Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIWEDDARIAD HUNANASESIAD PERFFORMIAD, CHWARTER 2, 2022 I 2023

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ar berfformiad y Cyngor yn erbyn ei swyddogaethau ar ddiwedd chwarter 2, 2022 i 2023.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi perfformiad y Cyngor yn erbyn ei swyddogaethau ar ddiwedd chwarter 2 2022/23 a chadarnhau cynnwys yr adroddiad drafft.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad ynghylch perfformiad y Cyngor yn erbyn ei swyddogaethau ar ddiwedd chwarter 2, 2022 i 2023, gan gynnwys amcanion y Cynllun Corfforaethol a Chydraddoldeb Strategol, a’r saith maes llywodraethu allweddol.

 

Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno mewn dwy ran yn amlinellu cynnydd yn erbyn Amcanion Perfformiad a Meysydd Llywodraethu, ac roedd yn casglu’r dystiolaeth oedd yn ffurfio rhan o Hunanasesiad o berfformiad yn erbyn swyddogaethau fel bo’r angen o dan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o ddiweddariadau prosiect a data, ynghyd â thablau data sy’n rhoi amlinelliad llawn o’n sefyllfa bresennol.  Cyflwynwyd gweithgareddau diweddar y cyngor hefyd sy’n dangos ein bod yn cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y Ddeddf Cydraddoldeb a’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol.

 

Eglurodd y Pennaeth Interim Busnes Gwella a Moderneiddio bod yr adroddiad yr olaf yn seiliedig ar y Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2017 i 2022, y Cynllun Corfforaethol newydd a gymeradwywyd yn Hydref 2022.    Arweiniodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad y Cabinet drwy bob un o’r pump maes blaenoriaeth, yn amlygu prif negeseuon a mesurau perfformiad yn y cyswllt hwnnw.    Tynnwyd sylw hefyd at y deilliannau iechyd corfforaethol, yn arbennig meysydd pryder yn ymwneud â Chyllid; Gallu Staff o fewn Archwilio Mewnol; Cofrestr Risg Gorfforaethol a Recriwtio/Cadw Staff.    Fodd bynnag, roedd yr adroddiad hefyd yn dangos cynhyrchedd a chynnydd anhygoel a wnaed ar draws y cyngor cyfan.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         roedd aelodau yn amlygu’r swyddogaeth hanfodol a wnaed gan Archwilio Mewnol a thrafodwyd y nifer o swyddi gwag yn y Tîm Archwilio Mewnol a’u gallu i ddarparu’r sicrwydd perthnasol oedd yn ofynnol.   Dywedodd Swyddogion y byddai rhywfaint o waith archwilio mewnol yn debyg o gael ei gomisiynu i sicrhau bod hanfodion y cynllun archwilio wedi eu cwblhau ac ymgymerwyd ag ymarfer recriwtio i sicrhau digon o gapasiti wrth symud ymlaen.  Rhoddwyd sicrwydd y byddai’r mater yn parhau i gael ei fonitro drwy adroddiadau perfformiad chwarterol.   Cytunwyd i hysbysu’r Cabinet a Briffio’r Cabinet am gynnydd 

·         anawsterau recriwtio staff a nifer o swyddi gwag ar draws y cyngor yn cael ei gydnabod gyda marchnad lafur anodd, ac nid oedd y broblem yn unigryw yn Sir Ddinbych.    Mewn ymateb, roedd y cyngor yn adolygu pob agwedd o’i broses recriwtio i’w gwneud mor hawdd â phosibl i bobl ymgysylltu a sicrhau bod y cyngor yn gyflogwr deniadol.

·         roedd rhai o’r mesurau yn y Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru wedi eu cyhoeddi’n achlysurol ac felly roedd yn anodd asesu’r sefyllfa bresennol a chynnydd y dyfodol yn gywir.    Roedd y mater hwnnw yn cael ei drafod yn genedlaethol o ran sut y gellir cael mynediad i fwy o ddata presennol i fonitro’r sefyllfa.    O waith diweddar a wnaed fel rhan o’r Asesiad o Les, a phwysau a wynebir gan gymunedau fel Covid-19 a’r argyfwng costau byw, rhagwelir y byddai yna fwy o bwysau o ran amddifadedd oedd yn debyg o fod wedi ehangu.    O ystyried thema Sir Ddinbych mwy teg a chyfartal, roedd fframwaith yn cael ei ddatblygu i fonitro amddifadedd a pherfformiad yn agos mewn cymunedau o ran incwm a chyflogaeth ac ati.    Roedd yr Arweinydd yn amlygu pwysigrwydd data perthnasol i gymell polisi a nodi’r angen a chyfeiriwyd at waith Data Cymru y byddai’n adrodd yn ôl arno. 

·         roedd statws canran band eang cyflym iawn yn Sir Ddinbych wedi’i amlygu fel blaenoriaeth ar gyfer gwella a chyfeiriodd y Cynghorydd Emrys Wynne at ddod a’r prosiect i ben yn Llanfwrog a’r effaith ar gymunedau.   Derbyniwyd bod cysylltedd yn fater cymhleth, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig, ac roedd y tu allan i reolaeth y cyngor yn bennaf.    Roedd y Bwrdd Uchelgais Economaidd wedi cymryd camau i fynd i’r afael â’r mater ac roedd gan y cyngor Swyddog Digidol oedd yn gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau i gymryd rhan yn y cynllun taleb band eang ffibr cymunedol.  Roedd yr heriau hynny hefyd wedi eu codi mewn cyfarfodydd diweddar gydag Aelodau lleol o’r Senedd a allai ddylanwadu ar y broses ar lefel genedlaethol.    Roedd yr Arweinydd hefyd yn cyfeirio at Raglen Ddigidol y Bwrdd Uchelgais Economaidd a gwaith i wella cysylltedd. 

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi perfformiad y Cyngor yn erbyn ei swyddogaethau ar ddiwedd chwarter 2 2022/23 a chadarnhau cynnwys yr adroddiad drafft.

 

Dogfennau ategol: