Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS AM DRWYDDED CERBYD HURIO PREIFAT

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am drwydded Cerbyd Hurio Preifat.

11.30 am

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD  bod y cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn cael ei roi yn amodol ar amodau ychwanegol fel y nodwyd yn Atodiad 3 o’r adroddiad.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)            cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat;

 

(ii)          swyddogion heb fod mewn sefyllfa i ganiatáu’r cais gan nad oedd y cerbyd a gyflwynwyd i gael trwydded yn cydymffurfio â pholisi’r Cyngor ynghylch y cyfyngiad oedran pum mlynedd i gerbydau a drwyddedir gan gais newydd;

 

(iii)         amodau ychwanegol yn berthnasol i drwyddedu mathau o gerbydau arbenigol megis yr un a gyflwynwyd yn yr achos hwn ynghyd â thystiolaeth gefnogol a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd, a

 

(iv)         estyn gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Darparodd y Swyddog Gorfodi (KB) grynodeb o adroddiad a ffeithiau’r achos.

 

Cyflwynodd yr Ymgeisydd ei achos yn dweud ei fod yn weithredwr wedi’i hen sefydlu o gerbydau arbenigol gyda chofnod dilychwin a darparodd ychydig o gefndir am natur a gweithred y busnes.  Manylodd ar y cerbyd arfaethedig ar gyfer y drwydded (cofrestrwyd yn 2008) a’i rhinweddau a oedd yn cynnwys safonau uchel a gofynion diogelwch, a gwaith cynnal a chadw ac amserlenni gwasanaeth.  Cyflwynodd bod y polisi oedran yn cael effaith anghymesur ar natur arbenigol o’i fusnes, a bod y cerbyd dan ystyriaeth yn fath o gerbyd moethus na ddefnyddir fel arfer ar gyfer gwaith hurio preifat arferol gyda llai o waith traul. Hefyd cyflwynwyd, mewn cydnabyddiaeth o fathau cerbydau arbenigol o’r fath, nid oedd cynghorau eraill yn gosod polisi oedran i gerbydau o’r natur hwn.

 

Atebodd yr Ymgeisydd y cwestiynau gan yr aelodau ynghylch y defnydd posibl a milltiredd amcangyfrifedig y cerbyd, a darparu sicrwydd o ran amserlenni cynnal a chadw yn y dyfodol a phrofi cydymffurfiaeth, a chydlynu â’r amodau ychwanegol arfaethedig ar gyfer mathau cerbyd arbenigol.  Roedd y Pwyllgor wedi rhoi trwydded yn flaenorol ar gyfer cerbyd tebyg y tu allan i’r cyfyngiad ar sail debyg.  Yn ei ddatganiad terfynol, dywedodd yr Ymgeisydd ei fod yn fodlon cydymffurfio gydag unrhyw amodau trwydded yr oedd y Pwyllgor yn ystyried yn briodol ar y cerbyd perthnasol.

 

Oedwyd y Pwyllgor er mwyn ystyried y cais a -

 

PENDERFYNWYD  bod y cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn cael ei roi yn amodol ar amodau ychwanegol fel y nodwyd yn Atodiad 3 o’r adroddiad.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd yr Aelodau wedi ystyried yn ofalus y cais, adroddiad y swyddog a’r achos a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd yn ysgrifenedig cyn y cyfarfod ac yn y cyfarfod ei hun

 

I ddod i benderfyniad, nododd y Pwyllgor natur a math o fusnes a weithredwyd, a bod yr Ymgeisydd yn weithredwr gydag enw da ac wedi hen sefydlu mewn gwasanaethau arbenigol o’r fath.  Ar y sail honno, ac ar ôl ystyried yn arbennig y natur arbenigol y cerbyd arfaethedig i’w drwyddedu, defnydd bwriadedig o’r cerbyd, a gwasanaeth cynnal a chadw caeth dwywaith y flwyddyn gan y Gwasanaethau Fflyd, cytunodd yr aelodau bod achos wedi’i wneud i wyro o’u polisi cyfyngiad oedran yn yr achos hwn, ac i ganiatáu’r cais y gwnaethpwyd cais amdano, yn amodol ar yr amodau ychwanegol sydd yn berthnasol i’r math o gerbyd arbenigol, fel y nodir yn Atodiad 3 o’r adroddiad.

 

Cafodd penderfyniad a rhesymau’r Pwyllgor felly eu cyfleu i’r Ymgeisydd.

 

[Roedd y Pwyllgor yn teimlo y gallai mantais o gyflwyno polisi ar wahân o ran mathau o gerbydau arbenigol, a chytunodd y swyddogion y gallai’r mater fod yn amodol i ystyriaeth arall fel rhan o adolygiad polisi yn y dyfodol i symud ymlaen.]

 

Ar y pwynt hwn mi adawodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis y cyfarfod.

 

 

Dogfennau ategol: