Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

YSTYRIAETH AR GYFER PROSES DROS DRO AR GYFER CERBYDAU FFLYD NEWYDD

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) ar adolygiad y gofynion oedran presennol ar gyfer cerbydau sy’n cael eu trwyddedu am y tro cyntaf gan y Cyngor a’r argymhelliad i gadw’r polisi oedran presennol ar gyfer cerbydau fflyd newydd a cherbydau fflyd presennol.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod –

 

(a)       cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi, a

 

(b)       polisi oedran cyfredol i fflyd newydd o gerbydau yw dan 5 od, a bydd unrhyw gerbyd ar y fflyd sy’n 12 oed yn cael eu tynnu, oni bai bod hen hawliau yn berthnasol tan 2024, i’w cadw, a

 

(c)        bod Aelodau’n cyfarwyddo’r swyddogion i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Trwyddedu o ran manylion adolygiad Llywodraeth Cymru o safonau tacsis ar amser priodol yn ystod 2023.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar adolygiad o’r gofynion oedran presennol ar gyfer cerbydau sy’n cael eu trwyddedu am y tro cyntaf gan y Cyngor, ac argymhelliad i gadw’r polisi oedran cyfredol ar gyfer cerbydau newydd i’r fflyd a rhai presennol.

 

Cafodd polisi presennol Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Rhagfyr 2016, a daeth i rym ar 1 Gorffennaf 2017.   Roedd y polisi’n cynnwys cyfyngiad oedran ar gerbydau sef na ddylai unrhyw gerbyd newydd i’r fflyd fod yn hŷn na 5 mlwydd oed ac y dylid gwaredu unrhyw gerbyd sy’n cyrraedd 12 oed.  Roedd y Pwyllgor wedi adolygu’r polisi oedran cerbyd yn eu cyfarfod blaenorol ac yn dilyn materion caffael cerbyd, gan gynnwys cost ac argaeledd, wedi awdurdodi swyddogion i edrych ar broses dros dro o ddyrannu ar gyfer penderfynu ar geisiadau newydd i’r fflyd i gerbydau dros 5 mlwydd oed ac i adrodd yn ôl yn y cyfarfod nesaf.  Yn ogystal roedd y Pwyllgor wedi penderfynu ymestyn y cyfnod gras i ganiatáu cerbydau sydd â thrwydded eisoes yn cyrraedd 12 oed i aros ar y fflyd tan fis Gorffennaf 2024, ac i ymgynghori ymhellach ar ddiwygio’r polisi oedran drwy lacio oedran newydd i fflyd a’r cyfyngiad oedran uchaf.

 

Soniodd y Rheolwr am fanylion yr adroddiad a oedd yn cynnwys dadansoddiad o oedran cerbyd ar draws y fflyd, a buddsoddiad sylweddol gan berchnogion hyd yma, costau gwerthu cerbyd ar y farchnad, safonau’r diwydiant, cyfradd diogelwch, cyflenwad gwarant ac allyriadau.  Tynnwyd sylw’r aelodau at y canlynol -

 

·         ychydig iawn o gerbydau sy’n parhau ar y fflyd os ydynt dros y trothwy 12 oed, ac o’r rheiny mae’r perchnogion yn gallu manteisio ar y rheol cyfnod gras hen hawliau tan 2024.

·         mae nifer sylweddol o gerbydau wedi cael eu cyflwyno i’r fflyd hyd yn hyn o ganlyniad i fuddsoddiad gan y perchnogion.

·         y cynnydd mewn safonau diogelwch wrth i dechnoleg cerbydau ddatblygu

·         adolygiad Llywodraeth Cymru o safonau tacsis yng Nghymru, a’r papur gwyn sydd ar y gweill, sy’n debygol o gynnwys oedran cerbydau.

 

Gan ystyried yr argymhellion hynny, bu i’r swyddogion argymell bod y polisi oedran cyfredol ar gyfer cerbydau fflyd newydd a fflyd gyfredol yn aros a bod diweddariad ar adolygiad Llywodraeth Cymru ar safonau tacsi yn cael ei ddarparu ar adeg briodol.

 

Rhoddodd Aelodau ystyriaeth i’r adroddiad, eto yn nodi’r effaith bosibl ar safonau cerbydau yn codi o bapur gwyn Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth tacsi.  Nodwyd bod dadansoddiad o oedran cerbydau ar draws fflyd drwyddedig yn dangos buddsoddiad sylweddol gan berchnogion hyd yma, ac nid oedd y polisi oedran cyfredol wedi atal, gyda’r diwydiant tacsi yn prynu cerbydau ar gyfer pwrpas trwyddedu o fewn amodiad oedran cyfredol.  Hefyd nodwyd bod y cyfnod gras ar gyfer cerbydau sydd â thrwydded eisoes wedi’i ymestyn tan fis Gorffennaf 2024.  Yn ogystal, amlygwyd mai bwriad y polisi oedran cerbyd oedd moderneiddio’r fflyd gyfredol o drwyddedau trwyddedig i sicrhau safonau uchel a diogelwch y cyhoedd sy’n teithio.

 

Gan fod safonau cerbyd o fewn cwmpas papur gwyn Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth tacsi, roedd yr aelodau wedi ystyried ei fod yn ddoeth i aros am ganlyniad yr ymgynghoriad hwn cyn adolygu gofynion oedran cerbyd, gan y byddai unrhyw benderfyniad gan y Pwyllgor ar hyn o bryd yn cael ei ddisodli yn ddiweddarach.  Gofynnodd y Cynghorydd Martyn Hogg a fyddai’n bosibl i gael adolygiad yn y dyfodol o’r polisi oedran cerbyd, i feintoli effeithiau allyriadau carbon ar newidiadau polisi, a chyfeiriodd at gyfrifiad a oedd yn awgrymu bod y swm o garbon sy’n cael ei ryddhau wrth weithgynhyrchu cerbyd trydan newydd sbon yn gyfartal i’r hyn y roedd cerbyd disel 10 oed gyda dros 40,000 o filltiroedd yn ei ryddhau.  Awgrymodd y Rheolwr i aros am ganlyniad papur gwyn Llywodraeth Cymru i ddechrau cyn ystyried a fyddai’n bosibl meintoli allyriadau carbon fel y disgrifir.  Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaethau Fflyd bod diogelwch yn hollbwysig a bod cerbydau newydd yn gyffredinol mwy diogel na rhai hŷn.

 

Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth o fewn yr adroddiad,

 

PENDERFYNWYD bod –

 

(a)       cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi, a

 

(b)       polisi oedran cyfredol i fflyd newydd o gerbydau yw dan 5 od, a bydd unrhyw gerbyd ar y fflyd sy’n 12 oed yn cael eu tynnu, oni bai bod hen hawliau yn berthnasol tan 2024, i’w cadw, a

 

(c)        bod Aelodau’n cyfarwyddo’r swyddogion i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Trwyddedu o ran manylion adolygiad Llywodraeth Cymru o safonau tacsis ar amser priodol yn ystod 2023

 

 

Dogfennau ategol: