Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 01/2022/0982/PS - TIR WRTH YMYL YSGOL PENDREF, FFORDD GWAENYNOG, DINBYCH
Ystyried cais am
amrywiad i amodau 2, 6 a 8 o ganiatâd
cynllunio 01/2022/0690 i newid gosodiad, cynllun rheoli tirlunio a mesurau
lliniaru ecolegol, iawndal a gwelliant ar dir yn ymyl Ysgol Pendref, Ffordd
Gwaenynog, Dinbych (copi yn amgaeedig).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais am amrywiad i amodau 2, 6 a 8 o ganiatâd
cynllunio 01/2022/0690 i newid gosodiad, cynllun rheoli tirlunio a mesurau
lliniaru ecolegol, iawndal a gwelliant ar dir yn ymyl Ysgol Pendref, Ffordd Gwaenynog, Dinbych (dosbarthwyd ymlaen llaw).
Siaradwyr Cyhoeddus –
Heidi Ridder-Jones (yn
erbyn) – dywedodd fod y Swyddog
Cyfreithiol wedi datgan yn y Cyfarfod Cynllunio ym mis Tachwedd 2022 bod yr
ugain y cant o dai fforddiadwy a nodwyd ar gyfer datblygiad y safle wedi ei
rwymo mewn cyfraith. Aeth y siaradwr cyhoeddus yn ei blaen drwy ddweud wrth y
Pwyllgor bod y pwynt wedi ei amlygu ar sawl achlysur yn ystod cyfarfod y
Pwyllgor Cynllunio ym mis Tachwedd, a theimlai fod y mater wedi dylanwadu ar
benderfyniad y Pwyllgor i gymeradwyo. Fodd bynnag, dywedodd y siaradwr
cyhoeddus fod y cais newydd yn nodi y bydd deg y cant o dai fforddiadwy, yn
unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru; nodwyd na ellid newid y deg y cant; os
mai dyma’r achos, pam na ddywedwyd
hynny cyn cymeradwyo’r cais ym mis Tachwedd 2022? Gofynnodd Mrs Ridder-Jones am arweiniad ar y mater gan syrfëwr
siartredig, a theimlai fod gan y rhai a oedd yn erbyn y cais berffaith hawl i
bryderu am y newid yn y ganran o dai fforddiadwy.
Byddai’r cais newydd yn dylanwadu ar y cytundeb
gwreiddiol i leihau’r ganran o dai fforddiadwy o 20% i 10%. I ddechrau, ni
ddylai gweithred amrywio Adran 106 newid y ganran o dai fforddiadwy a oedd wrth
wraidd y penderfyniad a wnaed yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cynllunio.
Dylai gweithred amrywio A106 fod wedi ei chyflwyno ar yr un pryd â chais Adran
73, ynghyd â’r contract gydag Adra ac asesiad tai fforddiadwy
diwygiedig yn dangos sut fyddai’r newid yn cyd-fynd ag ystadegau Sir Ddinbych parthed yr angen am dai. Byddai’r Pwyllgor angen
cadarnhad y byddai’r anheddau’n parhau i fod yn fforddiadwy am byth.
Teimlai’r siaradwr cyhoeddus fod y cyfarfod ym mis
Tachwedd wedi bod yn unochrog wrth gymeradwyo’r cais. Dylai strategaeth
ecolegol Sir Ddinbych fod wrth wraidd pob
penderfyniad; fodd bynnag, cafwyd addewidion gwag, diystyrwyd sylwadau’r
swyddog ecolegol, a dylid cadw’r coed lle mae’n bosibl yn unig. Byddai hyn yn
galluogi’r ymgeiswyr i gael gwared â’r coed lle
dymunent. Yr oedd ecoleg gyfoethog yn perthyn i’r coed ar y safle, ac wrth
ganiatáu’r cais byddai Cynghorwyr yn mynd yn erbyn Adran 6.4 Polisi Cynllunio
Cymru sy’n datgan na ddylai datblygiad gael effaith ar gynefinoedd na
bioamrywiaeth.
Mr Stuart Andrews (o blaid) – diolchodd i’r Pwyllgor am gael siarad, ac
atgoffodd y Pwyllgor mai ef oedd Rheolwr Dylunio a Chynllunio Castle Green
Homes. Siaradodd â’r Pwyllgor ynglŷn â
diwygiadau i ddisodli’r caniatâd cynllunio gydag un â chynnydd yn nifer y tai
fforddiadwy.
Amlygodd Mr Andrews fod y safle, a brynwyd yn
2022, wedi ei ddyrannu ar gyfer tai; ym mis Tachwedd, sicrhawyd caniatâd
cynllunio i adeiladu 110 o gartrefi gydag ugain y cant yn ddarpariaeth tai
fforddiadwy, ac yr oedd yr holl amodau cynllunio cyn cychwyn wedi eu cyflawni
parthed y cynllun hwnnw, a gellid bod wedi dechrau arno eisoes. Dywedodd Mr
Andrews yn ystod y cyfarfod diwethaf ei fod wedi siarad â swyddogion y Cyngor
ynglŷn â chynnydd ar y contract, a fyddai wedi darparu’r holl safle drwy
ADRA. Trafodwyd y cais hwn heddiw. Byddai’r cais newydd yn dal i adeiladu 110 o
dai ar y safle. Fodd bynnag, byddai saith deg tri y cant o’r tai yn rhai
fforddiadwy, a byddai’r gweddill ar gael ar rent y farchnad. Ni fyddai’r cais
newydd a gynigiwyd yn cael effaith ar y cyfraniadau
ariannol o dros £63,000 ar y safle a fwriadwyd i ariannu ardaloedd chwarae
newydd ym Mharc Cae Hywel a’r llwybr troed o amgylch yr ardal, a byddant yn
parhau i gael eu cyflawni.
Yn ychwanegol, byddai 70 o’r tai’n cael eu
hadeiladu i fanylebau adeiladu uwch, gyda systemau gwresogi pympiau awyr a
phaneli solar i fod yn unol â rheoliadau adeiladu a fydd yn dod yn 2025. Byddai
hyn yn cael ei gyflawni drwy grant gan Lywodraeth Cymru, a byddai’r adeiladau
sydd ar ôl yn cael eu hadeiladu i safonau sy’n uwch na’r cartref arferol yn y
DU. Yr oedd yn amhosibl cael grant tai fforddiadwy drwy Gytundeb Adran 106 fel
arfer. Yr oedd y gostyngiad o 20% i 10% i leihau’r nifer o dai nad oedd yn
gallu cael eu cyflawni drwy’r grant. Fodd bynnag,
nodir deiliadaethau tai 73% o dai fforddiadwy ac eiddo rhent y farchnad ar y
safle gan ddatganiad cyflawni, a fyddai’n cael ei gynnwys yn nogfennau’r
caniatâd cynllunio a gymeradwywyd. Dywedodd Mr Andrews fod hyn yn golygu na allai fod unrhyw bryderon na fyddai’r Cyngor yn sicrhau
cynigion y tai fforddiadwy; os na fyddai’r datblygiad yn bodloni’r
ddeiliadaeth, gellid eu gorfodi drwy’r
amodau cynllunio.
Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad gan swyddogion y
Cyngor nac ymgyngoreion arbenigol; byddai
penderfyniad cadarnhaol yn cynyddu’r nifer o dai fforddiadwy a ddarperid ar y
safle. Pe bai’r Pwyllgor yn pleidleisio i wrthod, byddai’r cais yn dychwelyd
i’r penderfyniad yng nghyfarfod mis Tachwedd.
Trafodaeth Gyffredinol –
Diolchodd y Cynghorydd Pauline Edwards (aelod lleol) i’r
Cadeirydd am adael iddi siarad; yn gyntaf, ymddiheurodd i breswylwyr lleol a
oedd wedi ei rhybuddio ynglŷn ag effeithiau’r cynnig ar fioamrywiaeth ar y
safle. Mynegodd bryder bod yr adroddiad coedyddiaeth yn nodi bod y coed yn
wael. Yr oedd y coed mewn cyflwr da ac yn fuddiol i fioamrywiaeth yr ardal; mae
Canllawiau Cynllunio Atodol hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd bioamrywiaeth,
dylai’r cais bwysleisio’r pwysigrwydd hwn, a dylid gwneud pob ymdrech i warchod
y coed ar y safle.
Cytunodd y Cynghorydd Delyth Jones (aelod lleol) â
datganiadau’r Cynghorydd Edwards; yr oedd yn cefnogi’r ganran uwch o dai
fforddiadwy yn y datblygiad. Fodd bynnag, cwestiynodd beth allai’r
Pwyllgor ei wneud i warchod y tai fforddiadwy ar safle’r datblygiad. Gofynnwyd
hefyd sut all y tîm cynllunio barhau i fonitro’r datblygiad drwyddo draw i
sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r amodau cynllunio a
osodwyd.
Atebodd swyddogion cynllunio fod y coed ar y safle’n
destun pryder. Fodd bynnag, yr oedd amodau na fyddai unrhyw waith yn cael ei
wneud hyd nes y cwblheid cynllun y cytunwyd arno parthed y coed, mewn
ymgynghoriad ag aelodau lleol a swyddog Coed a Bioamrywiaeth Sir Dinbych.
Cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry amod ychwanegol fod y
gwaith ar fynedfa’r safle’n cael ei gwblhau cyn unrhyw ddatblygiad pellach.
Holodd y Pwyllgor a oedd unrhyw newidiadau eraill i’r
safle, megis tai fforddiadwy yn y datblygiad, ac a ellid eu cyflwyno eto i’r
Pwyllgor er mwyn i’r aelodau gytuno neu anghytuno arnynt. Cadarnhaodd
swyddogion y byddai unrhyw newidiadau sylweddol i’r datblygiad y cytunwyd arno
yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio i’w hystyried.
Yr oedd yr aelodau’n pryderu y byddai gan y datblygiad
ugain y cant o dai fforddiadwy gyda’r Cytundeb Adran 106 gwreiddiol; fodd
bynnag, dan y cais newydd a gynigiwyd, deg y cant yn
unig fyddai’n fforddiadwy, a byddai chwe deg tri y
cant arall yn gysylltiedig â’r landlord cofrestredig
ADRA. Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd y byddai’r tai’n parhau i fod yn
fforddiadwy am byth. Atebodd swyddogion y byddai’r landlord cofrestredig yn
derbyn cyllid grant gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r cartrefi fforddiadwy,
felly byddant yn parhau i fod yn fforddiadwy gan eu bod yn gysylltiedig yn
uniongyrchol i’r grant. Cadarnhaodd y swyddogion hefyd y byddai ‘datganiad y
gallu i gyflawni’ – a oedd yn nodi’r unedau a oedd i fod yn fforddiadwy – yn
destun amod cynllunio, a byddai’n rhaid cyflawni’r datblygiad yn unol â’r amod hwnnw. Pe bai’r ymgeiswyr yn dymuno newid y
datganiad hwnnw, byddai’n rhaid iddynt wneud cais i’r ACLl
i wneud hynny.
Cynigiodd y Cynghorydd Delyth Jones y dylid cymeradwyo’r
cais gyda’r amod ychwanegol a gynhwyswyd gan y Cynghorydd Merfyn Parry. Eiliwyd
hyn gan y Cynghorydd Terry Mendies.
PLEIDLAIS:
O BLAID – 18
YN ERBYN – 0
YMATAL – 0
PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddogion a nodir yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: