Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM ADOLYGIAD TABL FFIOEDD A PHRISIAU CERBYDAU HACNI

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am adolygiad Tabl Ffioedd a Phrisiau Cerbydau Hacni a’r ffordd ymlaen arfaethedig.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod –

 

(a)       y tariff cyfredol a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad yn cael ei gadw, a

 

(b)       bod swyddogion yn cael eu cymeradwyo i gynnal ymchwil pellach, gyda mewnbwn angenrheidiol gan drwyddedai lleol, i alluogi’r aelodau benderfynu ar ffioedd tariff priodol yn y dyfodol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn diweddaru aelodau ar yr adolygiad o’r Tabl Ffioedd a Phrisiau Cerbydau Hacni cyfredol a chynigiodd ffordd ymlaen.

 

Mae’r Pwyllgor Trwyddedu wedi cymeradwyo newidiadau i’r ffioedd cerbydau hacni ym mis Mehefin 2022 ac wedi gwneud cais bod swyddogion yn adolygu’r ffioedd ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor mewn chwe mis.  Bu i ymgynghorydd arwain y broses honno a chynigiwyd ffioedd a gyhoeddwyd i gael ymgynghoriad cyhoeddus.  Y neges gyffredinol gan ymatebwyr oedd nad oedd angen newid yn y tariff.  Roedd manylion y tariff cyfredol (Atodiad 1), adroddiad yr ymgynghorydd (Atodiad 2), a chrynodeb o ymatebion gan y fasnach (Atodiad C) a’r cyhoedd (Atodiad D) wedi’u hatodi i’r prif adroddiad.

 

Tynnwyd sylw’r Aelodau at argymhellion yn adroddiad yr ymgynghorydd a methodoleg gynhwysfawr ar gyfer gosod tabl teg a thryloyw o ffioedd.  Roedd diffyg ymgysylltiad gan y fasnach dacsi yn ystod y broses wedi golygu bod dim digon o wybodaeth wedi’i gael er mwyn gwneud penderfyniad ar sail tystiolaeth ar osod tariff tacsi a fyddai angen gwaith pellach wrth ystyried unrhyw newidiadau tariff yn y dyfodol.  Roedd yr ymgynghorydd wedi argymell y canlynol -

 

·         cyflwyno tri thariff ar gyfer tacsi sydd yn cludo pedwar unigolyn a thariff ar gyfer tacsi sydd yn cludo pump neu fwy o bobl.

·         crynhoi’r gyfradd uned tariff, i ddeg ceiniog agosaf i gael gwared ar yr angen o ddefnyddio arian copr mân.

·         cynnydd/ gostyngiad pris blynyddol, yn unol â Mynegai Pris Manwerthu ar gyfer Moduro

·         mabwysiadu’r fethodoleg arfaethedig.

 

Hefyd cyfeiriodd y Rheolwr at bapur gwyn Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth tacsi ar ddechrau 2023 a allai gael effaith ar osod ffioedd yn y dyfodol.  O ganlyniad, roedd y swyddogion wedi argymell cadw’r tariff presennol a bod ymchwil pellach, gyda mewnbwn gan drwyddedai lleol, i benderfynu ar ffioedd tariff yn y dyfodol.

 

Rhoddodd Aelodau ystyriaeth i’r adroddiad ynghyd â’r canfyddiadau’ adroddiad yr ymgynghorydd, ac roedd cefnogaeth gyffredinol dros gadw’r tariff cyfredol ar hyn o bryd, yn arbennig gan ystyried y goblygiadau posibl gan bapur gwyn arfaethedig Llywodraeth Cymru ar osod tariff yn y dyfodol, mae’r gwaith pellach sydd ei angen i adeiladau sylfaen y fethodoleg arfaethedig wedi’i nodi yn adroddiad yr ymgynghorydd, a’r diffyg cyffredinol o gefnogaeth dros newid i’r tariff ar hyn o bryd.  Roedd y Pwyllgor yn credu y byddai’n briodol i adolygu’r ffioedd tariff ymhellach ar ôl gwybod am unrhyw effaith ar osod tariff yn y dyfodol yn hysbys yn dilyn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, ac i ystyried unrhyw ymchwil sy’n briodol gyda mewnbwn gan y fasnach dacsi trwyddedig.

 

Ymatebodd y Rheolwr i’r cwestiynau, gan gadarnhau mai’r bwriad oedd defnyddio’r fframwaith a darparwyr gan yr ymgynghorydd i lunio sail cyfrifo ffioedd a thaliadau cerbydau hacni yn y dyfodol.  Fodd bynnag, cydnabu y byddai’r fframwaith angen craffu pellach gan ystyried mewnbwn gan y fasnach trwyddedu ac ymgysylltiad digonol er mwyn cynhyrchu’r dystiolaeth angenrheidiol i asesu costau gwirioneddol fel rhan o’r broses hwnnw.  O ran y broses ymgysylltu nid oedd un corff yn Sir Ddinbych yn cynrychioli’r fasnach dacsi, ond darparwyd sicrwydd bod yr ymgynghoriad a gyflawnwyd wedi’i ymestyn i gynnwys cyfyngau cymdeithasol a datganiadau i'r wasg ychwanegol ynghyd â chyswllt gyda phob gyrrwr trwyddedig, gan roi digon o gyfle i ymgysylltu a rhoi mewnbwn ar y broses.

 

Ar ôl ystyried cynnwys yr adroddiad ynghyd â’r canfyddiadau yn adroddiad yr ymgynghorydd fel y nodwyd yn Atodiad 2 -

 

PENDERFYNWYD bod –

 

(a)       y tariff cyfredol a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad yn cael ei gadw, a

 

(b)       bod swyddogion yn cael eu cymeradwyo i gynnal ymchwil pellach, gyda mewnbwn angenrheidiol gan drwyddedai lleol, i alluogi’r aelodau benderfynu ar ffioedd tariff priodol yn y dyfodol.

 

 

Dogfennau ategol: