Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYFLWYNO TERFYN CYFLYMDER 20MYA AR RWYDWAITH FFYRDD Y SIR

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch y Ffyrdd (copi’n amgaeedig) sy’n nodi’r egwyddorion sy’n sail i’r terfyn cyflymder 20mya diofyn, y meini prawf ar gyfer gwneud eithriadau i’r terfyn diofyn a cheisio sylwadau’r Pwyllgor am y gwaith a wnaed hyd yma wrth baratoi ar gyfer ei weithredu.

 

11am – 11.30am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, y Cynghorydd Barry Mellor, ynghyd â Phennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethu Cefn Gwlad, y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd ac Uwch Beiriannydd Diogelwch ar y Ffyrdd a Chludiant Cynaliadwy adroddiad Cyflwyno Terfyn Cyflymder 20mya ar Ffyrdd y Sir (dosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Bwriad yr adroddiad yw egluro’r cefndir i’r terfyn cyflymder o 20mya a fydd yn cael ei sefydlu cyn bo hir mewn trefi a phentrefi ar draws Cymru, yn cynnwys meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer adnabod eithriadau i’r terfyn cyflymder diofyn. Rhoi trosolwg o’r tasgau y mae’n ofynnol i’r Cyngor ymgymryd â nhw i baratoi ar gyfer y dyddiad pan ddaw’r terfyn cyflymder diofyn i rym, sef 17 Medi 2023.

 

Rhoddodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd gefndir am y polisi newydd gan ddweud yn 2020, derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un o’r 21 argymhelliad yn adroddiad y Tasglu a gomisiynodd i edrych ar yr achos dros wneud 20mya yn derfyn cyflymder diofyn mewn trefi a phentrefi ar draws Cymru.  Ym mis Gorffennaf 2022, pasiodd y Senedd y prif Offeryn Statudol yn diwygio Adran 81 o Ddeddf Rheoliadau Traffig Ffyrdd 1988 fel y mae’n berthnasol i Gymru, gan wneud 20mya yn derfyn cyflymder gorfodol ar ffyrdd cyfyngedig. ‘Ffyrdd Cyfyngedig’ yw ffyrdd sydd â goleuadau stryd. Bydd y newid deddfwriaethol hwn yn dod i rym ar 17 Medi 2023.

 

Dywedodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd wrth y Pwyllgor bod LlC wedi datblygu meini prawf eithrio i’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn seiliedig ar y tebygolrwydd y bydd ‘nifer sylweddol o gerddwyr a beicwyr yn teithio ar hyd neu ar draws y ffordd”. I helpu awdurdodau lleol i wneud yr asesiad hwn, maen nhw wedi datblygu’r ‘meini prawf lle’ canlynol:

 

(i)    A oes ysgol neu sefydliad addysgol arall o fewn 100 metr i’r ffordd?

(ii)  A oes canolfan gymunedol o fewn 100 metr i’r ffordd?

(iii) A oes ysbyty o fewn 100 metr i’r ffordd?

(iv) A oes eiddo preswyl neu fanwerthu ar ymyl y ffordd, a mwy nag 20 eiddo fesul cilomedr o ffordd (h.y. pum eiddo neu fwy ar bob 250 metr o’r ffordd)?

 

Fe amlinellodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd y rhestr o eithriadau arfaethedig i’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya, fel y rhestrir yn Atodiad C i’r Adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol:

·         Gofynnodd y Pwyllgor a oedd y terfyn 20mya yn gorfod cael ei gyflwyno yn Sir Ddinbych, gan fod gan rhai aelodau brofiad o’r ardaloedd prawf yn ardal Bwcle ac roeddynt yn bryderus am yr effeithiau y gallai ei weithredu ei gael. Fe eglurodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd ei fod yn newid deddfwriaethol gan LlC, a bod Sir Ddinbych yn gorfod ei weithredu.   O ganlyniad i’r newid deddfwriaethol, bydd yn rhaid i bron holl ffyrdd 30mya presennol yn CSDd gael eu newid i 20mya.  Dywedodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd y byddai yna oblygiadau cost sylweddol os na fyddai’r gwaith yn cael ei wneud, gan y byddai pob eithriad a gytunwyd ar ôl cyflwyno’r terfyn diofyn newydd yn gorfod cael ei ariannu gan yr awdurdod lleol, tra bod gwaith sy’n ymwneud â chyflwyno terfyn cyflymder diofyn yn cael ei ariannu gan LlC. Dywedodd y Pwyllgor mai amcan gweithredu’r terfyn cyflymder diofyn newydd oedd lleihau gwrthdrawiadau ac anafiadau difrifol.   Roedd data’n dangos drwy leihau cyflymder, gellir lleihau gwrthdrawiadau.

·         Fe eglurodd swyddogion mai’r Heddlu fyddai’n parhau i blismona a gorfodi’r terfyn cyflymder diofyn pan fyddai’r newidiadau’n cael eu gweithredu.

·         Gofynnodd y Pwyllgor pa ymgynghori oedd wedi digwydd mewn cysylltiad â’r newidiadau arfaethedig i’r terfyn cyflymder, yn enwedig gyda chynghorau dinas, tref a chymuned.  Dywedodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd wrth y Pwyllgor bod y newid yn ymwneud â pholisi LlC, a bod unrhyw ymgynghori wedi cael ei gynnal gan LlC nid gan awdurdodau lleol.   Roedd yna gynlluniau ar waith yn genedlaethol i gynnal ymgyrch cyhoeddusrwydd gwybodaeth i’r cyhoedd yn fuan yn 2023 er mwyn tynnu sylw pobl at y newidiadau a fydd yn dod i rym ym mis Medi 2023,

·         Fe gadarnhawyd bod Sir Ddinbych eisoes wedi casglu data sy’n ymwneud â damweiniau traffig ffordd a chyflymder ar ffyrdd lleol, byddai’r gwaith yma’n parhau ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn newydd.

·         Roedd rhai aelodau o’r pwyllgor yn teimlo bod amseru’r newidiadau arfaethedig yn anffodus, yn enwedig o ystyried goblygiadau cost yn ystod ‘argyfwng costau byw’. Teimlwyd y byddai’n well gwario’r arian mewn meysydd eraill. Dywedodd swyddogion bod yr holl gostau’n gysylltiedig â chyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn yn cael eu talu gan LlC drwy gyllid grant.

·         Dywedodd swyddogion wrth yr aelodau y byddai ardaloedd chwarae yn cael eu cynnwys yn yr elfen ‘meini prawf lle’ o’r newidiadau, ac felly byddai’r cyfyngiadau 20mya yn berthnasol.

·         Cytunodd y Pwyllgor y byddai’n fanteisiol trafod cyflwyno’r terfynau cyflymder 20mya ym mhob Grŵp Ardal yr Aelodau er mwyn i aelodau drafod y mater ar lefel leol ac i hysbysu swyddogion am eithriadau eraill y gallai fod angen eu cynnwys yn y rhestr bresennol o eithriadau arfaethedig.

·         Roedd y Pwyllgor yn bryderus am effaith economaidd posibl y byddai cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn yn ei gael ar draws Cymru, gan y byddai’n cynyddu amseroedd darparu ac yn lleihau maint unrhyw elw ar draws yr economi genedlaethol. O ganlyniad, fe wnaethant ofyn a oedd asesiad o effaith economaidd cenedlaethol wedi cael ei gynnal. Gan mai newid cenedlaethol oedd hwn, dywedodd swyddogion mai LlC fyddai wedi cynnal unrhyw asesiad o effaith economaidd.

·         Dywedodd swyddogion y byddai mesurau gostegu traffig, megis twmpathau yn parhau i gael eu hystyried a’u defnyddio lle y bo’n angenrheidiol yn seiliedig ar ddata damweiniau traffig ffordd, gan fod mesurau o’r fath yn ddrud i’w gweithredu.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl -

 

Penderfynwyd: 

 

(i)   yn amodol ar y sylwadau a wnaed yn ystod y drafodaeth ac ymgynghori â’r Grwpiau Ardal yr Aelodau ar yr eithriadau i’r terfyn cyflymder diofyn 20mya yn eu hardal, bod y Pwyllgor yn derbyn cynnwys yr adroddiad a’r atodiadau; a

(ii)  Bod Gwasanaeth Economaidd a Datblygu Busnes y Cyngor yn cysylltu â Llywodraeth Cymru i ofyn am gopi o’r Asesiad o Effaith Economaidd a gynhaliwyd ganddynt mewn perthynas â goblygiadau economaidd gweithrediad arfaethedig terfyn cyflymder diofyn 20mya yn Sir Ddinbych.

 

 

Dogfennau ategol: