Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS AM DRWYDDED CERBYD HACNI

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am drwydded Cerbyd Hacni.

12.00

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD  gwrthod y cais am Drwydded Cerbyd Hacni.

Cofnodion:

[Roedd y Cynghorydd Arwel Roberts yn bresennol ar gyfer yr eitem hon ond ni wnaeth gymryd rhan yn y broses a gadawodd y cyfarfod yn ystod trafodaethau’r Pwyllgor ar y cais.]

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)            cais a ddaeth i law am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat;

 

(ii)          roedd y cerbyd wedi ei drwyddedu ar gyfer hurio preifat yn flaenorol ond ni adnewyddwyd y drwydded cyn i’r drwydded bresennol ddod i ben, ac felly roedd angen delio â’r cais fel cais trwydded cerbyd newydd.

 

(iii)         swyddogion heb fod mewn sefyllfa i ganiatáu’r cais gan nad yw’r cerbyd a gyflwynwyd i gael trwydded yn cydymffurfio â pholisi’r Cyngor ynghylch y cyfyngiad oedran pum mlynedd i gerbydau a drwyddedir gan gais newydd;

 

(iv)         datganiad cefnogi’r Ymgeisydd, hanes MOT ac allyriadau’r cerbyd ynghyd â gwybodaeth perthnasol bellach yn berthnasol i’r cais, ac

 

(v)          estyn gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol ac roedd mecanig ei gerbyd gydag ef.

 

Cadarnhaodd yr Ymgeisydd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu’r adroddiad a ffeithiau'r achos.

 

Cyfeiriodd yr Ymgeisydd at gynnal a chadw’r cerbyd, gan sôn am y garej yr oedd mecanyddion y cerbyd yn cael ei gynnal, ac roedd yn cyflawni gwaith cynnal tu mewn y cerbyd ei hun.  Roedd yn Gerbyd Hygyrch i Gadeiriau Olwyn.  Wrth ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd yr Ymgeisydd ei fod wedi prynu cerbyd yn newydd ac nid oedd ganddo gynlluniau i’w newid/ cael un gwell oherwydd ei amgylchiadau personol a’r costau ynghlwm.  Roedd y cerbyd ar gael i’w archwilio.  Eglurodd amgylchiadau a wnaeth arwain at gais adnewyddu un ar ddeg diwrnod ar ôl y dyddiad terfyn y trwydded cerbyd oherwydd anawsterau yn cael darnau perthnasol oedd eu hangen i atgyweirio’r cerbyd er mwyn pasio’r prawf cydymffurfio, ac i gyflwyno’r dystysgrif cydymffurfio yn y cais adnewyddu.  Roedd yr Ymgeisydd wedi cael ffurflenni adnewyddu gan y Cyngor yr oedd wedi’u cwblhau ac wedi eu rhoi o’r neilltu yn agosach at ddyddiad adnewyddu; roedd camgymeriad a oedd wedi arwain at gyflwyniad hwyr o’r cais adnewyddu.

 

Cadarnhaodd y swyddogion bod nodyn atgoffa o’r adnewyddiad yn cael eu hanfon mis ymlaen llaw a bod y dyddiad terfyn wedi’i nodi ar y plât trwydded y cerbyd.  Hefyd, cyfrifoldeb deiliad y drwydded oedd cyflwyno cais adnewyddu cyn y dyddiad terfyn y drwydded gyfredol.  Petai’r cais adnewyddu wedi’i gyflwyno o fewn yr amserlen, byddai hawliau tad-cu i gerbydau dros 12 oed a oedd gyda thrwydded yn barod, wedi cael cyfnod gras ac wedi’i ymestyn tan fis Gorffennaf 2024.  O ran datganiad terfynol yr Ymgeisydd, cadarnhaodd nad oedd ganddo unrhyw beth i’w ychwanegu.

 

Oedwyd y Pwyllgor er mwyn ystyried y cais a -

 

PENDERFYNWYD  gwrthod y cais am Drwydded Cerbyd Hacni.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd yr Aelodau wedi ystyried yn ofalus y cais, adroddiad y swyddog a’r achos a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd.

 

Penderfynodd y Pwyllgor Trwyddedu wrthod y cais oherwydd bod y Polisi ac Amodau Trwydded Cerbyd Hacni a Hurio Preifat yn nodi na ddylai cerbydau wedi’u trwyddedu o dan gais newydd fod yn hŷn na phump oed o ddyddiad ei gofrestru cyntaf.  Gan fod y cerbyd mewn cyswllt â’r cais yn yr achos hwn yn dair ar ddeg oed, nid oedd yn cydymffurfio â pholisi’r Cyngor.

 

Wrth ddod i benderfyniad, roedd y Pwyllgor wedi ystyried yr holl dystiolaeth cyn hyn a oedd yn cynnwys sylwadau ysgrifenedig a ddosbarthwyd cyn y gwrandawiad, a sylwadau ar lafar yn ystod y gwrandawiad ei hun, ac wedi pwysoli’r canlynol -

 

·         bod y cerbyd wyth mlynedd yn hŷn na’r cyfyngiad oed fel y nodir ym mholisi’r Cyngor

·         hanes gwasanaethau a MOT y cerbyd cyffredinol yn dangos materion amlwg o beidio â chydymffurfio dros nifer o flynyddoedd, fel y nodir yn y methiannau/ ymgynghoriadau o fewn Atodiad 3 o’r adroddiad.

·         lleoliad tystysgrif cydymffurfio rhwng 6 Ionawr 2022 a 7 Hydref 2022 a defnydd o gerbyd i gludo aelodau o’r cyhoedd heb y dystysgrif hon.

Mi wnaeth y Pwyllgor ystyried eu dyletswydd i sicrhau bod cerbydau wedi’u trwyddedu yn ddiogel i aelodau’r gymuned, yn arbennig defnyddwyr diamddiffyn mewn cadeiriau olwyn, a bod hyn yn hollbwysig.  Roedd Polisi cyfredol y Cyngor wedi bod yn weithredol ers nifer o flynyddoedd ac wedi’i fabwysiadu i godi safonau ymysg y fflyd a chyfyngiad oed cerbydau newydd yn rhan o’r broses hwnnw.  Roedd y Pwyllgor hefyd wedi ystyried nad oedd yr Ymgeisydd wedi cynnig rhesymau derbyniol a fyddai’n eu perswadio i wyro oddi wrth bolisi’r Cyngor yn yr achos hwn.

 

Cafodd penderfyniad a rhesymau’r Pwyllgor felly eu cyfleu i’r Ymgeisydd.  Cynghorwyd yr Ymgeisydd o’i hawl apelio yn erbyn y penderfyniad i’r Llys Ynadon o fewn un diwrnod ar hugain o ddyddiad derbyn y llythyr penderfyniad ffurfiol.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.35pm.

 

Dogfennau ategol: