Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

GOSOD RHENT TAI A CHYLLIDEBAU REFENIW TAI A CHYFALAF 2023/24

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i godi rhent blynyddol tai cyngor Sir Ddinbych ac i gymeradwyo Cyllidebau Cyfalaf a Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023/24 a’r Cynllun Busnes Stoc Dai.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod –

 

(a)       Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023/24 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad) yn cael ei fabwysiadu;

 

(b)      rhent anheddau'r Cyngor yn cael eu cynyddu’n unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhent Tai Cymdeithasol o 5% i’w weithredu o ddydd Llun 3 Ebrill 2023;

 

(c)      nodi’r adroddiad ychwanegol (Atodiad 3 i’r adroddiad) am Effeithiolrwydd Cost, Fforddiadwyedd a Gwerth am Arian, a

 

(d)      Y Cabinet yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gynnydd rhent blynyddol Tai Sir Ddinbych, Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023/24 a'r Cynllun Busnes Stoc Dai.

 

Rhoddwyd rhywfaint o gefndir i’r adroddiad, gan gynnwys y cefndir economaidd gyda’r argyfwng costau byw a’r cynnydd o 10.1% mewn chwyddiant (CPI) a chynnydd o hyd at 30% ar gyfer costau rhaglen gyfalaf a chynnal a chadw. O ganlyniad, roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod uchafswm cynyddu rhent o 6.5% yng Nghymru (7% wedi’i osod gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr), ynghyd â chytuno ar rai diwygiadau ychwanegol â’r sector tai.   Cynigiwyd cynyddu rhenti wythnosol o 5%, gan arwain at rent wythnosol cyfartalog o £102.31 (cynnydd o £4.87 mewn rhent wythnosol). O gyflawni’r cynnig, cafwyd cydbwysedd rhwng cynnal a chadw a buddsoddi yn y stoc dai, a’r effaith ar denantiaid o ganlyniad i’r cynnydd.

 

Arweiniodd y Swyddog Arweiniol Tai Cymunedol y Cabinet trwy fanylion yr adroddiad ac effaith yr hinsawdd economaidd bresennol o ran buddsoddi yn y stoc dai i fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru (gan gynnwys targedau amgylcheddol/effeithlonrwydd tanwydd) ac ariannu rhaglenni adeiladu newydd ynghyd â’r effaith ar denantiaid a chyllid aelwydydd. Fel rhan o’r broses o osod rhent, cynhaliwyd asesiad o effeithlonrwydd cost, gwerth am arian a fforddiadwyedd i denantiaid, ac roedd hyder bod gwaith wedi dangos bod rhenti’n fforddiadwy, gyda rhenti Sir Ddinbych ar yr ochr isaf o ran y rhent darged ac yn cael eu monitro’n barhaus.  

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys y canlyniad a ragwelir ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai 2022/23, yn unol â’r adroddiad monitro misol gyda’r balansau a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn o £2,157 miliwn. Eglurwyd hefyd effaith y cynnydd mewn rhent ar Gynllun Busnes y Stoc Dai, gyda phob 1% o gynnydd mewn rhent yn darparu £170,000 o incwm refeniw bob blwyddyn er mwyn caniatáu £3.5 miliwn o fenthyciad ar gyfer buddsoddiad dros gyfnod Cynllun Busnes y Stoc Dai. Byddai’r argymhelliad i gyflwyno cynnydd o 5% ac nid 6.5% yn costio tua £250,000 i’r Cyfrif Refeniw Tai bob blwyddyn o Gynllun Busnes y Stoc Dai.   Byddai cynnydd o 5% werth £850,000, gan arwain at fuddsoddiad o £8.5 miliwn dros ddeng mlynedd. Nodwyd bod 72% o denantiaethau yn derbyn budd-daliadau lles a chymorth costau tai gydag unrhyw gynnydd mewn rhent, a delir gan y cymorth hwnnw, a rhoddwyd sicrwydd ynghylch gwaith parhaus i gefnogi tenantiaid cymaint â phosibl.   Roedd ymrwymiad i beidio â throi neb allan oherwydd caledi ariannol a darparu cefnogaeth wedi’i thargedu i denantiaid.

 

Roedd y Cabinet yn cydnabod yr angen i gydbwyso lefel y cynnydd mewn rhent i gwrdd ag anghenion buddsoddi’r stoc dai yn y dyfodol yn erbyn fforddiadwyedd i denantiaid.   Dywedodd y Cynghorydd Julie Matthews, bod y Cabinet wedi gofyn am ragor o fanylion, nad oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad, o ran gwerthusiadau dewisiadau o gynnydd canrannol eraill at ddibenion cymharu, er mwyn gwerthuso’r effaith ar y gwahanol lefelau a gwneud penderfyniad gwybodus. Wrth drafod, roedd yn ymddangos y bu peth camddealltwriaeth ynghylch lledaenu’r data hwnnw a oedd ar gael yn rhwydd ac wedi’i ddosbarthu i aelodau ar gais, ac ymddiheurodd swyddogion nad oedd y Cynghorydd Matthews wedi derbyn y data modelu. Fe nodwyd yn yr adroddiad bod pob cynnydd o 1% mewn rhent yn cyfateb i £170,000 bob blwyddyn ar gyfer benthyciadau buddsoddi, gyda 3% o gynnydd yn effeithio’n sylweddol ar y rhaglen gyfalaf.

 

O ran cydbwyso’r effaith ar fuddsoddiad tai a fforddiadwyedd i denantiaid, ymatebodd y Swyddog Arweiniol Tai Cymunedol fel a ganlyn –

 

·         cynigiwyd y 5% arfaethedig yn dilyn modelu helaeth o wahanol ddewisiadau er mwyn sicrhau bod tai cyngor yn cael eu cynnal i safon briodol, yn ogystal â chyflawni rhwymedigaethau cytundebol o ran adeiladau newydd; byddai unrhyw gynnydd is yn arwain at leihau’r safonau hynny, a fyddai’n gofyn am fuddsoddiad ychwanegol yn y dyfodol, a thynnu’n ôl o adeiladau newydd, o ystyried yr effaith ar y capasiti benthyca ar gyfer buddsoddiadau yn y dyfodol. Er y byddai cynnydd uwch yn well o ran ariannu buddsoddiad a gwariant cyfalaf uwch, derbyniwyd bod angen cydbwyso hynny yn erbyn fforddiadwyedd i denantiaid.

·         roedd adroddiad ar effeithlonrwydd, gwerth am arian a fforddiadwyedd wedi’i atodi yn Atodiad 3 yn yr adroddiad, gyda manylion y cyfrifiadau hynny. Roedd y 5% arfaethedig yn hanner y gyfradd chwyddiant, roedd yr isafswm cyflog a’r budd-daliadau lles yn cynyddu o 10%, a dylai’r rhan fwyaf o gyflogau gynyddu o 5%. Roedd awdurdodau lleol a chymdeithasau tai eraill yn dilyn dull tebyg. Derbyniwyd bod pob aelwyd yn wahanol ac y byddai pob achos yn cael ei drin yn wahanol gyda chefnogaeth wedi’i thargedu i denantiaid.   Pe bai’r cynnydd mwyaf o 6.5% yn cael ei gyflwyno, byddai’r Cyngor yn dal ar eu colled y flwyddyn nesaf, gyda llai o welliannau i dai cyngor, oherwydd cynnydd mewn costau cynnal a chadw a chyfalaf a diffyg cynnydd mewn rhent i fodloni’r lefelau hynny. Byddai cynnydd o lai na 5% yn arwain at fwy o denantiaid yn colli allan ar fuddsoddiadau yn eu cartrefi a safonau tai is.

 

Trafododd y Cabinet y mater yn fanwl, ac yn gyffredinol roedd yn fodlon bod y sylw a’r gofal dyledus wedi’i roi i ddod o hyd i’r cydbwysedd cywir, er y byddai dim cynnydd o gwbl wedi bod yn well, o ystyried y pwysau presennol ar gyllid aelwydydd. Nodwyd y byddai’r cynnydd yn cael ei dalu gan fudd-daliadau lles a chymorth costau tai ar gyfer 72% o denantiaethau, ond byddai mwy o effaith ar y 28% sy’n weddill ac roedd y Cabinet yn falch o nodi’r gefnogaeth gynhwysfawr sydd wedi’i thargedu ar gyfer tenantiaid ac na fyddai neb yn cael eu troi allan oherwydd caledi ariannol. Amlygwyd pwysigrwydd sicrhau’r gwasanaethau gorau posibl i denantiaid a buddsoddi yn eu cartrefi, yn benodol o ran effeithlonrwydd tanwydd o ystyried yr argyfwng ynni a allai arbed costau, ac roedd yn hanfodol bod gwaith yn parhau er budd tenantiaid.   Cyfeiriwyd hefyd at flaenoriaeth y Cyngor i fuddsoddi mewn adeiladau newydd i gwrdd â’r angen sylweddol am dai yn y sir.

 

Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau a sylwadau pellach fel a ganlyn –

 

·         cadarnhawyd bod 2100 o bobl ar y rhestr aros am dai gydag angen enbyd am dai cymdeithasol ac roedd gwaith yn cael ei wneud rhwng yr awdurdod a chymdeithasau tai lleol i ddiwallu’r anghenion hynny orau yn y farchnad dai heriol bresennol 

·         roedd modelau rhenti wythnosol yn ôl math o eiddo wedi’u cynnwys yn Atodiad 3 yn yr adroddiad yn seiliedig ar gynnydd o 5% a 6.5% yn ôl y math o eiddo; ar gyfer tŷ tair llofft, byddai’r cynnydd o 5% yn cyfateb i gynnydd wythnosol o £5.53

·         rhoddwyd sicrwydd y byddai cynnydd o 5% yn caniatáu'r Cyngor i barhau â’r cynnydd o ran cynnal safonau tai yn seiliedig ar y taflwybr cyfredol a chyrraedd y targed o 170 tŷ ychwanegol dros y cyfnod o 5 mlynedd. Fodd bynnag, ni fyddai modd cyrraedd y Safon Ansawdd Tai Cymru newydd, gan gynnwys sero net erbyn 2033, heb gymorth ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru ac roedd trafodaethau ar y gweill rhwng awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a Llywodraeth Cymru o ran hynny, o ystyried yr ansicrwydd yn y dyfodol.

 

Roedd y Cynghorydd Matthews yn cydnabod yr angen am gynyddu rhent a dadleuon dilys a gyflwynwyd, ond ailadroddodd y pryderon nad oedd modelau data’r holl ddewisiadau wedi’u rhannu â’r Cabinet o’r dechrau, ar gyfer llywio’r broses o wneud penderfyniadau, yn enwedig o ystyried y byddai unrhyw gynnydd yn cael effaith andwyol ar aelwydydd, gyda mwy o effaith ar y 28% o aelwydydd sydd mewn gwaith ac nad ydynt yn derbyn budd-daliadau. Teimlai hefyd y dylid defnyddio dull mwy cyfannol â phenderfyniadau eraill a fyddai’n effeithio ar incwm pobl. Roedd y farn yn gymysg ynghylch a ddylai modelau data llawn o ddewisiadau fod wedi’u cynnwys yn yr adroddiad neu fod ar gael i aelodau ar wahân. Roedd yr Arweinydd yn ffafrio adroddiad dewisiadau, ond roedd yn teimlo bod y data a ddarparwyd yn yr adroddiad yn ddigonol ar gyfer gwneud penderfyniad.

 

Ymddiheurodd y Cynghorydd Rhys Thomas nad oedd y Cynghorydd Matthews wedi derbyn y data. Roedd yn teimlo y cafwyd trafodaeth dda ynghylch y materion, gan ailadrodd ei fod yn benderfyniad anodd a bod angen cydbwysedd, a phwysleisiodd bod yr holl arian yn y Cyfrif Refeniw Tai yn cael ei ddefnyddio er budd tenantiaid Sir Ddinbych. Byddai cynnydd o lai na 5% mewn rhent yn effeithio’n andwyol ar waith i wneud gwelliannau a chynlluniau i adeiladu tai newydd i fodloni’r angen am dai.   Wrth bleidleisio –

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023/24 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad);

 

(b)       cynyddu rhent anheddau'r Cyngor yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhenti Tai Cymdeithasol o 5%, i’w weithredu o ddydd Llun 3 Ebrill 2023;

 

(c)        nodi’r adroddiad ychwanegol (Atodiad 3 i’r adroddiad) ar Fforddiadwyedd, Effeithiolrwydd Cost a Gwerth am Arian, a  

 

(d)       bod y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les (Atodiad 4 i’r adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

[Pleidleisiodd y Cynghorydd Julie Matthews yn erbyn y penderfyniad uchod.]

 

 

Dogfennau ategol: