Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Y BROSES GYFALAF A DYFODOL Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y broses cyfalaf newydd arfaethedig.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYDbod y Cabinet yn -

         

(a)      cymeradwyo’r broses cyfalaf newydd, a

 

(b)      Bod y Cabinet yn cefnogi Cylch Gorchwyl drafft y Grŵp Craffu Cyfalaf a fydd yn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo yng nghyfarfod cyntaf o’r Grŵp.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad yn diweddaru’r Cabinet ynghylch proses gosod cyllideb cyfalaf newydd arfaethedig a newidiadau i’r Cylch Gorchwyl ac enw’r Grŵp Buddsoddi Strategol.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo y rhesymeg sy’n sail i’r adolygiad o’r broses gyfalaf, gan ystyried adborth gan y Grŵp Buddsoddi Strategol ac er mwyn sicrhau dull mwy strategol. Cafodd y cynigion eu trafod yn Sesiwn Friffio’r Cabinet, yr Uwch Dîm Arwain, a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a oedd wedi rhoi mewnbwn. Cafodd y Cabinet eu harwain trwy’r fersiwn ddrafft o’r broses gyfalaf, fel y’i nodir yn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys Grŵp Caffael Cyfalaf newydd arfaethedig. Roedd yr egwyddorion arweiniol a oedd yn sail i’r adolygiad yn cynnwys yr angen am lywodraethu, craffu a thryloywder cryf a chydamseru prosesau.

 

Roedd prif bwyntiau’r cynnig yn cynnwys –

 

·         sefydlu Grŵp Craffu Cyfalaf sy’n cynnwys uwch swyddogion allweddol a chynrychiolwyr o’r Cabinet a Phwyllgorau Craffu i adolygu cynigion achos busnes ar gyfer buddsoddiad cyfalaf (ac eithrio cynlluniau llai na £0.250 miliwn a ariannwyd 100% gan gyllid grant allanol, i’w cymeradwyo ar lefel uwch swyddog)

·         ni fyddai’r Grŵp Craffu Cyfalaf yn gwneud penderfyniadau ffurfiol, ond byddai eu barn yn cael ei ystyried gan gyrff eraill sy’n gwneud penderfyniadau:  Y Cabinet i gymeradwyo cynlluniau cyfalaf, ond mae angen cymeradwyaeth y Cyngor llawn ar gyfer y Cynllun Cyfalaf blynyddol; y Tîm Gweithredol Corfforaethol i gymeradwyo cynlluniau llai na £1 miliwn os bydd y Grŵp Craffu Cyfalaf wedi cofnodi cymorth; y Cabinet i wneud y penderfyniad terfynol ar bob cynllun dros £1 miliwn; gallai cynlluniau llai na £1 miliwn na chefnogir gan y Grŵp Craffu Cyfalaf gael eu cyflwyno i’r Cabinet gan y Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer penderfyniad terfynol, os nad oes modd dod i gytundeb.

·         roedd angen gwaith pellach ar fanylion y ffurflenni cais cyfalaf a’r broses, gyda’r nod o gwblhau pob prosiect cyfalaf ar ffurflenni prosiect Verto, i gynnwys yr holl wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen ar gyfer gwneud penderfyniadau ar achosion busnes cyfalaf, byddai canllawiau gweithredol manwl yn cael eu llunio erbyn y Gwanwyn.

·         byddai’r Grŵp Craffu Cyfalaf a Bwrdd y Gyllideb yn cael eu cefnogi gan Wasanaethau Pwyllgorau o fis Ebrill a byddai’r broses a’r cylch gorchwyl yn destun adolygiad blynyddol.

 

Croesawodd y Cabinet yr ymgynghoriad ar y broses newydd arfaethedig, gan gynnwys craffu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar y dull hwnnw, ac roedd yn cefnogi’r broses newydd fel modd o gryfhau’r prosesau democrataidd a darparu mwy o dryloywder o ran y trefniadau craffu a gwneud penderfyniadau dan sylw.   Rhoddodd y Cynghorwyr Arwel Roberts a Gareth Sandilands, aelodau blaenorol o’r Grŵp Buddsoddi Strategol eu safbwynt ar y trefniadau blaenorol, a oedd yn ddefnyddiol i’r Cabinet, ac roeddent yn mynegi eu cefnogaeth ar gyfer y broses newydd arfaethedig a rhinweddau’r dull hwnnw. O ystyried y newidiadau sylweddol ar lefel y Cabinet ac uwch swyddogion ers etholiadau llywodraeth leol mis Mai, ystyriwyd ei bod hi’n amserol adolygu a gweithredu’r dull newydd.  Amlygwyd pwysigrwydd ymrwymiad y Cyngor llawn i’r broses, gyda phawb yn cydweithio er budd holl drigolion y sir. 

 

Mewn ymateb i’r cwestiynau, dywedodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo –

 

·         er y byddai’r newid arfaethedig i gynlluniau cyllid grant yn ystod y flwyddyn hyd at £0.250 miliwn i’w gymeradwyo ar lefel swyddog yn symleiddio’r broses honno, mai prif nod y broses newydd oedd darparu dull mwy strategol â mwy o dryloywder, gyda gwybodaeth ar gael yn rhwydd a hygyrch ar modern.gov, a sicrhau mwy o graffu ar gynlluniau a phenderfyniadau mwy a wneir.

·         roedd y Cyngor wedi cymeradwyo rhaglen foderneiddio ysgolion trwy’r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu a chafodd cyllid ei sicrhau yn y cynllun ariannol tymor canolig ar gyfer y pwrpas hwnnw. Fodd bynnag, byddai’r achosion busnes ar gyfer y cynlluniau unigol yn cael eu craffu gan y Grŵp Craffu Cyfalaf.   Byddai dull tebyg yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau cyfalaf y Gronfa Ffyniant Bro; cymeradwyodd y Cyngor 10% o arian cyfatebol a bellach mae cais Etholaeth De Clwyd wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth y DU; byddai’r achosion busnes ar gyfer y cynlluniau unigol yn destun craffu gan y Grŵp Craffu Cyfalaf. 

·         roedd manylion y gwariant cyfalaf presennol wedi’u cynnwys yn adroddiad cyllid misol y Cabinet. Roedd y Cynllun Cyfalaf a gymeradwywyd ar gyfer 2022/23 yn £51.8 gyda gwariant hyd yma o £17.9 miliwn, a oedd yn nodweddiadol ar y cam hwn o’r flwyddyn ariannol

·         yn y cyfnod interim ers etholiadau mis Mai, deliwyd â materion sydd fel arfer yn cael eu hystyried gan y Grŵp Buddsoddi Strategol trwy Fwrdd y Gyllideb, ac roedd angen cymeradwyaeth y Cabinet gyda chynlluniau dros £1 miliwn. Roedd disgwyl i’r Grŵp Craffu Cyfalaf fod yn ei le yn gynnar y flwyddyn nesaf, gyda gwybodaeth ar gael ar modern.gov o fis Ebrill 2023, a darparwyd trosolwg o waith cychwynnol y Grŵp Craffu Cyfalaf.    Roedd y rhan fwyaf o gynlluniau cyfalaf yn ymwneud â phenderfyniadau gweithredol a wnaed gan y Cabinet neu’r Tîm Gweithredol Corfforaethol, ond yn amlwg yn seiliedig ar argymhellion y Grŵp Craffu Cyfalaf. 

 

Yn dilyn adolygu’r broses gyfalaf newydd arfaethedig –

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

           

(a)       cymeradwyo’r broses gyfalaf newydd, a

 

(b)       chefnogi Cylch Gorchwyl drafft y Grŵp Craffu Cyfalaf, a fyddai’n cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo yng nghyfarfod cyntaf y Grŵp.

 

Ar y pwynt hwn (11.30 am) cymerodd y pwyllgor egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: