Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYTUNDEB CYFLAWNI DIWYGIEDIG Y CYNLLUN DATBLYGU LLEOL NEWYDD

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Win Mullen-James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio (copi ynghlwm) yn ceisio cefnogaeth y Cabinet ar y Cytundeb Cyflawni diwygiedig i fynd gerbron y Cyngor i’w gymeradwyo a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

           

(a)       cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les, fel y manylir yn yr atodiad i’r adroddiad, fel rhan o'i ystyriaethau, a

 

(b) argymell y Cytundeb Cyflawni Diwygiedig i fynd ymlaen i’r Cyngor i’w gymeradwyo a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Win Mullen-James yr adroddiad yn ceisio cefnogaeth y Cabinet i Gytundeb Cyflawni diwygiedig i ddisodli’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) 2018 - 2033 i fynd gerbron y Cyngor i’w gymeradwyo a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Mae’r Cytundeb Cyflawni yn nodi’r amserlen i symud ymlaen i fabwysiadu’r CDLl newydd ac yn amlinellu pwy, sut a phryd fydd y Cyngor yn ymgynghori ar y camau amrywiol. Cafodd y Cytundeb Cyflawni presennol ei gymeradwyo ym Mai 2018. Mae angen Cytundeb Cyflawni diwygiedig yn sgil yr oedi yn yr amserlen gytunedig a ddaeth yn sgil pandemig Covid-19, oedi mewn cyhoeddi’r canllawiau a pholisi perygl llifogydd ac etholiadau lleol.  Nid oedd yn bosibl darparu camau ymgynghori ffurfiol pellach nes oedd y Cytundeb Cyflawni diwygiedig wedi’i gymeradwyo.    Cafodd y Cytundeb Cyflawni diwygiedig ei ystyried gan y Grŵp Cynllunio Strategol yn Hydref 2022, lle argymhellwyd iddo fynd i’r Cabinet a’r Cyngor ar gyfer cymeradwyaeth.

 

Roedd y Cabinet wedi ystyried yr adroddiad ac er yn derbyn bod yr oedi yn yr amserlen flaenorol oherwydd rhesymau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor, roedd yn awyddus i’r gwaith gael ei ddatblygu gynted â phosibl.  Gofynnwyd cwestiynau am y dull a gymerwyd, ac oherwydd yr amgylchiadau a oedd unrhyw gwmpas i newid y dyddiad dechrau 2018 o ystyried y byddai’r Cynllun yn cael ei fabwysiadu rhai blynyddoedd ar ôl y dyddiad hwnnw, a pha un a all y CDLl fod yn ddogfen barhaus wedi’i hadolygu’n achlysurol yn hytrach na chael dyddiad dechrau a dyddiad terfyn.   Roedd effaith yr oedi ar elfennau o’r CDLl presennol yr oedd aelodau yn dymuno eu herio hefyd yn bryder. 

 

Ymatebodd yr Uwch Swyddog Cynllunio i gwestiynau a sylwadau fel a ganlyn –

 

·         nodwyd bod awdurdodau lleol eraill hefyd wedi profi oedi oherwydd materion tebyg, gan gynnwys effaith y targedau ffosffad newydd ar ddatblygiad, ac roedd yna hyder y byddai’r Cytundeb Cyflawni diwygiedig yn datblygu’r CDLl i’w fabwysiadu.

·         byddai’r CDLl newydd yn cynnwys y cyfnod 2018 - 2033 ac er y gwerthfawrogir y byddai rhan o’r Cynllun yn y gorffennol, roedd yn arferol i CDLlau o ystyried y broses gylchol.   Oherwydd yr oedi, byddai’r broses yn debyg o gymryd dwy flynedd yn fwy na’r hyn a drefnwyd yn wreiddiol.

·         roedd y Cytundeb Cyflawni diwygiedig yn cynnwys amserlen dynn ac uchelgeisiol ond roedd yna hyder y byddai’n cael ei fodloni gyda’r bwriad i fabwysiadu’r CDLl newydd yn 2025 gyda digon o amser yn weddill yn y Cynllun ar gyfer ei weithredu a chyflawni ei nod ac amcanion.   Roedd y Cytundeb Cyflawni diwygiedig angen cymeradwyaeth y Cyngor cyn cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer eu cytundeb.

·         os byddai dyddiad dechrau’r Cynllun yn cael ei symud nawr, byddai angen ailddechrau’r broses gyfan (oherwydd bod y sail tystiolaeth wedi’i gasglu ar gyfer 2018 - 2033) fyddai’n ychwanegu blynyddoedd ychwanegol i’r broses mabwysiadu Cynllun newydd.

·         rhoddwyd rhagor o wybodaeth ar y broses gylchol o fabwysiadu’r CDLl, fel arfer cyn i’r Cynllun presennol ddod i ben, o ddechrau’r adolygiad mwyafswm o 4 blynedd o’i fabwysiadu. 

·         Byddai’r CDLl yn parhau mewn grym (yn dibynnu ar fabwysiadu CDLl newydd) a oedd ar hyn o bryd y tu hwnt i’w ddyddiad terfyn ac roedd yna hyder bod y CDLl presennol yn parhau’n berthnasol ac yn addas i’r diben wrth ystyried ceisiadau cynllunio.

·         roedd yna feysydd polisi newydd i’w cynnwys yn y CDLl newydd, fel newid hinsawdd a ble roedd yna newidiadau i bolisi cenedlaethol (oedd yn anghydwedd â pholisi lleol) byddent yn cael blaenoriaeth.

·         wrth ystyried ceisiadau cynllunio, mae’n bosibl y bydd yna ystyriaethau materol perthnasol eraill ac roedd yn iawn bod aelodau yn herio elfennau o fewn y CDLl.  Roedd safleoedd presennol yn parhau yn y CDLl nes bydd y Cynllun newydd wedi’i fabwysiadu.

·         roedd y CDLl a Chynllun Datblygu Cenedlaethol Dyfodol Cymru, Llywodraeth Cymru yn parhau y ddwy ddogfen i’w hystyried wrth wneud penderfyniadau ac argymhellion. 

·         roedd y broses CDLl yn cael ei rheoleiddio a’r gofynion yn y ddeddfwriaeth - roedd yn ofynnol nodi cyfnod y Cynllun

·         roedd Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr wedi cael ei gymeradwyo gan y Cyngor yn Rhagfyr 2021 a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.   Arhoswyd am adborth gan Lywodraeth Cymru ar y ddogfen honno fyddai’n ffurfio rhan o’r CDLl newydd. 

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

           

(a)       cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les, fel y manylir yn yr atodiad i’r adroddiad, fel rhan o'i ystyriaethau, a

 

(b) argymell y Cytundeb Cyflawni Diwygiedig i fynd ymlaen i’r Cyngor i’w gymeradwyo a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ategol: