Eitem ar yr agenda
YMDDIRIEDOLAETH GWASANAETHAU AMBIWLANS CYMRU
Derbyn cyflwyniad a thrafod materion sy’n ymwneud ag amseroedd ymateb ambiwlansys yn Sir Ddinbych â chynrychiolwyr Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
10.05am – 11am
Cofnodion:
Rhoddodd Prif Weithredwr
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST), ochr yn ochr â
Chyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth
Ambiwlans Cymru, gyflwyniad i’r aelodau gan dynnu sylw at faterion oedd yn
ymwneud ag amseroedd ymateb ambiwlans, yn cynnwys data ymateb ar gyfer galwadau
yn Sir Ddinbych.
Yn ystod y cyflwyniad fe
dynnodd cynrychiolwyr WAST sylw at Berfformiad Gwasanaethau Meddygol Brys. Dim
ond ‘galwadau coch’ oedd â tharged dangosyddion perfformiad penodol, sef y
dylid ymateb i 69% o alwadau o fewn 8 i 10 munud. Dangosodd y graff ar gyfer y dangosydd
perfformiad yma fod perfformiad wedi gostwng yn gyffredinol ers mis Tachwedd
2020.
Prif nod y Gwasanaeth oedd
sicrhau diogelwch cleifion. Gyda’r bwriad o sicrhau diogelwch cleifion yn wyneb
galw cynyddol ar wasanaethau WAST, roedd adolygiad annibynnol a chydweithredol
o alw a chapasiti, yn canolbwyntio ar alwadau lefel
Oren a phryderon am ddiogelwch cleifion wedi cael ei gychwyn. Mae’r adolygiad yma’n
sôn am y lefel o oriau a gollwyd wrth drosglwyddo cleifion i ysbytai, sef 6,038
(Rhagfyr 2018), a oedd yn uchel ar y pryd.
Erbyn mis Hydref 2022, collodd yr Ymddiriedolaeth 28,937 o oriau yn aros
i drosglwyddo cleifion i ysbyty - 36% o’i gapasiti,
neu 65 sifft y dydd. Roedd y sefyllfa yma’n debygol o waethygu’n sylweddol yn y gaeaf. Pwysleisiwyd mai nad pryder am ddata o ran y
galw ymysg cleifion oedd y prif bryder ynglŷn â diogelwch cleifion; y
broblem sylfaenol oedd capasiti, yn enwedig y nifer o
oriau sy’n cael eu colli yn aros i drosglwyddo cleifion mewn i ysbyty, ac i
raddau llai, lefelau absenoldeb salwch ymysg personél WAST.
Ym mis Hydref 2022, roedd y
nifer o staff ar gael i’w rhoi ar y rotas i lawr 40%
am nifer o resymau, e.e. absenoldeb salwch, Covid-19, gwyliau blynyddol,
hyfforddiant ac ati. Defnyddiodd yr
adolygiad rota feincod o
30%. Cyn Covid-19, roedd WAST wedi
dechrau darparu’r meincnod 30. Yn anffodus, er bod absenoldeb salwch yn dod i
lawr, roedd ymrwymiadau hyfforddi yn uchel ar hyn o bryd yn sgil symudiadau
mewnol yn gysylltiedig â recriwtio, a chafodd hyn effaith wael ar argaeledd rota.
Mewn cysylltiad â’r data a Digwyddiadau Cenedlaethol y Dylid eu Hadrodd
(NRI) (marwolaethau osgoadwy/niwed difrifol osgoadwy), roedd WAST yn cael ei ystyried yn sefydliad oedd
yn cofnodi llawer. Roedd hyn yn cael ei
ystyried yn ddull da gan ei fod yn golygu diwylliant o fod yn agored a
thryloyw, agwedd hanfodol o ran diwylliant diogelwch cleifion. Roedd WAST yn
cyfeirio digwyddiadau am ddiogelwch cleifion i fyrddau
iechyd, a’r prif achosion oedd oriau oedd yn cael eu colli yn trosglwyddo
cleifion i ysbytai. Cyfrifoldeb y bwrdd iechyd oedd adolygu ac adrodd y
digwyddiadau hyn pan fo’n hynny’n
briodol fel NRI.
Cynhaliwyd adolygiad strategol
annibynnol o Ymchwil Gweithredol ym maes Iechyd ar ran Pwyllgor Gwasanaethau
Ambiwlans Brys (EASC). Roedd EASC yn cynnwys saith bwrdd iechyd, oedd â
chyfrifoldeb am gomisiynu ambiwlansiau. Y sail ar gyfer yr adolygiad oedd
cleifion Oren (difrifol, ond eu bywydau ddim mewn perygl). Roedd hyn yn cynrychioli’r categori mwyaf o
ddigwyddiadau cleifion, gan gyfrif am tua 70% o ddigwyddiadau cleifion, o’i
gymharu â Choch (eu bywyd mewn perygl) sydd tua 10% o ddigwyddiadau cleifion.
Teimlwyd bod amseroedd aros Oren yn rhy hir, ac roedd yna rywfaint o bryder am
nifer y digwyddiadau andwyol difrifol (SAI) i gleifion yn y categori Oren.
Daeth canfyddiadau’r Arolwg
i’r casgliad fod gan WAST fwlch rhwng y nifer staff cyfwerth â llawn amser i lenwi’r
rotas ymateb a’r rhai cyfwerth â llawn amser sydd eu
hangen i lenwi rotas 263 o rai cyfwerth â llawn
amser. O ganlyniad i’r adolygiad yma, cytunodd
EASC i fuddsoddi yn WAST a chau’r bwlch, sy’n cael ei alw’n “bwlch dros
dro (relief gap)”. O ganlyniad, darparodd WAST gynnydd o 136
mewn swyddi cyfwerth â llawn amser yn 2020/21 ac roeddynt ar y trywydd iawn i
ddarparu cynnydd pellach o 127 cyfwerth â llawn amser yn 2021/22, a fyddai’n
cau’r “bwlch dros dro”. Roedd hyn er gwaetha’r pandemig.
Roedd yna ddau amcan i’r
Adolygiad Ymateb Rota:
1) gwella diogelwch cleifion
(trwy ddarparu rotas oedd yn cyd-fynd â galw gan
gleifion); a
2) gwella lles staff (drwy
ddarparu patrymau sifft da y mae modd eu gweithio).
Bu yna lefel uchel o
ymgysylltu gyda’r Adolygiad a chafwyd adborth cadarnhaol mewn cysylltiad â’r dull a gymerwyd.
Yn ychwanegol, roedd yr
Adolygiad wedi canfod amrywiaeth o effeithiolrwydd ar gyfer WAST, yn benodol
ail-drefnu rota adnoddau ambiwlans oedd yn ymwneud â
phatrwm galw gan gleifion. Byddai ail-drefnu rota yn
arwain at gyflwyno Uned Ymateb Aciwtedd Uchel Cymru (CHARUs) a mwy o ambiwlansiau brys. Byddai CHARUs yn
canolbwyntio ar ddadebru (canlyniadau clinigol) ac ambiwlansiau brys ar alwad
Oren 1 (diogelwch cleifion). Roedd
ail-drefnu yn faes cymhleth ac emosiynol, ond roedd y rotas
newydd yn fyw ar hyn o bryd.
Bydd y CHARUs
yn disodli cerbyd ymateb cyflym WAST. Byddai CHARU yn darparu sgiliau ac
arweinyddiaeth glinigol gan ymateb i alwadau aciwtedd
uchel. Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn gweld llai o adnoddau ymateb cyflym, wrth i WAST
gynyddu’r nifer o ambiwlansiau argyfwng sydd ar gael.
Gan ymateb i gwestiynau gan yr
Aelodau, dywedodd WAST –
·
o ganlyniad uniongyrchol i Adolygiad Rota EMS, roedd
263 yn fwy o bersonél wedi’u recriwtio’n genedlaethol, roedd 73 ohonynt wedi’u
lleoli o fewn ardal BIPBC
·
wedi cytuno i hwyluso trafodaethau rhwng uwch swyddogion Cyngor Sir Ddinbych a WAST i edrych ar opsiynau posibl i wella
cysylltiadau’r awdurdod lleol a Thrydydd Sector allai
helpu i gefnogi’r Gwasanaeth Ambiwlans, yn ogystal â defnyddio llwyfannau
cyfathrebu Sir Ddinbych i rannu negeseuon ac i
hyrwyddo’r defnydd o wirfoddolwyr mewn cymunedau lleol i leihau’r straen ar y
gwasanaeth ambiwlans.
·
dweud bod cydweithio rhwng y gwasanaeth tân ac achub ac ambiwlans yn
digwydd, ond i raddau amrywiol ar draws tri Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru. Mewn
rhai ardaloedd o Wasanaeth Tân ac Achub, roedd cyd-ymatebwyr yn bodoli. Fe
eglurodd swyddogion bod y mater yn amodol ar drafodaethau diwydiannol, ac roedd
yn parhau i gael ei adolygu.
·
cadarnhawyd bod diffibrilwyr lleol yn hanfodol i
achub bywydau rhag ataliadau ar y galon. Maent yn hawdd i’w defnyddio, nid
ydynt yn achosi niwed i glaf sydd yn cael ataliad ar y galon, ac mae gan WAST
fapiau diweddar o leoliad pob diffribiliwr
cofrestredig ac fe allent anfon unigolyn sy’n ffonio’r gwasanaeth brys at yr un
agosaf i’w ddefnyddio tra’n aros am ambiwlans/cerbyd ymateb brys.
·
yn eu barn nhw ni fyddai uno WAST gyda’r Bwrdd Iechyd yn darparu datrysiad
i’r cyfnod estynedig trosglwyddo cleifion o’r Gwasanaeth Ambiwlans i ysbytai. Y
broblem oedd diffyg llif o gleifion o leoliadau gwasanaeth iechyd i
sefydliadau gofal cymdeithasol neu yn ôl
i’w cartrefi eu hunain. Nid oedd y broblem hon yn unigryw i ogledd Cymru, roedd
yn digwydd ar draws Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.
·
dywedwyd nad yw defnyddio ambiwlansiau fel ‘estyniadau’ i Adrannau Brys yn
dda i’r claf na’r Gwasanaeth Ambiwlans. Roeddynt yn llefydd anurddasol i
gleifion fod yn aros am amser hir, a hyd nes y gallai personél WAST drosglwyddo
eu cleifion i staff ysbyty, nid adnodd ambiwlans gwerthfawr ar gael i fynychu
achos brys mewn lleoliad arall.
·
fe amlinellwyd y tri math gwahanol o wasanaeth ambiwlans y mae WAST yn ei
ddarparu - ambiwlansiau 999 brys, ambiwlansiau gofal brys (i drosglwyddo
achosion llai difrifol i ysbyty) a chludo cleifion nad ydynt yn rhai brys (a
ddefnyddir i gludo pobl yn ôl ac ymlaen o apwyntiadau ysbyty ac adref o’r
ysbyty. Er bod WAST yn defnyddio gwasanaethau ambiwlans a ddarperir gan
elusennau megis y Groes Goch ac Ambiwlans St. John, ynghyd ag ambiwlansiau
preifat ar adegau, ni allent fod yn or-ddibynnol ar y
sector gwirfoddol.
·
cadarnhawyd bod ymatebwyr cyntaf yn ymweld â phobl yn eu cartrefi i asesu a
oes angen cerbyd brys er mwyn lleihau’r pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans. Mae WAST bellach yn cyflogi amrywiaeth eang o
staff meddygol megis uwch-ymarferwyr parafeddygol,
fferyllwyr, therapyddion galwedigaethol ac yn dibynnu ar natur yr anhwylder, fe
allai’r personél yma ddelio â’r
argyfwng meddygol heb orfod eu cludo i’r ysbyty. Mae hyn yn ei dro yn helpu i liniaru’r
pwysau ar yr ambiwlansiau argyfwng 999.
Ar ddiwedd y drafodaeth ddwys,
diolchodd y Pwyllgor i’r swyddogion am eu cyflwyniad, a holl staff WAST am eu
gwaith caled ac ymdrechion roeddynt yn ei wneud o dan amodau eithriadol o anodd
ar adegau.
Penderfynwyd: yn amodol ar y sylwadau a wnaed -
(i)
derbyn y cyflwyniad a gwybodaeth a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth GIG
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST), a chydnabod y mesurau sy’n cael eu datblygu
a’u gweithredu er mwyn ymateb a rheoli galwadau argyfwng yn effeithiol wrth
symud ymlaen;
(ii)
ar ôl ystyried y pwysau y mae WAST yn ei wynebu ar hyn o bryd, bod y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd ac Economi yn cynnal trafodaeth rhwng
uwch swyddogion Cyngor Sir Ddinbych a WAST gyda’r
bwriad o edrych ar opsiynau posibl i ymestyn cysylltiadau’r awdurdod lleol a
Thrydydd Sector a allai helpu i gefnogi’r Gwasanaeth
Ambiwlans i ganolbwyntio ei adnoddau ar ddelio â galwadau brys; ac
(iii)
argymell bod cysylltiadau yn cael eu sefydlu gyda Gwasanaeth Cyfathrebu a
Marchnata’r Cyngor gyda’r bwriad o hyrwyddo negeseuon gwybodaeth gyhoeddus WAST
yn gyflym gyda phreswylwyr trwy gyfrwng sianeli a chyfryngau cymdeithasol y
Cyngor.