flynyddol fel rhan o broses pennu’r gyllideb

·         adrodd ar strategaeth a blaenoriaethu gwariant priffyrdd, gyda rhaglen priffyrdd cyfalaf drafft ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn cael ei drafod gyda’r aelodau yn y rownd bresennol o gyfarfodydd Grŵp Aelodau Ardal i gael adborth cyn i’r drafft gael ei gwblhau. Er bod y cynnydd mewn chwyddiant yn effeithio ar yr hyn y gellid ei gyflawni, roedd y cyllid ychwanegol eisoes yn gwneud gwahaniaeth, a phe bai’r buddsoddiad cynyddol yn cael ei gynnal dros nifer o flynyddoedd byddai’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i ansawdd rhwydwaith ffyrdd y sir.

·         Cydnabu’r Cynghorydd Barry Mellor gyflwr gwael rhai o ffyrdd y sir a derbyniodd gynnig gan y Cynghorydd Mendies i fynd gydag o ar daith o amgylch ei ward; byddai unrhyw fuddsoddiad ychwanegol mewn priffyrdd yn cael ei groesawu ond roedd angen cydbwyso’r gofynion a’r pwysau ar draws holl wasanaethau’r cyngor wrth osod y gyllideb a chadw codiadau Treth y Cyngor mor isel â phosibl

·         ariannwyd y buddsoddiad cynyddol o £4m yn y rhaglen gyfalaf priffyrdd drwy fenthyca ychwanegol, gydag amcangyfrif o fenthyca ychwanegol o £235k o gyllid cyfalaf yn 2023/24; roedd lle fel rhan o’r gyllideb i ddefnyddio £131k i ariannu prosiectau cyfalaf yn ystod y flwyddyn a fyddai’n cyfateb i fuddsoddiad cyfalaf o £2.2m – gellid defnyddio’r mecanwaith hwnnw i wneud cais am fuddsoddiad priffyrdd ychwanegol a byddai’n amodol ar y prosesau penderfynu arferol

·         Roedd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yn cydnabod y dirywiad mewn cyflwr ffyrdd mewn rhai ardaloedd ond hefyd y gwelliannau o ganlyniad i'r buddsoddiad ychwanegol.  O ystyried y broses helaeth a gynhaliwyd i lywio’r gwaith o bennu’r gyllideb a gwneud penderfyniadau, nid oedd yn ystyried ei bod yn briodol penderfynu ar ddyrannu elfennau cyllidebol penodol ar gyfer gwasanaethau yn y fforwm hwn. Roedd wedi’i siomi nad oedd y mater wedi’i godi’n flaenorol fel rhan o’r broses gynhwysfawr honno.

·         cydnabuwyd bod y tywydd yn effeithio ar gyflwr y ffyrdd a bod llawer o ffyrdd ar draws y sir mewn cyflwr gwael.  Nid oedd y buddsoddiad o £4m yn gyfrifiad gwyddonol gan y gwasanaeth i sicrhau bod yr holl ffyrdd mewn cyflwr da - byddai angen llawer mwy o arian.  Er y byddai'r gwasanaeth yn amlwg yn hoffi mwy o ran dyraniad cyfalaf, roedd hefyd yn deall cyfyngiadau sefyllfa gyllidebol gyffredinol y cyngor.  Cyn y dyraniad o £4m roedd y gwasanaeth yn cael tua £2.5m, oedd yn golygu bod ffyrdd bach yn dioddef oherwydd bod y ffocws ar y ffyrdd hynny oedd yn peri'r risg fwyaf ac yn cael eu defnyddio fwyaf.  Roedd y dyraniad o £4m wedi galluogi mwy o ffocws ar ffyrdd bach gyda thua £1.5m wedi'i glustnodi ar gyfer ffyrdd bach gwledig a threfol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, er eglurder, i gofnodi yn y cofnodion nad oedd unrhyw gronfa Ffyniant Bro wedi’i ddyfarnu i’r Cyngor yn berthnasol i’r broses o bennu cyllideb ar gyfer 2023/24, a oedd yn gwbl ar wahân.  Mewn ymateb i amrywiol gwestiynau eraill a godwyd ar yr adroddiad, eglurodd yr Aelod Arweiniol a swyddogion -

 

·         y pwysau cynyddol ar gyflwyno'r rhaglen Prydau Ysgol am Ddim Cynradd i bawb sy'n ymwneud â'r grant ar gyfer y disgyblion hynny nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim; oherwydd yr oedi yn y data ni ellid hawlio’r elfen honno’n ôl gan Lywodraeth Cymru tan y flwyddyn ganlynol pan fyddai’r ffigur gwirioneddol yn hysbys

·         roedd y cynnydd yn y gyfradd codi tâl ddyddiol ar gyfer rheoli prosiect yn unol â’r gyfradd gyfredol ac yn ymwneud yn bennaf â chostau untro ar draws y cyngor. Roedd y rhan fwyaf wedi’u hariannu gan grant ac yn annhebygol o effeithio ar y gyllideb sylfaenol

·         roedd gofal a chymorth o’r maint cywir a’r gostyngiad yn nifer y galwadau gofal lle mae angen mwy nag un gofalwr yn bosibl oherwydd y defnydd o offer ac addasiadau, ac felly cafwyd darpariaeth gwasanaeth mwy urddasol a chost-effeithiol. Roedd y cynnydd mewn micro-ddarparwyr a gwirfoddolwyr yn y system ofal gyffredinol hefyd yn gam cadarnhaol, gan ddarparu mwy o ddewis i ddinasyddion ac yn arfer ffordd dda o weithio

·         Roedd dileu budd-dal tai yn ymwneud ar y cyfan â gordaliadau - gwnaed rhagdybiaethau ymlaen llaw pan fyddai rhywun yn dod i mewn i'r system budd-daliadau er mwyn osgoi oedi cyn talu wrth ddisgwyl data gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Roedd y Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau wedi perfformio'n dda o dan Civica a byddai'r Cyngor yn adeiladu ar y gwaith hwnnw gan fod y gwasanaeth yn ôl yn fewnol.

 

Wrth gloi’r eitem, amlygodd yr Arweinydd y ddadl dda a’r cyfraniadau a wnaed i gynigion gosod y gyllideb, a fyddai’n cael eu hystyried gan y Cyngor llawn ar 31 Ionawr.  Croesawodd y setliad gwell na’r disgwyl gan Lywodraeth Cymru a oedd wedi cydnabod y pwysau ar lywodraeth leol, a thalodd deyrnged i waith Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn y broses lobïo honno a hefyd i’r cyn Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, y bu iddo etifeddu, drwy CLlLC, ddeialog agored gyda Llywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi effaith Setliad Drafft Llywodraeth Leol 2023/24;

 

(b)       cefnogi’r cynigion a amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad, ac y manylir arnynt yn Adran 4 yr adroddiad, ac yn eu hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn llunio’r gyllideb yn derfynol ar gyfer 2023/24;

 

(c)       argymell i’r Cyngor y cynnydd cyfartalog arfaethedig o 3.8% yn Nhreth y Cyngor; 

 

(d)       argymell i’r Cyngor fod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol Cyllid i addasu’r defnydd o arian sydd wedi’i gynnwys yng nghynigion y gyllideb o hyd at £500mil os oes yna symud rhwng ffigyrau’r setliad drafft a’r setliad terfynol er mwyn gallu gosod Treth y Cyngor yn amserol, a

 

(e)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 5 i’r adroddiad).

 

Ar y pwynt hwn (12 dydd) cymerodd y pwyllgor egwyl am luniaeth.

 

Dogfennau ategol: