Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYDbod y Cabinet yn -

 

(a)      nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb; ac

 

(b)       cymeradwyo’r cynlluniau i wario grant cyfalaf (£1.203 miliwn) ar uwchraddio ceginau a chyfleusterau cinio Ysgolion er mwyn darparu ar gyfer y cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, y manylir arno yn adran 6.9 ac Atodiad 5 i’r adroddiad.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth a gytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Darparwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·         roedd y gyllideb refeniw net ar gyfer 2022/23 yn £233.693 miliwn (£216.818 miliwn yn 2021/22).

·         rhagwelwyd gorwariant o £2.189 miliwn yn y cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol (gorwariant o £5.535 miliwn fis diwethaf)

·         tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith ariannol Coronafeirws a chwyddiant.

·         arbedion gwasanaeth manwl a chynnydd mewn ffioedd a thaliadau (£0.754 miliwn); ni ofynnwyd am unrhyw arbedion gan y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol nac Ysgolion.

·         rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys, y Cynllun Cyfalaf a phrosiectau mawr.

 

Gofynnwyd i’r Cabinet hefyd gymeradwyo cynlluniau i wario grant cyfalaf (£1.203 miliwn) i uwchraddio cyfleusterau cegin ac ystafell fwyta ysgolion er mwyn darparu ar gyfer y cynllun prydau ysgol am ddim cynradd cyffredinol.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo ar y camau a gymerwyd i leihau’r gorwariant a ragwelir o £5.535 miliwn o’r mis diwethaf i £2.189 miliwn a oedd yn cynnwys tanwariant mewn costau ariannu cyfalaf yn bennaf oherwydd oedi â phrosiectau; £400,000 o’r arian wrth gefn yn dilyn trosglwyddiadau ariannol terfynol ar y setliad cyflog; £230,000 yn deillio o’r arbedion dulliau newydd o weithio yn ymwneud â chostau teithio staff, a thua £1 miliwn mewn arbedion gwasanaeth o oedi wrth recriwtio a defnyddio cronfeydd wrth gefn. Ategwyd pwysigrwydd lleihau’r tanwariant, a fyddai’n caniatáu tua £2.7 miliwn o’r gronfa wrth gefn lliniaru cyllideb i helpu ariannu’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, er mwyn caniatáu amser i wneud yr addasiadau angenrheidiol i’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Er bod sefyllfa’r gyllideb wedi gwella’n sylweddol ers y mis blaenorol ac yn adlewyrchu’r sefyllfa hyd yma, efallai y nodir pwysau eraill yn y dyfodol, megis cynnal a chadw yn y gaeaf, o ystyried yr amodau oer presennol. Yn olaf, cyfeiriwyd at yr argymhelliad i gymeradwyo cynlluniau i wario grant cyfalaf i uwchraddio cyfleusterau ystafelloedd bwyta a cheginau ysgolion, a gefnogwyd gan Fwrdd y Gyllideb.

 

Ymhelaethodd y Cynghorydd Gill German ar gyflwyno’r cynllun prydau ysgol am ddim cyffredinol yn raddol fel rhan o’r cytundeb partneriaeth rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru ar lefel Llywodraeth Cymru, er budd pob plentyn ysgol gynradd. Cyfeiriodd at yr heriau o ran uwchraddio ceginau a chyfleusterau a diolchodd i’r Tîm Arlwyo a fu’n gweithio’n ddiflino i ddarparu’r cynllun, ac a fyddai o ganlyniad yn cael ei gyflwyno’n gynnar i holl ddisgyblion Blwyddyn 1 yn Sir Ddinbych o fis Ionawr 2023. Roedd y grant cyfalaf yn hanfodol o ran gweithredu’r cynnig pryd ysgol am ddim a sicrhau bod y seilwaith angenrheidiol yn ei le.

 

Adroddodd y Cynghorydd German hefyd am y digwyddiad Nadolig Gofalwyr Maeth diweddar a’r cynnig rhagorol ar gyfer maethu’r awdurdod lleol gan gynnwys y lefel o ofal a chymorth y naill a’r llall yn y gwasanaeth. Cydnabuwyd y pwysau cyllidebol yn y maes gwasanaeth hwnnw a rhoddwyd sicrwydd y byddai gwaith yn mynd rhagddo i fynd i’r afael â’r pwysau cyllidebol a hyrwyddo’r gwasanaeth maethu a’i fuddion ymhellach yn y flwyddyn newydd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a

 

(b)       chymeradwyo’r cynlluniau i wario grant cyfalaf (£1.203 miliwn) i uwchraddio cyfleusterau ystafell fwyta a cheginau ysgolion er mwyn darparu ar gyfer y cynllun Prydau Ysgol am Ddim Cynradd Cyffredinol fel y manylir yn adran 6.9 yn yr adroddiad ac Atodiad 5 yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: