Eitem ar yr agenda
CYNGOR GWASANAETHAU GWIRFODDOL SIR DDINBYCH (CGGSDD)
Rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf
â’r Pwyllgor ynghylch y cynnydd a wnaed hyd yma o ran gwireddu gweledigaeth CGGSDd,
gan wella ei berthynas waith â’r Cyngor a sefydliadau gwirfoddol yn Sir
Ddinbych.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a
Strategaeth Gorfforaethol, Tom Barham, Prif Swyddog
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd),
gan wneud sylwadau ar bwysigrwydd y gefnogaeth a’r berthynas waith gyda
phartneriaid Trydydd Sector er mwyn cyflawni amcanion ar y cyd.
Cyflwynodd y Prif Swyddogion adroddiad diweddaru ar waith
CGGSDd dros y 12 mis diwethaf, wrth iddo symud ymlaen
yn dilyn heriau Pandemig y Covid a’r Argyfwng Costau
Byw.
Yn ddiweddar, lluniodd CGGSDd
ddatganiad i egluro pwrpas cynghorau gwirfoddol:
‘Mae CGGSDd yn galluogi elusennau a grwpiau cymunedol (Trydydd
Sector) i fod yn fwy effeithiol a chysylltu’n well, gan gydweithio i ddatblygu
Sir Ddinbych sy’n gryf a bywiog’.
Dywedodd bod CGGSDd yn elusen
annibynnol sy’n gweithio orau mewn partneriaeth â’r Trydydd Sector a Chyngor
Sir Ddinbych (CSDd), i wella cymunedau Sir Ddinbych
fel galluogwyr sy’n cynghori, hwyluso, ariannu a hyrwyddo’r sector
gwirfoddol.
Roedd gan breswylwyr Sir Ddinbych ystod o anghenion a
gafodd eu diwallu yn rhannol gan weithgareddau’r Trydydd Sector. Cefnogodd CGGSDd grwpiau cymunedol ag anghenion o ran:
·
sefydlu,
·
twf,
·
llywodraethu da,
·
partneriaeth,
·
rhwydweithio a dylanwadu,
·
recriwtio staff a gwirfoddolwyr,
·
cael gafael ar gyllid,
·
sgiliau a
·
gallu ymateb yn effeithiol i newid.
Roedd y CGGSDd yn rhan o
rwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, gydag
ystod o adnoddau ar-lein sy’n annog gwaith ar draws y 4 piler: gwirfoddoli,
llywodraethu da, cyllid cynaliadwy ac ymgysylltu a dylanwadu. Canolbwyntir o’r
newydd ar wirfoddoli dros y misoedd nesaf.
Caiff y gwaith o asesu a dyrannu rhaglenni grant gyda CSDd, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Llywodraeth Cymru
a’r Bwrdd Iechyd hefyd ei reoli gan CGGSDd. Cafodd
bron i 0.25 miliwn o bunnoedd o gyllid, 87 grant eu dyrannu yn Sir Ddinbych y
llynedd.
Roedd Llywodraethu yn elfen bwysig o rôl CGGSDd, wrth iddo ddarparu hyfforddiant, ymgynghoriaeth a chyngor uniongyrchol i grwpiau Trydydd
Sector, gan helpu ffurfio 18 menter gymdeithasol newydd yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf.
Gyda chymorth cyllid gan CSDd,
cyflawnwyd prosiect gan CGGSDd yn 2022 i ganfod
gwytnwch sefydliadau Trydydd Sector ar ôl y Covid.
Roedd Adroddiad Ymchwil y Trydydd Sector, Ebrill
2022 yn amlygu:
·
bod 2450 sefydliad Trydydd Sector yn Sir Ddinbych
·
bod 10% o’r holl swyddi yn Sir Ddinbych yn y
Trydydd Sector
·
mai Sir Ddinbych oedd â’r drydedd lefel gwirfoddoli
uchaf yng Nghymru, sy’n cynrychioli 4,700,000 o oriau gwirfoddol
·
bod y sefydliadau hyn wedi dangos gwytnwch yn ystod
Covid, ond eu bod bellach o dan fygythiad oherwydd
cynnydd yn y galw, cyllid tymor byr a chostau gweithredu uwch
·
bod problemau o ran recriwtio, bylchau mewn
sgiliau, technoleg a data. Roedd 52% yn credu y byddai eu sefydliad yn ehangu,
ond dim ond 54% oedd o’r farn eu bod nhw’n gynaliadwy.
Gweithiodd CGGSDd gydag ystod o
sefydliadau (tua 250), yn bennaf sefydliadau bach, newydd a rhai sy’n ehangu.
Gellid darparu cefnogaeth wyneb yn wyneb neu trwy eu cyfeirio at adnoddau
cenedlaethol ynghylch ariannu ac ati.
Roedd CGGSDd yn gweithio gyda CSDd yn ôl y Gronfa Ffyniant Gyffredin i wella sut mae
awdurdodau lleol yn comisiynu a chaffael gwasanaethau o’r Trydydd Sector, a
cheisio lleihau rhwystrau caffael sy’n pryderu sefydliadau llai, gan
ganolbwyntio ar yr elfen gwerth cymdeithasol.
Roedd ymchwil CGGSDd yn dangos:
·
posibilrwydd o ran gwella perthynas waith â Chyngor
Sir Ddinbych ac
·
awydd ar bob ochr am bartneriaeth, rhwydweithio a
phontio’r bwlch, yn enwedig o ran yr argyfwng costau byw.
Dyma enghreifftiau ymarferol o CGGSDd
yn gweithio gyda CSDd:
·
Sefydlu Grŵp Cyswllt Trydydd Sector newydd.
·
Menter Croeso Cynnes / Warm
Welcome a
·
Cydweithio ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin /
Cyfleoedd Trydydd Sector, gan greu rhwydweithiau cymorth cymheiriaid.
Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, roedd Prif Swyddog CGGSDd yn annog aelodau i rannu eu gwybodaeth leol ynghylch
sefydliadau a oedd angen cymorth neu gefnogaeth, yn enwedig o ran cyllid neu
grantiau. Dywedodd ei bod hi’n bwysig i CGGSDd fod â
phresenoldeb ac yn weladwy ar draws y sir. Nid oedd y sefydliad yn cyflogi
nifer fawr o bobl, ei rôl oedd cefnogi a hwyluso grwpiau cymunedol i fod yn
wydn. Yn ddiweddar, cynhaliwyd ffair gwirfoddolwyr yn Llangollen, a chynhelir y
nesaf yn y Rhyl/Prestatyn.
Diolchodd y Prif Swyddog i swyddogion a chynghorwyr CSDd am y croeso a gafodd yn y swydd a’u parodrwydd i
gydweithio. Anogodd aelodau etholedig i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau CGGSDd o fewn eu cymunedau.
Diolchodd y Pwyllgor i’r Prif Swyddog am fynychu’r cyfarfod,
am ei gyflwyniad llawn gwybodaeth ac am ei atebion cynhwysfawr i gwestiynau’r
aelodau. Felly:
Penderfynwyd: –
(i) cydnabod y cynnydd a wnaed gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd) hyd yma o ran gwireddu ei weledigaeth a gwella ei berthynas waith â’r Cyngor a chyda sefydliadau gwirfoddol yn Sir Ddinbych; a
(ii) chefnogi nodau CGGSDd a’r Cyngor i ddatblygu partneriaeth agos ac effeithiol rhwng budd-ddeiliaid y sector gwirfoddol a’r cyhoedd, gyda’r nod o sicrhau y bydd cymunedau’r Sir yn fywiog, wedi’u cysylltu ac yn wydn ar gyfer y dyfodol.