Eitem ar yr agenda
ADOLYGIAD O BENDERFYNIAD Y CABINET MEWN PERTHYNAS AG ARGYMHELLIAD Y GRŴP GOSOD FFIOEDD RHANBARTHOL
Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm)
sy’n gofyn i’r Pwyllgor, yn unol â Rheolau Gweithdrefn Galw i Mewn y Cyngor, i
adolygu’r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 13 Rhagfyr 2022 (copi ynghlwm).
10.10 – 11.00 a.m.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd y
swyddogion a'r Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Elen Heaton i'r cyfarfod. Rhoddwyd
gwybodaeth gefndir i'r aelodau a'r rhesymau dros y cais am alw i mewn. Rhoddodd
y Cadeirydd ddisgrifiad manwl i'r aelodau o'r weithdrefn galw i mewn.
Atgoffwyd yr aelodau mai’r rheswm am yr alwad oedd fel y nodwyd yn yr
adroddiad:
“Gofyn i’r Cabinet ailystyried ei benderfyniad ar 13
Rhagfyr 2022 i dderbyn argymhellion y Grŵp Ffioedd o ystyried bod Gwynedd
ac Ynys Môn yn argymell talu llawer mwy i ddarparwyr gofal gyda golwg ar
sicrhau cynaladwyedd y sector gofal cymdeithasol yn eu hardaloedd yn y dyfodol.”
Dywedodd y Swyddog Monitro
wrth yr aelodau mai atodiad B i’r adroddiad oedd yr adroddiad a gyflwynwyd i’r
Cabinet ym mis Rhagfyr 2022. Ystyriwyd bod yr adroddiad hwnnw’n cynnwys
gwybodaeth eithriedig o dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 1972. Felly, roedd
y wasg a'r cyhoedd wedi'u heithrio rhag ystyried yr adroddiad hwnnw yng
nghyfarfod y Cabinet. Roedd yr eithriad wedi'i ganiatáu yn unol â pharagraff
14, rhan 4 o atodlen 12A o Ddeddf 1972 gan fod yr adroddiad yn cynnwys
gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol neu fusnes unigolyn neu sefydliad,
gan gynnwys materion yr awdurdod lleol.
Cynigiodd y Cynghorydd Alan
James bod y cyfarfod yn cael ei symud i fusnes cyfrinachol Rhan II ar gyfer y
drafodaeth ar weddill yr eitem fusnes ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd
Delyth Jones. Wrth ei gyflwyno i bleidlais roedd 6 aelod o blaid gwahardd y
wasg a'r cyhoedd a 3 yn erbyn. Felly:
PENDERFYNWYD o dan Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg
a'r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn ar y sail ei fod
yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14
Rhan 4 o Atodlen 12A. Deddf Llywodraeth Leol 1972.
GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD
Rhoddodd y
Cynghorydd Merfyn Parry y rhesymeg dros alw penderfyniad y Cabinet i mewn ar
gyfer craffu manwl i’r aelodau.
Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Elen Heaton
nad oedd cam nesaf y drefn, sef ymgynghori â darparwyr, wedi dechrau eto
oherwydd bod penderfyniad y Cabinet yn cael ei alw i mewn i’w graffu.
Pwysleisiodd hefyd, er bod y Cabinet eleni wedi cytuno i dderbyn holl
argymhellion y Grŵp Gosod Ffioedd Rhanbarthol, mewn blynyddoedd blaenorol
ac o dan weinyddiaeth wahanol roedd y penderfyniad blynyddol hwn wedi'i wneud
trwy broses Penderfyniad Dirprwyedig yr Aelodau Arweiniol. Pwysleisiodd mai'r data a ddefnyddiwyd gan y
Grŵp Ffioedd wrth lunio'r argymhellion oedd y wybodaeth ddiweddaraf a
ddarparwyd i'r Grŵp gan y darparwyr hynny a oedd yn fodlon rhoi data
iddynt. Yn ogystal â defnyddio'r data oedd ar gael roedd y Grŵp Ffioedd
wedi dilyn methodoleg gadarn er mwyn cyfrifo'r lefelau ffioedd a argymhellir.
Caniataodd y Cadeirydd i'r holl lofnodwyr a oedd yn
bresennol yn y cyfarfod gyflwyno eu rhesymau dros alw'r penderfyniad a rhoddwyd
amser i’r swyddogion a’r Aelod Arweiniol i ymateb hefyd. Yn ystod y drafodaeth:
- pwysleisiodd swyddogion
yr angen i ymrwymo i gynllun sydd fel awdurdod yn fforddiadwy ac y gellid
ei gynnal.
- eglurwyd mai rôl y
Grŵp Ffioedd oedd sefydlu gwir gost gofal yng Ngogledd Cymru ar sail
y data sydd ar gael iddynt. Fodd bynnag, wrth lunio’r lefelau ffioedd a
argymhellir ar gyfer 2023/24 roedd y Grŵp Ffioedd hefyd wedi
defnyddio methodoleg gadarn a oedd yn ystyried goblygiadau talu’r Cyflog Byw
Gwirioneddol i staff yn ogystal â’r gyfradd chwyddiant uchel a oedd yn
bodoli ar yr adeg pan oedd y lefelau ffioedd arfaethedig yn cael eu
cyfrifo.
- amlinellwyd y gwahanol
ddulliau a ddefnyddiwyd i ymgysylltu â darparwyr gofal i gasglu data ar
gostau gwirioneddol darparu gofal. Fodd bynnag, er gwaethaf y gwahanol
ddewisiadau sydd ar gael i ddarparwyr i’w galluogi i gyflwyno’r wybodaeth
ofynnol, roedd nifer ohonynt yn amharod i ymgysylltu â’r broses.
- pwysleisiwyd bod drws yr
Awdurdod bob amser yn agored i ddarparwyr ddod i drafod unrhyw rwystrau
neu bwysau y daethant ar eu traws wrth ddarparu gofal a gafodd ei gaffael
gan yr Awdurdod i drigolion Sir Ddinbych. Ni fyddai'r Awdurdod yn caniatáu
i unrhyw ddarparwr ddioddef pe bai'n ymgysylltu â'r Cyngor ac yn gallu
cyfiawnhau pam fod angen codi ffioedd cyn belled ag y gallent ddangos
defnydd effeithiol ac effeithlon o arian cyhoeddus.
- roedd gan bob ardal
awdurdod lleol ei phroffil demograffig unigryw ei hun felly roedd
cyflenwad a galw yn amrywio rhwng gwahanol ardaloedd daearyddol.
- cadarnhawyd bod pob un
o'r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru ynghyd â'r Bwrdd Iechyd yn
aelodau o'r Grŵp Ffioedd Rhanbarthol ac wedi cyfrannu at y gwaith o
gyfrifo'r lefelau ffioedd a argymhellir. Roedd hyn yn cynnwys Gwynedd ac
Ynys Môn. Y bwriad nawr oedd ymgynghori â darparwyr gofal ar y lefelau
ffioedd hyn fel rhan o'r broses gosod ffioedd lleol ar gyfer 2023/24.
- roedd y ffioedd a
argymhellwyd yn ffigwr dangosol a oedd o gymorth gyda'r broses o osod y
gyllideb. Fodd bynnag, roedd y
ffioedd a delir i ddarparwyr gofal ar gyfer pob unigolyn yn amrywio, gan
fod hyn yn seiliedig ar asesiad o anghenion pob unigolyn. Pwysleisiwyd bod Gofal Cymdeithasol yn
wasanaeth a arweinir gan alw.
- cadarnhawyd bod gan y Cyngor berthynas waith da
gyda'i ddarparwyr gofal a bod y cynnydd arfaethedig ar gyfer 2023/24 yn un
o'r rhai mwyaf hael o ran gwerth ariannol ers nifer o flynyddoedd.
Roedd yr aelodau'n falch o nodi bod y chwe awdurdod lleol
a'r Bwrdd Iechyd wedi cydweithio a chyfathrebu â'i gilydd mewn perthynas â'r
mater hwn. Fe wnaethant ofyn i bob ymdrech gael ei wneud o hyd i annog
darparwyr gofal i ymgysylltu’n rheolaidd ac yn effeithiol ag awdurdodau lleol
a’r Grŵp Ffioedd Rhanbarthol yn y dyfodol, er mwyn i’r Grŵp gael y
data diweddaraf perthnasol gan y byddai hyn yn helpu i osod lefelau ffioedd
realistig a fforddiadwy wrth symud ymlaen.
Nododd yr aelodau hefyd yr angen i fodloni’r angen i bob
unigolyn wneud yr hyn sydd orau i bob unigolyn.
Cafodd y ddwy ochr i’r
drafodaeth gyfle i grynhoi’r rhesymau a’r rhesymeg dros eu safbwyntiau. Ar
ddiwedd y crynodeb cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry y canlynol:
“Bod y Pwyllgor yn gofyn i’r
Cabinet ailystyried eu penderfyniad a wnaed ar 13 Rhagfyr 2022 ac wrth wneud
hynny y dylid ymgynghori ymhellach â darparwyr a Fforwm Gofal Cymru fel corff
cynrychioliadol i sicrhau bod y ffioedd yn briodol ac yn gynaliadwy, a hefyd i
ddefnyddio’r data newydd cyfredol i ail fynd i’r afael â’r ffigyrau.”
Cyn gofyn i'r Pwyllgor
bleidleisio ar y cynnig uchod gofynnodd y Cadeirydd i'r Swyddog Monitro egluro
i aelodau'r Pwyllgor beth oedd eu dewisiadau mewn perthynas â'r penderfyniad a
oedd wedi'i alw i mewn. Eglurodd y Swyddog Monitro y gallai’r Pwyllgor,
wrth bleidleisio ar yr argymhelliad arfaethedig, ofyn i’r Cabinet:
·
ailystyried ei benderfyniad gwreiddiol ar sail y seiliau a nodwyd
·
cadarnhau’r penderfyniad gwreiddiol fel y'i gwnaed gan y Cabinet; neu
·
argymell i'r Cabinet y dylid cadarnhau ei benderfyniad gwreiddiol ond wrth
gadarnhau’r penderfyniad y dylai'r Cabinet archwilio ymhellach yr agweddau a
amlinellwyd yn yr argymhelliad a gyflwynwyd.
Yna cafwyd pleidlais ar yr argymhelliad a gafodd ei gynnig gan y Cynghorydd
Merfyn Parry, a’i eilio gan y Cynghorydd Pauline Edwards. Pleidleisiodd y
Pwyllgor fel a ganlyn:
Pleidleisiodd 4 o aelodau o
blaid yr argymhelliad
Pleidleisiodd 5 o aelodau yn
erbyn yr argymhelliad
Ataliodd 1 aelod
O ganlyniad, cafodd yr
argymhelliad ei golli.
Yna gofynnodd y Swyddog
Monitro i'r Pwyllgor egluro a oedd yn dymuno argymell i'r Cabinet ei fod yn
archwilio unrhyw rai o'r agweddau a amlinellwyd yn yr argymhelliad arfaethedig
wrth roi ei benderfyniad gwreiddiol ar waith. Dywedodd aelodau'r Pwyllgor
na fyddent yn gofyn i'r Cabinet ddilyn y trywydd hwnnw.
Felly, ar ddiwedd trafodaeth
fanwl, fe wnaeth y Pwyllgor drwy bleidlais fwyafrifol:
Penderfynu: - peidio â chyfeirio penderfyniad ‘Argymhelliad y
Grŵp Gosod Ffioedd Rhanbarthol’, a gymerwyd gan y Cabinet ar 13 Rhagfyr
2022, yn ôl i’r Cabinet i’w ystyried ymhellach.
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro,
ar sail penderfyniad y Pwyllgor, y byddai’r Cabinet yn awr mewn sefyllfa i
symud ymlaen i roi ei benderfyniad gwreiddiol ar waith.
Ar y pwynt hwn cymerodd y
pwyllgor egwyl.
RHAN I
Dogfennau ategol:
- Call-in Cover Report 190123, Eitem 5. PDF 305 KB
- Call-in Report 190123 Annex A, Eitem 5. PDF 289 KB
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 5./3 yn gyfyngedig