Eitem ar yr agenda
PARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL
Ystyried adroddiad gan Reolwr
y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (copi ynghlwm), sy’n manylu ar gyflawniad y
Bartneriaeth o ran cyflawni ei chynllun gweithredu ar gyfer 2021/22 a’i
chynnydd hyd yma o ran cyflawni ei chynllun gweithredu ar gyfer 2022/23.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau yr
adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw). Atgoffodd y Pwyllgor mai dyma adroddiad
blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol - mis Ebrill 2021 i fis Mawrth
2022.
Eglurodd y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio
bod Diogelwch Cymunedol yn cael ei reoli o fewn y gwasanaeth Gwella Busnes a
Moderneiddio, ond eu bod yn gweithio’n agos â nifer o adrannau eraill, gan
gynnwys Gwasanaethau Ieuenctid, Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a Diogelu ac
ati.
Roedd cynllun gweithredu Partneriaeth Diogelwch
Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych yn rhan o gynllun rhanbarthol a ddatblygwyd ar
draws Gogledd Cymru, dan arweiniad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd. Lluniwyd
cynllun ar sail dadansoddiadau blynyddol. Yn lleol, roedd y cynllun yn cael ei
reoli gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych.
Cyfeiriodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol at yr
Adroddiad Cryno Perfformiad (atodiad 1), gan amlygu:
Blaenoriaeth 1: Lleihau Trosedd ac Anrhefn yn Sir
Ddinbych trwy weithio mewn Partneriaeth - roedd y statws perfformiad ar ddiwedd
2021/22 yn dderbyniol;
Blaenoriaeth 2: Lleihau
aildroseddu - roedd y statws perfformiad ar ddiwedd 2021/22 yn dderbyniol; a
Blaenoriaeth 3: Blaenoriaethau
Lleol – roedd y statws perfformiad ar ddiwedd 2021/22 yn dda.
Gwelwyd newid ers y
cyfnod adrodd blaenorol yn sgil y cynnydd mewn troseddu ieuenctid a cham-drin/stelcian domestig.
Roedd Blaenoriaeth 1 yn
ymwneud â chydweithio â phartneriaid e.e. Awdurdod Gwasanaethau Tân ac Achub
Gogledd Cymru, yr Heddlu, Gwasanaethau Prawf, Iechyd, gyda’r nod o:
·
Lleihau troseddau sy’n
seiliedig ar y dioddefwr;
·
Lleihau Ymddygiad
Gwrthgymdeithasol;
·
Lleihau cam–drin
domestig a thrais rhywiol a
· gweithio gyda chydweithwyr ar gynadleddau ac asesiadau
risg aml asiantaeth i reoli troseddwyr ailadroddus.
Blaenoriaeth 2 – y
nod oedd lleihau aildroseddu trwy weithio gyda’r:
·
Gwasanaeth Prawf (oedolion yn aildroseddu);
·
Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc / Gwasanaethau
Ieuenctid; a
·
chydweithio i atal troseddau cyfundrefnol.
Blaenoriaeth 3 - Tynnwyd sylw at flaenoriaethau
Lleol a Rhanbarthol yn aml gan aelodau etholedig neu Heddlu
Gogledd Cymru, wrth iddynt dderbyn nifer o alwadau e.e. yn ymwneud ag eiddo
trwyddedig, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ati.
Blaenoriaeth 1 – Lleihau Trosedd ac Anrhefn yn Sir
Ddinbych trwy weithio mewn Partneriaeth.
Yn gyffredinol, roedd perfformiad y Bartneriaeth yn
dderbyniol oherwydd y cynnydd
parhaus yn y nifer o ddioddefwyr cam-drin, stelcian
ac aflonyddu domestig a adroddodd am ddigwyddiadau o’r fath. Er bod y cynnydd
canrannol yn ymddangos yn uchel, roedd yr union niferoedd yn isel. Roedd
enghreifftiau o weithio mewn partneriaeth ar gyfer ymdrin â’r flaenoriaeth hon
yn cynnwys ymgymryd â’r mesurau canlynol:
·
Codi ymwybyddiaeth am
droseddau sy’n seiliedig ar y dioddefwr trwy’r cyfryngau cymdeithasol, mynychu
digwyddiadau a sicrhau bod gwybodaeth ar gael ar wefannau partner.
·
Arolygon cartref a
busnes a gynhelir gan gynghorwyr lleihau trosedd a Swyddogion Cymorth Cymunedol
yr Heddlu er mwyn helpu atal lladradau.
·
Darparu offer gwella
diogelwch a chyngor atal trosedd (Cloeon/barrau drysau ac ati).
·
Cymryd rhan yng
nghyfarfodydd Cynhadledd misol Asesiad Risg Amlasiantaeth,
gan adolygu achosion dioddefwyr cam-drin domestig a gweithredu cynlluniau
gweithredu.
·
Anfonodd Sir Ddinbych
nifer o ddatganiadau i’r wasg ynghylch cam-drin domestig trwy gydol y flwyddyn
a newidiwyd lliw Pont y Ddraig i ddynodi cefnogaeth yr Awdurdod Lleol ar gyfer
Diwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd 2021. Cynhaliwyd gwylnos gyda phartneriaid
yn yr arena ddigwyddiadau yn y Rhyl i ddangos cefnogaeth o ran atal trais.
· Hyrwyddwyd llinell gymorth Byw Heb Ofn Cymru Gyfan, a
dderbyniodd 192 galwad gan breswylwyr Sir Ddinbych.
Roedd cyfarfodydd gweithgarwch prosiect gydag
asiantaethau partner yn trafod:
·
Caethwasiaeth Fodern;
·
Llinellau Sirol;
·
Rheoli Troseddwyr
Integredig;
·
Cam-Drin Domestig;
ac
· Ymgyrchoedd Drinkaware.
Blaenoriaeth 2 – Lleihau achosion o aildroseddu.
Gwelwyd gostyngiad mewn pobl dros 18 oed yn troseddu, ond
cynnydd o ran pobl ifanc. Bu i’r bartneriaeth ganolbwyntio ar:
·
Gymryd rhan mewn
rhaglenni rheoli troseddwyr lleol;
·
Hyrwyddo datrysiadau
cymunedol a chyfiawnder adferol wrth ddatrys mân broblemau;
·
Mynychu cynadleddau
cyfiawnder adferol fel cyfaill beirniadol;
·
Nodi ymddygiad
gwrthgymdeithasol ailadroddus; a
· Sefydlu fforwm pwrpasol yn y Rhyl i ganolbwyntio’n
benodol ar drosedd ac anrhefn.
Blaenoriaeth 3 – Blaenoriaethau Lleol
Roedd statws perfformiad cyffredinol y flaenoriaeth yn
dda. Roedd y bartneriaeth wedi:
·
Sefydlu grwpiau amlasiantaeth lleol yn Sir Ddinbych i reoli digwyddiadau
ailadroddus o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol;
·
Hyrwyddo’r defnydd o
ddatrysiadau cymunedol i ddatrys digwyddiadau ailadroddus o ymddygiad
gwrthgymdeithasol;
·
Gweithredu hysbysiadau
amddiffyn cymunedol / Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus;
·
Eiddo trwyddedig a
reolir a thrwyddedau tacsi a gaiff eu gorfodi / monitro;
·
Parhau â gweithrediadau
(Mawrth 2022) o dargedu golchi ceir o dan gynlluniau gweithredu caethwasiaeth
fodern;
·
Monitro tensiwn
cymunedol, protestiadau/gwylnosau - gan gynnwys trosedd casineb gyda chymorth y
tîm Cydlyniant rhanbarthol.
· Gwneud cais am ragor o gyllid trydydd sector ar gyfer
gwasanaethau cam-drin domestig ychwanegol yn lleol.
Yn gorfforaethol, cyhoeddodd Sir Ddinbych gyfathrebiadau
mewnol ac allanol yn ymwneud â hyfforddiant ac ymyrraeth gynnar, gan ganmol
gwaith y Bwrdd Diamddiffynedd Rhanbarthol a’r tîm
cam-drin domestig rhanbarthol.
Gweithredwyd mwy o weithgarwch heddlu o ran economi’r nos
-- gan edrych yn benodol ar drais yn erbyn merched a genethod. Roedd y cynllun
‘Gofynnwch am Angela’ ar waith mewn tafarndai yn Sir Ddinbych.
Derbyniwyd grant o £5000 grant ar gyfer cyhoeddi
nwyddau’r ymgyrch Byw Heb Ofn – balm gwefus, hylif diheintio dwylo a beiros gyda
rhif ffôn y llinell gymorth arnynt - wedi’u lleoli’n strategol – ar gyfer y
rhai sydd angen cymorth i gael mynediad ato.
Dadansoddi Ystadegau Troseddu
O’r 13 categori adrodd Trosedd a digwyddiad sy’n ymwneud
â Sir Ddinbych, cofnodwyd 7 fel yr uchaf ar gyfer y Flwyddyn hyd Yma, o’u
cymharu â’r ffigyrau cyn Covid. Roedd y ffigyrau’n
cyd-fynd â’r rhai disgwyliedig ac ni nodwyd unrhyw anghysondebau.
Aeth y
Rheolwr Diogelwch Cymunedol ymlaen i egluro’r gwahanol gategorïau trosedd a
oedd yn cael eu monitro. Fe’u cymharwyd â ffigyrau a
gofnodwyd cyn Covid, gan fod y cyfnodau clo wedi
effeithio ar y math o droseddau a gyflawnir. O’r herwydd, cafodd tueddiadau eu
monitro yn hytrach na ffigyrau.
Yn
arwyddocaol, gwelwyd cynnydd o flwyddyn i flwyddyn mewn Stelcian
ac Aflonyddu. Fe ychwanegwyd Ymddygiad Cymhellol a
Rheolaethol at y categori hwnnw, a arweiniodd at gynnydd yn y niferoedd a
gofnodwyd.
Gwelwyd cynnydd cenedlaethol mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol
yn ymwneud â phobl ifanc. Roedd y partneriaethau’n gweithio’n agos gyda’r
Gwasanaethau Ieuenctid i ganfod yr achos craidd mewn cymunedau lle’r oedd
problemau. Roedd cyfarfodydd amlasiantaeth – yn
cynnwys aelodau lleol – yn cael eu cynnal er mwyn nodi a datrys problemau.
Gan ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor, dywedodd y Rheolwr
Diogelwch Cymunedol bod:
·
Y manteision o weithio
mewn partneriaeth yn cynnwys rhannu adnoddau, cydgyfrifoldebau, cymhwysedd ar
gyfer arian grant ac osgoi dyblygu gwaith.
·
Cafwyd ymateb cadarnhaol
mewn perthynas ag ymgyrch ‘Gofynnwch i Angela’. Gofynnir i’r Tîm Trwyddedu a
oes unrhyw ystadegau ar gael.
·
Cymharwyd ystadegau â
ffigyrau rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn nodi tueddiadau.
·
Nid oedd sgamiau / twyll
ar-lein yn rhan o gategori ystadegau trosedd yr adroddiad – er eu bod nhw’n
flaenoriaethau rhanbarthol i’w hystyried gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd –
byddai ffigyrau ar gael gan fod y Gwasanaeth Safonau Masnach yn gyfrifol am
gofnodi ac ymchwilio i ddigwyddiadau honedig o sgamiau a thwyll ar-lein.
·
Yn ogystal â’r adroddiad
blynyddol, darparwyd diweddariadau i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Aelod
Arweiniol ar sail chwarterol.
·
Cyflwynwyd y broses o
Fonitro Protestiadau/Gwylnosau yn ystod Covid, ond fe’u defnyddir eto ar gyfer monitro unrhyw densiynau cymunedol.
·
Roedd gwasanaethau’r
3ydd Sector yn rhan hanfodol o’r bartneriaeth wrth weithio gyda phobl ifanc.
Darparodd yr Hwb yn Sir Ddinbych a Phrosiect Pobl Ifanc Gorllewin y Rhyl
gymorth ac ymgysylltiad gwerthfawr yn sgil digwyddiadau o ymddygiad
gwrthgymdeithasol diweddar gyda’r Prosiect Strydoedd Mwy Diogel a
·
Gellid gwahodd Prif
Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru Sir Ddinbych i gyfarfod y Pwyllgor, y tro nesaf
y cyflwynir adroddiad blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.
Dywedodd y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio Dros Dro
bod fforwm Grŵp Diogelwch Cymunedol y Rhyl (a oedd yn cynnwys aelodau
lleol) wedi’i sefydlu er mwyn mynd i’r afael â’r nifer o broblemau o ran ymddygiad
gwrthgymdeithasol. Cynhelir y cyfarfod
nesaf ym mis Ionawr 2023.
Diolchodd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau i’r Rheolwr
Diogelwch Cymunedol am ei brwdfrydedd a’i hymrwymiad yn y swydd, adleisiwyd hyn
gan y Cadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor.
Ar ddiwedd trafodaeth fanwl:
Penderfynodd y Pwyllgor: yn amodol ar y sylwadau uchod –
(i) dderbyn diweddariad perfformiad ac ystadegol Partneriaeth
Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych ar gyfer 2021/22;
(ii) cefnogi’r blaenoriaethau a nodwyd gan y Bartneriaeth
Diogelwch Cymunedol i’w cyflawni yn ystod 2022/23; ac
(iii)
â’r bwriad o hwyluso
craffu darpariaeth gweithgarwch
diogelwch cymunedol yn yr ardal yn effeithiol, a gwahodd Prif Arolygydd Heddlu
Gogledd Cymru Sir Ddinbych i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Medi 2023, i gyflwyno
Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar gyfer 2022/23.
Dogfennau ategol:
- Community Safety Partnership Report 2021-22 151222, Eitem 5. PDF 230 KB
- Community Safety Partnership Report 2021-22 - App 1 151222, Eitem 5. PDF 443 KB